Gweithgareddau’r Gymdeithas

Gwybodaeth am y Gymdeithas

CYMDEITHAS HANES PLAID CYMRU HISTORY SOCIETY

Amcanion y Gymdeithas

I hybu trafodaeth, gwybodaeth ac ymchwil am hanes Plaid Cymru ac agweddau o hanes sy’n ymwneud â Phlaid Cymru. 

I ehangu gwybodaeth am bobl a digwyddiadau a gyfrannodd at ddatblygiad y Blaid

Aelodaeth

Mae aelodaeth yn agored i unigolion a mudiadau sydd â diddordeb yn hanes Plaid Cymru ac agweddau o hanes sy’n ymwneud â Phlaid Cymru.

Swyddogion y Gymdeithas

Cadeirydd; Dafydd Williams,Ysgrifennydd; Eluned Bush,Trysorydd; Stephen Thomas  

http://www.hanesplaidcymru.org

Mae gwefan Hanes Plaid Cymru bellach yn darparu’r allwedd i gyfoeth o ddeunydd gweledol, sain ac ysgrifenedig am ein mudiad cenedlaethol     

 

  • Rydym i gyd yn rhan o hanes y Blaid. Hoffech chwi rannu eich profiadau gydag aelodau eraill a’u cofnodi ar gyfer ymchwilwyr y dyfodol?

 Os felly, cysylltwch â’r Ysgrifennydd ar history@hanesplaidcymru.org

  • Oes gennych chwi gyhoeddiadau nad ydych yn gallu cadw ond yn eu hystyried o werth?

 Mae adran ar wefan y Gymdeithas gyda chyngor ar beth i’w wneud â nhw.

  • Hoffech chi ddarllen/gwrando ar rai o’r digwyddiadau mae’r Gymdeithas wedi eu trefnu yn y gorffennol nad oeddech chi’n eu mynychu?

Mae holl ddigwyddiadau’r Gymdeithas yn cael eu cofnodi, eu trawsgrifio a’u cyfieithu a’u cofnodi ar wefan y Gymdeithas

  • Hoffech chi fod yn rhan o gynllunio gweithgareddau’r Gymdeithas yn y dyfodol? Bydd canmlwyddiant y Blaid yn 2025, yn amser da i helpu gyda’r gwaith o gofnodi digwyddiadau pwysig yn eich milltir sgwâr.

Os felly, beth am ymuno â’r Gymdeithas am £10 y flwyddyn fel unigolyn, neu £20 yn flynyddol i Ganghennau neu Etholaethau. Cysylltwch gyda’r Trysorydd  (stephenv.thomas@btinternet.com ) am sut i dalu.

 

Darlith Richard Wyn Jones yn Eisteddfod 2024

O Gymru Fydd i Blaid Cymru
 
 
Ym Mhabell y Cymdeithasau 2, Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, Pontypridd ar Ddydd Iau, 8 Awst rhoddwyd darlith gan yr Athro Richard Wyn Jones. 
 
Ar drothwy canfed penblwydd Plaid Cymru, bu’n ystyried y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng y Blaid a’r mudiad cenedlaethol a’i rhagflaenydd, sef Cymru Fydd.
 
Dyma recordiad o’r ddarlith a’r trawsysgrif isod.
 
 

 

Darlith Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, Eisteddfod Pontypridd 2024

O Cymru Fydd i Blaid Cymru

Richard Wyn Jones

Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

Yn gyntaf, diolch i Gymdeithas Hanes Plaid Cymru am y gwahoddiad i draddodi’r ddarlith hon, i Eluned Bush am drefnu’r cyfan mor effeithiol, ac wrth gwrs i chithau’n gynulleidfa hefyd am droi mewn i Babell y Cymdeithasau!

***

Fe gefais gyngor rhywdro na ddylai rywun fyth gychwyn darlith neu araith gyhoeddus hefo ymddiheuriad neu esgus. Gwell bwrw iddi’n hyderus pa bynnag mor dennau’r deunydd sydd ar fin cael ei draethu…! Mae’n siwr gennai fod hynny’n gyngor doeth. Serch hynny, yn yr achos bresenol, dwi’n meddwl ei bod y briodol fy mod yn ei anwybyddu.

Da chi’n gweld, fy mwriad gwreiddiol oedd treulio’r rhan fwyaf o fisoedd Mehefin a Gorffennaf yn ymchwilio ar gyfer ac wedyn yn ysgrifennu’r ddarlith hon. Hynny fel y cam cyntaf yn y broses o ysgrifennu llyfr newydd. Ysywaeth, fe benderfynodd Mr Sunak mai nid felly yr oedd hi i fod. Ac a bod yn onest, ddaru Mr Gething ddim helpu chwaith, naddo!?

