Brian Arnold (1941-2023)

Mae gwefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n cyhoeddi teyrnged i’r diweddar gyn-gynghorydd Brian Arnold, Ynysybwl, aelod ffyddlon o’r Blaid a chynghorydd gweithgar ac ymroddedig i’w gymuned.

Ymunodd Brian â’r Blaid yn 1957 pan oedd 16 mlwydd oed ac fe’i etholwyd yn aelod Plaid Cymru o Gyngor Gymuned  Ynysybwl yn 1986, gan wasanaethu ar y cyngor hwnnw am gyfnod o 26 o flynyddoedd.

Nes ymlaen fe ddaeth yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Cwm Cyngor a Chyngor Sir Rhondda Cynon Taf ac fe gadwodd ei sedd ar y cyngor am gyfnod o dair blynedd ar ddeg ac ennill parch gan bobl o bob plaid wleidyddol.

Awdur y deyrnged yw cyd-aelod o’r Blaid yng Nghwm Cynon, yr hanesydd D. Leslie Davies ac fe gewch ei darllen yma.

Charlotte Aull Davies, 1942-2023

Americanes ddawnus a ddaeth yn Gymraes frwd

Dafydd Williams

Rywbryd yng nghanol y saithdegau, cerddodd Americanes ifanc i mewn i brif swyddfa Plaid Cymru yng Nghaerdydd.  Yr oedd Charlotte Aull  a’i bryd ar ddarganfod popeth am Gymru a’i mudiad cenedlaethol. Bu disgwyl iddi ddychwelyd dros yr Iwerydd ar ôl cwblhau’i PhD, ond – yn ffodus i Gymru – fel arall y bu.

Cafodd Charlotte ei geni yn Lexington, Kentucky, un o dri o blant.  Enillodd radd mewn mathemateg ac yna MSc ym Mhrifysgol Mississippi cyn troi at anthropoleg gymdeithasol, hynny yw astudio cymunedau a’u diwylliant.  Ac ar gyfer ei PhD yng Ngogledd Carolina, Cymru oedd y wlad y dewisodd i’w hastudio.

Ynghyd â phersonoliaeth hyfryd, roedd gan Charlotte benderfyniad tawel.  Oriau ar ôl glanio yng ngwledydd Prydain, bu yn Nhŷ’r Cyffredin yn cyfweld â Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.  Nes ymlaen mewn siop lyfrau sylwodd ar ŵr bonheddig yn craffu ar res o lyfrau Cymreig – neb llai na’r bardd Harri Webb, ac fe gafodd yntau  ei gyfweld yn y fan a’r lle!

Diau mai Gwynfor a awgrymodd ymweliad â mi yn swyddfa’r Blaid i ddarganfod mwy a chael rhestr o bobl eraill i’w holi.  Ond go brin y gwelodd neb y canlyniad hapus – y byddai Charlotte yn priodi fy ffrind Hywel Davies, newyddiadurwr, cenedlaetholwr ac awdur llyfr safonol ar hanes ugain mlynedd gyntaf Plaid Cymru.  Daeth Charlotte yn rhugl yn y Gymraeg wrth gyflawni gwaith maes ar gyfer ei PhD ym Mangor a Chaerdydd.

Mudodd y pâr i’r Unol Daleithiau yn 1985 pan gafodd Charlotte gynnig swydd darlithydd ym Mhrifysgol De Carolina.  Erbyn hyn, roedd gyda nhw ferch ddyflwydd oed – Elen Gwenllian, a fabwysiadwyd yn 1983.  Yn ôl i Gymru daeth y teulu bach yn 1988, gan fyw mewn nifer o fannau yn y Gogledd a’r De cyn setlo yn Nhreforys – Hywel yn dilyn ei yrfa yn y byd teledu a Charlotte ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd nifer yn gyfarwydd â’i chlasur Welsh Nationalism in the Twentieth Century (1989).  Er i’r llyfr ymddangos ar adeg ddigon tywyll i obeithion Cymru, torrodd dir newydd drwy olrhain y perthynas rhwng cenedlaetholdeb a ffactorau strwythurol, megis datblygiad y wladwriaeth Gymreig. 

Yn 1992, penodwyd Charlotte yn ddarlithydd, ac yn 2000 yn uwch-ddarlithydd mewn cymdeithaseg ac anthropoleg.  Bu’n awdur toreithiog, a’i llyfr Reflexive Ethnography (1998) yn dal yn destun allweddol i’r sawl sy’n astudio pobloedd a’u diwylliannau.  Mae ei chydweithwyr yn cofio’i charedigrwydd, ei hysbryd cydweithredol a’i hymroddiad llwyr i gyfiawnder cymdeithasol.  Roedd yn awdurdod yn ei phwnc, ac yn hynod agos atoch chi ac yn boblogaidd ymhlith ei myfyrwyr.

Ysgrifennai nifer helaeth o bapurau academaidd, yn ogystal â chyfrannu at Barn a’r cylchgrawn Planet.  Rhwng 2007 a 2012 bu Hywel a hithau’n cynhyrchu’r Papur Gwyrdd, cylchgrawn amgylcheddol a gyflwynai’r frwydr fawr dros y blaned yn yr iaith Gymraeg.  Ail-lansiwyd y Papur Gwyrdd yn wefan yn 2021.  Roedd hi hefyd yn aelod gweithgar o Blaid Cymru, gan wasanaethu yn Ysgrifennydd ac yn Drysorydd i Gangen Dwyrain Abertawe.  Safodd yn ymgeisydd dros y Blaid ar gyfer sedd ar Gyngor Abertawe yn ward Treforys.

Arhosodd Charlotte yn Americanes frwd, gan gadw ei dinasyddiaeth Americanaidd, ymweld â’i theulu’n aml  a dathlu Dydd Annibyniaeth a’r Diolchgarwch mewn steil.  Cadwai olwg barcud ar wleidyddiaeth ei mamwlad – mae’n deg nodi nad oedd yn deyrngar i Donald Trump!  Yn ogystal â dwli ar jazz, roedd gyda hi ddiddordeb oes mewn ceffylau a marchogaeth, cariad a gyflwynodd i Hywel ac Elen – i’r fath raddau bod Hekkla,merlyn Ynys yr Iâ oedd yn rhodd i Elen, wedi croesi’r Iwerydd i fyw yng Nghymru!

Bu Charlotte yn frwd ei chefnogaeth i achos Cymru a’r iaith Gymraeg, i gyfiawnder cymdeithasol a heddwch.  Bu’n llywodraethwr Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-Lan, Treforys.  Bu’n hoff o gerdded mynyddoedd, beicio a garddio, fel y nododd cyfaill a chymydog, y Prifardd Robat Powell:

Ein Charlotte ddoeth, Charlotte dda – a gofiwn

drwy nos gyfyng gaeaf’,

ac o’r ardd daw atgo’r ha’

i ddyn, a bydd hi yna!

Estynnwn ein cydymdeimad i Hywel ac Elen, a’i gŵr hithau Adam. 

Ganed Charlotte Aull Davies ar 8 Hydref, 1942.  Bu farw ar 18 Chwefror, 2023.

Mae’r deyrnged hon yn fersiwn estynedig o’r erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mis Mehefin 2023 o’r cylchgrawn Barn.  Diolchwn i’r golygydd Menna Baines am ei chydweithrediad caredig.

Wil Roberts 1943 – 2022

Wil Roberts, neu Wil Coed fel yr oedd pawb yn ei nabod, yn gymeriad amlwg ym Mhlaid Cymru a fu farw yn ystod Mis Hydref 2022.  Bu’n weithgar ymhob ymgyrch y Blaid o’r chwe-degau ymlaen ac yn ysgrifennydd effeithiol Cangen Pwllheli.  Cyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Wigley a draddododd deyrnged yn ei angladd ac fe’i cyhoeddir yma’n llawn.

Er cof am Wil Coed….Teyrnged.

Bore da! I shall be speaking mainly in Welsh; but on behalf of Siw and the family,  I want to thank everyone for their words of sympathy and to those of you from near and far, who are here today. I have made available an English translation of my script, which I hope will enable you to follow my address.

Gyfeillion annwyl –  Fe roddwn y byd am beidio â bod yma heddiw; ond does dim yn y byd a fyddai wedi’m hatal  rhag ymateb i gais Siw a’r teulu, i mi dalu gair o deyrnged  i un fu’n gyfaill arbennig i ni i gyd, mewn amrywiol ffyrdd ar wahanol adegau o’n bywydau. Un annwyl iawn sydd bellach a’i rawd wedi ei rhedeg; a chyfraniad oes – i’w deulu, i’w fro ac i’w genedl, ysywaeth, wedi dod i ben.

Borema, mae’n cydymdeimlad o waelod calon yn estyn allan i Siw, i Dewi ac Ifan; ac i Quintin sydd hefyd yn rhan o’r teulu;  ac i’r wyrion Jordan, Mia a Cai – yr oedd  Wil yn Daid hoffus iddynt; ac i’r teulu oll. A gwn y bydd pob un ohonom eisiau diolch i Siw am y gofal cariadus a roddodd i Wil dros y blynyddoedd; ac yn arbennig, yn ystod y cyfnod olaf heriol y bu raid iddynt ei wynebu fel teulu.

Mae Siw efo’r sicrwydd a gaiff o’i ffydd, wedi ei seilio yn achos yr Eglwys hon; a bydd hynny’n angor iddi yn y stormydd y mae’n byw drwyddynt. Siw, wrth gwrs, wedi ei magu yn y traddodiad Pabyddol yng Nghaerdydd ac wedi dod dan ddylanwad yr enwog Dad Gregory FitzGerald; ac mae ei ffydd, a’r Eglwys Babyddol, wedi bod yn nerth iddi drwy’r blynyddoedd. 

A diolch i’r Esgob Emeritws  Edwin Regan, am ei arweiniad heddiw, a hefyd drwy’r cyfnod anodd diweddar; ac i bawb sy’n gysylltiedig â’r achos  yma am eich cynhaliaeth o Siw a’r teulu; am eich caredigrwydd tuag atynt; a’ch help ymarferol mewn cyfyngder. A diolch, hefyd, i’r Archddiacon Andrew Jones am y cymorth eithriadol  a roddodd yntau, hefyd, i’r teulu.

Mae Siw wedi gofyn i mi dynnu sylw at y ffaith y bydd croeso i bawb ddod wedyn am luniaeth i Glwb Golff,  Pwllheli. Bydd y claddu ym mynwent Deneio wedi’r gwasanaeth; ond i’r rhai nad ydynt am ddod i’r fynwent, mae croeso iddynt fynd ar unwaith i’r Clwb Golff. 

Ganwyd William Owen Roberts ar 23 Rhagfyr, 1943; yn fab i J.O a Catherine Roberts, Cefn Coed, Chwilog – ac felly, fel Wil Cefn Coed yr oedd pawb yn ei nabod, neu Wil Coed, yn ddiweddarach. Roedd ei dad, J.O Roberts,  yn rheolwr y Ffatri Laeth yn Rhydygwystl; ac yn gynghorydd  Sir Gaernarfon.

