Hanes Plaid Cymru

  • Pinacl 100 mlynedd o weithio dros Gymru

    43 aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn dilyn etholiad 2026
    yn cynnwys darpar Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth. 

    Rhagor 10/05/2026
  • Mai Roberts – Y Ferch a Sefydlodd y Blaid

    Mai Roberts – Y Ferch a Sefydlodd y Blaid

    Anerchiad gan Arwel Vittle i Gymdeithas Carnuhanawc 7 Mawrth 2026

    Mae rhan Mai Roberts yn hanes sefydlu’r Blaid yn un o’r hanesion mwyaf diddorol ac allweddol. Ac mae ei stori yn un na chafodd sylw haeddiannol. Oherwydd Mai Roberts oedd y cyswllt hanfodol a arweiniodd at uno mudiadau y de a’r gogledd i ffurfio Plaid Cymru fel rydyn ni’n ni ei hadnabod heddiw. Ond roedd llawer mwy iddi na hynny hefyd fel y cawn weld.

    Yn ddiweddar mae mwy o sôn wedi bod amdani, yn enwedig yn sgil dathliadau can mlwyddiant y Blaid yn 2025, gyda cyhoeddi llyfr ...

    Rhagor 23/04/2026
  • Golwg ar 100 mlynedd Plaid Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol

    Golwg ar 100 mlynedd Plaid Cymru gan Rhys Evans yng nghylchgrawn Maniffesto 56 tudalen 24 y Llyfrgell Genedlaethol

    Maniffesto-awg-56

    Rhagor 11/12/2025
  • Teyrnged i Delme Bowen 1944 – 2026

    Teyrnged Gwasanaeth Angladd gan ei fab Dewi Bowen ar 21/04/26

    Yr Athro Ifor Delme Bowen B.Sc. Ph.D. D.Sc. C.Biol. F.I.Biol.  20/03/1944-25/03/2026

    “Yng nghanol bywyd yr ydym mewn angau.”

    Brawd i Wyn, cyn ŵr i Maureen, tad i mi (Dewi), Gareth, Rhian a Rhodri, a thadcu i saith o wyrion, ac yn bartner i’w annwyl Pam, a gollodd i salwch mor erchyll.

    Ond roedd yn llawer mwy na hynny – mad professor, gwyddonydd, naturiaethwr, storïwr, canwr, bardd, seryddwr, hanesydd, gwleidydd, cenedlaetholwr Cymreig balch, ac yn anad dim pryderwr proffesiynol.

    Er ei holl gyflawniadau, doedd e byth yn cymryd ei hun yn rhy o ddifrif. Mab i löwr o Llanedi ...

    Rhagor 26/04/2026
  • Teyrnged i Huw John 1939 – 2025

    DAFYDD HUW JOHN

    Yn ei gartref Maesglas, Peniel Caerfyrddin ar 13eg o Awst 2025 yn 86 oed bu farw Huw John, ac fe gofir amdano fel ‘Cymro i’r Carn’ a ffrind i bawb, ac un a fu yn trefnu ac yn galw Twmpathau Dawns ar hyd a lled Cymru am flynyddoedd lawer. Nodwedd arall oedd yn perthyn i Huw oedd ei hoffter i drefnu ac i gymryd rhan mewn Plygeiniau traddodiadol ar draws Cymru, heb sôn am ei weithgarwch cyson dros Blaid Cymru.

    Fe ddaeth Plygain Capel Penygraig, lle bu Huw yn ddiacon ac Arweinydd y Gan am dros 30 mlynedd yn Blygain draddodiadol bwysig iawn ...

    Rhagor 08/01/2026
  • Trafod Llyfr Newydd am Dafydd Elis Thomas

    Yn Neuadd y Plwyf, Llandaf, Caerdydd, Nos Wener 21 Tachwedd 2025, trefnwyd noson gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru i glywed Aled Eirug  yn trafod ei lyfr newydd am Dafydd Elis-Thomas gyda Vaughan Roderick.

     

     

     

    Roedd yr holi yn graff a chafwyd ambell berl nad oedd wedi’i chynnwys yn y llyfr.

    Dyma recordiad sain o’r noson. Mae Aled yn ymddiheuro am y peswch sy’n torri ar draws y sain. 

     

     

    Rhagor 21/11/2025