Dr Ceinwen H. Thomas 1911 – 2008

Arloeswraig Nodedig: Dr Ceinwen H. Thomas (1911–2008)

Ysgrif yn seiliedig ar deyrnged a draddododd Dr E. Wyn James yn angladd Dr Ceinwen H. Thomas yn Amlosgfa’r Ddraenen, Caerdydd, 7 Chwefror 2008. Fe’i cyhoeddwyd yn y cylchgrawn Barn yn Rhagfyr 2008.

Dr Ceinwen ThomasAnodd dechrau unrhyw deyrnged i Dr Ceinwen Hannah Thomas heb grybwyll yr enw Nantgarw. Er iddi fyw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, ac mewn mannau eraill, am ran helaeth o’i bywyd, ni fyddech yn hir yn ei chwmni cyn deall ei bod yn enedigol o Nantgarw a deall hefyd, er nad yw’r pentref hwnnw ond saith milltir i’r gogledd o ganol Caerdydd, mai hi oedd yr ail genhedlaeth yn unig o’i theulu i wybod Saesneg.

Deuai o deulu a’i wreiddiau’n ddwfn yng ngwaelod Cwm Taf, a bu’n byw yn Nantgarw hyd nes iddi gwblhau ei hastudiaethau yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd yn 1937. Aeth i ysgol y babanod yn Nantgarw, ac yna i’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd yng Nghaerffili. Cwynai’n fawr am seisnigrwydd ei haddysg cyn cyrraedd yr ysgol uwchradd. Er enghraifft, er bod ei hysgol gynradd, Ysgol y Gwyndy, gerllaw tŷ cwrdd Tonyfelin yng Nghaerffili, ni chyfeiriodd yr un o’r athrawon erioed at y ffaith fod yr enwog Christmas Evans wedi bod yn weinidog yno ac wedi byw gerllaw’r ysgol. Nid oedd hyd yn oed gastell anferth Caerffili yn cael sylw yn y gwersi hanes yno, ond yn hytrach gymeriadau fel Walter Raleigh a Francis Drake. Yr oedd yr ysgol uwchradd yn fwy goleuedig: dysgid tipyn o hanes Cymru yno, yr oedd yno gangen o’r Urdd, a siaradai nifer o’r athrawon Gymraeg yn ddi-lol â’i gilydd ac â’r plant Cymraeg. Tra oedd yng Ngholeg Caerdydd, enillodd Ceinwen Thomas radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg, ac yna mynd ymlaen i ennill gradd MA yn 1936 (a gradd Doethur o Brifysgol Iwerddon, wedyn, yn 1940) – camp addysgol go anghyffredin i wryw yn yr oes honno, heb sôn am fenyw.

Er iddi adael Nantgarw yn 1937, gellir dweud fod ei holl fywyd hir a llawn yn troi o gwmpas Nantgarw a’r Gymraeg. Gyda’i mam, Mrs Margretta Thomas – menyw anghyffredin arall – gwnaeth Dr Ceinwen gyfraniad hynod bwysig yn rhoi ar gof a chadw ddiwylliant gwerin Cymraeg Nantgarw a’r cyffiniau. Un enghraifft yn unig o hynny oedd eu gwaith yn cofnodi Dawnsfeydd Nantgarw, sydd bellach yn rhan mor amlwg o fyd y ddawns werin yng Nghymru. Yn wir, nid gormod fyddai honni fod Dr Ceinwen Thomas a’i mam wedi gosod Nantgarw ar fap ein bywyd diwylliannol, yn un o’r oriel honno o bentrefi – megis Rhydcymerau D. J. Williams neu Lanuwchllyn O. M. Edwards – sydd fel petaent yn ymgorfforiad o’n diwylliant gwerin ar ei orau.

Yn 1993 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru ei disgrifiad manwl o Gymraeg Nantgarw, mewn dwy gyfrol swmpus. Dyma ei magnum opus, penllanw blynyddoedd lawer o astudio seineg a gramadeg y Gymraeg (ac iaith de-ddwyrain Cymru yn arbennig). Yn yr 1960au a’r 1970au bu’n cyfarwyddo’r Uned Ymchwil Ieithyddol a oedd newydd ei sefydlu yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Am fod siaradwyr y Wenhwyseg – Cymraeg de-ddwyrain Cymru – yn prinhau erbyn hynny, rhoddwyd sylw arbennig gan yr Uned i’w hastudio; ac yn ystod cyfnod Dr Ceinwen Thomas yno cafwyd ffrwd o draethodau gan fyfyrwyr ymchwil yr Uned ar Gymraeg gwahanol fannau yn ne-ddwyrain Cymru, sydd yn gyfraniad nodedig i astudiaethau ieithyddol Cymraeg.

