Gwynfor Evans – Darlith Peter Hughes Griffiths

Peter Hughes Griffiths
Peter Hughes Griffiths

Gwynfor Evans, yn addas iawn, oedd testun y ddarlith gyntaf i’w thraddodi i Gymdeithas Hanes Plaid Cymru ar faes y Brifwyl Ddydd Llun, 6 Awst 2012.  Anerchwyd gan arweinydd y Blaid ar Gyngor Sir Gaerfyrddin, Peter Hughes Griffiths, a weithiai’n drefydd llawn-amser i Gwynfor a’r Blaid yn Shir Gâr. Traddododd fersiwn estynedig fel darlith goffa Enid Jones yn Festri Capel Heol Awst, Caerfyrddin Nos Wener 5 Hydref.  Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am ganiatad Peter i atgynhyrchu’r ddarlith honno ar wefan y Gymdeithas ac i Alun Lenny am ei gymorth caredig gyda’r lluniau.

.

.

.

GWYNFOR EVANS – Y DYN A’R GWLEIDYDD

Gwynfor Caerfyrddin 1966Ganwyd Gwynfor Richard Evans ar Fedi’r 1af 1912 – gan mlynedd yn ôl – yn fab i Dan a Cathrine Evans yn Y Goedwig, Somerset Road, Y Barri, Bro Morgannwg, ac yn frawd i Alcwyn a Ceridwen.

O astudio ei fywyd, darllen yn helaeth amdano a dod i’w adnabod yn bersonol – yr unig gasgliad y gallwn ni ddod iddo, a holl haneswyr y dyfodol rwyn siwr yw hyn:

Sut y llwyddodd un bod dynol i gyflawni cymaint yn ystod ei fywyd – ie, yn wleidyddol – ond hefyd mewn cymaint o feysydd eraill – a’r cyfan i gyd er mwyn Cymru.  Roedd Gwynfor Evans yn ŵr arbennig, arbennig iawn, ac yn berson na welwyd ymroddiad mor llwyr i’w wlad, ac am wn i, yn hanes diweddar ein cenedl.

Yn ôl un amcangyfrif fe deithiodd e dros filiwn a chwarter o filltiroedd yn ystod ei oes – er mwyn Cymru.  Ac yn ôl Graham Jones o’r Llyfrgell Genedlaethol – “Casgliad Gwynfor yw’r casgliad mwyaf a fedd y Llyfrgell, ac mae mhell o fod yn gyflawn o hyd.”

Yn ei gofiant i Gwynfor mae Rhys Ifans yn nodi iddo gyhoeddi ei filiynfed gair yn ei unfed llyfr ar ddeg yn 1989.  Cyhoeddodd nifer helaeth o lyfrau wedi hynny, a hyn i gyd ar wahân i’r cannoedd ar gannoedd o erthyglau, yn y Gymraeg a’r Saesneg yn fisol ar gyfer papurau Plaid Cymru, Y Ddraig Goch a’r Welsh Nation, yn ogystal â phapurau cenedlaethol a lleol eraill, ynghyd â  datganiadau wythnosol, taflenni a phamffledi di-ddiwedd – y cyfan yng nghyfnod y teipiadur –  lle mae’n cydnabod mai Rhiannon ei wraig fyddai’n gwneud y gwaith caled hwnnw i gyd iddo.  Hwn oedd cyfnod ‘grym y gair mewn print’ – cyfnod y darllen mawr, cyn ac yn ystod dyfodiad cynnar radio a theledu.

Meddai’r Dr Pennar Davies amdano –

“Mae’r enw yn rhan annatod o hanes deffroad Cymru yn yr ugeinfed ganrif.”

A Rhys Ifans ei gofiannydd eto –

“Gwynfor a greodd y ‘mudiad cenedlaethol’ – Gwynfor hefyd oedd tad Ymgyrch Senedd i Gymru …  Mae cofeb arhosol yr ymgyrch honno i’w chael ym Mae Caerdydd – Fe’i gelwir yn gynulliad, y symbol gloywaf, er gwell neu er gwaeth, o awydd y Cymry i fyw fel cenedl wleidyddol.”

“Gwynfor Evans oedd gwladgarwr mwyaf Cymru’r ugeinfed ganrif a gwnaeth ei ymroddiad i’w wlad drawsnewid rhagolygon y Cymry fel cenedl.” – Dyna’r frawddeg gyntaf i ddisgrifio’r person hwn yn ‘ Gwyddioniadur Cymru’ yr Academi Cymreig.  Derbyniodd Gymredoriaeth nifer o’n colegau ac ry ni’n sôn am y person a fu’n Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyson a llawer amlach na neb arall yn ein cyfnod ni.  Ar y diwedd fe restaf anrhydeddau a roddwyd iddo na ddaeth i ran neb arall ers canrifoedd – os o gwbl.

