Hanes Plaid Cymru

  • T. Gwynn Jones – Cenedlaetholwr Cyn Geni’r Blaid

    Stori Bardd Mawr y Gynghanedd, T.Gwynn Jones (1871-1949)

    Adolygiad Llyfr – ‘Byd Gwynn’ gan Alan Llwyd

    Mae gan lawer ohonon ni reswm i ddiolch i’r prifardd ac awdur Alan Llwyd, brodor o Benrhyn LlĹ·n sy’n byw yn Nhreforys.  Drwy gynnig awdl fuddugoliaethus ar y testun Llif, fe sicrhaodd deilyngdod yng nghystadleuaeth y gadair yn y Brifwyl eleni – a rhoi’r diweddglo gorau posibl i Eisteddfod LlĹ·n ac Eifionydd.

    Mae Alan Llwyd wedi hen ennill ei blwyf fel bardd a llenor.  Mae ei gyfraniad yn anhygoel – yn cynnwys cyfres o gofiannau swmpus iawn am feirdd Cymru, yn eu plith T. Gwynn Jones.

    Heddiw cofiwn i T. Gwynn Jones fod yn un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif ond roedd hefyd yn llawer mwy – yn newyddiadurwr prysur dros ben, yn nofelydd, yn feirniad, cyfieithydd ac yn ieithydd.  Ac yn heddychwr ac yn genedlaetholwr tanbaid yn ogystal.

    Mae Alan ...

    Rhagor 11/03/2024
  • DATHLIAD CANMLWYDDIANT PLAID CYMRU 1924 – 2024

    DATHLIAD CANMLWYDDIANT PLAID CYMRU 1924 – 2024

    7pm Nos Wener 12fed Ionawr2024

    Canolfan Cymunedol Belle Vue, Albert Crescent, Penarth, CF64 1BY

    Tocyn: ÂŁ10 (gostyngiadau ar gael)

    Hwylusydd:  Heledd Fychan Aelod Seneddol (Canol De Cymru)

    Ac yn sgwrsio:

    Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru 2012-18

    Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr, Canolfan Llywodraethiant Cymru

    Dewch i ddathlu canmlwyddiant y cyfarfod hanesyddol hwn:

    Ym mis Ionawr 1924, cyfarfu pedwar o bobl cenedlaetholgar Cymreig yn 9 Bedwas Place, Penarth, gan gofnodi eu penderfyniad i greu “Plaid Genedlaethol Cymru” sef: Ambrose Bebb, Griffith John Williams, Elizabeth Williams a Saunders Lewis, y bardd a’r dramodydd mawr, a darpar arweinydd y blaid, a fu’n byw wedyn ym Mhenarth o 1952 hyd ei farwolaeth yn1985. Arweiniodd y cyfarfod hwn at lansiad cyhoeddus y blaid newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1925.

     

    Bydd Heledd yn gwahodd Leanne a Richard i drafod y 100 mlynedd diwethaf o ...

    Rhagor 07/12/2023
  • Cyhoeddi Cylchlythyr

    Dyma Cylchlythyr  Hydref 2023 am weithgarwch Cymdeithas Hanes Plaid Cymru.

    Cliciwch i’w ddarllen > Linc

     

    Rhagor 10/10/2023
  • Dathlu 100 Mlynedd ym Mhenarth

    Nos Wener 12 Ionawr 2024 dathlwyd 100 mlynedd ers y cyfarfod cyntaf i sefydlu Plaid Cymru.

    Leanne Wood, Rosanne Reeves, Richard Wyn Jones, Gareth Clubb

    Dyma sylwadau Leanne Wood a Richard Wyn Jones ar ddechrau’r cyfarfod

     

    Hwb Bywiog i Ddathliadau’r Blaid

    Cafwyd dechreuad bywiog i gyfres o ddigwyddiadau fydd yn dathlu sefydlu Plaid Cymru bron canrif yn Ă´l Nos Wener 12 Ionawr 2024 yng Nghanolfan Cymunedol Belle Vue, Albert Crescent, Penarth.

    Daeth aelodau o’r Blaid a’u gwesteion at ei gilydd i nodi ffurfio grŵp cyfrinachol, y Mudiad Cymreig, un o’r grwpiau a ymunodd wedyn i ffurfio’r Blaid Genedlaethol.

    Cyfarfu pedwar o bobl ar 7 Ionawr 1924 yn rhif 9 Bedwas Place, Penarth, gan gofnodi eu penderfyniad i greu “Plaid Genedlaethol Cymru” – Ambrose Bebb, Griffith John Williams, Elisabeth Williams a Saunders Lewis, y bardd a’r dramodydd mawr, a ...

    Rhagor 13/01/2024
  • Saunders Lewis, Cymru ac Ewrop gan Dafydd Wigley

    Bydd y tair blynedd nesaf yn allweddol wrth ddatblygu model o annibyniaeth i Gymru sy’n berthnasol i’r byd sydd ohoni.  Yn sgil Brexit, mae angen i Gymru warchod ein cysylltiad â chyfandir Ewrop – tarddle ein gwerthoedd a’n gwareiddiad, ac yn gyd-destun i annibyniaeth ymarferol i’n gwlad. 

    Bron canrif yn Ă´l amlinellodd Saunders Lewis weledigaeth o Gymru yn Ewrop.  Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n falch o gyhoeddi’n llawn y ddarlith bwysig gan Dafydd Wigley a draddododd yn ystod Eisteddfod LlĹ·n ac Eifionydd ym Mis Awst 2023 – sy’n dangos bod y weledigaeth honno’n fwy perthnasol heddiw nag erioed o’r blaen.  

    Saunders Lewis,
    Cymru ac Ewrop

    A gaf i ddiolch i’r Eisteddfod am y llwyfan yma i ail-wyntyllu syniadau sy’n hynod berthnasol i’r oes hon; ac i ddiolch ...

    Rhagor 14/11/2023
  • Penyberth – Pam y Symudwyd yr Achos o Gymru?

    Mae ymchwil newydd yn dangos bod y penderfyniad dadleuol i symud achos llys llosgi Ysgol Fomio Penyberth o Gymru i Lundain wedi’i ysgogi gan bennaeth lleol yr heddlu yn hytrach na chan lywodraeth San Steffan.

    Cafodd tri o aelodau mwyaf blaenllaw’r Blaid, Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams eu carcharu ar Ă´l llosgi’r ysgol fomio a oedd yn cael eu codi ym Mhenyberth ger Pwllheli ym Mis Medi 1936.

    Bu storom yng Nghymru yn dilyn y penderfyniad i symud yr achos i’r Old Bailey, a hynny ar Ă´l i reithgor yng Nghaernarfon fethu â chael y Tri’n euog o’r difrod.  Bu’r cyn-Brif Weinidog David Lloyd George ymhlith y llu a feiai lywodraeth y dydd, wrth ddweud mai dyma oedd y llywodraeth cyntaf i roi Cymru ar brawf yn yr Old Bailey.

    Bellach mae ymchwil newydd gan yr arbenigwr cyfreithiol Keith Bush yn dangos bod y pwysau i symud yr achos wedi’i ysgogi ...

    Rhagor 25/08/2023