Clive Reid, Abertawe 1935 – 2014

2014Clive Reid GwyrCafwyd teyrngedau i’r diweddar Clive Reid, Abertawe, a fu farw ym Mis Tachwedd 2014.   Yn gyn-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru i Ddwyrain Abertawe ac yn gyn-gadeirydd etholaeth Gorllewin Abertawe, fe gofiwyd am ei fywyd mewn areithiau gan y Parchedig Jill Hayley Harries, Heini Gruffudd a Gruffydd ap Gwent.

Lluniau Clive Reid, drwy garedigrwydd Anne Reid a Heini Gruffudd

Clive Reid, Abertawe

Trist oedd clywed am golli Clive Reid, fferyllydd adnabyddus ac aelod amlwg o’r Blaid. Fe’i ganed yn y Barri, un o deulu morwrol ond daeth i fyw a gweithio yn Abertawe. Dyma’r deyrnged a draddodid yn ei angladd gan Heini Gruffudd.

Braint yw dweud gair am Clive, a chofio am ei foneddigeiddrwydd, ei fwynder, a hefyd ei gadernid.

Diolch byth am y diacon yna yng nghapel Cymraeg Walham Green yn Llundain roddodd y cyngor i Clive ac Anne y bydden nhw’n ymgartrefu yno’n ddi-droi-nĂ´l o fewn dwy flynedd. Trueni na wnaeth llawer o Gymry eraill ymateb yn yr un ffordd â Clive drwy symud yn Ă´l i Gymru – mae rhyw eironi bod capel Walham Green wedi cau yn 1988. Mae ymateb Clive i’r cyngor yn rhoi awgrym i ni o’i ymroddiad i Gymru, ac o’r modd y gwnaeth benderfyniad i fyw yn llawn fel Cymro.

Fesul tipyn, mae’n debyg, yr aeth ati i feistroli’r Gymraeg, gyda llwyddiant mawr. Fy fyddai’n mwynhau gwersi Cymraeg yn yr ysgol ac aeth ati i astudio Lefel O yn yr iaith. Roedd ganddo berthnasau oedd yn siarad Cymraeg ar ochr ei fam ac roedd yn aelod o’r Urdd. Gwnaeth cwrdd ag Anne sicrhau bod ganddo reswm ychwanegol i ddal ati ac roedd hi’n amser hir cyn bod Sara, David a Mari yn sylweddoli arwyddocâd penderfyniad eu rhieni i fagu teulu ar aelwyd Gymraeg. Roedd Clive yn ymgorfforiad o’r modd y mae’r Gymraeg yn gallu ennill tir.

Roedd y cyfnod y daeth Clive ac Anne i Abertawe’n gyfnod o gyffro mawr yng Nghymru. Dyma gyfnod boddi Tryweryn, Gwynfor yn ennill Caerfyrddin, a sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Yn fuan enillodd y Blaid seddau Meirionnydd a Chaernarfon, ac fe wnaeth Clive, gydag eraill, yn siŵr na fyddai tonnau’r deffro cenedlaethol yn osgoi Abertawe.

Ar ôl ymgartrefu yng Nghilâ, a chanddo ef ac Anne blentyn erbyn hyn, daeth yn ymwybodol o’r gwrth-Gymreictod oedd yn amlwg ym mywyd gwleidyddol Abertawe ar y pryd. Doedd Clive ddim yn un i dderbyn y modd yr oedd cynifer o wleidyddion Abertawe, yn enwedig rhai yn y Blaid Lafur, yn barod iawn i droi eu cefn ar eu hetifeddiaeth genedlaethol, a daeth yn llythyrwr brwd i’r papur lleol.

Daeth yn gadeirydd y Blaid yng Ngorllewin Abertawe am dair blynedd a sefydlu hefyd ei siop fferyllydd yn Nhreforys. Roedd ystafell fach yn y cefn yno, a fanna bydden ni’n cynnal sawl seiat yn trafod y Blaid a’r genedl, tra byddai fe’n gweinyddu moddion.

