Teyrnged i Eirian Llwyd 1951 – 2014

Eirian LlwydYn dawel yn Ysbyty Gwynedd yn Ionawr 2014 ac wedi salwch byr bu farw’r genedlaetholwraig a’r arlunydd Eirian Llwyd yn 63 oed.  Roedd Eirian yn wraig i gyn-arweinydd Plaid Cymru a’r cyn aelod Cynulliad a Seneddol dros Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones.  Roedd hefyd yn fam arbennig i dri o blant, Gerallt, Gwenllian ac Owain, ac yn nain i chwech o wyrion ac wyresau.

Datganiad gan y teulu.

Mae cyfraniad Eirian wedi bod yn amhrisiadwy – mi roddodd oes o gariad i’w ffrindiau a’i theulu, oes o wasanaeth i’w chenedl a’i chyd-ddyn, ac yn fwy diweddar mae hi wedi gweithio gydag angerdd ym maes y celfyddydau.

Cymhwysodd fel nyrs yn Lerpwl 1969-73 ac yna gweithredu fel bydwraig yn Ysbyty Llanelwy.

Hanai o Brion ger Dinbych, ac yr oedd yn caru ei hardal a’r fro ei magwyd hi ynddo yn angerddol. Lle bynnag y treuliai ei hamser, dychwelai i Danywaen, fferm y teulu, yn gyson i dderbyn maeth ac ysbrydoliaeth. Roedd John ei brawd a Bethan ei chwaer yn golygu cymaint iddi.

Priododd gyda Ieuan yn 1974 – deugain mlynedd a mwy o gariad a chyfeillgarwch cadarn.

Mi roddodd Eirian pob cefnogaeth posibl iddo yn ystod ei yrfa wleidyddol fel Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad, Arweinydd Plaid Cymru ac fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru’n Un. Heb ei chefnogaeth gyson a pharhaol hi ni allai fod wedi cyflawni cymaint.

Bu’n gweithio i hybu lle merched mewn gwleidyddiaeth, gan fod yn gyfrifol am welliannau i gyfansoddiad y Blaid yn y 1980au a sicrhau lle amlycach i ferched ym mhrif bwyllgorau’r Blaid. Brwydrodd yn erbyn rhagfarnau oddi mewn i’w phlaid ei hun a thu hwnt, a gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau tegwch a chyfartaledd i ferched yn rhengoedd y pleidiau gwleidyddol.

Eirian oedd yn gyfrifol am sefydlu Cangen y Rhyl o Gymorth i Fenywod yn y 1970au a 1980au. Perswadiodd Cyngor Sir Clwyd a’r Cyngor Bwrdeistref i ariannu hafan neu noddfa i ferched yn y dref, a helpodd i sicrhau cartref dros dro i ferched a phlant oedd yn dioddef trais yn y cartref. Brwydrodd yn galed i newid agweddau oddi mewn i’r asiantaethau lleol, megis adrannau gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth iechyd a’r heddlu. Roedd hyn mewn cyfnod pan nad oedd llawer o’r asiantaethau yn cydnabod bod angen ymyrraeth mewn achosion o drais yn y cartref.

Cymhwysodd fel ymwelydd iechyd ar ôl symud i Ynys Môn a bu’n gweithio yn y maes hwnnw tan ddiwedd y 1990au. Roedd yn uchel ei pharch a’i chonsyrn am blant a theuluoedd mewn angen yn amlwg iawn. Brwydrodd i sicrhau chwarae teg iddynt. Ysgrifennodd thesis ar ddamweiniau i blant yn y cartref ac fe drefnodd seminar ar y pwnc gan ddod a’r holl asiantaethau dan yr un to. Gweithredwyd nifer o’r argymhellion, gan gynnwys gwneud llefydd chwarae i blant yn fwy diogel.

Yn 2001, newidiodd gyfeiriad a graddiodd ym maes arlunio yn Athrofa Caerdydd. Arbenigodd ym maes print a dangoswyd ei gwaith yn gyson yng Nghymru a thu hwnt. Creodd waith mewn sawl cyfrwng print a’i gwaith yn aml yn seiliedig ar fyd natur, henebion ag eglwysi Ynys Môn, gan ddefnyddio cyfryngau megis torluniau, ysgythriadau a lithograff.

Gyda dwy ffrind, sefydlodd gwmni Y Lle Print Gwreiddiol, i ddod a phrintiadau gwreiddiol nifer o artistiaid blaenllaw Cymru i sylw cynulleidfa ehangach. Teimlai Eirian yn angerddol fod angen gwerthfawrogi a deall printiadau gwreiddiol yn well, a’i gweld fel ffordd eitha fforddiadwy o brynu gwaith gwreiddiol gan rai o artistiaid gorau’r genedl. Dechreuodd y fenter drwy gynnal stondin yn Neuadd Arddangos yr Eisteddfod Genedlaethol, ac erbyn hyn, aethpwyd a’r gwaith i sawl oriel yng Nghymru, gan gynnwys Ucheldre yng Nghaergybi, Plas Glyn y Weddw Llanbedrog, Wrecsam a Chaerdydd. Yn ddiweddar aethpwyd a gwaith gwneuthurwyr print o Gymru i Frwsel ac Amsterdam.

Roedd Eirian wedi cynnull cyfarfodydd o wneuthurwyr print ledled Cymru a cheisio dwyn perswâd arnynt i sefydlu Cyngor Print yng Nghymru. Gwelai hyn fel ffordd i roi llwyfan hyd yn oed yn well i artistiad.

Mewn sawl ffordd yr oedd Eirian yn arloeswraig, yn ymgyrchydd o argyhoeddiad a chanddi weledigaeth glir o’r hyn yr oedd angen ei wneud ym mha bynnag faes y gweithiai ynddo. I lawer o’i chyfoedion a chydweithwyr yr oedd yn ysbrydoliaeth.

Yn fam arbennig i dri o blant, Gerallt, Gwenllian ac Owain, mae hi wedi ymfalchïo yn eu llwyddiant ac mae’n nain i chwech o wyrion ac wyresau, Elin a Tomos, Annest a Rhodri, Morgan a Megan. Mae Eirian wedi gofalu amdanynt yn gyson ac wedi trosglwyddo iddynt ei chariad at gelf ac at fyd natur.

Roedd Eirian yn genedlaetholwraig frwd, a bu’n ymgyrchu dros y Gymraeg gyda Chymdeithas yr Iaith gan gymryd rhan mewn llu o brotestiadau yn y 1960s a 1970s. Yn y Blaid gweithiodd yn agos gyda Ieuan, ac yntau yn dibynnu llawer arni am gefnogaeth, am gyngor a gwaith ymgyrchu.

Roedd gan Eirian ffydd gref, ac yn ystod ei salwch, fe ddangosodd gadernid anghyffredin, ac wynebu’r cyfan gyda gras ac urddas. Daethom i’w hadnabod yn well a bu’n fraint i’w theulu a chyfeillion agos fod yn ei chwmni. Rydym yn well pobl o’r herwydd.