Teyrnged i Delme Bowen 1944 – 2026

Teyrnged Gwasanaeth Angladd gan ei fab Dewi Bowen ar 21/04/26

Yr Athro Ifor Delme Bowen B.Sc. Ph.D. D.Sc. C.Biol. F.I.Biol.  20/03/1944-25/03/2026

“Yng nghanol bywyd yr ydym mewn angau.”

Brawd i Wyn, cyn ŵr i Maureen, tad i mi (Dewi), Gareth, Rhian a Rhodri, a thadcu i saith o wyrion, ac yn bartner i’w annwyl Pam, a gollodd i salwch mor erchyll.

Ond roedd yn llawer mwy na hynny – mad professor, gwyddonydd, naturiaethwr, storïwr, canwr, bardd, seryddwr, hanesydd, gwleidydd, cenedlaetholwr Cymreig balch, ac yn anad dim pryderwr proffesiynol.

Er ei holl gyflawniadau, doedd e byth yn cymryd ei hun yn rhy o ddifrif. Mab i löwr o Llanedi oedd e, ac fe arhosodd yn driw i’w wreiddiau drwy gydol ei oes.

Yn academaidd, roedd yn eithriadol. Gwyddonydd disglair yn ystyr gwirioneddol y gair. Enillodd Ph.D. ac yna Ddoethuriaeth mewn Gwyddoniaeth (D.Sc.) am ei waith cyhoeddedig helaeth. Ei faes oedd marwolaeth celloedd wedi’i raglennu, ac enillodd enw da byd-eang drwy ei ymchwil a’i ysgrifennu. Llwyddodd hefyd i gymhwyso’r wyddoniaeth yn ymarferol gan gynhyrchu dulliau naturiol ac ecogyfeillgar o reoli malwod. Fe’i cofir fel y sŵolegydd yn edrych i lawr microsgop electron, ond hefyd yn casglu malwod yn yr ardd neu’n chwilio am fwydod planaria yn Ffynnon Llandennis, Caerdydd, gan greu arbrofion dychmygus ac unigryw gyda’i fyfyrwyr.

Tu hwnt i’r wyddoniaeth, roedd hefyd yn fardd yn y ddwy iaith, yn symud yn rhwydd rhwng gwyddoniaeth a chreadigrwydd. Roedd ei feddwl yn gweithio mewn ffordd unigryw, yn aml yn datrys problemau mewn ffyrdd rhyfeddol, er enghraifft torri i fyny Sinclair ZX81 (cyfrifiadur o’r 80au) a cheisio’i oeri gyda phwmp gwaed Fisher Price, ffoil a Mecanno.

Roedd hefyd yn naturiaethwr go iawn, yn tyfu perllannau ble bynnag yr oedd yn byw — afalau, gellyg ac eirin — a chanddo wybodaeth ddofn o fyd natur. Roedd ganddo hefyd ddealltwriaeth eang o Gymru Geltaidd ac Oes y Saint, ac roedd y bydysawd a’i ddirgelion yn ei ddiddori.

Ond wrth gwrs, y pethau bach sy’n aros… Creu cymeriad ffug o’r enw “Colin” y pumed plentyn oedd yn gyfrifol am bob drwg pan nad oedd neb arall yn cyfaddef ! Straeon Byni Wyni a Reji (a Professor Screwtop), byd bach llawn dychymyg. A phwy all anghofio’r fideo baw ci Tara oherwydd bod maggots ynddo… neu’r kennel perffaith na ddefnyddiodd y ci erioed. Yn Rhyd y Nant, Pontyclun, roedd hyd yn oed y plant lleol yn dod draw i wrando arno’n rhegi wrth wneud DIY perfformiad ynddo’i hun “Shit house poets will never die”.   

Roedd yn casáu teithio ac yn poeni’n barhaus tra ar daith, ond eto teithiodd y byd drwy ei waith o Nigeria i Chicago, o Saudi ac yr Aifft i Ewrop a’r Philippines  bob amser yn sylwi ac yn parchu diwylliannau eraill.

Roedd canu ym mhobman roedd Dad yn mynd gyda’i lais tenor swynol a phwerus. O manteisio ar acwstics gwych hen Goleg Caerdydd wrth chwibanu. I canuon gwiron creu fel “Dream Queen Pasqueline” a “Your slacks are low and your hips are showing…brang y rang rang” I classuron go iawn fel “Her eyes they shone like the diamonds” A’r un mwyaf tyner “rwn y rwn y plentyn bach…” i suo plentyn i gysgu neu cysuro yn seiliedig ar ton glywodd tra’n gwylio Tom Baker fel Doctor Who. Ac wrth gwrs, pwy all anghofio iddo ddysgu ei hen gi ffyddlon Jasper i ganu gydag ef, yn ogystal â’i ddamcaniaeth fod Jasper yn gallu cyfathrebu drwy wincio – unwaith am na a dwywaith am ie!

Roedd ei synnwyr digrifwch yn ymestyn i bopeth  o’r syniad ei fod yn troi’n pangolin i’w edmygedd o’i  “male dominant paunch”.

Roedd yn wleidydd naturiol ac yn gwbl ymroddedig. Ef oedd yr aelod cyntaf o Blaid Cymru i fod yn Arglwydd Faer Caerdydd, ac fe wasanaethodd am flynyddoedd lawer fel cynghorydd cymunedol a sirol, gan ymladd yn ddi-flino dros achosion Cymreig a chymunedol. Roedd yr un mor gartrefol yn canfasio fflatiau cyngor ym Meddau, gan alw ei hun yn Del mab y glowr, ag yr oedd yn curo drysau tai mwy moethus Groesfaen fel Professor Bowen. Nid digwyddiad cyn etholiad yn unig oedd ymgyrchu iddo, ond rhan barhaol o’i fywyd. Byddai cylchlythyrau lleol iawn fel Clunsheets, Creigiau Chronicle a’r Ferry’nough yn cael eu cynhyrchu yn rheolaidd gan ddefnyddio hen beiriant Gestetner yn y garej, gan roi gwybod am bob agwedd ar fywyd lleol o safbwynt cenedlaetholgar Cymreig.

Ef, yn fwy na neb, oedd yn gyfrifol am wella ac ailstrwythuro systemau trafnidiaeth Caerdydd. Ac nid oes amheuaeth iddo gyfrannu’n sylweddol at y sylfeini cadarn sydd wedi arwain at gryfhau Plaid Cymru ac at ei llwyddiant tebygol yn etholiadau’r Senedd i ddod.

Ond yn y diwedd… yr hyn sy’n aros yw’r dyn ei hun. Y straeon. Y canu. Y chwerthin. Y cymeriad unigryw hwnnw.

Ivor i’r gwyddonwyr, Delme i’w gymuned, Del i’w ffrindiau.

Colled enfawr i’w deulu ac i Gymru. Dyn gwych mewn cymaint o ffyrdd… ond i ni, jyst Dad a Tadcu.

Nos da Dad.