Safodd Clive sawl gwaith mewn etholiadau lleol yn Nhreforys, gan guro Llafur yn 1976, ond heb guro’r Trethdalwyr. Yna safodd ddwy waith, yn gwbl aflwyddiannus druan, yn Nwyrain Abertawe. Daeth yr un pryd yn llefarydd y Blaid ar iechyd.

Roedd ei argyhoeddiadau’n gadarn. Ymgyrchodd dros beidio â lleihau nifer y gwelyau yn ysbytai Gorllewin Morgannwg, ac yn erbyn arddangosfa’r fyddin ym Mharc Margam, a oedd, yn ei farn ef, yn denu ieuenctid i’r lluoedd arfog heb iddynt sylweddoli’r peryglon na’r goblygiadau moesol.

Yma yn Abertawe roedd ymgyrchoedd i sefydlu ysgol gyfun Gymraeg, a’r ymgyrch yn cael cyngor doeth Clive am beidio â bodloni mynd i’r Sandfields o dan gysgod y gwaith cemegol.

Cyn hynny pan ddaeth yr Arwisgo ar ein traws yn 1969, roedd Clive yn ddigon dilornus ohono. Nid y pantomeim hwnnw oedd y peth pwysig iddo fe’r flwyddyn honno, ond sefydlu Ysgol Gyfun Ystalyfera. Beth oedd e i’w wneud, felly, pan gafodd ei wahodd gan drigolion LĂ´n Camlad, i agor eu parti stryd? Roedd rhai ohonyn nhw’n gwsmeriaid yn ei siop, ac roedden nhw’n gweld yr achlysur yn ddathliad cenedlaethol. Doedd dim amdani, wrth gwrs, ond mynd yno i agor y parti, a minnau’n tynnu lluniau, a deall bod mwy nag un syniad o Gymru.

Meddai fe iddo glywed ymgeisydd Llafur un tro yn ceisio argyhoeddi ei gwsmeriaid yn ei siop, heb wybod ei fod yntau’n clywed, gan ddweud wrthyn nhw “We are not Nationalists, we are Internationalists”. Gwyddai Clive mai ‘British nationalist’ oedd hwnnw ac nad oedd ei ryng-genedlaetholdeb yn mynd ag ef ymhellach na Llundain.

Ac roedd Clive yn sicr yn arddel safonau gorau rhyng-genedlaetholdeb. Roedd yn ymddiddori yng ngwledydd bach Ewrop, a Llydaw yn hoff gyrchfan iddo fe. Roedd ganddo gyfranddaliadau yng nghwmni llongau P&O, a oedd yn caniatáu iddo deithio am hanner pris i’r cyfandir gyda’i gar a’i garafán, a chymerodd ei deulu ar sawl taith i Lydaw a Ffrainc yn arbennig. O dan ei ddylanwad fe fentrais i hefyd i fyd y cyfranddaliadau, a chael teithio’n rhad gyda’r teulu i Ewrop. Daeth twnnel y sianel a hedfan rhad i chwalu gwerth y cyfranddaliadau, ond fe barhaodd Clive â’i deithio.

Ar ôl ymddeol byddai’n dal ar gyfleoedd i ddadlau achos Cymru a’r Gymraeg. Yn ddiweddar bu’n gohebu yng nghylchgrawn Cymdeithas y Fferyllwyr ar fater cael presgripsiynau Cymraeg wedi i gwmni Morrisons ym Mangor wrthod derbyn presgripsiwn Cymraeg. Roedd Clive, wrth gwrs, ers llawer dydd, wedi bod yn argraffu rhai Cymraeg yn ôl yr angen. Yn ei lythyr mae Clive yn holi pam mae’r Gymraeg yn cael ei gweld yn broblem, a Chymru’n wlad ddwyieithog, fel llawer o wledydd eraill y byd. Ac yna mae’n atgoffa’r darllenwyr mai Lladin oedd iaith presgripsiynau hanner can mlynedd yn ôl.

