Etholiadau Seneddol Cyntaf yn Sir Fflint 1959

Ymgyrch Seneddol Cyntaf Plaid Cymru yn Sir y Fflint 1959

Philip Lloyd

1959 Nefyl WilliamsYmgeisydd Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn Sir y Fflint fu Nefyl Williams, a hynny pan gafodd y sir ei rhannu’n ddwy etholaeth: Dwyrain a Gorllewin.  Fe safodd yn 1959 yng Ngorllewin Fflint, a oedd yn ymestyn o Lanelwy yn y cefn gwlad, y Rhyl ar lan y môr a Bae Colwyn yn y gorllewin i Dreffynnon a’r Wyddgrug yn y dwyrain, ynghyd â nifer helaeth o bentrefi diwydiannol.  Yr oedd ardaloedd diwydiannol y Fflint a Glannau Dyfrdwy yn ogystal â Maelor, ardal wledig ar wahân a ffiniai’n bennaf â siroedd Caer ac Amwythig, i gyd yn etholaeth Dwyrain Fflint.

Cwrddais gyntaf gyda Nefyl ym Mis Awst 1958, pan gadeiriodd un o’r grwpiau trafod yng nghynhadledd flynyddol y Blaid yng Nghastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful.  Yn dal, ei wallt o liw arian a’i lefaredd yn feddal, fe wnaeth argraff arna’i ar unwaith wrth iddo lunio’n trafodaethau gyda sgil ac amynedd.  Ychydig y sylweddolais ar y pryd y byddwn innau o fewn wythnosau’n rhan o drefniadaeth y Blaid yn ei ardal enedigol yng ngogledd-ddwyrain Cymru.  Ym Medi, dechreuais ar fy ngyrfa ddysgu yn nhre sirol yr Wyddgrug a chyn hir fe gefais wahoddiad i fod yn aelod o Bwyllgor Rhanbarth Gorllewin Fflint.

Fel y dywedais, ymladdodd Plaid Cymru yr etholaeth honno am y tro cyntaf yn 1959.  Daeth hynny’n syndod ac yn her i ni, gan nad oedden ni wedi ystyried y Rhyl a’r Wyddgrud ayb i fod yn addawol yn wleidyddol.  Ond meddwl fel arall roedd Llywydd y Blaid Gwynfor Evans.  Daeth yntau i gyfarfod o’r Pwyllgor Rhanbarth ac awgrymu yn ei ffordd fonheddigaidd ond argyhoeddiadol ein bod yn ymladd yr etholiad nesaf.  Rhaid i mi gyfaddef mai anghredinedd hwyliog oedd fy ymateb cyntaf i.  Ond barn Gwynfor a orfu.  Rydyn ni wedi ymladd Gorllewin Fflint a’i holynydd Delyn (llai Llanelwy, y Rhyl a Phrestatyn ond yn cynnwys Fflint) byth oddi ar hynny.  A
Dwyrain Fflint o 1966 ymlaen (ac yn ddiweddarach Alun a Glannau Dyfrdwy, llai Fflint a Maelor) gyda Gwilym Hughes, fy nghyd-weithiwr yn Ysgol Glan Clwyd, y Rhyl (ysgol uwchradd Gymraeg gynta’r sir) fel yr ymgeisydd y ddau dro cyntaf.

Pwy fyddai ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru?  Cynigiodd Gwynfor enw: Richard Hall Williams,darlithydd yng Ngholeg Addysg Bellach Cei Connah.  Yn anffodus erbyn hyn wedi marw, ef fu wedyn yn gyfrifol am amaethyddiaeth yn y Swyddfa Gymreig, a daeth ei wraig Nia yn gyd-olygydd Hon, y cyfnodolyn Cymraeg i ferched, gyda Marion Arthur Jones. Y diweddar Athro Stephen J. Williams enwog a llwyddodd i amddiffyn yr hawl i’w alw felly pan wrthwynebodd y cyhoeddwyr.  Nid ‘hi’ oedd yr ystyr, fe daliodd, ond ‘y peth benywaidd’. Pwy allai ddadlau gyda’r fath academaidd o fri!

