Ann Collins 1941 – 2013

Ann Collins

19 41 — 2013

Bu farw Ann Collins cyn faeres Cyngor Sir Bwrdeistref Caerffili yn ei chartref.

Talwyd teyrnged I Ann gan Lindsey Whittle fu’n gydweithiwr ag Ann yn Ward Penyrheol.

Meddai Lindsey Whittle amdani “roedd Ann yn ffrind Annwyl a weithiodd yn ddiflino dros y gymuned y bu mor falch o’i chynyrchioli ers 1985.

Roedd pawb yn hoff ohoni a bu’r newyddion o’I marwolaeth yn gryn ergyd i Ysgol Gynradd Cwm Ifor ble bu Ann yn gyn Gadeirydd y Llywodraethwyr

Roedd Ann hefyd yn gadeirydd pwyllgor Achub y Plant yng Nghaerffili ac ar fin trefnu cyngerdd mawreddog I godi arian I ddathlu 60 mlwyddiant y sefydliad. Bu’n gefnogol I’r elusen ers 1969 a chymerodd y gaderyddiaeth llynedd.

Meddai Lindsey “Byddaf yn gweld ei cholli’n fawr ac mae fy meddwl gyda’r teulu ar yr amser anodd hwn. Roedd Ann yn berson rhyfeddol.

Dywedodd Colin Mann arweinydd grwp Plaid Cymru ar y Cyngor. “Roedd Ann yn berson hyfryd oedd yn trin pawb fel ffrind. Roedd hi gydweithiwr gwerthfawr iawn ac roedd parch mawr iddi gan oll o’r aelodau etholedig a swyddogion yn y Cyngor.

Gwasanaethodd ei chymuned dros nifer o flynyddoedd ac mae’r parch oedd iddi yn ei chymuned yn amlygu ei hun yn y ffaith iddi gael ei hail-ethol dro ar ol tro I gynrychioli trigolion Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn.

Roedd Ann yn gefnogwr brwd o Undeb Credyd Plaid Cymru ac yn aelod ffyddlon o Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.

Gwnaeth Ann waith cymeradwy yn cynrychioli y Fwrdeistref Sirol yn ystod y dyddiau y bu’n faeres ac is Faer. Bydd colled fawr ar ei hol, gan ei chyd bleidwyr ei ffrindiau lluosog yng Nghymdeithas Gefeillio Caerffili a’r Fro yma ac yn Llydaw ac ymysg y rhai mewn sawl Cymdeithas y bu’n aelod ohoni dros y blynyddoedd.

Mae’n gadael mab, John. Roedd ei ddiweddar wr Cyril hefyd yn gynghorydd gyda Phlaid Cymru a c mae ei chwaer Margaret Sargent yn cynrychioli Ward Penyrheol ar y cyngor.

Anthony Packer 1940 – 2014

Anthony PackerCOFIO LLYSGENNAD O BENARTH A GREODD GYSYLLTIADAU RHWNG CYMRU A LITHWANIA

Rhoddwyd teyrngedau i aelod hirdymor o Blaid Cymru oedd yn Gonswl Mygedol Lithwania yng Nghymru.

Bu farw Anthony Packer, 74 oed, o Salisbury Avenue, Penarth, ar ôl brwydr yn erbyn canser y brostad yn Hosbis Marie Curie Caerdydd a’r Fro.  Daeth tyrfa fawr i Eglwys Sant Joseff ar gyfer offeren i’r meirw ble clywodd y gynulleidfa am ei gyflawniadau lluosog, gan gynnwys nifer o straeon doniol.

Gŵr o gampau academaidd niferus, dyn teulu cariadus a storïwr o fri, roedd ganddo lu o ffrindiau a chysylltiadau.  Roedd yn gymdeithasgar, hapus i gynnal sgwrs a hoff o ddadleu bod gwyn yn ddu, gyda golwg direidus yn ei lygad.

Un o’i brif gampau oedd creu cysylltiadau rhwng Cymru a Lithwania, wrth helpu sicrhau hunaniaeth ryngwladol i Gymru yn Ewrop.  Credai y gallai hybu achos Cymru drwy geisio cydnabyddiaeth o Gymru, ei hiaith, ei diwylliant a’i nodweddion ac fel lle i wneud busnes ar lefel rhyngwladol.  Yn benodol fe geisiodd ddatblygu cysylltiadau clos rhwng Cymru a’r gwledydd Baltaidd, ac fe oedd un o sylfaenwyr y Gymdeithas Faltaidd yng Nghymru yn 1991.

