Dylanwad cenedlaetholdeb Iwerddon ar Blaid Genedlaethol Cymru
Rhagor 06/10/2026Cynhaliwyd darlith gan Evan Wall o Brifysgol Aberystwyth ar ‘Dylanwad Cenedlaetholdeb yn Iwerddon ar Blaid Genedlaethol Cymru’ ar 17 Medi yng Nghaernarfon.
Dyma Sain y ddarlith >
Mae gwybodaeth ychwanegol yma –

Mallt Williams – Y Fonesig a Achubodd Blaid Cymru
Rhagor 13/08/2026Mallt Williams – Y Fonesig a Achubodd Blaid Cymru
Darlith draddodwyd gan Arwel Vittle yn Eisteddfod y Garreg Las 6 Awst 2026. Cyflwynwyd y digwyddiad gan Ben Lake A.S.

Sain y Ddarlith gan Arwel Vittle –
Cyflwyniad
Pan wnaeth Gwen Angharad Gruffudd a minnau gynllunio ysgrifennu cyfrol ar sefydlu’r Blaid Genedlaethol flwyddyn neu ddwy yn ôl, roedd y ddau ohonom yn ymwybodol bod yno straeon nad oedd wedi cael eu hadrodd o’r blaen am gyfraniadau rhai unigolion allweddol yn hanes y Blaid na chafodd sylw dyledus. Ac – fel sy’n boenus o gyffredin – roedd llawer o’r unigolion hyn yn ferched.
Wrth i ni dyrchu i’r hanes daeth ...
Pinacl 100 mlynedd o weithio dros Gymru
Rhagor 10/05/2026
43 aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn dilyn etholiad 2026
yn cynnwys darpar Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth.Teyrnged i’r Parch. John Owen (1940 – 2026)
Rhagor 24/09/2026
Mi gafodd John Owen ei eni yn Tŷ’n Coed, Tregaian ar Ynys Môn yn Awst 1940. Roedd llawer yn dal i’w ’nabod fel ‘John Tŷ’n Coed’, ac roedd y fferm a’r filltir sgwâr yng nghysgod Mynydd Bodafon yn bwysig iawn iddo fo ar hyd ei fywyd. Mi aeth i ysgol Capel Coch a chafodd sylfaen gadarn hefyd yng nghapel Tŷ Mawr yn y pentref. Bu ei dad a’i frawd yn flaenoriaid yno, ac mae ei nai Trystan bellach yn eistedd yn y set fawr yno.
Ar ôl ei addysg uwchradd yn Ysgol Llangefni mi aeth yn ei flaen i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol ...
Teyrnged i Phyllis Ellis 1939 – 2026
Rhagor 30/05/2026Teyrnged Siân Gwenllian AS i Phyllis Ellis
Yn ystod cyfrif etholiad y Senedd, wrth iddi ddod yn fwyfwy amlwg bod Plaid Cymru ar y trywydd i ddod y blaid fwyaf yn y Senedd am y tro cyntaf yn ein hanes, roeddwn i, ac ymgeiswyr ledled Cymru, yn teimlo’r cyfrifoldeb yn drwm ar ein hysgwyddau.

Ond ochr yn ochr â difrifoldeb y foment honno, roedd cyfle i fyfyrio hefyd. Roedd llawer ohonom yn meddwl am y rhai a adeiladodd y mudiad dros ddegawdau, ymhell cyn i lywodraeth fod o fewn cyrraedd.
Chafodd nifer o’r bobl hynny ddim byw i weld y freuddwyd yn cael ei gwireddu. Un o’r ...
Teyrnged i Delme Bowen 1944 – 2026
Rhagor 26/04/2026Teyrnged Gwasanaeth Angladd gan ei fab Dewi Bowen ar 21/04/26
Yr Athro Ifor Delme Bowen B.Sc. Ph.D. D.Sc. C.Biol. F.I.Biol. 20/03/1944-25/03/2026
“Yng nghanol bywyd yr ydym mewn angau.”
Brawd i Wyn, cyn ŵr i Maureen, tad i mi (Dewi), Gareth, Rhian a Rhodri, a thadcu i saith o wyrion, ac yn bartner i’w annwyl Pam, a gollodd i salwch mor erchyll.Ond roedd yn llawer mwy na hynny – mad professor, gwyddonydd, naturiaethwr, storïwr, canwr, bardd, seryddwr, hanesydd, gwleidydd, cenedlaetholwr Cymreig balch, ac yn anad dim pryderwr proffesiynol.
Er ei holl gyflawniadau, doedd e byth yn cymryd ei hun yn rhy o ddifrif. Mab i löwr o Llanedi ...