I ddychwelyd i Blaid Cymru a 1959. Penodwyd triawd i alw gyda Richard Hall Williams yn ei gartref wrth ymyl y coleg.  Arweiniodd Nefyl fel cadeirydd y Pwyllgor Rhanbarth, a Len Davies o’r Wyddgrug a minnau oedd yr aelodau eraill.  Y ddealltwriaeth glir oedd y byddai Nefyl yn dod yn ymgeisydd pe cai’r gwahoddiad ei wrthod.  Gwrthod a wnaeth, a hynny’n gyfeillgar.  Felly, gen i mae’r anrhydedd (?) o wybod mai Nefyl Williams fyddai banerwr cyntaf y Blaid yn y rhan anaddawol honno o’r wlad – a’r diolch i gyd i Gwynfor.

Cynnyrch o’r Glannau Dyfrdwy diwydiannol fu Nefyl ac fe gafodd gyflogaeth ar waith strategol yng ngwaith dur John Summers yn Shotton yn ystod yr ail ryfel byd.  Aeth ymlaen wedyn i gymhwyso yn athro, gan ddysgu celf yn Ysgol Ramadeg Alun, yr Wyddgrug.  Dysgodd ef a’i wraig Myfanwy y Gymraeg yn oedolion, a sicrhau fod ei mab Gwynfor yn derbyn addysg Gymraeg mewn sir a dorrodd dir newydd yn y maes dan arweiniad ysbrydoledig y Cyfarwyddwr Addysg Dr B. Haydn Williams.  Mae sillafiad Cymraeg ei enw cyntaf, sydd yn amlwg yn amrywiad o ‘Neville’, yn awgrymu ei gefnogaeth i’r iaith genedlaethol.  Ond pan gafodd Ysgol Maes Garmon (uwchradd, Gymraeg) ei hagor yn 1961, gwrthododd wahoddiad i gynnig am swydd Pennaeth Celf gan fynnu, gyda’i wyleidd-dra arferol ond dianghenraid,  nad oedd ei Gymraeg yn ddigon da.

Mewn cyfarfod ym Mhrestatyn i fabwysiadu Nefyl yn ymgeisydd yn ffurfiol, fe’i cyflwynwyd o’r gadair gan y Parchedig R.R. Jones fel ‘Nefyl Williams B.A’, nid o achos ei gymwysterau academaidd (nid oedd wedi graddoli) ond mewn cydnabyddiaeth o’i bersonoliaeth: y tro hwn, meddid, roedd ‘B.A.’ yn sefyll dros y geiriau bachgen annwyl’.

Canlyniad yr etholiad oedd:-

Nigel Birch (Ceidwadol) 20,446 (52.05%)

Ronald Waterhouse (Llafur) 12,925 (32.90%)

L.E. Roberts (Rhyddfrydol) 4,319 (10.99%)

Nefyl Williams (Plaid Cymru) 1,594 (4.06%)

Enwyd Nefyl ar y papur pleidleisio yn ‘E.N.C. Williams’; yr ‘E’ yn dynodi Ernest; a’r ‘C’ Coppack, enw cyffredin yng Nglannau Dyfrdwy.

Y dyddiau hynny, cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus ar adeg etholiad.  Chwaraeodd D.J. Thomas, un o hoelion wyth y Blaid a phrifathro Ysgol Hiraddug (yr ysgol gynradd ym mhentref Diserth) ran arweiniol yn yr agwedd honno o’n hymgyrch ynghyd â’n cynrychiolydd Miss Ceri Ellis.  Pennwyd amserlen ar gyfer y prif drefi, gyda theithiau’n cynnwys nifer o bentrefi bob nos.  Mynnodd D.J. y dylen ni hefyd gynnal ‘ddathliad’ ôl-etholiadol yn neuadd yr Urdd yn Niserth i longyfarch Nefyl ar ei bleidlais.

Pan gafodd y pleidleisiau eu cyfrif yn Ysgol Alun, roedd y rhai dros y Blaid Lafur mor niferus fel yr adleolwyd peth o’r lle ar gyfer papurau pleisleisio Nefyl i’r blaid honno.  ‘He’s doing jolly well’, meddai Nigel Birch yn hael wrtho’i, gan gyfeirio at yr hyn oedd yn ymddangos fel cefnogaeth gref i Blaid Cymru.  Ac ni chefais unrhyw bleser wrth gywiro’r camargraff hwnnw!

