Atgofion am Is-etholiad Maldwyn 1962

RHAI ATGOFION AM IS-ETHOLIAD 1962

gan Trefor Edwards

Mae’n syn meddwl fod naw mlynedd wedi mynd heibio er Is-etholiad 1962 ym Maldwyn. Dyna’r tro cyntaf i’r Blaid ddangos y faner ac o ystyried hynny mae’n deg dweud i’n cynnydd fod arwyddocaol iawn. Pe bai’r Blaid wedi sefyll ym Maldwyn er 1945, dyweder, yna mae lle i gredu y byddai’r cynnydd yn amlycach fyth. Ac fel y sylwodd Dr. Phil Williams ar ôl yr Etholiad diwethaf, yn yr etholaethau hynny y bu ymladd dros gyfnod helaeth o amser y cafwyd yr ymateb gorau. Ond nid bwriad hyn o lith yw tynnu llinyn mesur dros weithwyr cynnar y Blaid yn y sir, oherwydd fe wn yn dda am yr anawsterau, a’r gwaith a gyflawnwyd ganddynt.

Etholiad diddorol a dweud y lleiaf a fu’r Is-etholiad ym 1962, ac mae rhai profiadau prin, bythgofiadwy yn mynnu ymwthio i’r cof. Un ohonynt oedd mynd i Fangor un noson i geisio dwyn perswâd ar Islwyn Ffowc Elis i sefyll fel ymgeisydd. Bu’r daith yn ôl o Fangor yng nghwmni’r Parch. Arthur Thomas ar ôl cael ateb cadarnhaol yn felys fer a’n hysbrydoedd ar ei huchelfannau. Nid edrychodd Maldwyn yn brydferthach na’r noson honno ac ysbryd y ‘Gwanwyn’ yn y tir.

Yr ail atgof yw ymweliad y diweddar J.E. Jones â’r sir i baratoi am yr ymgyrch. Nid oedd ei iechyd yn dda o gwbl, fe wyddwn hynny, ond ni wyddwn ei fod mewn cymaint o boen corfforol, fel y cyfaddefodd wrthyf rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Roedd ei dasg yn enfawr ond aeth ati yn ei ffordd gadarn i wneud yr hyn a allai. Daeth i’n gweld i’r tŷ ryw fin nos ac amlinellu cynlluniau’r frwydr er gwaethaf ei salwch. Siaradai ac ysgrifennai yn ddi-stop â’i feddwl yn glir a threfnu ar hyd yr amser. Nodweddiadol o’i drylwyredd oedd y modd yr ai ati i drefnu cyfarfodydd. Map O.S. manwl ar y bwrdd o’n blaenau a J.E. am gynnal cyfarfod mewn pob tref, pentref a hyd yn oed y mân bentrefi a’r ardaloedd. Lle bynnag y gwelai J.E. glwstwr o dai ar y map roedd rhaid cynnal cyfarfod yno. Y Belan a Threfnannau a Phenygarnedd! Roedd Bwlchyddâr yn cael ystyriaeth hefyd, ond sylweddolwyd fod hwnnw yn Sir Ddinbych! Braint i mi oedd cael cydweithio â dyn a ddisgyblodd ei hunan mor llwyr i achos rhyddid Cymru, ac a wnaeth hynny heb golli dim o anwyldeb cynhenid ei bersonoliaeth fawr.

Fe drefnwyd nifer fawr o gyfarfodydd yn ystod yr Is-etholiad hwnnw, diolch i drylwyredd J.E. ac hefyd, wrth gwrs, oherwydd y gallem alw ar hufen siaradwyr cyhoeddus Cymru. Fel y cyfeiriodd Islwyn Ffowc Elis at yr ymgyrch yn ddiweddar, ymgyrch plannu’r had fu’r Is-etholiad ac fe’i plannwyd yn rymus iawn cyn belled ag yr oedd cyfarfodydd yn y cwestiwn.

Yr un a wnaeth fwyaf o waith gyda’r cyfarfodydd corn siarad oedd yr enwog Glyn James o’r Rhondda, y “corniwr” mwyaf effeithiol a glywais i erioed. Nid anghofiaf fyth ei araith ar brif stryd Llanfair Caereinion. Ninnau’r gweithwyr yn y swyddfa yn Brook House un amser cinio yn gorfod rhoi heibio’n gwaith a gwrando’n fud arno. Yna, y diweddar, anfarwol Fred Jones, Llanfair Caereinion, un o aelodau cynnar y Blaid yn y sir yn rhuthro i mewn i’r swyddfa, y dagrau’n treiglo i lawr ei ruddiau, ac yn ebychu fel tôn gron, “Rasol inne!” a “Fachgien bech!”.

Ie’n wir, etholiad i’w gofio oedd Is-etholiad 1962. Erbyn hyn mae’r had wedi egino a’r egin yn glasu bryniau Maldwyn. Fe ddaw’r cynhaeaf a bydd melys y medi. Ni all ein gelynion ond ei ohirio mwyach.

(Allan o MALDWYN, Montgomery Newsletter of Plaid Cymru. Rhif 2. Haf 1971.)