Hanes Plaid Cymru

  • Mai Roberts – Y Ferch a Sefydlodd y Blaid

    Mai Roberts – Y Ferch a Sefydlodd y Blaid

    Anerchiad gan Arwel Vittle i Gymdeithas Carnuhanawc 7 Mawrth 2026

    Mae rhan Mai Roberts yn hanes sefydlu’r Blaid yn un o’r hanesion mwyaf diddorol ac allweddol. Ac mae ei stori yn un na chafodd sylw haeddiannol. Oherwydd Mai Roberts oedd y cyswllt hanfodol a arweiniodd at uno mudiadau y de a’r gogledd i ffurfio Plaid Cymru fel rydyn ni’n ni ei hadnabod heddiw. Ond roedd llawer mwy iddi na hynny hefyd fel y cawn weld.

    Yn ddiweddar mae mwy o sôn wedi bod amdani, yn enwedig yn sgil dathliadau can mlwyddiant y Blaid yn 2025, gyda cyhoeddi llyfr ...

    Rhagor 23/04/2026
  • Golwg ar 100 mlynedd Plaid Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol

    Golwg ar 100 mlynedd Paid Cymru gan Rhys Evans yng nghylchgrawn Maniffesto 56 tudalen 24 y Llyfrgell Genedlaethol

    Maniffesto-awg-56

    Rhagor 11/12/2025
  • Teyrnged i’r Barnwr Philip Richards (1946-2025)

    Teyrnged i’r Barnwr Philip Richards (1946-2025)

    Yn ei Angladd yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd, 8 Hydref, 2025

    Mae hon yn dasg nad ydw i – nac eraill yn y gwasanaeth hwn heddiw – yn ei dymuno na’i mwynhau. Cafodd ei gwthio arnom gan ddigwyddiadau diweddar. Gellir dweud am bawb sy’n bresennol y prynhawn yma y byddai yn well gennym beidio â bod yn angladd ein ffrind, Philip Richards; ac mai gwell gennym fyddai petai Phil yn wych, yn ddisglair ac yn hwyliog yn ein plith o hyd. Ond yr ydym lle’r ydym – wedi ymgynnull i’w gofio; i rannu ein gwybodaeth amdano – ac, yn anad dim, ...

    Rhagor 30/10/2025
  • Teyrnged i Huw John 1939 – 2025

    DAFYDD HUW JOHN

    Yn ei gartref Maesglas, Peniel Caerfyrddin ar 13eg o Awst 2025 yn 86 oed bu farw Huw John, ac fe gofir amdano fel ‘Cymro i’r Carn’ a ffrind i bawb, ac un a fu yn trefnu ac yn galw Twmpathau Dawns ar hyd a lled Cymru am flynyddoedd lawer. Nodwedd arall oedd yn perthyn i Huw oedd ei hoffter i drefnu ac i gymryd rhan mewn Plygeiniau traddodiadol ar draws Cymru, heb sôn am ei weithgarwch cyson dros Blaid Cymru.

    Fe ddaeth Plygain Capel Penygraig, lle bu Huw yn ddiacon ac Arweinydd y Gan am dros 30 mlynedd yn Blygain draddodiadol bwysig iawn ...

    Rhagor 08/01/2026
  • Trafod Llyfr Newydd am Dafydd Elis Thomas

    Yn Neuadd y Plwyf, Llandaf, Caerdydd, Nos Wener 21 Tachwedd 2025, trefnwyd noson gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru i glywed Aled Eirug  yn trafod ei lyfr newydd am Dafydd Elis-Thomas gyda Vaughan Roderick.

     

     

     

    Roedd yr holi yn graff a chafwyd ambell berl nad oedd wedi’i chynnwys yn y llyfr.

    Dyma recordiad sain o’r noson. Mae Aled yn ymddiheuro am y peswch sy’n torri ar draws y sain. 

     

     

    Rhagor 21/11/2025
  • Teyrngedau i Owen John Thomas 1939 – 2024

    Teyrnged Hywel

    Mae fy nhad wedi’i amgylchynu gan ei bobl ef heddiw.

    Byddai wedi mwynhau eich cwmni, cymaint o wynebau cyfarwydd i hel atgofion am yr hen ddyddiau.

    Roeddwn i’n edmygu fy nhad, er na ddwedais hynny wrtho erioed.

    Roedd fy nhad yn ‘multitasker’, yn athro yn ystod y dydd, yn ymgyrchydd gyda’r nos, ac yn ‘bouncer’  yng Ngllwb Ifor Bach ar y penwythnos.

    Y llwybr hawdd mewn bywyd yw un o gydymffurfiaeth – mynd gyda’r llif, derbyn eich sefyllfa, a pheidio â gofyn am fwy.

    Mae siarad yn erbyn anghyfiawnder, sefyll dros achos, a meiddio dychmygu dyfodol gwahanol yn gofyn am aberth personol ac yn dod â chost. Mae’n ...

    Rhagor 03/09/2025