Dan a Cathrine Evans, a’u plant – Gwynfor (ar y chwith), Ceridwen ac Alcwyn
Dan a Cathrine Evans, a’u plant – Gwynfor (ar y chwith), Ceridwen ac Alcwyn

Roedd Capel y Tabernacl, Y Barri yn gartref ysbrydol i’r holl deulu gyda mam a thad Gwynfor yn cymryd rhan flaenllaw yno a’i dadcu Y Parchedig Ben Evans yn weinidog cyntaf y Tabernacl.  Ei dad yn ddiacon ac yn arweinydd y gân a chôr cymysg gyda dros gant o leisiau yn perfformio’r oratorios mawr yn gyson.  Yn y flwyddyn 2000 dadorchuddiwyd Ffenesr Liw newydd yn y capel i gofio am Dan a Catherine Evans.  Fe sefydlodd Dan a Cathrine Evans fusnesau llewyrchus ac enwog iawn yn nhref y Barri.

Gwynfor, capten Tîm Hoci’r Ysgol
Gwynfor, capten Tîm Hoci’r Ysgol

Bu Gwynfor yn Ysgol Ramadeg y Barri a daeth yn gapten ar Dîm Criced a Thîm Hoci’r ysgol ac fe ddaeth yn aelod o Dîm Criced Ysgolion Cymru yn 1930.  Yna, Coleg y Brifysgol Aberystwyth a  graddio yn y gyfraith – ac eto daeth yn aelod o dîm criced a hoci’r Brifysgol hefyd.

A phan yn y coleg digwyddodd dau beth a effeithiodd yn drwm iawn ar ei ddyfodol  – y cyntaf:

“Rhyfeddai ar ymroddiad llanciau a llancesau a fyddai’n gwerthu’r Ddraig Goch o gwmpas strydoedd Aberystwyth – Gwenant Davies, Eic Davies ac eraill.”

Ac yn ail –  “ond un diwrnod gwelodd bamffledyn melyn y tu allan i siop lyfrau yn Aberystwyth – The Economics of Welsh Self Government gan DJ Davies.  Symudodd y llyfryn hwn pob math o amheuaeth, ac yn haf 1934 aeth at Cassie Davies yn y Barri i ymuno â’r Blaid Genedlaethol.”

Meddai Cassie Davies a oedd ar staff Coleg y Barri  ar y pryd yn ei llyfr Hwb i’r Galon –

“A dyma pryd y dechreuodd dyn ifanc hynod o olygus o’r Barri, yn gwisgo blaser Coleg Aberystwyth alw i’m gweld er mwyn cael siarad am y Blaid newydd hon a gofyn am gael ymuno â hi.”

Aeth Gwynfor i Rydychen wedyn yn fyfyriwr a sefydlu cangen o’r Blaid yno a dod yn ysgrifennydd yr enwog Cymdeithas Dafydd ap Gwilym.  Graddiodd yno yn 1936.

Er iddo anfon erthygl o Rydychen i gylchgrawn ei hen ysgol ac i rannau ohoni ymddangos yn y Western Mail, yn Ionawr 1937 y cyhoeddwyd ei erthygl gyflawn gyntaf yn Y Ddraig Goch yn ymwneud â sefydlu Gwersyll Sain Tathan, ac yn Ysgol Haf Plaid Cymru yn y Bala y flwyddyn honno cynigiodd benderfyniad yn galw am roi safle swyddogol i’r iaith Gymraeg.  A wyddoch chi beth – fe gasglwyd 400,000 o lofnodion yn cefnogi’r cynnig hwnnw cyn i’r ail ryfel byd roi pen ar y gwaith.

Felly, fe welwch fod Gwynfor wedi cymryd ei gamau breision cyntaf yn yr hyn a ddatblygodd yn ymgyrch oes iddo – er mwyn Cymru.  Daeth yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Blaid yn genedlaethol yn 1937 ac o fewn chwe mlynedd, yn 1943 fe’i dewiswyd yn Is-Lywydd y Blaid.  Wedyn ar y 1af o Awst 1945 yng Nghynhadledd Llangollen (bum niwrnod cyn gollwng y bom ar Hiroshima) fe’i etholwyd yn Llywydd Plaid Cymru ac yntau ond yn 32 oed – a bu’n llywydd ac arweinydd am y 36 mlynedd nesaf – gan gychwyn ar ei genhadaeth fawr gydol ei oes.

Priodi, 1941 – Gwynfor a Rhiannon a’u teuluoedd (ei dad yng nghyfraith Dan Thomas ar y chwith)
Priodi, 1941 – Gwynfor a Rhiannon a’u teuluoedd (ei dad yng nghyfraith Dan Thomas ar y chwith)

Yn y cyfamser roedd e wedi priodi ei gymar oes Rhiannon ac yn byw yn Wernellyn, Llangadog ac wedi cychwyn menter busnes Tai Gerddi yno.  Rwyn hoffi ei ddisgrifiad o sut y syrthiodd e am Rhiannon.  Meddai Gwynfor yn ei lyfr Bywyd Cymro – pan alwodd e yn nhy mam a thad Rhiannon yng Nghaerdydd –

“Waeth i mi gyfaddef i’m calon golli curiad pan ddaeth Rhiannon i mewn i’r ystafell.  Pan welais hi ddeufis wedyn yng nghanol harddwch dydd o haf yn Islaw’r Dref a ffrog fach ysgafn iawn a byr amdani – roedd y boi o dref Y Barri yn ŵr colledig.”