Mae llawer o’n to ni ddim yn sylweddoli fod Wil yn efaill, ond, yn drychinebus o drist,   bu farw ei chwaer ar ei genedigaeth; a dan yr amgylchiadau, roedd yn wyrth i Wil oroesi. A  dioddefodd y teulu  drychineb arall pan fu i frawd iau Wil – sef Richard – gael ei ladd yn un ar bymtheg oed, mewn damwain motor-beic.

Ond dwi o dan orchymyn gan Siw i beidio â bod yn rhu lleddf yn fy sylwadau heddiw, ond yn hytrach i ni gofio Wil fel cyfaill llawen a llon, fel yr oedd i ni oll. Gwnaf fy ngorau i barchu hynny.

Ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, aeth Wil, yn y lle cyntaf, i astudio Milfeddygaeth yn  Lerpwl; ond tra roedd ei waith ar bapur yn wych, roedd yn cael anhawster gyda’r Saesneg ar lafar – rhywbeth digon cyffredin pryd hynny i blant o gefn gwlad Cymru.

Felly aeth adra i weithio yn y Ffatri Laeth am flwyddyn, cyn  cael ei dderbyn i Brifysgol Cymru, Bangor, ble roedd yn yr un flwyddyn â Dafydd Elis Thomas – da gweld Dafydd yma heddiw. Enillodd Wil radd dda iawn mewn amaethyddiaeth.

Tua pryd hynny cyfarfûm innau am y tro cyntaf âWil. Roeddwn yn gweithio dros wyliau’r haf i’r Blaid yn Arfon. Trefnais i gyfarfod â chriw ifanc ym Mhwllheli gan roddi iddynt doman o Welsh Nations – papur Saesneg y Blaid, i’w dosbarthu o ddrws i ddrws.

Synhwyrais fod gennyf  broblem: roedd Wil ac Osborn Jones (cyfaill ysgol i Wil, a da ei weld yntau, a Glesni yma heddiw hefyd) – roedd y ddau  yn sgyrnygu arnaf. Medda un ohonynt “Mae ‘na hen ddigon o bapurau Saesneg yn cael eu darllen ym Mhwllheli”; gan fygwth fy ngadael efo mynydd o bapurau gwrthodedig. Fe gafwyd cyfaddawd o ryw fath – a da deud bu Osborn, Wil a minnau yn gyfeillion gydol oes!

Ar ôl graddio ym Mangor,  enillodd Wil ysgoloriaeth i astudio am radd uwch mewn Economeg Amaethyddol yn Aberystwyth. Yn ddigon naturiol, aeth Wil ymlaen wedyn i weithio gydag Adran Amaeth Cymru yng Nghaerdydd; ac roedd wrth ei fodd yn teithio o amgylch ffermydd Bro Morgannwg – a synnu wrth ganfod faint o’r ffermwyr oedd, pryd hynny, yn Gymry Cymraeg; a hwythau mor falch o gael delio a gwas sifil Cymraeg ei iaith.

Aeth Wil ymlaen wedyn i weithio efo Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan, gyda’r cyfrifoldeb o deithio o amgylch Cymru, yn recordio sgyrsiau efo ffermwyr; ac mae ei waith, hyd heddiw,  yn un o drysorau’ r Amgueddfa Werin.

Roedd Wil yn Bleidiwr i’r carn, a dim ofn datgan hynny. Er gwaethaf ei atal deud, roedd yn fodlon curo ar ddrysau ledled Cymru; a ble bynnag yr oedd na rali, neu brotest, neu isetholiad, byddai Wil yno. 

Erbyn 1970, roedd Wil wedi cyfarfod Siw; a ble gredech chi oedd y fangre cariadus ble bu iddynt gyfarfod? Mewn cyfarfod o Bwyllgor Rhanbarth Plaid Cymru, yng Nghaerdydd! A Siw, bryd hynny, yn un ar bymtheg oed; a Wil deng mlynedd yn hŷn na hi.

Roedd Siw, er yn ei harddegau, wedi hen arfer canfasio – a gwerthu’r Welsh Nation o ddrws i ddrws yng Nghaerdydd.  Cystal nad oedd Wil wedi wfftio ar werthu papur Saesneg yng Nghaerdydd fel yr oedd ym Mhwllheli!

Bu i Wil a Siw  ddechrau canlyn y flwyddyn wedyn, ym 1971 – y flwyddyn y bu i Elinor a minnau symud i fyw ym Merthyr; a dyna ble cefais gyfarfod Siw am y tro cyntaf – hi a Wil yn canfasio mewn isetholiad enwog; ac yn aros  yn ein cartref, ble – yn gwbl ddi-steil, roedd hanner Cymru yn campio mewn cydau cysgu, ar lawr y tŷ!

Roedd Wil efo rhinwedd arbennig iawn – roedd yn gallu cysgu yn rhywle, dan unrhyw amgylchiadau – cymaint felly iddo, ar un achlysur, ddisgyn I gysgu tra roedd yn teithio ar gefn ei feic ar y Lôn Goed – a chael coblyn o godwm!

Roedd Wil yn un yr oedd damweiniau yn hoff o’i ganfod! Un tro, bu iddo falu ei droed yn yfflon gan beiriant torri gwair.

Damwain arall a gafodd Wil oedd, tra’n blentyn ysgol, yn chwarae yn y cae ac yn gosod ei got ar lawr; ni sylwodd fod moch yn y cae nesa; daeth un mochyn busneslyd,  i synhwyro beth oedd y dilledyn ar lawr – a bwyta’r got yn y man a‘r lle. Cafodd Wil andros o row gan ei fam!

Ar adeg arall, tra yn Aberystwyth, cafodd ddamwain car ddifrifol  tra’n teithio efo’i gyfaill mawr, Geraint Eckley pan – wrth fynd dros fryncyn, tarodd rew du ar y ffordd, a thorrwyd cefn Wil mewn tri lle. Ystyr arall i’w enw Wil Cefn Coed. Mae Geraint yn ymddiheuro gan, am resymau iechyd teulu, mae’n methu a bod efo ni.

Soniodd Geraint wrthyf sut y byddai Wil yn cael ryw syniad da i’w ben ar amrant; yna ffwrdd â fo. Un bore ym 1969,  cyhoeddodd Wil i’w gyd-letywyr yn Aberystwyth, ei fod am fynd i weld yr enwog D J Williams yn Abergwaun y diwrnod hwnnw. Aeth Geraint efo fo; a landio ar DJ yn gwbl ddirybudd; cael croeso mawr; a dod yn gyfeillion mynwesol. Bu Wil wedyn i Abergwaun hanner dwsin o weithiau, i sgwrsio â DJ a holi am ei hanes.

Ond rhaid dod ‘nôl at hanes Wil. Bu i Wil a Siw briodi yn 1973  yn Eglwys Pedr Sant, Caerdydd – ac roedd ‘na hanes i hynny hefyd! 

Roedd Wil eisoes wedi cyflwyno Siw i’r offeren Gymraeg a gynhaliwyd yn y Bontfaen; a gwasanaeth Cymraeg oedd y gwasanaeth priodas, efo’r enwog Esgob Mullins yn eu priodi. ‘Roedd ‘na  ddau swyddog yn gyfrifol am drefnu’r gwasanaeth – a hwythau heb drafod yn iawn pwy oedd  i forol fod y cofrestrydd yn bresennol; a chanfod yn ystod y gwasanaeth, nad oedd gofrestrydd yno! Panic glan!  Dyma anfon rhywun i chwilota o gwmpas Caerdydd am gofrestrydd.

Y delynores druan, Eleri Owen, hen ffrind i Elinor a minnau – yn gorfod canu’r delyn am dros hanner awr, tan ymddangosodd ddirprwy gofrestrydd i  gwblhau’r hanfodion cyfreithiol. Ar ddiwedd dwy awr hir iawn, roedd Wil a Siw  yn ŵr a gwraig!

Yn syth ar ôl y briodas, roedd Wil yn cychwyn ar swydd newydd, sef fel is-Ysgrifennydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymru, oedd â’i Swyddfa yng Nghaernarfon.

Bu raid torri’r mis mel yn fyr, gan fod bos newydd Wil  wedi ei gymryd yn wael.  Glaniodd Wil i swydd newydd, a thŷ newydd,  mewn cynefin newydd yn ogystal â phriodi!

Roedd eu cartref newydd mewn stad fechan yn Llandwrog; eu cymdogion  yn cynnwys  Huw Jones, Sain, a Siân;  Menna a Cheredig Davies, Cyngor Gwynedd; efo Osborn a Glesni ynghyd â Gerallt Lloyd Owen ac Alwena rownd y gornel; Richard Morris Jones a Manon Rhys i fyny’r ffordd; a John a Gwenno Hywyn fawr bellach. Sôn am bentref oedd yn nodweddu’r Gymru Newydd ifanc, obeithiol,  oedd ohoni yn y saithdegau.

Roedd yn newid byd sylweddol I Siw; ond roedd Wil yn ei gynefin; ac yn ei elfen. Yn ôl Osborn,  Wil oedd y cymeriad yn Llandwrog oedd cadw pawb at ei  gilydd. Roedd Wil efo dawn anghyffredin o allu gwneud efo pawb; un o’r bobl mwyaf hoffus a ganfûm erioed.

 Ac roedd Wil yn rhywun y gallwn innau, fel Aelod Seneddol, droi ato, am arweiniad; a gallwn bob amser ymddiried yn ei farn.

Tybia Siw y byddai Wil, o gael ei amser eto, wedi studio hanes a’r Gymraeg.  Deleit Wil oedd sgwennu i’r papur newydd. Bu ganddo golofn ar amaethyddiaeth yn y Cymro; a bu’n sgrifennu i bapurau’r Herald, dan y ffug enw Thomas Parry (rhai yn meddwl mai Prifathro Aberystwyth oedd y gohebydd, cystal ei arddull). A bu’n weithgar gyda’r criw bach oedd yn cynhyrchu’r Ddraig Goch a’r Welsh Nation.

Roedd hyn yn waith trwm a chyfrifol; ond roedd gan Wil hiwmor iach a welwyd wrth iddo ysgrifennu llythyrau gogleisiol a dadleuol i’r Herald, dan yr enw “Twtws Parri, Llandwrog”- gan fynegi safbwyntiau a fyddai’n gwylltio ambell drigolyn parchus yn y pentref. Ac roedd pawb yn methu â dyfalu pwy oedd y Twtws Parri ‘ma. Dim ond ychydig o gyfeillion agos oedd yn sylweddoli mai Twtws oedd enw cath Wil a Siw!                                         

Roedd Wil yn dynnwr lluniau o fri ac am gyfnod bu’n  ffotograffydd swyddogol dros y Western Mail mewn gemau rygbi rhyngwladol.