Safodd Nefyl Williams am yr ail waith yn 1964. Y canlyniad oedd:-

Nigel Birch (Ceidwadol) 18,515 (45.7%)

William H. Edwards (Llafur) 13,298 (32.8%)

D. Martin Thomas (Rhyddfrydol) 7,482 (18.5%)

Nefyl Williams (Plaid Cymru) 1,195 (3.0%)

Newydd dod i Sir y Fflint oeddwn i pan ddechreuais ddysgu yno ym Mis Medi 1958;  felly ni wyddwn yn llawn am y gwaith a wnaed gan aelodau o’r Blaid cyn hynny.  Byddai’n gamgymeriad felly i mi grybwyll rhagor o enwau.  Mewn gwirionedd, efallai na fuaswn i wedi cynorthwyo’r ymgyrch yn 1959 o gwbl.  Bu Nefyl, Ceri a minnau i gyd yn athrawon a gyflogid gan Gyngor Sir y Fflint.  Felly hefyd oedd Chris Rees, a weithiai yn Ysgol Glan Clwyd ar y pryd; fe’i rhyddhawyd i sefyll dros y Blaid yn Nwyrain Abertawe (ble enillodd 10.5% o’r bleidlais).  Roeddwn i wedi gobeithio i fod yn asiant i John Howell yn yr ymgyrch cyntaf dros y Blaid yn etholaeth Caerffili.  Ond teimlodd Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Sir y Fflint M.J. Jones (aelod o’r Blaid ers amser maith) ei bod yn annoeth i ryddhau pedwar athro o’r un blaid (dau ohonyn nhw o’r un ysgol Gymraeg amlwg).  Asiant John yn yr etholiad honno oedd y gwerthwr nwy Alf Williams, ac rwy’n cyfeirio ato fe mewn man arall ar wefan y Gymdeithas ynghylch darllediadau radio anghyfreithlon yr 1960au.

Rhobert ap Steffan 1947 – 2011

Rhobert ap Steffan

Robert ap SteffanYn oriau man dydd Mawrth yr 11eg o Ionawr collodd Cymru un o’i meibion mwyaf gwladgarol sef Rhobert ap Steffan.

Ganwyd Rhob ap Steffan yn Hove Sussex i rieni Cymreig sef y diweddar Barch Stanley a Mrs Muriel Hinton.  Cafodd ei fagu a’i addysgu yn Nhreorci Cwm Rhondda canolfan y pyllau glo a chanolfan ein brwydr oesol dros hunaniaeth gwleidyddol a diwyllianol.

Roedd yn berson afieithus, serchus a hawddgar, un a fwynheai gymdeithasu a thynnu coes ei ffrindiau a’i gydnabod niferus.  Ei bersonoliaeth gynnes a’i denodd yn naturiol at Glyn James aelod glew o Blaid Cymru ers y dyddiau cynnar.  Daeth Rhobert ac yntau yn gyfeillion oes ac ef a groesawodd Rhobert i’r Blaid.

Ymunodd a’r Blaid  yn y 60au cynnar ac oherwydd ei ysbryd gwrthryfelgar a’i ddadleuon diymwad ynglyn a iawnderau cenhedloedd i hunan benderfyniaeth, cafodd yr enw Castro ac felly y cyfeiriwyd ato’n hoffus drwy gydol ei oes.

Sbardunwyd ei agwedd wrthryfelgar tuag at wleidyddiaeth yn 1965 gan ddau ddigwyddiad allweddol – boddi pentref Capel Celyn a symyd ei thrigolion er mwyn cyflenwi diwydiant Lerpwl â dŵr Cwm Tryweryn.  Digwyddodd hyn er bod ffyrdd amgen hollol ymarferol yn bodoli i osgoi hyn ac er yr ymgyrchu brwd yn erbyn y penderfyniad a gwrthwynebiad unfrydol seneddwyr Cymreig.  Y digwyddiad arall oedd tirlithriad tomen lo ar ysgol Pantglas Aberfan yn 1966 gan ladd 116 o blant a 12 oedolyn, digwyddiad gredai Rhobert achoswyd drwy esgeulustod troseddol y Bwrdd Glo Cenedlaethol.