Chwe wythnos cyn datganiad unochrog Lithwania, arweiniodd ddirprwyaeth i’r wlad (ac eto yn 1993) i helpu’r awdurdodau ddatblygu system addysg a sefydliadau eraill yn rhydd o ddylanwad Sofietaidd.

Er bod y wlad yn dal dan reolaeth Moscow, ymwelodd â phencadlys Sajudis, y mudiad dros Lithwania annibynnol, gyda neges o gefnogaeth gan Blaid Cymru, nodyn syml o gefnogaeth a chydymdeimlad ag amcanion y mudiad, yr un cyntaf felly gan unrhyw blaid wleidyddol Brydeinig.

Y weithred herfeiddiol honno arweiniodd at gyfarfod a chyfeillgarwch nes ymlaen gyda Vytautas Landsbergis, Arlywydd cyntaf Lithwania annibynnol.  Yn ystod ei amser yn Gonswl Mygedol, fe greodd gysylltiadau cryf rhwng prifysgolion yng Nghymru a Lithwania yn ogystal â threfnu ymweliad â Chymru gan Vytautas Landsbergis.

Perswadiodd Landsbergis i gyhoeddi ei hunangofiant, gan helpu ei gyfieithu, golygu a’i gyhoeddi.  Yn ddiweddar derbyniodd Urdd y Seren Ddiplomataidd, gwobr uchaf Gwasanaeth Diplomataidd Lithwania, mewn cydnabyddiaeth o’i waith.

Ganwyd Anthony Packer yng Nghaerllion yn 1939 a’i fagu yn Hengoed.  Cafodd ei addysg mewn ysgolion gramadeg ym Mhengam a’r Barri cyn astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd (Hanes), Coleg Cuddesdon, Rhydychen (Diwinyddiaeth), Ysgol Economeg Llundain (Gweinyddiaeth Gymdeithasol) a Phrifysgol Lerpwl (Gwaith Cymdeithasol Seiciatryddol).

Dechreuodd ei yrfa yn Llundain yn athro cyn dod yn weithiwr cymdeithasol seiciatryddol mewn ysbytai lleol.  Nes ymlaen fe ddaeth yn Brif Weinyddwr Cymdeithas Lles teuluoedd ac yn Brif Hyfforddwr mewn cwnsela plant yn sefydliad byd-enwog Clinig Tavistock yn Llundain.

Dymunodd ddychwelyd i Gymru gyda’i wraig Ann a’u tri o blant (pedwar wedyn) a daeth yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd.  Ar y dechrau fe rannodd ei amser rhwng yr Adran Gwaith Cymdeithasol a’r Adran Addysg cyn symud   ymlaen i weithio’n llawn-amser i’r Adran Addysg o 1984 nes iddo ymddeol yn 2001.  Dysgodd Gymraeg iddo’i hun gan helpu hyrwyddo ei defnydd mewn addysg a gwaith cymdeithasol ledled Cymru.

Bu am bedair blynedd yn gyd-olygydd y cyfnodolyn academaidd, y Cylchgrawn Addysg Gymreig, ac am ddwy flynedd yn gadeirydd Adran Economeg a Chymdeithaseg gydag Urdd Graddedigion Cymru.

Gwasanaethai Anthony yn Drysorydd Bord Gron Ryngwladol dros Hyrwyddo Cwnsela (IAC-IRTAC) o 1983 i 1992.  Bu hefyd yn ymddiriedolwr Canolfan Cymru dros Faterion Rhyngwladol a Thrysorydd a Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig yng Nghymru.  Ef hefyd a gynrychiolodd Esgob Catholig Caerdydd ar bwyllgor llywio Fforwm 3 Ffydd y Deyrnas Gyfun.

Bu’n Llywydd Cymdeithas Gonsylaidd dros Gymru a’i hysgrifennydd am chwe blynedd, gan lywyddu dros ehangiad sylweddol a hyrwyddo’i hamcanion o hybu busnes a chysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a’r gwledydd a gynrychiolid gan ei 29 aelod.

Goroesir Anthony Packer gan ei wraig Ann, ei fam, Gleeda, ei blant Rhiannon, David, Cerian a Tomos, merched-yng-nghyfraith Frida a Sasha, meibion-yng-nghyfraith Tony a Geraint, a’i wyrion Kajsa, Oliver, Tomos, Elis, Alys, Annest, William a Steffan.

Hanes Plaid Cymru