Bu Wil a Siw yn byw yn Llandwrog am bum mlynedd a phryd hynny cafodd Wil  ei benodi’n  brisiwr tir  ac eiddo i Gyngor Gwynedd. Ac yna, symud nôl i fyw yng Nghefn Coed am ddeng mlynedd;  ac oddiyno symud i’r Ala, ble buont fel teulu am drideg-chwe blynedd, hyd heddiw.

Roedd Wil yn un darbodus efo arian. Un tro daeth Siw ac yntau i lawr i Lundain i gael cinio gyda mi yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ar ôl cyrraedd  cyrion Llundain, bu iddynt sylweddoli fod Wil wedi gadael ei siwt adra! Gan dybio y byddai’n rhaid iddo wisgo siwt yn ystafell bwyta grand yr Arglwyddi, aeth i sawl siop – a dychryn o weld y prisiau. Cafodd o hyd i siop elusen, ble dalodd bumpunt am siaced; a doeddwn innau ddim callach!

Fe gofiaf fel ddoe y diwrnod y dywedodd Wil wrthyf, ugain mlynedd yn ôl, a hynny yn stesion Crewe – ei fod newydd glywed fod cancr y brostad arno. Roedd wedi cael sgytiad; ond roedd yn derbyn y neges efo agwedd gwbl bositif, na fyddai’n gadael i’r cyflwr yn diffinio gweddill ei fywyd, o ba bynnag hyd y byddai hynny.  Ond bu iddo ymddeol o’i waith gyda Chyngor Gwynedd i roddi cyfle llawn i’w gorff ymwared â’r cancr; ac ar ôl pum mlynedd, cafodd y neges  bositif fod y cyflwr wedi diflannu.

A felly fu;  parhaodd Wil dros bymtheg mlynedd i chwarae ei ran ar ei aelwyd; a rhan yn ei gymdeithas yma ym Mhwllheli; yn weithgar efo Cangen y Blaid; yn cynorthwyo Siw yn ei gwaith gyda’r Eglwys hon; ac yn dal i ysgrifennu – gan gynnwys teyrnged  arbennig i’w gyfaill Ioan Roberts , yn y gyfrol “Cofio Ioan”.

Ac yna, ychydig cyn y Covid, daeth y cancr yn ôl. Oherwydd y Clo, ni chafodd Wil, am gyfnod, fynd i mewn i Ysbyty. Cafodd brofion niferus; a rheini’n dal i awgrymu fod y cancr wedi cilio eto. Ond wedyn, yn ddiweddarach, gwelwyd symptomau eilwaith a bu i Wil gael codwm yn y tŷ.

Roedd pryder ei fod wedi dioddef strôc; ond nid felly fu. Roedd y cancr wedi ymosod ar ei asgwrn cefn. A chafodd driniaeth hir yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd. Yna, fis Mai eleni,  bu i’w asgwrn cefn chwalu. Wedi hynny, bu am wythnosau yn Ysbyty Bryn Beryl, ble y cafodd ofal rhagorol; roedd Wil a Siw yn hynod ddiolchgar i’r staff yno.

Pan fûm heibio Bryn Beryl yng Ngorffennaf, roedd Wil mewn hwyliau da; yn sgwrsio â phawb; ond yn ysu am gael adra at Siw. A gofynnodd Wil i mi ddiolch i bawb a fu’n cysylltu ag ef yn yr Ysbyty; ac i bawb  a adawodd negesau iddo efo Siw, yn ystod ei waeledd.

A phan gafodd Wil ddod adra ddiwedd Awst, darparwyd gwely arbennig iddo yn y tŷ; a  bu cyngor Gwynedd yn wych yn gosod ramp ar ei gyfer ac offer i’w helpu cael o gwmpas.

Cafodd help therapyddion Jo a Natasha o Bryn Beryl, a help gan Wasanaeth “Tuag Adref”, o Ysbyty Alltwen, yn darparu gofal yn y tŷ; ac roedd Wil a Siw yn uchel iawn eu canmoliaeth iddynt. A bu Nyrsys Ardal yn galw dydd a nos, dros saith wythnos.  Mae’r teulu yn talu‘r clod uchaf posib i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth iechyd; a braf yw clywed hynny. Ond mae un person y mae Siw eisiau i mi enwi’n benodol – sef Bonnie, y mae llawer ohonoch yn ei hadnabod, trwy ei gwaith yn yng Nghanolfan y Gwystl. Galwodd pob nos yng nghartref Wil a Siw, i’w lanhau a gofalu amdano; a heb ei chymorth hi, dywed Siw go brin y gallai fod wedi ymdopi .….a gwneud hynny yn gwbl ddi-dâl.  Yn ‘does ‘na bobl da yn yr hen fyd ma, dudwch?

Gwelais Wil am y tro olaf yn ei gartref yn yr Ala, bythefnos yn ôl, ar  ddydd Mercher y 5ed o Hydref.  Roedd yn ei wely; gyda chyffuriau  trwm yn ei lethu; ond bu’n bosib i mi gynnal sgwrs ddifyr ac ystyrlon gydag ef; ei feddwl yn dal yn sionc; a’i ddaliadau cenedlaetholgar mor frwd ag erioed.

Pan soniais am y Rali Fawr dros annibyniaeth yng Nghaerdydd y Sadwrn cynt, y cefais y fraint o’i hannerch,  roedd ei lygaid yn pefrio; roedd am glywed mwy o’r hanes. A phan soniais y byddwn yn cyflwyno Mesur yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Gwener nesaf, i warchod pwerau Senedd Cymru, roedd Wil yn frwd ei gymeradwyaeth.

Dwn i ddim a oedd Wil, pryd hynny, yn gwybod – fel yr oedd Siw wedi’m rhybuddio minnau – mai go brin y byddai’n gweld diwedd y mis i glywed ffawd yr ymdrech seneddol. Cwta hanner awr gefais efo fo; roedd yn amlwg yn  blino; ac roedd yn briodol i mi gilio; ond ddim cyn iddo fyny ysgwyd llaw – a’r gafael hwnnw yn fy llaw mor gadarn, efallai’n fwy cadarn, nag erioed.

Does run ohonom yn gwybod beth ydi trefn rhagluniaeth – a gawn ni ddeall, wedi gadael y fuchedd hon, am beth sy’n digwydd i’n hanwyliaid, i’n dyheadau, i’n cymdeithas, i’n bro ac i’n cenedl. Ond os oes chwarae teg yn y Cynllun mawr yr ydym oll yn rhan ohoni, dylai ysbryd Wil fod gyda ni yn y brwydrau yr ydym yn dal i’w hymladd – dros ein hamgylchedd gwledig; a dros gyfiawnder cymdeithasol, dros  ryddid cenedlaethol, dros lewyrch diwylliannol a thros heddwch rhyngwladol.

Mae Wil gyda ni ym mhob un o’r ymdrechion hyn; ni aiff yn angof; a ni fydd yn segur; bydd yr atgof amdano yn ein tanio yn ein hymdrechion; a thrwy hynny, bydd yntau, hefyd, yn rhan o’r fuddugoliaeth fawr.

Diolch iddo; melys y goffadwriaeth a heddwch i’w lwch .

 

Dafydd Wigley

21 Hydref, 2022.

Penri Jones 1943 – 2021

Bu farw Penri Jones, Awdur Jabas, Cynghorydd a Cymro i’r carn yn 78 mlwydd oed.

Dyma ran o deyrnged Liz Saville Roberts:

Mae Penri’n adnabyddus i genedlaethau o Gymry ledled ein gwlad fel yr awdur a greodd y cymeriad Jabas. Ond roedd cymaint, cymaint mwy i Penri: yn awdur ar sawl nofel, roedd hefyd yn athro Cymraeg a gwleidydd lleol uchel ei barch.

Cefais y fraint o weithio gyda Penri pan agorwyd Coleg Meirion Dwyfor yn 1993. Roedd o’n un o blith nifer o athrawon uwchradd a ddewisodd ddod i’r coleg newydd er mwyn cynnig addysg o’r salon uchaf trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal â gweithredu fel athro arweiniol, cynrychiolai gymuned Llanbedrog ar Gyngor Gwynedd fel cynghorydd Plaid Cymru lle daliodd bortffolio addysg ar y Bwrdd am sawl blwyddyn gan chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a gweithredu polisi iaith y sir.

Roedd Penri hefyd yn gynrychiolydd undeb ar gyfer undeb athrawon, UCAC. Ar ei gais yntau ymunais ag UCAC, gan ddod yn gynrychiolydd undeb ar ei ôl, ac oherwydd ei anogaeth sefais fel cynghorydd sir yn 2004. Heb ei gefnogaeth, ni fyddwn erioed wedi mentro i wleidyddiaeth. Mae arnaf ddyled bersonol sylweddol iddo.

Pob cydymdeimlad â Mair a’r teulu a chyfeillion lu Penri.

‘Cariad angerddol tuag at Gymru’
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn fod Penri Jones yn
“genedlaetholwr, dyn y pethe, un oedd â dawn geiriau arbennig ac a
ddylanwadodd ar gannoedd o blant fel athro”.
“Roedd yn fraint cydweithio â Penri oedd mor gadarn ei farn, gŵr cwbl
ddiymhongar, dyn ei filltir sgwâr ac a oedd â chariad angerddol tuag at Gymru, y Gymraeg a phopeth oedd yn ymwneud â Llŷn,” meddai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Simon Glyn, cadeirydd y cyngor: “Gwasanaethodd Penri yn frwd dros ei ardal a thros Gymru am flynyddoedd lawer a bydd coffa da amdano fel aelod o Gyngor Gwynedd ac yn arbennig waith allweddol wrth ddatblygu polisi iaith y sir.”

Pat Larsen 1926 – 2021

Talwyd teyrnged gan y teulu a chyfeillion i Pat Larsen a fu farw ar 20 Tachwedd 2021.

Cafodd ei hethol yn wreiddiol fel cynghorydd ym Mangor, a hynny yn gynnar yn y 1950au. Hi oedd yr unig aelod benywaidd ar gyngor y ddinas.

A hithau’n un o aelodau cyntaf Cyngor Gwynedd ar ôl ei sefydlu yn 1974, cynrychiolodd ward Penisarwaun ar sawl cyngor am flynyddoedd lawer.

Aeth yn ei blaen i gael ei hethol yn gynghorydd sir dros ward Llanddeiniolen ac yn hwyrach, dros ward Penisarwaun.

Bu’n athrawes, yn ogystal â gwasanaethu fel Maer ar hen Gyngor Dosbarth Arfon.

Roedd hi’n gadeirydd Cyngor Gwynedd rhwng 1996 a 1998.

Cafodd ei hethol am y tro cyntaf yng nghanol y 1960au, ac erbyn iddi ymddeol o siambr y cyngor yn 2012 hi oedd y cynghorydd a wasanaethodd am y cyfnod hiraf yng Ngwynedd.