Fe’i priodwyd ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1941, ac meddai Pennar Davies yn ei lyfr:  “Os bu’r nef erioed yn trefnu priodasau mae’n sicr iddi gael hwyl wrth lunio hon.  Ac ni ellir gorbrisio cyfraniad Rhiannon Evans at weithgarwch ei gŵr.”  Fe wna i gyfeirio at deulu’r Dalar Wen eto.

Safodd Gwynfor ei etholiad Seneddol cyntaf ym Meirionydd yn 1945.  Arwain Protest Llyn y Fan dydd Calan 1947 ac Abergeirw 1948, a’i ethol yn aelod o Bwyllgor Urdd y Graddedigion o Lys y Brifysgol ac o Gyngor yr Annibynwyr y flwyddyn honno yn ogystal ac Ysgrifennydd Cymreig y Gyngres Geltaidd a gyfarfu yn Nulyn – a chyd-annerch gydag Eamonn De Valera yng Nghaerdydd.  Mae’n rhaid bod yr edmygedd yng Nghymru yn fawr iawn ohono gan iddo fod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod genedlaethol Bae  Colwyn mor gynnar â 1947 ac yntau ond 34 oed.  Onid yw hi’n amlwg erbyn diwedd y 40’au fod Gwynfor Evans wedi sefydlu ei hun fel arweinydd cenedlaethol ac yn dderbyniol iawn gan ei bobl.

Arwain protest Abergeirw, 1948
Arwain protest Abergeirw, 1948

Etholwyd Gwynfor ar Gyngor Sir Caerfyrddin yn 1949 a bu’n Gynghorydd Sir am 25 mlynedd.  Roedd hi’n sefyllfa ddiddorol yn dilyn Etholiadau’r Cyngor Sir yn 1956.  Etholwyd 29 cynghorydd Annibynnol, 29 Cynghorydd Llafur a 2 Gynghorydd Plaid Cymru. Plaid Cymru’n dal y balans, ac yn fwy rhyfedd fyth Gwynfor Evans oedd enw y ddau gynghorydd Plaid Cymru – Gwynfor Evans y Betws, Rhydaman a Gwynfor Evans, Llangadog.  Fe aeth Gwynfor Evans y Betws a’r Cyngor Sir i’r Uchel Lys yn Llundain am nad oedd ffurflenni enwebu ar gyfer etholiad i’w cael yn Gymraeg – ac fe enillwyd yr achos a’r canlyniad pwysicaf i hyn oedd sefydlu Pwyllgor Syr Hughes Parry yn 1963 i ymchwilio i safle cyfreithiol yr iaith Gymraeg.

Yn  1949 arweiniodd Gwynfor Rali mwyaf uchelgeisiol Plaid Cymru erioed – Daeth 4,000 o bobl ynghyd i Fachynlleth er mwyn galw am Senedd i Gymru, ac yn dilyn araith Gwynfor nododd un gohebydd mai Gwynfor ac nid Aneurin Bevan a haeddai wisgo mantell areithiwr gorau Cymru.  Ralïau eraill Senedd i Gymru wedyn ym Mlaenau Ffestiniog yn 1950 ac yna’r Rali Fawr yng Nghaerdydd yn 1953 gyda chwarter miliwn o bobl wedi arwyddo deiseb i’w chyflwyno i Dŷ’r Cyffredin.  Safodd Gwynfor Etholiad Cyffredinol ym Meirionydd yn 1950, is-etholiad Aberdâr yn 1954 a Meirion eto yn 1955 a 1959.

A beth am frwydr Tryweryn?  Rali’r Bala yn 1956 –

“Nid cynt y cododd Mr Gwynfor Evans i siarad nag y cododd y miloedd yn y babell fawr i’w groesawu a rhoddi iddo gymeradwyaeth hir.”  Ac meddai Gwynfor yn ei lyfr Bywyd Cymro – “Ac eithrio’r ymgyrch dros Senedd i Gymru, Tryweryn oedd y bwysicaf o’n holl ymgyrchoedd.”  Mae arweiniad Gwynfor yn y frwydr honno wedi ei chofnodi’n fanwl a’r dirprwyaethau i Lerpwl ac yn y blaen yn ddigwyddiadau hanesyddol.  Meddai Gwynfor – “Roedd y Cymry mor unol ag y bydd cenedl byth.  Anwybyddwyd eu barn yn llwyr.  Dinoethwyd natur democratiaeth Cymru.”

Gorymdaith dros gymuned cwm Tryweryn yn Lerpwl
Gorymdaith dros gymuned cwm Tryweryn yn Lerpwl

Merch ifanc – Jennie Eirian Davies, gwraig i weinidog ym Mrynaman – a safodd am y tro cyntaf dros Blaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn yr Etholiad Seneddol yn 1955 ac eto mewn is etholiad yn 1957.  Meddai Dewi Thomas amdani yn y Gyfrol Deyrnged i Jennie Eirian –

“Ei hymroddiad diflino a’i dawn lachar hi yn y pumdegau yn fwy na dim a agorodd y drws i lwyddiant Gwynfor ym muddugoliaeth fawr Caerfyrddin yn nes ymlaen.”  Yn wir fe ddywedodd Jennie Eirian ei hun ar ol etholiad 1957 –   “Bydd y Blaid yn ennill y sedd hon o fewn 10 mlynedd.”  Fe wnaeth hynny yn 1966 – o fewn 9 mlynedd!