Yn 1966 ymwelodd â Dulyn i goffau 50 mlynedd Gwrthryfel y Pasg.  Yn 1969 cymerodd ran weithredol yn yr Ymgyrch Gwrth-arwisgo gan weld holl rwysg y pasiant yn ddathliad gweniaethol o dra- arglwyddiaeth un genedl ar genedl arall.  Roedd yn ffrind i Julian Cayo Evans ac arweinwyr eraill o Fyddin Rydd Cymru er na fu erioed yn agored gyfranog i’w gweithredoedd cudd.  Gwell oedd ganddo roi o’i sgiliau i drefnu protestiadau a  ralïau.

Blinodd ar hyn oll a’r pwysau a roddwyd arno oherwydd ei ddaliadau radical, a phenderfynodd adael y cyfan a chyflawni’r hyn fu’n uchelgais ganddo gydol ei oes sef dilyn taith y Mimosa  i’r Wladfa.  Wedi blwyddyn llawn anturiaethau ymysg y bobl leol groesawgar (un o’r anturiaethau hyn oedd cael ei gadw gan yr heddlu tra’n ffawd heglu drwy’r wlad ar amheuaeth o fod yn guerilla comiwnyddol!) dychwelodd i Gymru a’i Gymraeg yn llifeirio er iddo adael yn siaradwr uniaith Saesneg!

Ei gam nesaf oedd cymhwyso ei hun i fod yn athro ysgol.  Cafodd waith fel pennaeth Adran Gelf  yn Ysgol Gyfun Llanymddyfri a chael cryn lwyddiant.

Yng nghanol y 70au cyfarfu ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghricieth â’i wraig Marilyn a fu’n gefn iddo gydol ei oes.  Ganwyd iddynt dri o blant, Iestyn, Rhys a Sioned.

Yn ystod ei yrfa, ac wedi hynny gweithiodd yn ddiflino yn cefnogi ymgeiswyr Plaid Cymru yn lleol ac yn genedlaethol.  Safodd ei hun sawl gwaith fel ymgeisydd ar y cyngor.  Ar wahanol gyfnodau o’i fywyd bu’n gefnogol i sawl mudiad teilwng arall, yn eu mysg Y Gweriniaethwyr, Cofiwn, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Rhobert, gyda’r gymuned yn gefn iddo, fu’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r prosiect o gomisiynnu Toby a Gideon Petersen i greu cofeb mewn dur i Lywelyn ap Gruffudd Fychan sydd heddiw i’w weld ger olion Castell Llanymddyfri.  Llywelyn arweiniodd luoedd Harri’r iv ar gyfeiliorn pan oeddent a’u bryd ar ddal Owain Glyndwr.  Ei gosb oedd cael ei ddienyddio ar sgwar y dref ym modd erchyll y cyfnod o grogi, diberfeddu a chwarteru.

Yn dilyn yr un trywydd bu Rhobert yn aelod o Gymdeithas Owain Lawgoch.  Nôd y Gymdeithas oedd codi cofeb barhaol i Owain oedd yn or nai i Lywelyn ein Llyw Olaf ac a gai ei gydnabod gan Frenin Ffrainc fel Tywysog Cymru.  Wedi oes o ymladd i Frenin Ffrainc bradlofruddiwyd Owain gan Jon Lamb ar orchymyn  Rhaglyw Lloegr yn Montagne sur Gironde yn 1378.  Ceisiodd Owain hwylio i Gymru deirgawaith ond rhwystrwyd ei ymdrechion gan stormydd.  Bu’r ymgyrch i godi cofeb yn llwyddiant ac fe’i dadorchuddiwyd ger eglwys Saint-Leger ym Mortagne gan Rosemary Butler A.C.  Cadeirydd Cyngor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol yn 2003.