“Gyda gwên rydym yn cofio am un o hoelion wyth Plaid Cymru Gwynedd, y diweddar Gynghorydd Sir dros Bensiarwaun, Pat Larsen,” meddai Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd ar ran cynghorwyr Plaid Cymru.

“Yn wraig flaengar o fewn gwleidyddiaeth leol, yn benderfynol ac yn driw i’w hardal.

“Diolch am gael ei hadnabod ac am y cydweithio.

“Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf a’i theulu, yn arbennig felly, ein cyd-gynghorydd presennol, Cai Larsen.”

‘Barod i gymryd y dynion ymlaen’

Un fu’n cydweithio hi am ryw wyth mlynedd ar Gyngor Gwynedd yw Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd ei bod hi’n “barod i gymryd y dynion ymlaen a chymryd dim o’u lol nhw”.

“Roedd hi’n fodel rôl i fi yn gynghorydd benywaidd, di-brofiad, gweddol ifanc pan ddechreuais i ar y Cyngor,” meddai.

“Dw i’n cofio gweld Pat, ac roedd hi mor barod i siarad allan.

“Roedd ganddi egwyddorion mor gadarn, a hithau dipyn yn hŷn na fi, a jyst gweld hi’n barod i gymryd y dynion ymlaen a chymryd dim o’u lol nhw.

“Ar adegau fe wnaeth hi gymryd fi o dan ei hadain hi, ac mae gen i’r parch mwyaf ati hi.

“Ar adeg pan oedd menywod mewn llywodraeth leol, mewn gwleidyddiaeth, yn brin roeddwn i’n falch o fod yna ar adeg pan yr oedd hi yno. Mae dynion fel petae’n gwybod sut i siarad yn gyhoeddus a sut i leisio’u barn, ac mae dynion yn gwylio dynion eraill er mwyn gwybod sut i wneud hynny.

“Roeddwn i mor ffodus i’w chael hi yna, a’i ffordd hi o siarad, a’i ffordd hi o fod yn flaengar o flaen y Cyngor, yn ffordd i fi ddysgu.

“Roeddwn i’n dysgu ganddi hi, ac roedd hi’n rhoi hyder imi.

“Roeddwn i’n edmygu hi’n fawr.

“Mae hi’n drist ar ei hôl hi.

“Dynes gadarn, ddewr, yn barod i siarad allan, ac yn arloeswraig o ran gwleidyddiaeth Gwynedd.”

‘Dynes oedd o flaen ei hamser’

“Rwy’n drist iawn o glywed am farwolaeth Pat Larsen, dynes oedd o flaen ei hamser,” meddai Siân Gwenllian.

“Roedd ei chyfraniad yn un aruthrol, nid yn unig i’w chymuned leol, ond i Wynedd a Chymru gyfan.

“Arweiniodd y ffordd i ferched fel fi yn ei hysbryd penderfynol di-ildio ac roeddwn i’n ei ystyried yn fraint cael gwasanaethu ochr yn ochr â hi fel cynghorydd.

“Rwy’n meddwl am y teulu ar adeg o dristwch a galar anochel, ond byddaf hefyd yn dathlu bywyd Pat Larsen, ac ar lefel bersonol, byddaf yn diolch am gael ei ’nabod a dysgu o’i doethineb a’i dyfalbarhad.”

 

Maldwyn Lewis 1928 – 2021

Coffâd Maldwyn Lewis

Trist yw cofnodi marwolaeth Maldwyn Lewis yn 93 mlwydd oed ar Ebrill 9fed 2021 yn dilyn gwaeledd byr.

Bu Maldwyn yn aelod o Blaid Cymru er ei ieuenctid ym Mlaenau Ffestiniog, a gweithredodd trosti yn gydwybodol a diflino trwy gydol ei oes.

Daeth i amlygrwydd yn y saithdegau fel Cynghorydd Tref Porthmadog a Chynghorydd Gwynedd yn enw Plaid Cymru. Dyma y cyfnod pan oedd aelodaeth Cangen Bro Madog tan arweiniad Maldwyn tros 300.

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Addysg yr oedd yn un o sylfaenwyr polisi Addysg Gymraeg Cyngor Gwynedd, a gosodwyd seiliau cadarn. Cyfrannodd hefyd at Gymreigio gwasanaethau’r Cyngor.

Ef oedd asiant Dafydd Wigley yn etholiadau 1979 a 1983, a threfnodd ymgyrchoedd lliwgar pan oedd “Herald Ni” yn cael ei ddosbarthu i bob tŷ yn hen etholaeth Arfon.

Ei gyfraniad mwyaf i ardal Porthmadog oedd – ynghyd â Bryan Rees Jones – sefydlu elusen Rebecca a phrynu’r Cob. Mae Rebecca yn parhau i rannu llogau’r swm a godwyd gan y tollau i Gymdeithasau a Mudiadau yn flynyddol.

Bu hefyd yn weithgar i’r Wylan, papur bro yr ardal. Bu’n Gadeirydd y pwyllgor rheoli ac yn aelod o’r panel Golygyddol.

Yn ystod ei fywyd bu cyfraniad Maldwyn i’w fro, y Blaid a Chymru yn un nodedig. Roedd yn ysbrydoliaeth ac yn destun diolch i’r rhai ohonom sydd yn ceisio dilyn ei gamp.

Cydymdeimlwn yn ddwys â’i feibion Dewi a Geraint, ei ferch Gwenith a’u teuluoedd oll yn eu profedigaeth.

Dewi Williams, 

Ysgrifennydd Cangen Bro Madog

 

Keith Davies. 1944 – 2021

Gyda thristwch daeth y newyddion am farwolaeth R. Keith Davies, Tonteg, ddiwedd mis Chwefror 2021 ar ôl salwch byr. Yn wreiddiol o Solfach ac Abergwaun, bu’n athro yn Ysgol Bryncelynnog ac roedd yn weithgar iawn yn y gymuned leol.

Bu’n Gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Taf Elái ac ar Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref. Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb y Bont ac yn aelod brwd o’u tîm criced ac yn dysgu Cymraeg i oedolion yno. Roedd yn brif-leisydd grŵp Y Traddodiad ac unawdydd ar record gyntaf Côr Godre’r Garth.

Ar ôl colli ei wraig, Margaret, bu’n ffodus o ofal ei bartner, Sandra, a symudodd i Gaerdydd yn 2008. Cydymdeimlwn â Sandra a’i blant Elin, Rhys ac Owain, a’i wyrion Harri, Marged, Taliesin a Gwenllian a’u teuluoedd yn eu colled.

Menna Battle, Rhyfelwraig Fwyn 1949 – 2020

Menna Battle, Rhyfelwraig Fwyn

Teyrnged gan Lindsay Whittle

Diwrnod tywyll o Ionawr.  Daeth aelodau Plaid Cymru, y teulu a chymdogion i dalu’r cymwynas olaf i Menna Battle, hoelen wyth Caerffili ers degawdau.

Yn wreiddiol o bentref Glyn Nedd, pentref y cadwodd gysylltiad ag ef ar hyd ei hoes.

Daeth Menna o’r diwedd i fyw yng Nghaerffili.  Yn genedlaetholwraig falch ac angerddol, fe daflodd ei hun i’r achos.  Hi fu Ysgrifennydd Cangen Penyrheol a gwasanaethodd yn ysgrifennydd yr Etholaeth am 17 o flynyddoedd.

Cafodd ei hethol i Gyngor Cymuned Penyrheol gan wasanaethu’i chymuned heb ddal dim yn ôl.  Pan benderfynodd “ymddeol”, symudodd i Abertridwr ble wrth gwrs y daeth yn ysgrifennydd y gangen.  A do, cafodd ei hethol i Gyngor Cymuned Cwm Aber.  Ei phartner ers 30 mlynedd John (bach) Roberts yw’r Cynghorydd Sir.

Ni fyddai’n hanner digon i ddweud ei bod yn gweithio yn ei chymuned.  Fe elwodd Clybiau llyfrau, Clwb Celf Cwm Aber, Undercurrents a’r ŵyl am ei gwaith diflino.

Ymladdodd yn ddewr yn erbyn clefyd Parkinsons yn ystod blynyddoedd olaf ei bywyd, ac achosodd tyfiant ar yr ymennydd i Menna golli ei brwydr, ac fe gollon ni yng Nghymru arwres.

Rhoddodd hi gymorth a chalondid i mi drwy gydol fy mywyd gwleidyddol, a byddaf yn ei dyled am byth.

I John bach ac wrth gwrs i’w mab Gareth a’i merch Ceri a’i wyrion, rydyn ni yng Nghymru yn eich dyled.  Diolch i chi am adael i’r achos fenthyg y rhyfelwraig garedig a mwyn hon.  Menna byddi’n byw yn ein calonnau am byth.

HEDD PERFFAITH HEDD.

Lindsay Whittle

Cofio Chris Rees 1931 – 2001

Chris yn y Gynhadledd

Cofion am yr arwr Chris Rees (1931-2001), y brodor o Abertawe a brofodd flwyddyn yn y carchar am sefyll yn erbyn gorfodaeth filwrol llywodraeth Llundain.  Sylfaenydd y sustem Wlpan o ddysgu Cymraeg ac ymgeisydd Plaid Cymru mewn sawl etholiad.  Byddai’n 90 heddiw, 6 Ionawr 2021. Llun gan y diweddar Alcwyn Deiniol gyda Chris Rees ar y chwith, Gwynfor a Rhiannon Evans a Winifred Ewing, SNP, gyda diolch i Rhoswen. 

 

 

 

Cofio Ioan Roberts 1941 – 2019

 

Daeth cannoedd o bobl – o Iwerddon, Yr Alban ac o bob rhan o Gymru – i angladd yr awdur, gohebydd a chenedlaetholwr mawr Ioan Roberts yn Chwilog, Gwynedd ar Ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2020.

Bu Ioan yn ganolog yng ngwaith y Blaid o ganol y 1960au ymlaen – nid fel un o’n prif swyddogion neu’n hymgeiswyr ond fel ysgrifennwr dawnus, creadigol a thoreithiog.  Bu’n gyfrifol am y rhan fwyaf o ddeunydd etholiadol cyn-Lywydd y Blaid Dafydd Wigley, sy’n sôn am ei hiwmor anhygoel – yn gweld “ochr ddoniol mewn digwyddiadau ac amgylchiadau a phobol na fuasai’r rhan fwyaf ohonon ni yn ei weld”.

Yma fe gewch weld copïau o’r teyrngedau yn ei angladd gan Gadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Dafydd Williams, perl o gywydd i Ioan gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd , a chofion personol ar ran teulu Ioan gan ei ferch Lois.  Ceir hefyd recordiad o’r gwasanaeth angladd a arweiniwyd gan y Parchedig Aled Davies.