Ond ail yrfa i Dr Ceinwen Thomas oedd ei gwaith ieithyddol academaidd. Yn ystod yr ugain mlynedd rhwng gadael Coleg Caerdydd yn 1937 a dychwelyd yno yn 1958, bu’n athrawes Gymraeg ym Mhen-y-cae (Ebbw Vale) ac yna ym Mryn-mawr. Ymaelododd â’r Blaid Cymru newydd-ei-sefydlu pan oedd yn fyfyrwraig yng Ngholeg Caerdydd, a bu’n genedlaetholwraig bybyr ar hyd ei bywyd. Blynyddoedd o frwydro oedd yr 1940au a’r 1950au yn ei hanes: brwydro dros egwyddorion Plaid Cymru; dros ddehongli hanes Cymru mewn ffordd Gymreig yn hytrach nag o safbwynt imperialaidd Seisnig; dros le’r Gymraeg yn myd addysg; a thros gydnabod Sir Fynwy yn rhan lawn o Gymru. Blynyddoedd oedd y rhain o fod ar flaen y gad, mewn cyfnod ac ardal a oedd yn dalcen caled iawn i’r Gymraeg a’r mudiad cenedlaethol – ond bu fyw’n ddigon hir i weld Plaid Cymru yn rhan o’r llywodraeth yn y Cynulliad; to o haneswyr iau yn codi a ddehonglai hanes Cymru mewn ffordd dipyn Gymreiciach; twf aruthrol mewn addysg Gymraeg; a chladdu am byth yr hen ymadrodd hwnnw, ‘Wales and Monmouthshire’.

Menyw ddeallus, ddarllengar oedd Ceinwen Thomas. Yr oedd yn fenyw o argyhoeddiadau cryfion, ac yn barod i sefyll yn unplyg dros yr argyhoeddiadau hynny, a dadlau drostynt yn ddi-flewyn-ar-dafod. Un enghraifft fechan o hyn oedd ei hymgyrchu taer dros ddefnyddio hen enwau lleoedd Cymraeg brodorol Cwm Taf, yn hytrach na’r fersiynau Saesneg neu fathiadau Cymraeg gan ‘ddynion dŵad’: ‘Y Mynydd Bychan’ (nid ‘The Heath’ neu ‘Y Waun’), ‘Draenen Pen-y-graig’ (nid ‘Thornhill’ neu ‘Bryn-drain’), ‘Rhiwbina’ (nid ‘Rhiwbeina’), ‘Rhydfelen’ (nid ‘Rhydyfelin’). Cefnogai’n hael a chyson yr achosion hynny a oedd yn agos at ei chalon: rhai dyngarol, ecolegol a chenedlaethol. Ac y mae’n werth pwysleisio iddi ddod i’r amlwg yn y bywyd cyhoeddus ac academaidd o’r 1940au ymlaen, pan oedd y cylchoedd hynny yn rhai gwrywaidd i raddau helaeth iawn.

Un wedd ar fywyd Nantgarw ei phlentydod y trodd Ceinwen Thomas ei chefn arni am flynyddoedd oedd byd y ‘tŷ cwrdd’. Yn ôl ei thystiolaeth hi ei hun, bu’n bur agnostig yn ei hymateb i Gristnogaeth am gryn amser. Yna, yn fuan ar ôl iddi ymddeol, mentrodd ryw fore Sul i un o oedfaon Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd, a oedd newydd ei ffurfio yr adeg honno. Cafodd ei hatgoffa yng nghyfarfodydd yr Eglwys o awyrgylch cynnes a phwylais diwinyddol y tŷ cwrdd y magwyd hi ynddo yn Nantgarw. Ymhen peth amser wedyn daeth i arddel o’r newydd y ffydd Gristnogol honno. Ni wnaeth hynny mewn ffordd sentimental, ddifeddwl. Nid un felly oedd Dr Ceinwen! Yn hytrach, bu’n pwyso a mesur o ddifrif yr hyn a glywai o’r pulpud, gan ailystyried ei sefyllfa a’i chredo yng ngoleuni hynny. Ond y canlyniad oedd iddi ddychwelyd yn niwedd ei hoes at ffydd ei mam a’i hynafiaid yn Nantgarw.

Yn y cyfnod hwnnw byddai’n mwynhau adrodd rhai o emynau llafar gwlad cyfnod y diwygiadau, y byddai ei hen fam-gu yn hoff o’u canu. Roedd yr hen fam-gu honno, Ann Meredydd – a oedd yn byw mewn bwthyn ar Fynydd Caerffili ger tafarn Clwyd y Gurnos (‘The Black Cock Inn’) – hithau yn gryn gymeriad, ac yn un na fynnai foesymgrymu i foneddigion yr ardal, yn ôl arfer gwerin y cyfnod. A phriodol yw terfynu’r deyrnged hon i Dr Ceinwen Thomas yn sŵn un o’r penillion hynny, pennill sy’n darlunio’r iachawdwriaeth yng Nghrist ar Galfaria fel llong yn dwyn ei thrysorau i ni. Dyma’r pennill, a’r orgraff yn adlewyrchu ynganiad tafodieithiol Dr Ceinwen ei hun (a’i hen-fam-gu o’i blaen) wrth ei adrodd:

 

’en lestar iachawdwria’th

A ddæth o’r nef i ni;

Tramwyws fôr o gariad

’yd bartha’ Calfari;

Dadlwythws ei thrysora’

Mewn tair awr ar y gro’s;

Rhows fodd i rif nas rhifir

I fyw tragwyddol o’s.