Hanes Plaid Cymru

  • Darlith Ieuan Wyn Jones ‘O Gymru Fydd i Blaid Cymru-Y Siwrne’

    CYMDEITHAS HANES PLAID CYMRU
    PABELL Y CYMDEITHASAU EISTEDDFOD WRECSAM
    12.30yp DYDD IAU 7 AWST 2025

    ‘O Gymru Fydd i Blaid Cymru-Y Siwrne’
    Ieuan Wyn Jones

    Darlith sy’n ystyried effaith y cynnydd mewn ymwybyddiaeth genedlaethol
    ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar sefydlu Plaid Cymru yn 1925

    Sain y Ddarlith >

     

    ‘Tom Ellis oedd y pennaf a’r cywiraf gwladgarwr o blith Aelodau Seneddol cyfnod “Cymru Fydd” yn niwedd y ganrif ddiwethaf (19C). Yn anffodus, cymerodd yntau swydd yn ei blaid Seisnig, eithr bu farw’n fuan wedyn, flwyddyn cyn troad y ganrif. Parhai’n arwr yn y sir, yn ein hardal ni o leiaf, ac nid oedd ei hen ...

    Rhagor 12/08/2025
  • Llinell Amser Plaid Cymru

     

     

    Rhagor 18/07/2025
  • Dathlu Can Mlynedd Plaid Cymru ym Mhwllheli

    Dydd Sadwrn, 21 Mehefin, 2025 dathlwyd can mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru mewn Rali ym Mhwllheli.

    Daeth torf i ddathlu a chlywed areithiau ar sgwâr y dref.

    Dyma araith Dafydd Wigley –

    Anerchiad Canmlwyddiant y Blaid: Pwllheli, Mehefin 2025

    Gyfeillion a chyd- genedlaetholwyr!

    Bydd Prif Weinidog nesaf Cymru yn fy nilyn – a dwi’n siwr y bydd Rhun yn edrych mlaen at etholiadau fis Mai nesaf. Felly dwi am edrych yn ôl, sy’n addas iawn  wrth ddathlu canmlwyddiant y Blaid.

    Canrif nôl i heddiw, roedd  fy mam yn byw tri-chan llath o’r man yma; ei mam hithau’n Lywydd Merched Rhyddfrydol Pwllheli,  efo Lloyd George yr AS lleol.

    Hanner canrif yn ôl, ...

    Rhagor 03/07/2025
  • Llinell Amser hanes Plaid Cymru 1925-2025

    Linc > Archif

    Rhagor 12/08/2025
  • Noson Lansio’r llyfr ‘Dros Gymru’n Gwlad’

    “Dros Gymru’n Gwlad – Hanes Sefydlu Plaid Cymru”.

    Ar 17 Gorffennaf 2025 daeth yr awduron Arwel Vittle a Gwen Gruffudd i Adeilad y Pierhead i drafod eu llyfr newydd gyda Karl Davies mewn achlysur a noddwyd gan Mabon ap Gwynfor AS ac a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.

    Dyma gyfle i chi wrando ar y sgwrs hynod ddiddorol ar sefydlu Plaid Cymru yn y cyfnod cyn 1925.

    Diolch i Senedd Cymru am ddarparu’r cofnod.

     

     

    Rhagor 18/07/2025
  • Llyfryn am Saunders Lewis

    Mae Sefydliad Coppieters, mewn cydweithrediad â Fundació Josep Irla, wedi cyhoeddi pedwerydd rhifyn o Political Lives sy’n ymroddedig i Saunders Lewis (1893–1985).
     

     
    Dolen i archebu’r rhifyn > Linc
     
    Roedd Lewis yn wleidydd, awdur, academydd ac ymgyrchydd amlwg o Gymro y bu ei fywyd a’i waith yn llunio hunaniaeth ddiwylliannol a gwleidyddol Cymru yn sylweddol.
     
    Wedi’i eni yn Lloegr i rieni oedd yn siarad Cymraeg, tyfodd Lewis i fyny wedi’i ymgolli yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg er gwaethaf ei amgylchedd.
     
    Ar ôl gwasanaethu fel is-gapten yn y Rhyfel Byd Cyntaf, dilynodd addysg ...
    Rhagor 24/06/2025