Yn ystod y flwyddyn ers marwolaeth Ioan, ymddangosodd cyfrol o deyrngedau iddo gan  Wasg Carreg Gwalch.  Gyda chyflwyniad gan Lis Saville Roberts AS a’r golygydd Alun Jones, ceir 27 teyrnged yn Gymraeg a thair yn Saesneg  gan ffrindiau agos o Iwerddon a’r Alban, ynghyd â cherddi a darnau o waith Ioan ei hunan.  Gellir archebu’r llyfr pris £8.50 drwy’r siopau llyfr.

Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n estyn ei chydymdeimlad i deulu Ioan ac yn diolch iddyn nhw ac i Wasg Garreg Gwalch am sicrhau cofio gyrfa un o gymeriadau mawr ein mudiad cenedlaethol.

 

Ioan Roberts; Teyrnged Alun Ffred. Capel Seilo, Chwilog. 04/01/2020

Deulu, gyfeillion.  Mae’r dyrfa luosog yma heddiw yn Chwilog yn tystio i’r parch oedd gynnon ni at Ioan ac i anwyldeb a direidi ei gymeriad.

Dw i’n siŵr eich bod fel teulu yn teimlo’r cydymdeimlad yn lapio amdanoch yn eich colled a’ch hiraeth. Diolch am y fraint i gael dweud gair, er y chwithdod. Dw i wedi fy siarsio gan Alwena i beidio bod yn rhy faith ac i beidio bod yn ddi-chwaeth. Felly, bydd raid cadw rhai straeon tan rywdro eto. Mae Myrddin wedi dal llawer o rin cymeriad Ioan yn ei gywydd ardderchog ac rydyn ni wedi clywed dawn dweud Ioan yn y pytiau ddarllenodd o.

Ie, Ioan Roberts, Ioan, Io Mo. Drannoeth clywed y newyddion trist mi es i weld Dora , gweddw Wil Sam. Ar y bwrdd o’i blaen roedd ei gyfrol ddiweddara am Geoff Charles a chyflwyniad gan Ioan iddi hi.  Hithau’n deud fel y byddai’n galw i’w gweld ar ddydd Sadwrn fel arfer.”  A mi ddeuda i ‘pam’ wrthach chi,” meddai hi,” Am mod i di deud wrtho fo rywdro ar ôl colli Wil mai ar ddyddiau Sadwrn y byddwn i’n teimlo hirath fwya’.”  Mi roedd ‘na rywbeth triw a chefnogol fel’na yn Ioan.

Ac mewn rhyw ffordd roedd tebygrwydd rhwng Wil a Ioan; y ddau yn seiri geiriau di-ail yn eu ffyrdd gwahanol; y ddau yn hoff o adrodd stori, y ddau yn fythol wyrdd, heb golli’r ‘hogyn’ o’u mewn yn llwyr. Yn 1989 mi gafodd Ioan wahoddiad i ddod i gynhyrchu cyfres Hel Straeon, cyfres yr oedd Wil Aaron wedi rhoi cychwyn iddi fel rhan o’i ymerodraeth yn Ffilmiau’r Nant. Ac mae’r teitl ‘Hel Straeon’ yn digwydd cyfleu llawer am fywyd Ioan; o ran ei fywyd proffesiynol – ar ôl un ‘false start’ – casglu ac adrodd hanesion wnaeth o drwy ei yrfa, fel newyddiadurwr, golygydd rhaglenni ac yn ei gyfrolau campus; a hynny mewn Cymraeg eglur di ffrils

Ac yn gymdeithasol, fel y gwyddoch yn dda, roedd o yn ei elfen yn adrodd straeon am droeon trwstan yr yrfa. Cof aruthrol am fanylion a dywediadau, hyd yn oed yn oriau man y bore pan oedd pawb call yn eu gw’lau yn cysgu. Pengroeslon, Rhoshirwaun oedd dechrau’r daith iddo fo a’i chwaer Katie ac er iddo adael Pen Llyn i goleg a chael gwaith, mynd a Llyn efo fo wnaeth o, yn ei iaith, ei oslef a’i natur addfwyn. Ac er mor falch oedd o o gael dod yn ôl a chyfrannu i fywyd y fro, – ac roedd cynllun Plas Carmel, er enghraifft, yn agos i’w galon, menter a fydd yn elwa o’ch cyfraniadau hael heddiw,- doedd dim yn blwyfol ynddo. Gweledigaeth genedlaethol oedd i’w wleidyddiaeth a rhyng genedlaethol fel y tystia’i ymwneud cyson ag Iwerddon a’r Alban.

Taniwyd y diddordeb yn Iwerddon yn gynnar a bu Ioan a chriw o ffrindiau yn ymweld yn gyson â Dulyn a’r Gorllewin.  Byddai’n adrodd stori – un ymhlith dwsinau – amdano fo a William Roberts, Wil Coed, wedi heirio car i deithio i Orllewin Iwerddon. Pe bydden nhw’n teithio mwy na hyn a hyn o filltiroedd byddai taliad pellach yn ddyledus. Ar Benrhyn Dingle roedd y pwrs yn gwagio a’r milltiroedd yn cynyddu, a dyma benderfynu trio twyllo’r huriwr trwy dreulio’r pnawn yn bagio’r car o gwmpas y Penrhyn er mwyn dadwneud milltiroedd y cloc. Aflwyddiannus fu’r ystryw mae’n debyg.  Parodd y diléit yn Iwerddon, yn ei phobl ac yn ei gwleidyddiaeth.  

Ta waeth wedi mynychu Ysgolion Llidiardau a Botwnnog mae manylion ei addysg uwch ychydig yn niwlog.  Ond aeth i Fanceinion i astudio Peirianneg Sifil a chyfarfod yn ystod yr wythnos gyntaf y corwynt hwnnw a adwaenir fel Dafydd Wigley gan ddechrau cyfeillgarwch a barodd oes. Cyn bo hir aeth y ddau i rannu fflat, trefniant anffodus o ran gwaith academaidd mae’n debyg. Yn ôl Dafydd treuliwyd gormod o amser yn adrodd barddoniaeth, Ioan yn darllen Yeats i Dafydd. ac yntau yn adrodd Williams Parry yn ôl.  Mae croeso i chi gredu’r stori honno.  P’r un bynnag, gadawodd Wigley y coleg efo gradd – a gadawodd Ioan.

Flynyddoedd yn ddiweddarach wrth gynnal cyfweliad gyda neb llai na Syr Thomas Parry, gofynnodd y Marchog i Ioan, pa goleg a fynychodd a beth oedd pwnc ei radd? Cyfaddefodd Ioan y caswir.  Edrychodd y Syr arno yn syfrdan a dweud yn y llais dwfn yna, “Dyna beth ofnadwy i ddigwydd i ddyn.” Beth bynnag am hynny cafodd Ioan swydd yn Sir Drefaldwyn yn gofalu am bontydd a ffyrdd y Sir honno a dod i nabod gwerin y fro y daeth mor hoff ohoni . Rhannu tŷ gyda chriw o ŵyr ifanc syber a sobor! Yn ddiweddarach cafodd ddyrchafiad o fath i gadw golwg ar garthffosiaeth Sir Amwythig. O’r ddau gyfrifoldeb roedd o’n teimlo bod mwy o urddas yn y cyntaf.

Rywdro yn y cyfnod yma y daeth haid o fyfyrwyr cenedlaetholgar o’r Alban i Gaerdydd i gêm rygbi a chyfarfod Ioan a ffrindiau, ac er i Ioan drio dychwelyd ar fys yr Albanwyr a chael ei rwystro (gellwch ddychmygu’r helynt) dechreuodd cyfeillgarwch a mynd a dod cyson wrth i Ioan, ac Alwena yn ddiweddarach, wneud llu o gyfeillion yn yr Alban gan gynnwys Morag sydd yma heddiw. Ffrindiau sydd erbyn hyn yn rhan o deulu ehangach y Robertsiaid.

Wrth gwrs y peth pwysicaf ddigwyddodd i Ioan ym Maldwyn oedd cyfarfod lodes ifanc o’r enw Alwena tra’n canfasio dros Tedi Millward mewn etholiad cyffredinol sy’n profi gwerth canfasio dros y Blaid, wrach.  Mhen amser lluniwyd deuawd llwyddiannus, un â llais fel angel a’r llall heb lais o gwbl.  

Roedd o wedi dechrau cyfansoddi ambell erthygl i’r Cymro ar bentrefi cefn gwlad Maldwyn a phan ddaeth cyfle ymgeisiodd Ioan am swydd a dod yn aelod o staff y papur wythnosol. A dyna ddechrau gyrfa a dechrau dysgu crefft.  Yn yr hen ddull roedden nhw’n cael ei hyfforddi sut i ysgrifennu stori yn gofiadwy , yn syml a dealladwy, a fo yn y diwedd oedd y prif ohebydd ac yn penderfynu pa stori fyddai ar y dudalen flaen.  Fel y dwedodd Robin Evans a fu’n cydweithio efo fo ar dri chyfnod gwahanol, y deunydd, y cynnwys oedd yn bwysig i Ioan; gwasanaethu’r stori oedd yr arddull. “Sylwedd yn hytrach na steil.”

Wedi symud i Benycae, Wrecsam yn sgil gyrfa Alwena daeth Ioan i adnabod cymdeithas wahanol, un ddiwydiannol ac ôl ddiwydiannol ynghyd â chriw o Gymry Cymraeg newydd. Wedi tair blynedd yno daeth galwad o HTV yng Nghaerdydd gan neb llai na Gwilym Owen y pennaeth newyddion oedd yn awyddus i Ioan ddod yn olygydd rhaglen newyddion fywiog Y Dydd. Symud, nid i Gaerdydd ond i Bontypridd mwy gwerinol a gwneud cylch o ffrindiau newydd, yn Genedlaetholwyr a Sosialwyr Cymraeg a di Gymraeg ac o leiaf un Comiwnydd. Does dim sôn iddo ddod yn llawia efo unrhyw Dori chwaith.

Roedd dwy raglen newyddion gan HTV – Report Wales a’r Dydd – ond un stafell newyddion. Roedd tipyn o dyndra weithiau rhwng y ddau dîm, yn rhannol am fod y Dydd yn cael ei darlledu am chwech o’r gloch, cyn Report Wales. Ond roedd Ioan a golygydd Report Wales, yr anfarwol egsentric Stuart Leyshon o Sgeti, yn cyd-dynnu’n dda ac enillodd Ioan barch yr hacs gyda’i broffesiynoldeb a’i hynawsedd.

Wrth gwrs doedd Ioan ddim yr hyn y byddech chi’n ei alw yn ‘company man’ a doedd y berthynas rhyngddo fo a’r uwch reolwyr ddim bob amser yn esmwyth. Cofio fo’n cael ei alw gerbron i gael ram dam yn dilyn digwyddiad bach anffodus yn Nulyn mewn gêm rygbi; yn y cyfarfod cafodd ei siarsio ei fod o bob amser, ble bynnag yr ai, yn llys gennad i HTV. Weithiodd honna ddim! Yn rhyfeddol ddigon, er ei brysurdeb, bu’n golygu papurau’r Blaid, Y Welsh Nation a’r Ddraig Goch, yn y cyfnod yma gan losgi’r gannwyll yn hwyr i’r nos.  A phan ddaeth bygythiad Gwynfor i ymprydio dros Sianel Gymraeg dw i’n cofio Ioan yn holi be oeddem ni am wneud fel newyddiadurwyr pe digwyddai’r gwaethaf? Doedd o’n cael dim trafferth bod yn ddiduedd fel golygydd ond roedd yn Gymro a chenedlaetholwr yn gyntaf.

