Eileen Beasley (1921–2012)
Cynog Dafis Erthygl yn Barn Medi 2012. Eileen Beasley a’i gwr, Trefor, a ddechreuodd y traddodiad o weithredu’n uniongyrchol dros yr iaith Gymraeg. Pan ddaeth Eileen a Trefor Beasley ynghyd fe grewyd cyfuniad dansierus (yng ngwir ystyr y gair) o ddeallusrwydd, diwylliant, minogrwydd dadansoddol, cyndynrwydd ystyfnig, cymwynasgarwch, cynhesrwydd rhadlon, ac yn arbennig ddewrder. Ar un olwg chaech chi ddim dau mwy gwahanol. Eileen yn ferch ffarm o berfedd y wlad, yn athrawes raddedig (Cymraeg a Ffrangeg) hyddysg mewn llenyddiaeth, ac yn Gristion o argyhoeddiad dwfn, yn gadarn ac yn glir ei gwerthoedd. Trefor yntau yn löwr, yn swyddog undeb a ddaeth dan ddylanwad Marcswyr megis Nun Niclas, yn heliwr o frid, ac yn anffyddiwr cymhleth a chanddo feddwl beriniadol miniog a hiwmor eironig gogleisiol. Roedd eu penderfyniad i ymgartrefu, wedi priodi yn 1951, yn yr Allt, ar gyrion Llangennech, yng ngolwg y wlad a’r maes glo carreg, yn arwyddluniol o’u gwreiddiau gwahanol. Ond gwahanol neu beidio, fuodd yna erioed gydymlyniad cryfach. Cenedlaetholdeb a’u cydaelodaeth o Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru a’u dygodd ynghyd – Trefor wedi’i ddenu’n arbennig gan syndicaliaeth D.J. Davies – a’r Iaith wrth gwrs. Wedi bod yn ymgeisydd seneddol go lwyddiannus cefnodd Trefor ar y Pwyllgor Gwaith yn dilyn y penderfyniad i beidio gweithredu’n uniongyrchol yn Nhryweryn. Daeth y cyfle’n go fuan i weithredu’n uniongyrchol mewn modd gwahanol pan aeth y cwpwl hynod yma benben â Chyngor Dosbarth Gwledig Llanelli ar fater papur treth Cymraeg. Go brin bod na chynghorwyr na swyddogion wedi sylweddoli cymaint o fatl oedd o’u blaenau. Wyth mlynedd o ymrafael, un-deg-chwech ymddangosiad o flaen llys ac ymweliadau dro ar ôl tro gan y beili i atafaelu’u heiddo. Daeth buddugoliaeth o’r diwedd ar ddwy ffurf: papur treth dwyieithog a, gwell byth, Eileen yn cael ei hethol yn enw Plaid Cymru yn aelod o’r union gyngor a’i herlidiodd gyhyd. Beth tybed oedd trybestod meddyliau a theimladau’r cynghorwyr yna pan gerddodd hi mewn i’w canol nhw, yn wên radlon o glust i glust, dwi’n amau dim! Ond nid brwydr oedd hanes y 1950au i gyd. Ganwyd y ddau blentyn, Elidyr a Delyth, cymeriadau hynod yn eu hawl eu hunain, a sefydlwyd aelwyd glyd a llawen, dodrefn neu beidio, fel y gall aml i ymwelydd o’r cyfnod yna dystio. Ac roedd yna eifr a chwningod a ffowls yn ddiddanwch a chynhaliaeth fel ei gilydd. Lles y plant ac argyhoeddiad ynghylch pwysigrwydd addysg Gymraeg a barodd iddyn nhw symud ganol y 1960au i dy ar y topiau uwchlaw Llanharan gyda thanciau yn y to i grynhoi dwr glaw. Aeth y plant i Ysgol Rhydfelen, penodwyd Eileen yn athrawes yno, a threuliodd Trefor gyfnod yn Amgueddfa Sain Ffagan. Drwy’r cyfnod yna fe’u gwelid yn gyson yng ngwrthdystiadau Cymdeithas yr Iaith a threuliodd Trefor gyfnod yn y carchar. Dychwelyd fu eu hanes wedyn at wreiddiau Eileen yn Henllan Amgoed. Ar ei waeth yr aeth iechyd Trefor, dan effeithiau cynyddol clefyd y llwch glo ac arthritis. Bu farw yn 1994. Parhaodd Eileen yn weithgar ym mhob dull a modd, a’i phlant a’u teuluoedd yn destun llawenydd a difyrrwch iddi’n barhaus. Tan yn agos i’r diwedd roedd hi’n athrawes ar ddosbarth oedolion yn Ysgol Sul capel Henllan Amgoed. Ac i’r capel hwnnw, adeilad annisgwyl o brydferth, y daeth cyfeillion, perthnasau ac edmygwyr ynghyd ar 16 Awst i dalu’r gymwynas olaf. Cafwyd gwasanaeth bendithiol a diymffrost o dan ofal y Parchedigion Llinos Edwards a Maurice Loader. Oedodd y gynulleidfa’n hir wedyn i rannu’u hatgofion a’u meddyliau am Eileen, Rosa Parkes Cymru ys dywedodd Emyr Llywelyn, ac am Trefor bron cymaint. Welwn ni mo’u tebyg eto. Braint enfawr fu eu hadnabod. Ddaeth yna ddim corff i’r capel. Roedd hwnnw wedi mynd i Ysgol Feddygol Caerdydd ar gyfer ymchwil. Ys dywedodd hen gyfaill a chymrawd, gweithredu uniongyrchol hyd y diwedd. Bu farw Eileen Beasley ar 12 Awst 2012.