Ble rwy i’n mynd i ddechre dywedwch am fuddugoliaeth Gwynfor yn is-etholiad 1966?  Mae’r hanes hynny’n haeddu darlith gyflawn ar wahân. Fe gewch chi honno yn 2016 pan fyddwn ni’n dathlu 50 mlynedd y fuddugoliaeth!  Y cyfan rwyf am ddweud heno yw i’r ffaith i Gwynfor ennill y fuddugoliaeth honno newid cwrs hanes gwleidyddol Cymru am byth.  Cyhoeddodd Gwasg y Dryw record o Gwynfor yn siarad yn dilyn ei fuddugoliaeth –

“Gadewch i ni’n awr ewyllysio bywyd llawn i’n gwlad a mynnu cael sefydliad sy’n creu bywyd cyflawn.  Llywodraeth Cymreig yw’r sefydliad hanfodol.”  Dyna eiriau Gwynfor ar y record.  Ry ni wedi cael y sefydliad hwnnw bellach.  Ry ni ar y ffordd i Lywodraeth gyflawn Gymreig sef gweledigaeth lawn Gwynfor.

Gwynfor yn mynd mewn i Dŷ’r Cyffredin, 1966
Gwynfor yn mynd mewn i Dŷ’r Cyffredin, 1966

Ond, meddyliwch amdano yn mynd i ffau’r llewod yn Llundain ac i Dŷ’r Cyffredin –

“Wrth fy nhywys trwy’r ystafelloedd tê, cyfeiriodd Emrys Hughes at y bwrdd Cymreig – ‘I wouldn’t sit there if I were you’, meddai, ‘Your name is mud there.’  Ai Goronwy Roberts heibio yn y coridor heb edrych arnaf.  Mae’n anodd i neb gofio neu ddychmygu’n awr pa mor fileinig y bu George Thomas. Roedd hwnnw’n aruthr yn ei wrth Gymreictod ac yn filain…  Ef oedd arswyd cenedlaetholdeb Cymreig a’r iaith Gymraeg.”

Dyna’r lle yr aeth Gwynfor iddo, ond fe fanteisiodd e ar y sefydliad ymerodraethol hwnnw ar bob cyfle i frwydro tros Gymru ac i alw am hunan-lywodraeth.  Pethe fel hyn –

Gyda chymorth y Grŵp Ymchwil, daeth i’r casgliad mai’r dacteg orau fyddai iddo ymladd rhyfel guerrilla a gofyn cwestiynau dirifedi ynghylch cyflwr Cymru.  Byddai cwestiynau Gwynfor yn gyrru’r gwasanaeth sifil yn wallgo bost: erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf roedd e wedi gofyn dros 600 o gwestiynau a chyhoeddwyd pob cwestiwn a’r atebion ar ffurff tair cyfrol – Llyfrau Du Caerfyrddin.  Yna gosod achos Plaid Cymru ger bron y Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad yn 1969.

Colli Caerfyrddin wedyn yn 1970 – dilyn yr Arwisgo, gweithredu Cymdeithas yr Iaith a’r FWA (os oedd sut beth yn bod!).  Colli wedyn o 3 pleidlais ym

Mawrth 1974  a chael buddugoliaeth ysgubol wedyn yn Hydref 1974.  Am hanner awr wedi tri’r bore roedd 3,000 ar Sgwar Nott i glywed y canlyniad a bod Gwynfor wedi cael 23,325 o bleidleisiau.  Hon oedd yr unig sedd i Llafur golli’r noson honno ar draws y Deyrnas Unedig.  Nôl i Lundain unwaith eto ond gyda’r ddau Ddafydd erbyn hyn!  Yn aml byddai ei ddiwrnod gwaith yn dechrau am naw o’r gloch y bore ac yn ymestyn hyd oriau mân y diwrnod canlynol.

San Steffan – gyda’i gyd Aelodau Seneddol Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas
San Steffan – gyda’i gyd Aelodau Seneddol Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas

Faint sy’n gwir sylweddoli i’r cyfnod hwn fod yn allweddol i symud y ddadl ymlaen am Gynulliad i Gymru a’r Alban?   Pam?  Roedd tri cenedlaetholwr o Gymru yn y Senedd yn ogystal a saith o’r SNP o’r Alban.  Dim ond tri o fwyafrif oedd gan y Llywodraeth dros y pleidiau eraill.  Meddai Gwynfor – “Dyna’r sefyllfa wleidyddol mwyaf obeithiol y bum i ynddi erioed,” a gorfodwyd y Llywodraeth i ildio i’r symudiad tuag at sefydlu Cynulliad i Gymru a’r Alban  – a dyna gychwyn ar y daith anodd a hir honno sydd wedi ei chyrraedd bellach, yn fwy o lawer yn yr Alban nac yng Nghymru!