Yn eironig daeth creu S4C â’r Dydd i ben a chollodd Ioan ei swydd.  Cafodd ei siomi a bu’n gyfnod anodd dros ben iddo fo ac Alwena.  Daeth gwaredigaeth o du Gwilym Owen a oedd wedi cael cyfnod tymhestlog ei hun ac a ddaeth yn bennaeth newyddion Radio Cymru a chyflogi Ioan fel golygydd a chynhyrchydd. Roedd gan Ioan, fel nifer o newyddiadurwyr eraill, y parch mwya’ i Gwilym – fel pennaeth newyddion.  

Roedd gwyliau yn Iwerddon gyda’r teulu yn ddihangfa bwysig iddo fo. Conemarra, County Clare ac yn amlach na pheidio Penrhyn y Dingle a phentref bach Ballyferriter yn y Gaeltacht oedd diwedd y daith.  Yno y gwnaethpwyd ffrindiau newydd, ac yn arbennig James a Treasa, Geri a’r diweddar Scott a’u teuluoedd. Nhwthe bellach yn rhan allweddol o’r teulu ac yma heddiw.  Hudwyd Albanwyr a Chymry yno i’w canlyn i hel straeon, creu cerddoriaeth a chanu ac yfed ambell wydraid o win y gwan yn nhafarn Ui Chathain a Dick Mac.  A geiriau Ioan bob amser, beth bynnag yr amgylchiad, oedd “ Mae’n ddifyr ‘ma!”.

 
Ioan ac Alwena gyda’u ffrind Morag Dunbar (canol) o’r Alban ym mhenrhyn,  Corca Dhuine, Iwerddon

Y Meca, fel y disgrifiodd Myrddin o, oedd darn o dir ger Trá an Fhíona, Traeth y Gwin â golygfa o benrhyn y Tair Chwaer o’ch blaen.  Tir garw, brwynog ydi’r maes, y tap dwr agosaf ryw hanner milltir i ffwrdd, toiled a siop rhyw filltir go lew a stormydd Awst yn chwipio yn ddi-ffael o’r Iwerydd. Lle delfrydol i wersylla. Ond i Ioan , a llawer o rai eraill, roedd, ac mae, rhin arbennig yn y lle.

Un o’r bobol y daeth Ioan i’w adnabod yno oedd Bertie Ahern a oedd ar y pryd yn Ganghellor y Trysorlys yn llywodraeth y wlad. Gwelodd Ioan, Bertie yn mynd â’i gi am dro ger y traeth ryw fore glawog.  Ganol y bore prynodd gopi o’r Irish Times a gweld bod yr arian Gwyddelig mewn helbul; ”Punt in Crisis” oedd y pennawd brawychus. Yn hwyrach yn y dydd, gan ei bod yn glawio mae’n debyg, galwodd Ioan yn nhafarn Ui Chathain a rhyfeddu bod y dywededig Bertie Ahern yno yn mwynhau peint. Cafodd ei gyflwyno iddo ac o ddiffyg dim byd arall i ddweud cyfeiriodd at y pennawd brawychus gan ryfeddu bod y gwleidydd heb ruthro nôl am Ddulyn. Ateb sych Bertie oedd “ I never read the papers on holiday.”

Flynyddoedd yn ddiweddarach fe drefnodd Ioan i Dafydd Wigley gyfarfod Ahern yn y Dáil pan oedd yn Taoiseach Iwerddon a bûm i ac eraill yn dyst i ddau wleidydd praff yn mwynhau trafodaeth fywiog. Daeth cyfnod Pontypridd i ben gyda galwad Wil Aaron. Roedd yn dipyn o rwyg a menter i’r teulu symud o Bontypridd lle roedden nhw wedi bwrw gwreiddiau dwfn ac yn dechrau magu teulu.  Ond dod wnaethon nhw a dan arweiniad medrus Ioan a’i gyfaill Wil Owen ddatblygodd y gyfres Hel Straeon yn un o rai mwya’ poblogaidd y sianel.

Cyfrannodd hefyd sgriptiau a syniadau i’r gyfres Almanac. Bu cyfnod Hel Straeon yn un prysur a chynhyrchiol; teithiwyd i America i olrhain hanes y cymunedau Cymraeg a bu cyfresi yn Iwerddon ac yn yr Alban.  Mewn gwersyll milwrol ar Ynys Benbecula y cyflwynodd o Fajor mawr mwshtashog i Lyn Ebenezer gyda’r geiriau, “Major Fairclough of the British Army, may I present Lyn Ebenezer who was a major too, in the Free Wales Army.”  

Tynnwyd y plwg yn anfaddeuol o gynnar ar y gyfres yn un o’r adrefniadau mae pob sefydliad yn ei ystyried yn gwbl hanfodol. Unwaith eto roedd Ioan yn ddigyflog ac yn flin.  Gyda llaw, er tegwch, cystal cyfaddef bod Ioan yn medru bod yn flin ac yn bigog ar adegau.  Pan fyddai Alwena yn y cwmni clywid y gorchymyn, “Bu’istaw Ioan.”  Ta waeth cafodd waith ar gyfres materion cyfoes y Byd ar Bedwar ond roedd yn haeddu gwell.  Un o bleserau’r blynyddoedd diweddar iddo oedd teithiau Robat Gruffydd a Meibion y Machlud – rhyw fath o Last of the Summer Wine rhyngwladol- lle mwynhawyd cwmnïa a Jaz gorfodol yn ninasoedd Berlin, Donostia, Madrid a Lisbon.

Ond esgorodd hyn maes o law ar gyfnod cynhyrchiol iawn o ran cyhoeddi llyfrau.  Roedd o eisoes wedi golygu cyfrol goffa Elfed Lewis, ‘Cawr ar goesau byr’ a’r gyfrol ‘Achos y bomiau bach’.  Roedd o hefyd wedi golygu dwy o gyfrolau hunangofiant ei gyfaill Dafydd Wigley sy’n talu teyrnged i’w farn wleidyddol dreiddgar.  I Garreg Gwalch sgrifennodd ‘Hanes C’mon Midffild’ a ‘Pobl drws nesa – taith fusneslyd drwy Iwerddon’ y clywsoch ddyfyniadau ohoni yn gynt, yn ogystal â ‘Rhyfel Ni’ am brofiadau milwyr o Gymru a Phatagonia yn Rhyfel y Malvinas. 

Dyma ddywed Myrddin,”Pan fyddai’n sgwrsio efo pobl am brofiadau poenus a phersonol iawn, roedden nhw’n medru ymddiried yn Ioan i gyfleu eu straeon yn gywir a chyda gofal a chydymdeimlad.”  Ac yn ôl Dylan Iorwerth “ Roedd yn newyddiadurwr craff ac yn sgwenwr da…Y tu ôl i’r wen a’r tynnu coes roedd ganddo feddwl praff.”  I’r Lolfa golygodd dair cyfrol hynod o waith ei hen gydweithiwr y ffotograffydd Geoff Charles, gan dreulio wythnosau yn tyrchu yn archif y Llyfrgell Genedlaethol.  Dim ond gair da oedd ganddo i staff y lle. Ac yn goron ar y cyfan roedd cyfrol hardd ar fywyd a gwaith y ffotograffydd o Ruddlan ac Efrog Newydd, Philip Jones Griffiths .

Gweithiwr araf oedd o meddai Alwena ond un gofalus a thrylwyr. Ac mi alla inne dystio i’r un gofal pan fu’n gweithio fel swyddog y wasg efo mi.  Doedd o byth yn gollwng dim o’i law heb ei saernïo.  Ac mae cyfrol y bu’n ymlafnio gyda hi am ddegawd ar y ‘Cylch Catholig’ ar fin dod o’r wasg mae’n debyg.  Roedd o mewn cymaint o wewyr am hon fel yr ymneilltuodd i leiandy i gael heddwch ac ysbrydoliaeth i sgwennu.  Fe barodd un noson boenus o oer a distaw mewn cell cyn dianc am ei fywyd yn ôl i Bwllheli.  

Mae rhagor i’w ddweud, llawer yn rhagor, ond mi fedra i deimlo ei bensel goch yn hofran uwch y sgript.  Mae pob gwahanu yn boenus wrth gwrs ond fel adroddwr chwedlau siawns na fyddai’n gwerthfawrogi bod y lleoliad ym Mhorthdinllaen yn drawiadol, yng nghwmni teulu wedi gwydraid o win yn y Tŷ Coch.  Ac felly heddiw yr ydym yn dathlu bywyd Cymro cywir a balch, bywyd llawn, bywyd cynhyrchiol ac afieithus, llawn direidi, dagrau a chwerthin.  Mae’n stori gwerth ei hadrodd.  Diolch.

Alun Ffred

 

Io Mo

O Roshirwaun, drws hiraeth
yw’r tir hud tu draw i’r traeth –
ynys cyfeillion annwyl
yng ngwres eu hanes a’u hwyl,
ynys byw yn rhydd am sbel:
Ioan oedd bron yn Wyddel.

 

Dyna fu’i haf, dyna’i fyd:
adlen mewn cae tywodlyd;
adlen lawen a chenedl
o gân a cherdd, gwin a chwedl
Clann y Dwnnan; yntau’n dad,
yn gerrynt llawn o gariad.

 

Adlen heb stormydd pwdlyd
bro a fu’n cilio cyhyd.
Yr un ddadl gaed mewn adlen
ag yn Llŷn, ond gwyn ei llen,
yn gip ar ros o olwg prudd
cociau ŵyn hagrwch cynnydd.

 

Adlen oedd i deulu. Nef
uwch edrych ar rych hydref,
uwch llaw’r aildorchi llewys,
uwch holl galedwaith a chwys
nythu gwenith y gwanwyn
ym maes ei gynefin mwyn.

 

Do, bu’i hiwmor a’i stori –
stôr ei sach – yn iach i ni;
gloywai ei lais gwmni gwlad
efo’i finiog ddyfyniad.
Dawn y co’ hwn nid yw’n cau:
co’ deud-hi’r anecdotau.

 

Heno, adlen huodledd –
mae’n awr ei lapio mewn hedd.
Gŵr ffraeth aeth i’w Gatraeth o
ond caf benodau cofio
mor fyw. Wrth y môr a’i fae,
y gorwel biau’r geiriau.

Myrddin ap Dafydd.

