Glyn James 1922 – 2010

Teyrnged i Glyn James

Mae Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE wedi datgan ei thristwch mawr yn dilyn marwolaeth Glyn James o’r Rhondda.

Glyn JamesYn enedigol o Langrannog, daeth Glyn i’r Rhondda i weithio ym Mhendyrys ac yna i lofeydd Lady Windsor. Safodd am y tro cyntaf mewn isetholiad yn Ystrad Rhondda yn 1959, gan golli o 4 pleidlais yn unig. Daeth dros y siom o golli drwy ennill sedd gyntaf Plaid Cymru yn y Rhondda yn y flwyddyn ddilynol. Cafodd ei ail-ethol sawl gwaith a daeth yn Faer y Rhondda.
Roedd Glyn yn gynghorydd fyddai’n ymgyrchu. Cadwynodd ei hun i ysbyty Llwynypia mewn protest i gadw gwasanaethau; dringo ar ben to swyddfeydd y cyngor i alw am fwy o wasanaethau ar gyfer y Rhondda Fach; ac fe ddarlledodd ar ei orsaf radio anghyfreithlon, ‘Radio Cymru Rydd/Radio Free Wales’ fferm Pen-rhys Isaf. Safodd am y Rhondda sawl gwaith mewn etholiadau cyffredinol a chaiff ei gofio hefyd am ddraig a anadlai fwg ar gefn lori oedd mor nodweddiadol o’r modd byddai’n cyfleu ei neges.

Dywedodd Jill Evans,
“Roedd Glyn yn gyfaill agos ac yn gydweithiwr yn y Blaid. Roedd yn brif ffigwr yn y Rhondda ac ym Mhlaid Cymru ac yn wir ysbrydoliaeth i fi. Carai’r Rhondda a Chymru yn angerddol a byddai ei frwdfrydedd yn cael ei adlewyrchu yn ei ymgyrchoedd lliwgar a chyffrous. Byddai byth yn rhoi stop ar ei ymgyrchu. Fe oedd yr optimist tragwyddol na wnaeth amau fyth na fyddai Cymru yn ennill ei rhyddid. Hwn yn fwy na dim, fydda i yn ei gofio am Glyn ac a fydd yn parhau i ysbrydoli cymaint ohonom ym Mhlaid Cymru am flynyddoedd i ddod. Roedd yn ddyn mawr ac arbennig a byddaf yn ei golli ac yn gweld ei eisiau’n fawr iawn. Hoffwn gynnig ein cydymdeimlad dwfn i Hawys a’r teulu ar ran Plaid Cymru.”

 

2010 Glyn James