Felly’r gwir amdani yw fy mod wedi gallu treulio llawer iawn yn llai o amser yn darllen a meddwl a sgwennu’r canlynol nag a fwriedais. O ganlyniad, blas ar y ddadl yr wyf am geisio ei datblygu fydd hon yn hytrach na’r ddadl yn ei chyfanrwydd. Serch hynny, gobeithio y bydd yma rywbeth yma a fydd o ddiddordeb ac yn ddigon i godi eich harchwaeth am fwy…

***

Gadewch i mi ddechrau hefo dipyn o’r cyd-destun… Fel yr awgrymais, fe fydd y ddarlith hon yn garreg lamu ar gyfer sgwennu pennod mewn llyfr newydd. Dyma lyfr fydd yn cwblhau trioleg o gyfrolau sy’n trafod gwahanol agweddau ar syniadaeth Plaid Cymru. (Gyda llaw, Gwasg Prifysgol Cymru fydd wedi cyhoeddi’r cyfan, a fel rhywun sydd wedi cyhoeddi hefo gweisg academaidd uchel-eu-statws yn Lloegr a’r Unol Daleithiau, fe garwn i danlinellu pa mor ffodus ydan ni’n cael gwasg sy’n well na’r cyfan-oll ohonynt yma yng Nghymru…)

Fe gyhoeddwyd y cyntaf o’r dair, Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru, Cyfrol 1, yn ôl yn 2007, a bydd cyfieithiad Saesneg yn ymddangos o’r wasg ym mis Hydref eleni – o’r diwedd!!! Fe gyhoeddwyd yr ail, Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru: Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth yn 2013, gyda cyfieithiad Saesneg yn ymddangos y flwyddyn ganlynol. Erbyn hyn, dyma fi o’r diwedd yn gweithio o ddifrif ar drydedd a’r olaf, sef Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru, Cyfrol 2.

Fy mwriad yw cychwyn y drydedd llyfr yn y drioleg – Cyfrol Dau! – hefo cymhariaeth o Blaid Cymru a’r peth agosaf oedd ganddi fel rhagflaenydd, sef mudiad Cymru Fydd; y mudiad gwleidyddol honno a fu’n rym go iawn yn mywyd Cymru am gyfnod tua diwedd y bedwaredd ganrif-ar-bymtheg. Mudiad a gysylltir gyda enwau sy’n parhau’n enwog – weithiau’n ddrwg-enwog – fel Tom Ellis, David Lloyd George ac O.M. Edwards, ynghyd ag eraill sydd wedi eu hanghofio braidd erbyn hyn megis Beriah Gwynfe Evans, Ellis Jones Griffith a’r cwpl rhyfeddol yna, Herbert a Ruth Lewis.

Mae na sawl rheswm pam fy mod i’n ystyried fod llunio cymhariaeth o’r fath yn werth-chweil. Rwyf am nodi tair ohonynt, a hynny er na fydd cyfle i’w trafod i gyd y prynhawn yma.

  • Y lleiaf pwysig o’r rhesymau hyn o ran y llyfr ei hun, sydd yn y pendraw yn astudiaeth o Blaid Cymru nid Cymru Fydd, yw fy mod yn teimlo nad ydi ffenomenon Cymru Fydd (a bobl, fe roedd yn ffenomenon!) wedi cael ei lawn haeddiant yn y llyfrau hanes. Fel y gwelwn yn y man, mae hynny’n rhannol adlewyrchu’r ffaith fod dehongliadau a dealltwriaeth yr ail don o genedlaetholdeb Cymreig – y don a ffurfiodd ac wedyn a gynalwyd yn ei dro gan Blaid Cymru – wedi llurgunio i ryw raddau ein dealltwriaeth o’r don gyntaf o genedlaetholdeb a ymgorfforwyd ym mudiad Cymru Fydd. Mae Cymru Fydd yn haeddu ystyriaeth sydd dipyn yn fwy crwn nag y mae tueddu i’w dderbyn yn gorffenol. Yn ffodus mae gwaith lled-ddiweddar ysgolheigion megis Dewi Rowland Hughes a Hazel Walford Davies wedi dechrau gwneud hynny. Ond mae na fwy eto i’w ddweud, fe dybiaf.
  • Ar ben hynny, o ran yr astudiaeth ehangach o syniadaeth Plaid Cymru, mae Cymru Fydd a’r don gyntaf o genedlaetholdeb Cymreig yn mynnu sylw oherwydd mae deall y rhesymau pam y gwrthodwyd etifeddiaeth Cymru Fydd a Chymru Fyddiaeth gan sylfaenwyr a chefnogwyr cynharaf Plaid Cymru yn fodd i ni ddeall yn well eu credoau gwleidyddol hwythau – ac yn arbennig, fe dybiaf, tarddiad y credoau hynny.
  • Yn olaf – ac yma mae fy meddyliau ar eu mwyaf cychwynnol ac ansicr – mae genna’i syniad fod ystyried y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng Cymru Fydd a Phlaid Cymru hefyd yn fodd o fwrw goleuni ar agweddau ar wleidyddiaeth y Gymru gyfoes. Yn benodol, mae’n fodd i ni ddeall yn well y berthynas rhwng y Plaid Cymru gyfoes ac adain genedlaetholgar Gymreig y Blaid Lafur yng Nghymru.