 

Ioan – Cyfaill, Cymro a Chenedlaetholwr

Cwrddais â Ioan am y tro cyntaf rywbryd yng nghanol y 1960au, ble a phryd yn union dwi ddim yn siŵr.  Ond yn sicr roedden ni’n ddau’n ffrindiau erbyn gaeaf 1967 pan ymunais â staff llawn-amser Plaid Cymru gan ddechrau gyda rhyw fis o waith yn y swyddfa yn Stryd Fawr, Bangor.  Erbyn hynny, roedd Ioan yn aelod gweithgar o’r Blaid ers nifer o flynyddoedd – yn ôl pob tebyg ers 1959 o leiaf pan aeth i Brifysgol Manceinion a rhannu fflat gyda Dafydd Wigley. 

Am fwy na hanner canrif felly chwaraeodd ran werthfawr dros ben yn rhengoedd y mudiad cenedlaethol.  Bu’n ganolog yng ngwaith y Blaid – nid fel un o’n prif swyddogion neu’n hymgeiswyr ond fel ysgrifennwr dawnus, creadigol a thoreithiog ac fel aelod oedd yn fodlon gwneud y gwaith caib a rhaw.  Cafodd fyw mewn rhannau gwahanol o Gymru – yng nghefn gwlad Pen Llŷn, ar y gororau a hefyd yng nghalon y Cymoedd ym Mhontypridd – ac ymhobman y trigai byddai’n cyfrannu’n helaeth at Gymreictod a chenedlaetholdeb yr ardal.

Fel y dywed ysgrifennydd Cangen Pwllheli, ei gyfaill oes Wil Roberts (Wil Coed) – Cymru, Cymreictod a’r Gymraeg oedd pethau Ioan ers yn ifanc iawn, “eu dehongli a’u cyflwyno i’w gyd-Gymry ac i’w gyd-Geltiaid oedd ei ffon fara, a daeth yn un o gyfathrebwyr gorau a difyrraf ei oes”.

Pan ddes i nabod Io gyntaf, roedd yn gweithio fel peiriannydd pontydd i gyngor Sir Amwythig, ond yn byw filltir neu ddwy ar ochr Cymru o’r ffin ym mhentref Y Crugion (Criggion) yn Sir Drefaldwyn – fe ges i aros yna sawl gwaith a chael sawl tro hwyliog yn ei gwmni o gwmpas y sir.  Fel y dywed Wil Coed, fe gynorthwyodd ymgyrch ymgeisydd y Blaid Islwyn Ffowc Elis adeg isetholiad Maldwyn yn 1962, gan ddyfeisio ffurflen gofnodi canfasio a ddaeth yn sylfaen ymgyrchoedd etholiadol y Blaid tan droad y ganrif.  Roedd gyda ni gyflenwad o’r ffurflenni hyn yn Swyddfa Ganol Plaid Cymru ar gyfer etholiadau mewn ardaloedd gwledig ble, yn aml iawn, byddai enwau’r etholwyr yn nhrefn y wyddor yn hytrach na threfn ddaearyddol – tipyn o ben tost i drefnydd etholiad gan y byddai angen ail-sgrifennu’r enwau a chyfeiriadau er mwyn canfasio o dŷ i dŷ a chofnodi’r canlyniadau’n effeithiol.  Roedden nhw wedi’u hargraffu mewn nifer o liwiau – ni wn ai Ioan oedd wedi meddwl am y manylyn bach hynny ond credaf mai yn ei lawysgrifen ef oedd y penawdau.

Roedd Ioan ymhlith yr heidiau o bobl ifanc afieithus a dyrrodd i Gaerfyrddin Gorffennaf 1966 i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor.  Ac mae Wil Coed yn nodi ei fod wedi ymgyrchu’r un mor frwd ddegawdau wedyn dros Liz Saville Roberts yn Nwyfor Meirionnydd a thros Hywel Williams yn Arfon yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 2019.

Roedd Ioan yn sosialydd naturiol yn ogystal â bod yn genedlaetholwr brwd, a deallais wedyn fod ei dad a gwreiddiau gwerinol ei deulu’n ddylanwad pwysig ar gwrs ei fywyd.  Pan symudodd Alwena ac yntau i Bontypridd, fe wnaeth ffrindiau ymhlith undebwyr llafur yn ogystal â chenedlaetholwyr a byddai wrth ei fodd yng nghanol y criw amryliw a fynychai Glwb y Bont yn y dre.  Roedd y ddau wedi prynu tŷ ar ben y bryncyn yn ardal Graigwen, a phan ddaeth isetholiad Pontypridd yn gynnar yn y flwyddyn 1989, Ioan oedd yn llunio’r rhan fwyaf o lenyddiaeth etholiadol Plaid Cymru.

Oherwydd natur ei waith fel gohebydd – i’r Cymro’n gyntaf ond wedyn i gwmni HTV a’r BBC – bu rhaid iddo gyfrannu at waith Plaid Cymru heb fod yn rhy amlwg, er nad allai neb fod mewn amheuaeth ble gorweddai’i galon.  Ac os bu rheolau’r gwaith yn cystadlu gyda’i ymroddiad i achos Cymru, byddai’n fawr o dro cyn eu torri’n racs. 

Rwy’n cofio un achlysur yn ystod berw dyddiau cynnar ymgyrch etholiad cyffredinol – 1987 rwy’n credu – pan ganodd y ffôn: Ioan newydd ddod mas o gyfarfod gohebwyr ble cawson nhw gyfarwyddid sut i adrodd y frwydr rhwng y pleidiau ar sianelau’r BBC yng Nghymru.  Y drefn fyddai rhoi amser gynta’i gyd ar raglenni newyddion i’r ‘ymgyrch Brydeinig’, ac wedyn dogn arall at yr ymgyrch yng Nghymru.  Canlyniad trefn o’r fath wrth gwrs fyddai torri’n sylweddol ar unrhyw sylw i Blaid Cymru – a hynny heb ystyried yr holl oriau byddai’r pleidiau eraill yn eu derbyn ar y sianelau Prydeinig.   Ond mae gwybodaeth mewn pryd yn werth ffortiwn – diolch i Ioan (a gohebydd arall a ddaeth â chopi o’r cyfarwyddid i’r swyddfa erbyn hanner dydd) llwyddon ni ddarbwyllo penaethiaid y Gorfforaeth i newid y cynllun, a rhoi rhywbeth ychydig yn fwy cyfiawn y eu lle.

Roedd Ioan hefyd yn gweithio fel golygydd papur Cymraeg Plaid Cymru, Y Ddraig Goch, er nad oedd modd cyhoeddi hynny i’r byd a’r betws oherwydd cyfyngiadau’i swyddi.  Gyda’i ddawn gynhenid i ysgrifennu’n rhwydd a chael ongl wahanol ar bethau, byddai bob amser yn llwyddo cynhyrchu papur diddorol a difyr.  Bu’n gyfrifol hefyd am y rhan fwyaf o ddeunydd etholiadol cyn-Lywydd y Blaid Dafydd Wigley.  Mae Dafydd yn ychwanegu ei fod hefyd â hiwmor anhygoel – yn gweld ‘ochr ddoniol mewn digwyddiadau ac amgylchiadau a phobol na fuasai’r rhan fwyaf ohonon ni yn ei weld’.  A does dim amheuaeth ei fod yn llygad ei le – roedd wastad hwyl i’w gael yn ei gwmni, fel storïwr, gwrandäwr a chyfaill cywir.  Ac roedd ganddo gof anhygoel  – y gallu i gofio manylion a’u hailadrodd yn union.  Dim rhyfedd fod ganddo’r ddawn o wneud ffrindiau ymhobman – a’u cadw.

Ioan ac Alwena a ddenodd griw o Gymru ac o’r Alban i deithio dros y môr flwyddyn ar ôl blwyddyn i ben pellaf Iwerddon i Gaeltacht Corca Dhuibhne, neu benrhyn Dingle, ac yna gwrdd â llu o Wyddelod a fyddai’n dod yna ar eu gwyliau.  Bydden ni’n teimlo fel rhan o un teulu mawr gyda Ioan, Alwena, Siôn a Lois.  Y tu hwnt i dref An Daingean neu Dingle oedd Tir na n’Og Ioan – pentref Baile an Fheirtéaraigh (Ballyferriter). 

Rywsut neu’i gilydd, roeddech chi’n sicr o ddod ar draws pobl diddorol yng nghwmni Ioan.  Unwaith es i gydag ef i gwrdd â’r ysgolhaig Donncha Ó Conchúir, cyn-brifathro ysgol gynradd y pentref a chadeirydd y gymdeithas gydweithredol.  Dro arall, pan fuodd y ddau ohonon ni’n ymlacio yn nhafarn Dic Macs, Dingle, pwy gamodd heibio gyda gwen fawr ond y Taoiseach, Charles Haughey, siŵr o fod ar ei ffordd yn ôl i’w ynys wyliau bersonol, Inis Mhic Aoibhleáin.  Roedd Ioan yn cicio’i hunan wedyn am beidio â dodi’i fab Siôn, bryd hynny’n faban, ym mreichiau Charlie a thynnu llun sydyn – bu’n ffotograffydd brwd.  Daeth i adnabod Bertie Ahern, Taoiseach arall nes ymlaen, yn ddigon da i Bertie gofio’i enw cyntaf yn iawn.

Tipyn o brofiad oedd bod ymhlith y dyrfa o bobl o Iwerddon a’r Alban a phob rhan o Gymru pan ddaeth yr amser i ddweud ffarwel wrth ein hen ffrind. Byddai Ioan ei hun wedi bod wrth ei fodd yn ein cwmni.

Dafydd Williams

 

Dad gan Lois

I ddechrau, hoffem fel teulu ddiolch o galon i chi am yr holl gefnogaeth yr ydan ni wedi’i dderbyn yn ystod ein profedigaeth. Mae’r holl negeseuon, ymweliadau, teyrngedau, a’r bara brith, wedi helpu i liniaru rhywfaint ar y galar yr ydan ni’n ei deimlo yn y cyfnod hwn o sioc a thristwch. Rydan ni’r to iau wedi cael cyfle dros y dyddiau diwethaf i ddysgu hyd yn oed yn fwy am dad, a dod i’w adnabod o’r newydd bron, drwy lygaid ei gyfeillion a’i gydweithwyr, wrth ddarllen eich atgofion chi ohono fo. Roedd Siôn a finnau’n awyddus i gymryd y cyfle hwn i rannu ychydig o straeon efo chi amdano fo, o safbwynt ei blant.