Fe drefnodd y Blaid Lafur y math o ofynion gyda’r Refferendwm am Gynulliad i Gymru a’r Alban fel roedd hi’n amhosibl i’r bleidlais Ie i ennill. Fe gofiwn am Neil Kinnock ac eraill o fewn y Blaid Lafur yn ymgyrchu’n gryf yn erbyn polisi eu plaid eu hunain a chael tragwyddol heol i wneud hynny.  Y canlyniad oedd Na i Gynulliad yng Nghymru yn 1979.   Rhys Ifans sy’n dweud eto –

“Bu llawer tro ar fyd yng ngyrfa Gwynfor, ond hon oedd yr ergyd drymaf. Iddo fe roedd y refferendwm yn bleidlais ar gwestiwn ysbrydol a dirfodol ynghylch bodolaeth Cymru.  Torrodd Gwynfor ei galon  a chyfaddefodd na wyddai beth a godai fwyaf o gyfog arno – gwaseidd-dra a thaeogrwydd y Cymry neu dwyll a llygredd y Blaid Lafur.”

Collodd yr Etholiad Cyffredinol a ddilynodd y Refferendwm oherwydd cyhoeddi arolwg barn y BBC ychydig  ddiwrnodau cyn yr etholiad a oedd yn dweud mai trydydd gwael fyddai Gwynfor.  Yn fy marn bersonol i roedd hyn i gyd wedi ei drefnu gan ‘y sefydliad’ i geisio cael gwared â Gwynfor o Dŷ’r Cyffredin. Yn wir, cyfaddefodd y BBC yn dilyn arolwg manwl i’r cwmni a gariodd allan yr arolwg barn eu bod yn ‘anerbyniol bell ohoni’!

Ymateb Gwynfor oedd – pe bai e wedi ennill yr etholiad hwnnw, gyda’i iechyd mor symol ar y pryd, fydde fe ddim yn dal ar dir y byw!  Ac yna yn 1981 ar ol 36 o flynyddoedd fel Llywydd Plaid Cymru fe roddodd Gwynfor y gorau iddi yn y Gynhadledd yma yng Nghaerfyrddin.

Dyna ichi ddarlun cyflym iawn o waith a dylanwad Gwynfor yn wleidyddol.

Oedd, roedd y dylanwad hwnnw’n fawr iawn a fydde ni fyth lle’r un ni heddi heb fod Gwynfor wedi cyflawni cymaint. Mae ei lwyddiant gwleidyddol yn cael ei gydnabod bellach gan bawb.  Gŵr arbennig iawn iawn.

Ond yr hyn sy’n rhyfedd am y gŵr hwn yw ei fod wedi cyflawni cymaint mwy ochr yn ochr neu yn wir ar wahân i’w yrfa wleidyddol.  A’r hyn rwy am geisio ei wneud nawr yw rhoi blas yn unig ichi, a’ch atgoffa o’r gwaith arloesol ac aruthrol arall  a wnaeth e.

A ble rwyn dechre dwedwch?

Rhai o lyfrau niferus Gwynfor
Rhai o lyfrau niferus Gwynfor

YR HANESYDD

 

Fydde Gwynfor yn dechrau pob araith  yn ddieithriad bron gyda gwers hanes. Sdim ots ble bydde fe, sdim ots beth fydde’r achlysur roedd Hanes Cymru yn rhan o’i neges.  Roedd e’n credu bod hi’n bwysig iawn iawn ein bod ni fel pobl yn dod i wybod ein hanes.  Ymgyrchodd am ddysgu Hanes Cymru yn ein hysgolion – mewn cyfnod pan oedd dim bron o hynny’n digwydd, ac fe aeth e ati i ysgrifennu a chyhoeddi llyfrau ac fe bwysodd ar eraill i wneud hynny hefyd – “Nod Gwynfor drwy gydol ei oes oedd deffro’r ymwybod cenedlaethol trwy drwytho pobl yn hanes Cymru ac adfer cof ei phobl a chryfhau eu hewyllys i fyw.” (Dr Geraint Jenkins)

Ysgrifennodd glasuron hanesyddol –Hanes Cymru/ History of  Wales, trwy’r South Wales Echo.  Yna, Aros Mae,  a Seiri Cenedl a Land of My Fathers.

Meddyliwch iddo fynd ati ar ddydd Nadolig 1970 i ysgrifennu’r ddwy ddalen gyntaf o nodiadau Aros Mae!  Roedd e ar werth ymhen 7 mis a gwerthwyd yr argraffiad cyntaf o 5,000 yn bur gyflym ac yna ail argraffiad buan.  Fe aeth Elin Garlick i’w gyfieithu i’r Saesneg a’i alw’n Land of My Fathers. Ail argraffwyd deirgwaith wedyn ac fe ddywedodd y cyhoeddwyr Tŷ John Penry – “hwn yw’n gwerthwr gorau ni o bob llyfr a gyhoeddwyd.”