Go brin fod yn rhaid tanlinellu pan mor ganolog y bu’r berthynas hon i ddatblygiad gwleidyddol Cymru ers deg mlynedd ar hungain a mwy. Gan fod y system bleidleisio newydd ar gyfer ein senedd genedlaethol a fydd yn cael ei chyflwyno erbyn 2026 yn gwneud llywodraethau clymblaid mwy na heb yn gwbl anochel, mae’n debyg o barhau felly. A thybed os oes yna unrhyw gymhareb well i adain gynnes-Gymreig y Blaid Lafur gyfoes na Chymru Fydd?

Fel yn achos Cymru Fydd o’u blaen, mae cefnogwyr yr adain honno o’r Blaid Lafur yn credu y gellir sicrhau seiliau sefydliadol a diwyddianol y genedl Gymreig trwy’r wladwriaeth Brydeinig ac y gall hunaniaethiau cenedlaethol Cymreig a Phrydeining nid yn unig gyd-fyw’n gyffyrddus ond hefyd gyd-gryfhau a chyd-ddyrchafu eu gilydd.

Fel Cymru Fydd, maent hefyd yn credu mai trwy ieuo’r achos cenedlaethol Gymreig at ffawd plaid fawr Brydeinig y gellir sicrhau’r buddion yma – yn eu tyb hwy, y perygl o ymneilltuo o’r gyfundrefn bleidiol Brydeinig ydi amherthnasedd a cholli’r cyfle i ddylanwadu.

Go brin y gellir gwadu chwaith, nad ydynt wedi profi llwyddiant arwyddocaol yn eu hymdrechion.

Eto fyth, fel yn achos selogion Cymru Fydd, mae cenedlaetholwyr ‘c’ fach yn Blaid Lafur hefyd wedi darganfod dro ar ôl tro mai ‘eglwysi eang’ ydi’r pleidiau mawr Prydeinig a bod rhai o’i gelynion mwyaf digymrodedd ac effeithiol yn cyd-fyw oddi mewn i’r un blaid â hwy. Wedyn, hyd yn oed a bwrw eu bod yn llwyddo i ennill eu brwydrau mewnol oddi mewn i’w plaid eu hunain, nid yw’r wladwriaeth ei hun mor hyblyg ac y maent wedi ei ddychmygu.

Beth, tybed, yw’r goblygiadau i Blaid Cymru o synio am eu ‘gelynion’ ond, ie, eu cyngrhreiriad anorfod ar adain Gymreig y Blaid Lafur, fel yr amlygiad diweddaraf o Gymru Fydd yn yr amgylchiadau gwleidyddol gwahanol iawn sy’n bodoli cant a thrideg o flynyddoedd ers fod y mudiad honno yn ei hanterth?

Dyna chi, felly, rai o’r rhesymau dros gredu ei bod hi’n werth-chweil cymharu Cymru Fydd â Phlaid Cymru’n – ac yn benodol y syniadau a fu’n gysylltiedig a hwy – yn fwy systemataidd nag a wnaed o’r blaen.

***

Yn amlwg, nid oes amser i wneud mwy na chodi cwr y llen ar hyn oll yn y ddarlith. Fel man cychwyn gadewch i ni graffu ar natur Cymru Fydd a’i syniadau cyn bwrw ati i ystyried sut yr aeth sylfaenwyr a rhai o gefnogwyr diweddarach Plaid Cymru ati i ddehongli hanes eu rhagflaenwyr.

