Teyrnged i Phyllis Ellis 1939 – 2026

Teyrnged Siân Gwenllian AS i Phyllis Ellis

Yn ystod cyfrif etholiad y Senedd, wrth iddi ddod yn fwyfwy amlwg bod Plaid Cymru ar y trywydd i ddod y blaid fwyaf yn y Senedd am y tro cyntaf yn ein hanes, roeddwn i, ac ymgeiswyr ledled Cymru, yn teimlo’r cyfrifoldeb yn drwm ar ein hysgwyddau.

Ond ochr yn ochr â difrifoldeb y foment honno, roedd cyfle i fyfyrio hefyd. Roedd llawer ohonom yn meddwl am y rhai a adeiladodd y mudiad dros ddegawdau, ymhell cyn i lywodraeth fod o fewn cyrraedd.

Chafodd nifer o’r bobl hynny ddim byw i weld y freuddwyd yn cael ei gwireddu. Un o’r rheini oedd Phyllis Ellis o Benisarwaun, a fu farw ar 18 Ebrill 2026.

Mae’n debyg nad yw galw Phyllis yn un o ‘hoelion wyth’ ei chymuned yn gwneud cyfiawnder â’i chyfraniad. Roedd hi’n weithgar ym mywyd Penisarwaun a thu hwnt hyd at y diwedd – gan wasanaethu fel Cadeirydd pwyllgor y neuadd bentref, Cadeirydd pwyllgor yr eisteddfod bentref, aelod o gorff llywodraethol yr ysgol leol, a chynghorydd cymuned ar Gyngor Cymuned Llanddeiniolen.

Roedd hi hefyd yn aelod ymroddedig o Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, gan gefnogi gwaith y ganolfan iaith a threftadaeth ym Mhen Llŷn – achos oedd yn agos iawn at ei chalon.

Roedd ei gyrfa ym myd addysg yn adlewyrchu’r un ymrwymiad at wasanaeth. Fel cyn-bennaeth Ysgol Babanod Maesincla yng Nghaernarfon, roedd hi’n angerddol am addysg a’r genhedlaeth nesaf.

Ar ôl cymhwyso fel athrawes, gweithiodd yn Dartford cyn dychwelyd adref i Gymru – un o genhedlaeth a oedd yn rhaid iddi adael i ddod o hyd i waith ond na chollodd eu cysylltiad â Chymru erioed.

Roedd ymrwymiad Phyllis i Blaid Cymru yn ymestyn dros ddegawdau. Ym 1967 daeth yn ysgrifennydd pwyllgor etholaeth Arfon, ac roedd yn aelod gweithgar pan etholwyd Dafydd Wigley yn AS am y tro cyntaf ym 1974. Dechreuodd ei chysylltiad â’r blaid cyn hynny hyd yn oed, a bu’n mynychu cyfarfodydd gyda’i mam fel plentyn. Bu mewn rolau cenedlaethol gyda’r Blaid dros y blynyddoedd hefyd, gan gynnwys dirprwy drysorydd a chadeirydd pwyllgor llywio’r gynhadledd.

Ym 1972 fe’i hetholwyd yn Llywydd Cenedlaethol Merched Plaid, ac ym 1974 daeth yn un o’r menywod cyntaf i gael eu hethol i Gyngor Cymuned Llanddeiniolen. Byddai Phyllis, dwi’n credu, wedi ymfalchïo’n dawel wrth weld grŵp Senedd Plaid Cymru lle mae menywod bellach yn ffurfio mwy na 60% o’r Aelodau. Mae’r newid hwnnw’n rhan o ymdrech hir gan nifer o ferched – yn cynnwys Phyllis, a weithiodd yn galed i greu gofod i eraill yn y Blaid.

Ym mis Mawrth 2024 cafodd ei hanrhydeddu â gwobr cyflawniad oes yn ein cynhadledd flynyddol. Roedd yn gydnabyddiaeth addas o oes o gyfraniad cyson, yn aml yn dawel, ond yn ddiysgog.

Chafodd hi ddim byw i weld Plaid Cymru yn dod i rym. Ond byddai rhywun fel Phyllis yn deall nad yw newid gwleidyddol yn cael ei ddiffinio gan un foment, ond yn hytrach mae’n cael ei adeiladu’n araf, trwy flynyddoedd o ymdrech.

Fel Aelodau sydd newydd ein hethol i’r Senedd, rydan ni’n cofio, gyda gostyngeiddrwydd, y sylfeini a osodwyd gan bobl fel Phyllis Ellis. Yr wythnos hon, byddwn yn ffarwelio ag unigolyn gweithgar ac uchel iawn ei pharch. Roedd ei chymuned yn ei gwerthfawrogi, a bydd ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus yn parhau.

Roedd yn fraint ei hadnabod.

Dwi’n meddwl am Gwyn a’i theulu ar yr adeg hon.

Diolch, Phyllis.