Heb os bu cyfraniad Rhobert i achos Cymreigtod o fewn Plaid Cymru a thu allan yn amrywiol, a bron yn amhosibl eu rhestru.  Bu’n ganfaswr gwerthfawr i Adam Price A.S. ac i Rhodri Glyn A.C. a chyfranodd lawer i wleidyddiaeth ward Llangadog ,ble safodd ddwywaith fel ymgeisydd.  Rhobert oedd un o brif drefnwyr yr ymgyrch i annog pobl i anwybyddu ffurflenni censws 2001 gan nad oeddent yn cynnwys unrhyw flwch ar gyfer cenedlaetholdeb Gymreig.  Teithiodd Rhobert a’i wladgarwyr pybyr hyd a lled Cymru yn annog pobl i roi eu ffurflenni mewn arch i’w claddu “unrhywle” ar ôl eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol.  Cafodd nifer o ffurflenni eu gwthio i’r arch ond ni erlidiwyd neb, ac yn censws 2011 ymddangosodd y blwch “Cenedlaetholdeb Cymreig” canlyniad yr ymgyrchu-efallai.

Wedi ymddeol cymerodd Rhobert ran bwysig yn sefydlu y cylchgrawn Cambria ac fe’i apwyntiwyd yn olygydd rhydd a chyda Henry Jones Davies, oedd ar y pryd yn olygydd a sylfaenydd y cylchgrawn y daeth y syniad o sefydlu gorymdaith Gwyl Ddewi yng Nghaerdydd.  Mae’r orymdaith erbyn hyn wedi tyfu gyda chynrychiolwyr o wledydd Celtaidd eraill yn cymeryd rhan.  Mae’n cystadlu’n ffafriol a Gorymdaith Padrig Sant yn Nulyn.

Gydol ei fywyd gwleidyddol bu gan Rhobert ddiddordeb mawr ym materion y gwledydd Celtaidd.   Ymwelodd yn aml â Llydaw, Cernyw ac Ynysoedd yr Alban, ble siaredid y Gaeleg, a chadwodd gysylltiadau diwylliannol a hwy.  Roedd a’i fryd ar ddychwelyd i’r Wladfa, ac yn 2008 gwireddwyd ei freuddwyd.  Trefnodd Mencap Cymru daith gerdded noddedig drwy Dde’r Andes i godi arian i’r elusen.  Roedd rhaid i bawb a gymerai ran godi fan leiaf £3,500 ond cododd Rhobert bron i £10,000.  Wedi’r daith arhosodd Rhobert yno a chyflwynodd Wyddioniadur Cymru oedd newydd ei gyhoeddi i lyfrgelloedd ac ysgolion fel rhodd i ddangos ei  ddiolchgarwch i bobl y Wladfa am ddysgu Cymraeg iddo.  Fel hyn y’i dyfynwyd ym mhapur lleol Caerfyrddin.

“Byddaf yno fel llys gennad answyddogol a byddaf yn ymdrechu i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y Wladfa a’r Hen Wlad.  Treuliais flwyddyn yn Y Wladfa.  Gweithiais  ar Estancia fawr (ranch) ger Trefelin wrth droed yr Andes yng Nghwm Hyfryd ac o fewn ychydig fisoedd  r’on i’n siarad Cymraeg  – doedd dim dewis gen i, doedd neb yn siarad Saesneg!”

Hyd 2010, ni chollodd Rhobert unwaith, mewn 40 mlynedd y cofio blynyddol ar Ragfyr 11ed yng Nghilmeri am farwolaeth ein tywysog olaf  Llewelyn ap Gruffudd laddwyd gan luoedd Saesnig.

Roedd yn amlwg bod rhywbeth mawr o’i le pan  na throdd i fyny yn 2010. Fe, o bawb  oedd wedi gwneud cymaint i drefnu’r rali dros y blynyddoedd. Yr hyn na wyddai’r rhai  oedd wedi ymgynull ar y diwrnod arbennig hwn oedd bod Rhob wedi cael gwybod ei fod yn dioddef o fath ffyrnig o ganser ac mai mis yn unig oedd ganddo i fyw.

Cadw le i ni wrth y bar yn Nhir na Nôg Castro…. Mae colled fawr ar dy  ôl.

John Page a Gareth ap Siôn

Cofeb Rhobert ap Steffan
“Rhobert, gyda’r gymuned yn gefn iddo, fu’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r prosiect o gomisiynnu Toby a Gideon Petersen i greu cofeb mewn dur i Llywelyn ap Gruffudd Fychan sydd heddiw i’w weld ger olion Castell Llanymddyfri.  “

John Page a Robert ap Steffan

gareth ap Sion a Robert ap Steffan

Hanes Plaid Cymru