Wel, mae’n troi allan fod dad yn dipyn o foi, yndoedd?! Wrth gwrs, mi’r oedd Siôn a finnau’n gwybod hynny’n iawn yn barod, ond ar ddiwedd y dydd, Dad oedd o i ni ynde. Wrth edrych yn ôl, rydw i’n gwerthfawrogi fod ganddo fo stôr o amynedd efo ni pan oedden ni’n blant. Roedd o’n arfer dweud wrthym fel y byddai Siôn, yn hogyn bach ar eu gwyliau’n yr Alban, yn mynnu fod o a mam yn sdopio’r car bob tro y byddan nhw’n gweld darn o lyn, fel y gall o fynd allan i daflu cerrig iddo fo. Dw i’n gwybod fod dad wedi ildio bob tro, ac mi fyddai’n pasio’r amser drwy ffilmio Siôn yn taflu cerrig ar ei gamera fidio, ac mae’r fidios hyn gynnon ni o hyd. Mi fydda fo’n gwneud lot o hynny – ein dilyn ni efo’i gamra, gan wneud hynny mewn ffordd hollol dawel heb dynnu unrhyw sylw ato fo’i hun. Mor falch fod y fidios bach gwerthfawr yma gynnon ni i’w trysori am byth – diolch am hynny, dad!

Nid taflu cerrig oedd yn mynd a fy mryd i pan oeddwn i’n iau chwaith, ond mynd i Bortmeirion. Well i fi egluro, er mae’n siŵr y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o hyn yn barod, ond mi fysa gan mam gyfnodau o’r flwyddyn lle fysa ganddi ryw steddfod neu bwyllgor mwy neu lai bob penwythnos, felly roedd hi fyny i dad ein hentyrteinio ni. Mi aeth o a fi i Bortmeirion unwaith, a dyna ni wedyn. Roeddwn i’n mynnu ein bod ni’n mynd yno bob penwythnos, nes bod ei gerdyn teyrngarwch wedi mynd yn hen racsyn blêr, ac mi fysa fo’n gadael i fi chwarae am oriau wrth y cwch bach ar lan y dŵr yn fy myd bach fy hun. Mae’n siŵr fod o’n hollol, hollol bord, ond wnaeth o erioed wneud i ni deimlo fel bod unrhyw beth yn bwysicach iddo fo na’r ddau ohonan ni pan oeddan ni efo fo. Doedd dim pall ar amynedd dad wedi i ni ddod yn oedolion chwaith, a wastad yno i wrando ac i helpu efo unrhyw broblem, bach neu fawr, gan dueddu i orffen pob sgwrs efo ‘fyddi di’n ok sdi’ a tap solad ar y pen i ni. Dim ond fis yn ôl, roedd rhaid i Siôn ac yntau fynd i’r ardd drws nesaf i ddismantlo trampolîn Cadi, gan ei fod o wedi hedfan yno, dros nos, dros y gwrych pan oedd hi’n stormus. Tra’r oedd Siôn yn gwylltio a bytheirio wrth ymgymryd â’r dasg (mi’r oedd o’n horwth o beth i fod yn deg, ac mi’r oedd hi’n dywyll erbyn hyn), roedd dad yn aros yn cŵl braf, ac yn chwerthin iddo fo’i hun bob hyn a hyn – roedd o’n gallu gweld yr ochr ddoniol i bob argyfwng, sy’n crynhoi dad i’r dim.

Roedd o’n dad direidus iawn. Mi ddywedodd o wrth Siôn unwaith ei fod o’n arfer chwarae i Arsenal, a Siôn druan yn mynd i’r ysgol diwrnod wedyn a dweud wrth bawb. Mae Sion yn cyfaddef ei hun wedyn, o weld dad yn cicio pêl, y dylai fod wedi sylweddoli nad oedd hi’n stori wir. Dw i’n cofio fi’n ysgol gynradd hefyd, yn dechrau dysgu am siapiau ac onglau, a gofyn iddo fo ‘be di polygon?’ ac yn syth bin, yr ateb gesh i: ‘parot wedi marw’.

Cymro i’r carn oedd dad, a hynny’n ar ei fwyaf amlwg, mae’n siŵr, yn ystod gemau Cymru. Disgrifiodd Sion fel y byddai ganddo fo wastad ddagrau yn ei lygaid pan fyddai’r anthem yn cael ei chanu, a phan fysa’r ddau ohonyn nhw’n mynd i wylio gem bêl-droed Cymru, yn hytrach na gweiddi ‘Wales! Wales!’ fel pawb arall yn y dorf, mi fysa fo’n gweiddi ‘Cymru! Cymru!’ drostyn nhw. Doeddwn i ddim gwybod yn hynny tan i Sion ddeud wrtha i ddiwrnod o’r blaen,  ac mi ges i bwl o chwerthin gan mod innau’n gwneud yr union ’run fath.

Fedra i ddim diolch ddigon iddo fo am ein dysgu am bwysigrwydd gwleidyddiaeth. Mi fydda i’n colli ein sgyrsiau hir am y newyddion, dyfodol Cymru, y Blaid… yn aml mi fyddai’r sgyrsiau hyn yn para oriau, ymhell i ganol nos weithiau. Ar noson Etholiad Cyffredinol 2017 mi arhosodd dad a fi i fyny drwy’r nos, a mi’r oedd y ddau ohonan ni jysd â mynd yn wirion – erbyn i Ben ennill Ceredigion, dw i’n meddwl mai ‘hysterical’ ydi’r gair mwya addas i ddisgrifio sut oeddan ni’n teimlo – a bihafio. Dw i’n falch iawn, mewn ffordd, na fydd rhaid iddo fo fynd drwy’r artaith o weld effaith Brexit  ar y Gymru fach yr oedd o mor falch ohoni.

Wel, does dim posib i ni sôn am dad heb sôn am ein gwyliau chwedlonol bob mis Awst efo’r garafán. Mynd i’r Eisteddfod gynta, wrth gwrs, ac wedyn draw â ni i’r Iwerddon. Roedd o’n arfer deud ei fod o’n teimlo’n euog am beidio mynd â ni i lefydd mwy exotic pob haf, yn enwedig pan ddysgodd o fod Tomos yn arfer cael mynd i lefydd fel Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Yr Almaen, Yr Eidal ac ati ar wyliau teuluol! Ar bapur, mae’n siŵr nad ydi gwyliau carafán, mewn cae ar benrhyn hollol exposed yn ne orllewin Iwerddon, heb unrhyw fath o gyfleusterau, yn swnio fel y gwyliau delfrydol. Ond i ni, dyna’r oedd o. Be gewch chi well na threulio pythefnos yng nghwmni ffrindiau arbennig y gwnaeth o a mam flynyddoedd cyn i ni gael ein geni, mewn adlen gysurus, mewn cae oedd yn nefoedd pan oedd hi’n braf…ond y lle mwya diawledig pan fysa’r tywydd yn troi. Roedd y gwyliau a’r ffrindiau hyn yn rhodd amhrisiadwy i ni gan ein rhieni, ac yn gymaint o ran o bwy ydan ni erbyn hyn. Mae o wedi dysgu lot i ni am y gallu i gymdeithasu gyda phobl o bob oed, a sut i fwynhau ein hunain. Diolch eto, dad, a llaw ar fy nghalon, fyswn i byth yn newid y profiadau gafon ni am wyliau ar y Costa del Sol.

O’n i’n sôn gynna am y ffaith mai’r Eisteddfod fydda’n dod gynta, cyn Werddon, eto yn y garafán, a byddai hynny fatha ryw pre-med cyn y gwyliau mawr Gwyddelig! Ond i Sion a fi, roedd ’Steddfod efo dad yn dipyn o boen yn din. Mae pawb yn tueddu i feddwl am mam fel yr un Eisteddfodol, yn dydyn, ond efo dad, fysan ni’n yn cael gweld chwarter y maes tasa ni’n gadael iddo fo siarad efo pawb fel roedd o isio gneud! I ddiddanu ein hunain, byddai’n rhaid i ni ddyfeisio gemau, fel ‘sawl cam mae dad yn gallu cymryd cyn gweld rhywun arall mae o’n nabod a sdopio’ – y record? 2 gam!! Fyddan ni hefyd yn lladd ein hunain chwerthin yn clywed pawb yn galw dad yn ‘Io Mo’, a methu’n glir â deall pam. Oedd ganddo fo enw canol? Morris? Morgan? Mohammed? Troi allan, nagoedd, oedd o jysd yn swnio’n catchy. Dydw i ddim yn meddwl erbyn hyn fod dad yn meindio i bobl ei alw fo’n Io Mo, ond pan oni’n iau, oni’n meddwl fod o’n ei gasáu o. Rŵan dw i’n deall mai ddim yn licio i Sion a fi ei alw fo’n hynny oedd o! Pan o’n i’n arfer gweld rhywun o’n i’n gwybod oedd yn arfer gweithio efo dad (ac mae ‘na lot fawr ohonoch chi!), fyswn i’n mynd atyn nhw gan ddeud reit swil “dw i’ meddwl ella’ch bod chi’n nabod dad…” “o, pwy di dy dad felly?” “Ioan Roberts….” yn amlach na pheidio, fyddai na fawr ddim ymateb am eiliad neu ddwy, ac wedyn yn sydyn, “Oooo! Io Mo ti’n feddwl!!”

Mae’n amhosib cyfleu mor fawr fydd y golled ar ei ôl, ond un cysur pwysig ydi ei fod o wedi cael dod yn daid i Cadi Shân fach. Roedd o’n ymfalchïo yn ei rôl newydd, ac yn ei chymryd o ddifrif. Nes i erioed feddwl y bysan ni’n ei weld o’n codi, ar ôl cyn lleied o berswâd, i fynd i ddawnsio efo hi ganol y stafell fyw, ac mor hapus i gael ei orfodi ganddi i wisgo ei het flodeuog hi ar ei ben. Pan fysa Cadi’n cael pylia o wrthod bwyta wrth y bwrdd bwyd, a phawb yn gwneud eu gorau i gadw gwyneb syth, pwy ydach chi’n meddwl oedd y cynta, yn ddi-ffael, i ddechrau chwerthin? Wel dad siŵr iawn, a ninnau wedyn yn ei cholli hi’n lân hefyd! Mae’n deud lot am natur ein magwraeth a’n perthynas efo’n rhieni fod dad, mam, Sion, Sarah a Cadi, oll yn cyd-fyw mor ddi-lol dan yr un to dros y blynyddoedd diwethaf – ddim yn rhywbeth hawdd i unrhyw deulu, dw i’n siŵr y bysach chi’n cytuno. A mod innau hefyd mynd adref yn ddeddfol, ddwywaith yr wythnos i’w gweld nhw ers i fi symud i Gaernarfon. Mae hyn yn deyrnged wirioneddol i’r berthynas glos a ffurfiwyd rhyngom, ac mae cael dweud mai Io Mo oedd ein tad yn fraint y byddwn ni’n ei chario efo ni gyda balchder am weddill ein hoes.


Ioan a’i deulu

 

Recordiad o Angladd Ioan Roberts  4 Ionawr 2020

 

 

Ioan (chwith) fel gwas priodas i’w gefnder, y Parchedig Reuben Roberts, Mis Hydref 1959 – a’r un bobl mewn dathliad eu priodas aur, Mis Hydref 2019: Ioan Roberts, Reuben Roberts, Aelwen Roberts a Dr Helen Wyn Jones

 

 

 

Hanes Plaid Cymru