Trafod Llyfr Newydd am Dafydd Elis Thomas
Rhagor 03/10/2025Neuadd y Plwyf, Llandaf, Caerdydd
Nos Wener 21 Tachwedd 2025 7pm – 9pm
Dafydd Elis-Thomas Nation Builder
Dewch i glywed Aled Eirug yn trafod ei lyfr newydd gyda Vaughan Roderick mewn achlysur a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru, gyda chyfle i brynu copi o’r llyfr wedi ei lofnodi gan yr awdur.
Darlith Ieuan Wyn Jones ‘O Gymru Fydd i Blaid Cymru-Y Siwrne’
Rhagor 12/08/2025CYMDEITHAS HANES PLAID CYMRU
PABELL Y CYMDEITHASAU EISTEDDFOD WRECSAM
12.30yp DYDD IAU 7 AWST 2025‘O Gymru Fydd i Blaid Cymru-Y Siwrne’
Ieuan Wyn JonesDarlith sy’n ystyried effaith y cynnydd mewn ymwybyddiaeth genedlaethol
ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar sefydlu Plaid Cymru yn 1925Sain y Ddarlith >
‘Tom Ellis oedd y pennaf a’r cywiraf gwladgarwr o blith Aelodau Seneddol cyfnod “Cymru Fydd” yn niwedd y ganrif ddiwethaf (19C). Yn anffodus, cymerodd yntau swydd yn ei blaid Seisnig, eithr bu farw’n fuan wedyn, flwyddyn cyn troad y ganrif. Parhai’n arwr yn y sir, yn ein hardal ni o leiaf, ac nid oedd ei hen ...
Llinell Amser Plaid Cymru
Rhagor 18/07/2025Teyrngedau i Owen John Thomas 1939 – 2024
Rhagor 03/09/2025Teyrnged Hywel
Mae fy nhad wedi’i amgylchynu gan ei bobl ef heddiw.
Byddai wedi mwynhau eich cwmni, cymaint o wynebau cyfarwydd i hel atgofion am yr hen ddyddiau.
Roeddwn i’n edmygu fy nhad, er na ddwedais hynny wrtho erioed.
Roedd fy nhad yn ‘multitasker’, yn athro yn ystod y dydd, yn ymgyrchydd gyda’r nos, ac yn ‘bouncer’ yng Ngllwb Ifor Bach ar y penwythnos.
Y llwybr hawdd mewn bywyd yw un o gydymffurfiaeth – mynd gyda’r llif, derbyn eich sefyllfa, a pheidio â gofyn am fwy.
Mae siarad yn erbyn anghyfiawnder, sefyll dros achos, a meiddio dychmygu dyfodol gwahanol yn gofyn am aberth personol ac yn dod â chost. Mae’n ...
Llinell Amser hanes Plaid Cymru 1925-2025
Rhagor 12/08/2025Mae Archif Plaid Cymru ynghyd â llawer o gyhoeddiadau’r blaid ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer defnydd ymchwilwyr. Er mwyn nodi can mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru yn 1925, mae detholiad o faniffestos, cyhoeddiadau eraill a deunydd archifol wedi cael eu digido er mwyn creu llinell amser yn nodi uchafbwyntiau hanes y blaid.
Linc > Archif
Noson Lansio’r llyfr ‘Dros Gymru’n Gwlad’
Rhagor 18/07/2025“Dros Gymru’n Gwlad – Hanes Sefydlu Plaid Cymru”.
Ar 17 Gorffennaf 2025 daeth yr awduron Arwel Vittle a Gwen Gruffudd i Adeilad y Pierhead i drafod eu llyfr newydd gyda Karl Davies mewn achlysur a noddwyd gan Mabon ap Gwynfor AS ac a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.
Dyma gyfle i chi wrando ar y sgwrs hynod ddiddorol ar sefydlu Plaid Cymru yn y cyfnod cyn 1925.
Diolch i Senedd Cymru am ddarparu’r cofnod.