Darlith gan Arwel Vittle yn Eisteddfod y Garreg Las
Rhagor 16/07/2026Cymdeithas Hanes Plaid Cymru
Darlith gan Arwel Vittle
yn Eisteddfod y Garreg Las 2026
12:00, Dydd Iau, 6 Awst
Pabell y Cymdeithasau 1
Mallt Williams, Y Fonesig a achubodd Blaid Cymru.
Golwg ar gyfraniad gwleidyddol Mallt Williams, Llandudoch
Croeso i bawb
Pinacl 100 mlynedd o weithio dros Gymru
Rhagor 10/05/2026
43 aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn dilyn etholiad 2026
yn cynnwys darpar Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth.Mai Roberts – Y Ferch a Sefydlodd y Blaid
Rhagor 23/04/2026Mai Roberts – Y Ferch a Sefydlodd y Blaid
Anerchiad gan Arwel Vittle i Gymdeithas Carnuhanawc 7 Mawrth 2026
Mae rhan Mai Roberts yn hanes sefydlu’r Blaid yn un o’r hanesion mwyaf diddorol ac allweddol. Ac mae ei stori yn un na chafodd sylw haeddiannol. Oherwydd Mai Roberts oedd y cyswllt hanfodol a arweiniodd at uno mudiadau y de a’r gogledd i ffurfio Plaid Cymru fel rydyn ni’n ni ei hadnabod heddiw. Ond roedd llawer mwy iddi na hynny hefyd fel y cawn weld.Yn ddiweddar mae mwy o sôn wedi bod amdani, yn enwedig yn sgil dathliadau can mlwyddiant y Blaid yn 2025, gyda cyhoeddi llyfr ...
Teyrnged i Phyllis Ellis 1939 – 2026
Rhagor 30/05/2026Teyrnged Siân Gwenllian AS i Phyllis Ellis
Yn ystod cyfrif etholiad y Senedd, wrth iddi ddod yn fwyfwy amlwg bod Plaid Cymru ar y trywydd i ddod y blaid fwyaf yn y Senedd am y tro cyntaf yn ein hanes, roeddwn i, ac ymgeiswyr ledled Cymru, yn teimlo’r cyfrifoldeb yn drwm ar ein hysgwyddau.

Ond ochr yn ochr â difrifoldeb y foment honno, roedd cyfle i fyfyrio hefyd. Roedd llawer ohonom yn meddwl am y rhai a adeiladodd y mudiad dros ddegawdau, ymhell cyn i lywodraeth fod o fewn cyrraedd.
Chafodd nifer o’r bobl hynny ddim byw i weld y freuddwyd yn cael ei gwireddu. Un o’r ...
Teyrnged i Delme Bowen 1944 – 2026
Rhagor 26/04/2026Teyrnged Gwasanaeth Angladd gan ei fab Dewi Bowen ar 21/04/26
Yr Athro Ifor Delme Bowen B.Sc. Ph.D. D.Sc. C.Biol. F.I.Biol. 20/03/1944-25/03/2026
“Yng nghanol bywyd yr ydym mewn angau.”
Brawd i Wyn, cyn ŵr i Maureen, tad i mi (Dewi), Gareth, Rhian a Rhodri, a thadcu i saith o wyrion, ac yn bartner i’w annwyl Pam, a gollodd i salwch mor erchyll.Ond roedd yn llawer mwy na hynny – mad professor, gwyddonydd, naturiaethwr, storïwr, canwr, bardd, seryddwr, hanesydd, gwleidydd, cenedlaetholwr Cymreig balch, ac yn anad dim pryderwr proffesiynol.
Er ei holl gyflawniadau, doedd e byth yn cymryd ei hun yn rhy o ddifrif. Mab i löwr o Llanedi ...
Cymdeithas Carnhuanawc yn trafod Sefydlu Plaid Cymru
Rhagor 21/03/2026Ysgol Fore Cymdeithas Carnhuanawc
Sadwrn 7 Mawrth 2026, Insole Court, Ffordd Tyllgoed, Llandaf CF5 2LN
Thema’r Ysgol Fore oedd sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru ychydig dros ganrif yn ôl. Cyfraniadau gan:
Ieuan Wyn Jones ar y symudiad o Gymru Fydd i Blaid Cymru
Arwel Vittle ar gyfraniad Mai Roberts i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru
Keith Bush ar E T John, y cyn-Aelod Seneddol Rhyddfrydol a ddaeth yn aelod dylanwadol o’r mudiad cenedlaethol yn ystod y dauddegau.
Anerchiad Ieuan Wyn Jones
Anerchiad Keith Bush