Ond ei glasur arall hanesyddol yw Seiri Cenedl  sef portreadau a hanes 65 o wŷr a gwaragedd a gyfrannodd mewn gwahanol ffyrdd at adeiladu a chynnal ein cenedl.  Meddyliwch am yr holl waith ymchwil sydd ynghlwm wrth ysgrifennu llyfrau hanes a phenodau am bobl – a’r ffeithiau yn hollol gywir!

Fe wnes i gyfeirio ar y dechrau at Gwynfor fel awdur hynod o doreithiog – awdur rhyw 30 o lyfrau i gyd – yn ogystal â phamffledi a’r taflenni a’r erthyglau wedyn – diderfyn – yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Fe soniodd e wrtha i unwaith bod hi’n fwriad ganddo i ysgrifennu un llyfr arall yn dilyn ei holl deithio ar hyd ei oes trwy Gymru – sef llyfr ar Siopau Chips Cymru gan ei fod wedi bwyta mewn cymaint ohonyn nhw ar ei deithiau!!

Y CRISTION A’R HEDDYCHWR

Fe glywson ni’r Parchedig Beti Wyn James a Mererid Hopwood yn crynhoi pwysigrwydd a chyfraniad Gwynfor yn y ddau faes hwn yn y gwasanaeth coffa a gynhaliwyd yng Nghapel y Priordy bnawn Sul Medi’r 2il. Felly, wna i eto ond nodi rhai o’r prif ffeithiau.

Bu’n athro Ysgol Sul  ar bobl ifainc yn ei gapel Providence Llangadog am flynyddoedd lawer, a’r hyn sy’n arbennig oedd hyn – ble bynnag yr oedd Gwynfor ar y nos Sadwrn – bron yn ddieithriad byddai’n dychwelyd ar gyfer ei ddosbarth Ysgol Sul y diwrnod wedyn.  Darllenwch bennod gyfan am Gwynfor y Cristion a phennod gyfan am Gwynfor yr Heddychwr yn llyfr Pennar Davies – maent yn rhoi darlun manwl a chyflawn i ni o ddyfnder ffydd a meddwl y dyn.

Amddiffyn tir Cymru – yn llwyddiannus – Trawsfynnydd, 1951
Amddiffyn tir Cymru – yn llwyddiannus – Trawsfynnydd, 1951

Magwyd ef ar aelwyd Gristnogol yn y Barri a’i dadcu’r Parchedig Ben Evans yn weinidog cyntaf Capel y Tabernacl.  Roedd ei wncwl Idris (brawd ei dad) yn weinidog hefyd ac yn bregethwr o’r radd flaenaf.  Daeth Gwynfor yn  Gadeirydd Undeb Eglwysi yr Annibynnwyr Cymraeg pan ond yn ddeugain a dwy oed.  Ni chafodd neb mor ifanc ei ethol erioed cyn hynny.  A bu Guto ei fab hefyd yn Llywydd yr Undeb yn ddiweddar.

Mae’n bwysig cofio i Gwynfor yn ei araith gyntaf ar lawr Tŷ’r Cyffredin seilio ei obaith dros Gymru ar y gwerthoedd Cristnogol yn ei hetifeddiaeth.

Ymgymerodd â nifer o swyddi yng nghyfundrefn yr Annibynnwyr hefyd a bu’n allweddol yn sefydlu Tŷ John Penry a’i weinyddiaeth.  Roedd e’n berson ymarferol yn ei Gristnogaeth.

“Rwyn heddychwr yn gyntaf a chenedlaetholwr wedyn” oedd geiriau Gwynfor ac fe gafodd ryddhad diamod pan fu ger bron Tribiwnlys milwrol yng Nghaerfyrddin yn 1940.  Ac yn dilyn ysgrifennu ei erthygl gyntaf ynglŷn â San Tathan yn 1937 fe ddaeth o dan ddylanwad ei arwr mawr George M LL Davies, gan ddod yn Ysgrifennydd  Mudiad Heddychwyr Cymru ac yng ngofal y babell yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938.  Trwy ei oes bu’n arwain protestiadau a siarad mewn Ralïau Heddwch – Rali Abertawe 1940, Rali Fawr Epynt lle y trowyd 400 o bobl allan o’u cartrefi, Rali Abergeirw 1948 a’r llun enwog o Rali Trawsfynydd yn 1951 – rhain i gyd yn erbyn y Swyddfa Ryfel yn cymryd tiroedd Cymru.

Bu Cymdeithas y Cymod yn ddyledus iawn iddo am ei gymorth a’i arweiniad ac fe gyhoeddodd Gwynfor nifer o lyfrynnau a phamffledi fel They Cry Wolf a Wales Against Conscription.  Yna, yn 1973, cyflwynodd ei ddarlith enwog yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd – Cenedlaetholdeb Di-Drais.  Bu yr un mor gefnogol i Fudiad CND hefyd ac fe siaradodd yn gryf iawn dro ar ôl tro yn erbyn y rhyfel yn Fietnam ac fe’i cynigiodd ei hun fel tarian ddynol yn Hanoi yn 1968 – ond fe wrthodwyd mynediad i’r grŵp – ond roedd y weithred yn nodweddiadaol o ŵr na allai sefyll a gwylio’r fath laddfa.  Ac meddai Dafydd Elis Thomas amdano yn un o gylchlythyron Cymdeithas y Cymod:

“Ganwyd yr enaid mawr hwn yn y ganrif fwyaf treisgar yn hanes y byd.  Yn nhywyllwch yr ugeinfed ganrif ryfelgar a threisgar bu ei fywyd yn olau.”

