Hanes Plaid Cymru

  • DATHLIAD CANMLWYDDIANT PLAID CYMRU 1924 – 2024

    DATHLIAD CANMLWYDDIANT PLAID CYMRU 1924 – 2024

    7pm Nos Wener 12fed Ionawr2024

    Canolfan Cymunedol Belle Vue, Albert Crescent, Penarth, CF64 1BY

    Tocyn: £10 (gostyngiadau ar gael)

    Hwylusydd:  Heledd Fychan Aelod Seneddol (Canol De Cymru)

    Ac yn sgwrsio:

    Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru 2012-18

    Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr, Canolfan Llywodraethiant Cymru

    Dewch i ddathlu canmlwyddiant y cyfarfod hanesyddol hwn:

    Ym mis Ionawr 1924, cyfarfu pedwar o bobl cenedlaetholgar Cymreig yn 9 Bedwas Place, Penarth, gan gofnodi eu penderfyniad i greu “Plaid Genedlaethol Cymru” sef: Ambrose Bebb, Griffith John Williams, Elizabeth Williams a Saunders Lewis, y bardd a’r dramodydd mawr, a darpar arweinydd y blaid, a fu’n byw wedyn ym Mhenarth o 1952 hyd ei farwolaeth yn1985. Arweiniodd y cyfarfod hwn at lansiad cyhoeddus y blaid newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1925.

     

    Bydd Heledd yn gwahodd Leanne a Richard i drafod y 100 mlynedd ...

    Rhagor 07/12/2023
  • Penyberth – Pam y Symudwyd yr Achos o Gymru?

    Mae ymchwil newydd yn dangos bod y penderfyniad dadleuol i symud achos llys llosgi Ysgol Fomio Penyberth o Gymru i Lundain wedi’i ysgogi gan bennaeth lleol yr heddlu yn hytrach na chan lywodraeth San Steffan.

    Cafodd tri o aelodau mwyaf blaenllaw’r Blaid, Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams eu carcharu ar ôl llosgi’r ysgol fomio a oedd yn cael eu codi ym Mhenyberth ger Pwllheli ym Mis Medi 1936.

    Bu storom yng Nghymru yn dilyn y penderfyniad i symud yr achos i’r Old Bailey, a hynny ar ôl i reithgor yng Nghaernarfon fethu â chael y Tri’n euog o’r difrod.  Bu’r cyn-Brif Weinidog David Lloyd George ymhlith y llu a feiai lywodraeth y dydd, wrth ddweud mai dyma oedd y llywodraeth cyntaf i roi Cymru ar brawf yn yr Old Bailey.

    Bellach mae ymchwil newydd gan yr arbenigwr cyfreithiol Keith Bush yn dangos bod y pwysau i symud yr achos wedi’i ysgogi ...

    Rhagor 25/08/2023
  • Brian Arnold (1941-2023)

    Mae gwefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n cyhoeddi teyrnged i’r diweddar gyn-gynghorydd Brian Arnold, Ynysybwl, aelod ffyddlon o’r Blaid a chynghorydd gweithgar ac ymroddedig i’w gymuned.

    Ymunodd Brian â’r Blaid yn 1957 pan oedd 16 mlwydd oed ac fe’i etholwyd yn aelod Plaid Cymru o Gyngor Gymuned  Ynysybwl yn 1986, gan wasanaethu ar y cyngor hwnnw am gyfnod o 26 o flynyddoedd.

    Nes ymlaen fe ddaeth yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Cwm Cyngor a Chyngor Sir Rhondda Cynon Taf ac fe gadwodd ei sedd ar y cyngor am gyfnod o dair blynedd ar ddeg ac ennill parch gan bobl o bob plaid wleidyddol.

    Awdur y deyrnged yw cyd-aelod o’r Blaid yng Nghwm Cynon, yr hanesydd D. Leslie Davies ac fe gewch ei darllen yma.

    Rhagor 26/07/2023
  • Cyhoeddi Cylchlythyr

    Dyma Cylchlythyr  Hydref 2023 am weithgarwch Cymdeithas Hanes Plaid Cymru.

    Cliciwch i’w ddarllen >

     

    Rhagor 10/10/2023
  • Agweddau Cyfreithiol Achos Penyberth

     

    Dydd Iau 10 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar faes yr Eisteddfod yn Boduan, cafwyd darlith gan y bargyfreithiwr, awdur ac academig, Keith Bush, sy’n Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru.

    Bu’n trafod agweddau cyfreithiol achos y tri o aelodau mwyaf blaenllaw’r Blaid, Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams ar ôl llosgi’r ysgol fomio a oedd yn cael eu codi ym Mhenyberth ger Pwllheli yn 1936.

    Dyma sain y ddarlith –

     

     

    Agweddau Cyfreithiol Achos Penyberth

    (Darlith a draddodwyd gan yr awdur ar ran Cymdeithas Hanes Plaid Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan, Awst 2023)

    Achos Penyberth

    Rhagor 12/08/2023

  • Charlotte Aull Davies, 1942-2023

    Americanes ddawnus a ddaeth yn Gymraes frwd

    Dafydd Williams

    Rywbryd yng nghanol y saithdegau, cerddodd Americanes ifanc i mewn i brif swyddfa Plaid Cymru yng Nghaerdydd.  Yr oedd Charlotte Aull  a’i bryd ar ddarganfod popeth am Gymru a’i mudiad cenedlaethol. Bu disgwyl iddi ddychwelyd dros yr Iwerydd ar ôl cwblhau’i PhD, ond – yn ffodus i Gymru – fel arall y bu.

    Cafodd Charlotte ei geni yn Lexington, Kentucky, un o dri o blant.  Enillodd radd mewn mathemateg ac yna MSc ym Mhrifysgol Mississippi cyn troi at anthropoleg gymdeithasol, hynny yw astudio cymunedau a’u diwylliant.  Ac ar gyfer ei PhD yng Ngogledd Carolina, Cymru oedd y wlad y dewisodd i’w hastudio.

    Ynghyd â phersonoliaeth hyfryd, roedd gan Charlotte benderfyniad tawel.  Oriau ar ôl glanio yng ngwledydd Prydain, bu yn Nhŷ’r Cyffredin yn cyfweld â Gwynfor Evans, ...

    Rhagor 19/07/2023