A dyna sut un oedd Clive: yn wybodus, yn gydwybodol, un ar argyhoeddiad, yn un a wasanaethai ei gymdeithas a Chymru, gyda’r safonau uchaf.

Gallwch chi, ei etifeddion a’i ddisgynyddion, fod yn falch ohono, gan gofio’i ofal di-ben-draw amdanoch. Fe gofiwn ninnau amdano gyda’r parch dyfnaf, gan ddiolch am ei gyfraniad, a chofio’r un pryd am ei ferch, oedd mor annwyl iddo, i chithau ac i ninnau.

Heini Gruffudd

 

2014Clive Reid Llun Ymgyrch

Cofio Clive Reid

Fe gwrddais i â Clive am y tro cyntaf yn y ‘60au cynnar, ar ôl i mi ddychwelyd o’r coleg yn Aberystwyth, trwy gysylltiad ein dau â Phlaid Cymru. Mae’n debyg ei fod e’ wedi dod i fyw yn Abertawe, ar ôl byw yn Llundain am ddwy flynedd, yn llawn brwdfrydedd am bopeth oedd yn dda yng Nghymru ac awydd i rannu ac amddiffyn yr hyn a ystyriai i fod yn drysorau’r genedl. Dyma oedd ei freuddwyd a gwelai Blaid Cymru fel y cyfrwng gorau i’w gwireddu.

Ar y cyfan ‘roedd gwleidydda yn Abertawe yn weddol ddigynnwrf y pryd hynny ond newidiodd popeth yn sydyn yng Ngorffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans Is-etholiad Caerfyrddin. ‘Roedd Cymru ar dân ac ‘roedd y cyfnod a ddilynodd, gydag is-etholiadau yn y Rhondda a Chaerffili, yn eithriadol o gynhyrfus. ‘Roedd popeth yn bosibl. ‘Roedd Clive yn ei chanol hi ac wrth ei fodd yn y bwrlwm a’r cynnwrf. ‘Roedd ambell un wedi nodi’n dawel bod Clive, fel Gwynfor, yn dod o’r Barri ac wedi dysgu Cymraeg. Hwb pellach i’n disgwyliadau!

Daeth gorchymyn o’r Swyddfa yng Nghaerdydd bod yn rhaid i’r Blaid sefyll ym mhob sedd seneddol yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Yn hollol annisgwyl fe gymerodd pethau dro personol i mi. Un noson yn Yr Olchfa fe atebais y drws a darganfod y Dr J.Gwyn Griffiths a Clive ar y trothwy. Fe ildiais i’w ble i sefyll fel ymgeisydd yng Ngorllewin Abertawe ac fe agorodd ffenestr newydd yn fy mywyd.

Ymhen amser fe drodd Clive ei sylw fwy fwy i Ddwyrain Abertawe a daeth yr ystafell gefn yn siop Reid Chemist ar Sgwâr Treforys yn ganolfan gweithgarwch y Blaid. ‘Roedd llythyron treiddgar Clive yn yr Evening Post yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i Bleidwyr ym mhob man ac ‘roedd ei ymroddiad i ymladd dros bobl Dwyrain Abertawe yn arbennig yn siampl i ni gyd. Maes o law fe safodd Clive ei hun fel ymgeisydd seneddol .

‘Rydym yma heddiw i gofio ac i ddiolch am Clive y gwladgarwr, yr ymgyrchydd dros gyfiawnder, y fferyllydd a’r Cristion ond, yn fwy na dim, am Clive y dyn, y gĹľr bonheddig gwâr, y ffrind a’r penteulu. Iddo ef ei deulu oedd gyntaf – Anne, Sara, David, Mari a’r wyrion. ‘Rydym yn gwybod nad oedd bywyd wastad yn rhwydd i’r teulu yma ond mewn storm ac hindda ym mynwes ei deulu oedd Clive am fod.

‘Rydym i gyd yn gyfoethocach o adnabod Clive ac mae’r byd yn well lle o’i herwydd ef.

Diolch i ti Clive.

Gruffydd ap Gwent