BRWYDRO DROS YR IAITH

Fe fuodd Gwynfor yn allweddol yn yr ymgyrch i sicrhau Radio i Gymru ac yn 1939 dilëodd y BBC raglenni Cymru yn llwyr.  Yn Eisteddfod Genedlaethol Llandybie yn 1944 fe gyflwynodd Gwynfor ddarlith i lond capel ar Radio Yng Nghymru.  Cyhoeddwyd y ddarlith yn Gymraeg ac yn Saesneg ac fe wrthwyd 10,000 o gopiau ohoni!  Dadleuodd Gwynfor dros ymreolaeth ym maes darlledu, ac i dorri stori arall yn y frwydr yn fyr – fe gafwyd hynny ac fe etholwyd Gwynfor yn aelod  o Bwyllgor Ymgynghorol Cymreig y BBC yn 1946.

Bu’n frwydr hir ond fe sicrhawyd BBC Cymru a Radio Cymru a Radio Wales maes o law.

Buddugoliaeth – dechrau gwasanaeth teledu Cymraeg S4C, 1982
Buddugoliaeth – dechrau gwasanaeth teledu Cymraeg S4C, 1982

Gwelodd Gwynfor hefyd erbyn canol y 50’au byddai dyfodiad teledu yn peri newid chwyldroadol yn y gyfundrefn gyfathrebu a bod bygythiad mawr i’r iaith Gymraeg a’n diwylliant.  Gwthiodd Gwynfor y syniad hwnnw o deledu Cymru, ond ni chododd y llywodraeth fys bach i helpu, ac ni lwyddodd i gyflawni ei amcan.  Gwnaeth Gwynfor araith seneddol bwysig yn 1969 yn galw’n glir ar y llywodraeth i sefydlu Sianel Gymraeg ac fe wyddoch am yr ymgyrchu honno yn y 70’au.  Mae hanes yr ymgyrch i sicrhau sefydlu S4C yn un a gysylltir gyda Gwynfor a’i fwriad i ymprydio ar ôl i’r Llywodraeth Dorïaidd dorri eu gair – mae’r stori honno’n ddarlith arall wrth i ni ymhen y mis ddathlu 30 mlynedd o ddarlledu ar S4C.

A’r peth arall yr wyf am ei nodi – ar wahân i’r arweiniad di-ildio a roddodd Gwynfor i bob agwedd o’r iaith oedd ei ymgyrch am Goleg Cymraeg.  Roedd Gwynfor yn aelod o Lys y Brifysgol ac fe gynigiodd yn 1951 y dylid sefydlu Coleg Cymraeg ac fe sefydlwyd pwyllgor i ystyried hynny.  Roedd pawb yn erbyn ond Gwynfor.  Paratodd Gwynfor Femorandwm manwl i ddangos yr angen am y math hwn o goleg yng Nghymru eto yn 1953.  Ar hyd y blynyddoedd fe fu e wrthi – ymgyrch arall ganddo yn 1973 ac yna yn 1986 wrth annerch y Seremoni Raddio Gymraeg gyntaf a drefnwyd gan Undeb by Myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth.  Mawr fu ei ddycnwch a’i ddylanwad di-ildio – a bellach mae’r Coleg Cymraeg hwnnw yn bod a’i Ganolfan Weinyddol yma yng Nghaerfyrddin yn Y Llwyfan.

Y DYN TEULU

“Ni fyddai byth yn dweud wrthym ni na’n plant – ‘cer i ffwrdd. Rwyn rhy brysur’, ac ni chododd erioed fys atom i’n ceryddu.  Roedd ei amynedd gyda’r plant yn ddibendraw.”  Dyna eiriau Meinir ei ferch.  Fe symudon nhw i fyw o Wernellyn i’r Dalar Wen yn 1953 – “Anrheg priodas fy nhad oedd y Dalar Wen wedi ei gohirio am bymtheng mlynedd” meddai Gwynfor.  Roedd popeth yng ngwneuthuriad y tŷ o Gymru a Dewi Prys brawd Rhiannon a’i cynlluniodd.”

Fe gawson nhw 7 o blant ac mewn ymateb i newyddiadurwr fe ddywedodd Gwynfor mai ei hoff ddywediad Beiblaidd oedd – “Ffrwythwch ac amlhewch a llenwch y ddaear”.  Hoffai chwarae gyda’r plant – a gwisgo lan fel Anti Jini gan dwyllo’r wyrion mai hanner chwaer o America oedd hi.  Hoffai gerdded wedyn gyda’r plant, a’r hoff le oedd y Garn Goch – lle y gwasgarwyd ei lwch a lle mae’r garreg goffa iddo wrth droed y Garn honno.  Fel ei dad, roedd Gwynfor yn gerddorol hefyd a hoffai ganu’r piano. Yn ôl ei frawd Alcwyn byddai Gwynfor yn tueddu i fynd at y piano pan oedd pwysau’r byd arno, ac wrth chwarae byddai’n medru ymlacio’n hyfryd.

Fe symudodd Gwynfor a Rhiannon i Dalar Wen arall ym Mhencarreg ger Llanybydder yn haf 1984 i ymddeol.  Cynhaliwyd swper fawr ffarwelio yn Neuadd Llangadog gyda’r ardal yn talu teyrnged i ddau a wnaeth gymaint dros Gymreictod eu cymdogaeth dros gyfnod o 45 o flynyddoedd.  Pan etholwyd 17 o aelodau Plaid Cymru i’r Cynulliad cyntaf yn 1999 fe ddaethon nhw gyd i Bencarreg i weld Gwynfor a Rhiannon.  Galwodd Winnie Ewing gyda Rhodri, Cynog a Roy Llywelyn heibio hefyd.

Gwynfor a’i deulu
Gwynfor a’i deulu

Maddeuwch i mi am ddyfynu hyn o ddarn yn Saesneg, ond rwy am ei ddweud yn y gwreiddiol am ei fod yn dangos yn glir mawredd y person hwn.  Ar y diwrnod cyn i Gwynfor ddathlu ei 90 oed dyma yr ysgrifennwyd amdano yn y Western Mail.  Y pennawd oedd – ‘Pacifist giant of Welsh culture whose place in history is secured – Wales celebrates 90 years of Gwynfor’:

“Gwynfor Evans has been described as ‘one of the greatest souls of the 20th century.  Alongside Lloyd George and Aneurin Bevan he is one of the last century’s three greatest Welsh politicians.  But he arguably stands alone and ahead of them all in the measure of his influence and is one of the few people from any era recognised solely by their Christian name.

“Gwynfor’s place in history is secure, and not just through his achievements and influence but his public acclaim.  He was chosen by readers of Wales on Sunday as Millenium Icon ahead of Lloyd George and Aneurin Bevan, voted Welsh Person of the Millemium ahead of Owain Glyndŵr by readers of Y Cymro and was reader’s choice in the Western Mail’s Person of the Millenium Award.  They were popular endorsements of the greatest living Welshman of the 20th century.”

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli  2000 yr ymddangosodd Gwynfor yn gyhoeddus am y tro olaf, ac i dderbyn Gwobr Anrhydedd Cymry’r Cyfanfyd am oes o waith dros Gymru. Roedd y seremoni’n llawn emosiwn wrth i’r pafiliwn gorlawn anrhydeddu y gwr arbennig hwn.

Ac i orffen rwyf am ddyfynu’r Athro Geraint Jenkins yn ei anerchiad o werthfawrogiad yn y Gymanfa Ganu Fawr a gawson ni yng Nghapel Heol Awst i gofio am Gwynfor yn fuan ar ôl ei farw.  Dyma ddywedodd e –

“Ewch ati i ganmol ac anrhydeddu’n gyhoeddus enw Gwynfor drwy godi cofgolofn urddasol iddo.  Pa le gwell i godi cofeb urddasol nag yma yng Nghaerfyrddin, lle y profodd ei awr fawr ar 14 Gorffennaf 1966 fel y gall eich plant a phlant eich plant ddod yma i ryfeddu at un o eneidiau mawr ein cenedl.”  Ac fel y gwyddoch chi mae’r gwaith hwnnw yn awr wedi ei gychwyn gyda’r bwriad o gyflawni’r gofeb erbyn 2016 sef hanner can mlwyddiant y fuddugoliaeth fawr honno yn 1966.

Bu farw Gwynfor Richard Evans fore Iau 21 Ebrill 2005 yn 92 oed yn ei gartref yn y Dalar Wen, Pencarreg.  Dywed Rhys Ifans: “Roedd Gwynfor am ddychwelyd i’r Garn Goch, i’r pridd, daear Cymru, y ddaear a roes fod i’w weledigaeth.  Ond wrth i’w lwch ddiflannu i’r pedwar gwynt, erys y gwaddol … newidiodd Gwynfor Evans gwrs hanes Cymru.”

Ac meddai’r Dr Geraint Jenkins: “Ei fwriad oedd adeiladu cenedl rydd, gyfrifol a hyderus drwy adfer cof ei phobl a chryfhau ei hewyllys i fyw – ac fe ddylsem gofio amdano fel ‘Llusernwr y canrifoedd coll’.  Dro ar ôl tro roedd Gwynfor yno yn sefyll yn y bwlch – mae ei fywyd yn ddrych o hanes Cymru o 1940 ymlaen.  Sail bywyd Gwynfor oedd ei Gristnogaeth a’i heddychiaeth.”

A brawddegau olaf Rhys Ifans yn ei gofiant swmpus oedd: “ Ni wnaeth neb fwy na Gwynfor yn ystod yr ugeinfed ganrif.  Nid hon oedd y Gymru Gymraeg Gristnogol y breuddwydiodd Gwynfor amdani, ond Cymru yw hi o hyd.  Roedd Cymru, y genedl a garodd mor angerddol, wedi goroesi, rhag pob brad.”

Peter Hughes Griffiths