  1. Deall Cymru Fydd

Mae cynulleidfa Eisteddfodol yn un arbennig o wybodus a rwy’n weddol sicr y bydd na fobl yn y babell hon sy’n gwybod llawer iawn (llawer iawn mwy na mi!) am hanes Cymru Fydd. Ond y tu hwnt i’r gwybodusion hynny, i’r graddau mae’r sawl sy’n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth Cymru’n ymwybodol o gwbl o’r hanes, rwy’n tybio mai’r cyfarfod a ystyrir fel y cyfarfod a arweiniodd at dranc Cymru Fydd ydi’r unig ran o’r stori fydd yn gyfarwydd. Dyma’r cyfarfod drwg-enwog o Ffederasiwn Rhyddfrydwyr De Cymru a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yn Ionawr 1896 pan safodd Robert Bird – Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Caerdydd – ar ei draed a datgan ‘There are from Swansea to Newport, thousands upon thousands of Englishmen, as true Liberals as yourselves…who will never submit to the domination of Welsh ideas.’

Efallai y bydd rhai hefyd yn gyfarwydd â ymateb Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, David Lloyd George, i’r hyn a ddigwyddodd yng Nghasnewydd. ‘A yw lliaws y genedl Gymreig’, fe daranodd, ‘yn mynd i gymryd eu harglwyddiaethu gan glymblaid o gyfalafwyr Seisnig sydd yn dyfod i Gymru, nid i ddyrchafu’r bobl, ond i wneud eu ffortiwn?’ Fe wnaf adael i John Davies (Bwlchllan) gwblhau’r hanesyn yn ei ddull dihafal ei hun:

‘Ydynt’ oedd yr ateb i’w gwestiwn rhethregol, canys er y gwelid yng Nghymru ymosodiadau ar gyfalafiaeth, nid yn enw’r genedl y câi ei herio. Bu’r cyfarfod yng Nghasnewydd yn ergyd farwol i Gymru Fydd. Cynhaliwyd rhagor o gyfarfodydd yn 1897 a 1898, ond ni pherthynai fawr o argyhoeddiad iddynt; erbyn diwedd y ganrif roedd y mudiad wedi darfod o’r tir.

Fel y seren wîb honno, digwyddodd a darfu Cymru Fydd.

Ond os mai dyna’r elfen mwyaf cyfarwydd o ddigon yn stori’r mudiad, gadewch i mi ychwanegu sawl vignette bach arall a fydd efallai’n dangos Cymru Fydd a’r don gyntaf o genedlaetholdeb Cymreig mewn golau sydd ychydig yn llai cyfarwydd:

  1. Cynhalwyd cyfarfod cyhoeddus ym Mlaenau Ffestiniog yn 1886 wedi ei threfnu gan Michael D Jones a Pan Jones gyda Michael Davitt yn anerch at bwnc yn tir. Roedd Davitt yn chwyldroadwr Gwyddelig – yn aelod o’r Irish Republican Brotherhood – a oedd eisoes wedi ei garcharu droeon gan y wladwriaeth Brydeinig ac, ar y pryd, ef oedd un o arweinwyr amlycaf yr Irish Land League. Ymysg y siaradwyr eraill roedd y twrna ifanc, David Lloyd George. Yn ôl yr hanes, yn dilyn y cyfarfod bu Davitt yn annog Lloyd George yn frwd i barhau â gyrfa wleidyddol. Ac yn wir felly y bu…

Nid dyma’r unig dro y daeth cenedlaetholwyr Cymreig y cyfnod i gysylltiad â’r ffrwd mwyaf milwriaethus oddi mewn i genedlaetholdeb Gwyddelig – ffrwd leiafrifol ar y pryd, wrth gwrs. Mae hanes arall ynglyn â T.E. Ellis yn teithio i gyfarfod cyhoeddus yn Iwerddon lle y lladdwyd rhai o’r mynychwyr gan aelodau o luoedd y goron.

  1. Union gant a thrideg o flynyddoedd yn ôl i eleni – yn 1894 – fe aeth pedwar o’r Aelodau Seneddol Rhyddfrydol Cymreig mwyaf cenedlaetholgar ‘ar streic’ fel rhan o’r hyn a elwid ar y pryd y ‘Gwrthryfel Cymreig’. Y pedwar oedd:
    • David Lloyd George;
    • Herbert Lewis, Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint;
    • A. Thomas – Aelod Seneddol Merthyr ac yn ddiweddarach Is-Iarll y Rhondda ac un o’r rheini a gyfranodd at sbaddu Cymru Fydd fel grym gwleidyddol yn rhannol oherwydd gwrthdaro personol hefo DLlG (er bod y ddau wedi cymodi’n ddiweddarach); a,
    • Frank Edwards, Aelod Seneddol Maesyfed ac yn ddiweddarach Aelod o Dŷ’r Arglwyddi.

Eu prif gŵyn oedd y ffaith fod Llywodraeth Ryddfrydol y dydd dan arweiniad yr Imperialydd rhonc, Iarll Roseberry, wedi penderfynu oedi ar fater datgysylltu’r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Am gyfnod bu’r pedwar ‘gwrthryfelwr’ yn areithio mewn cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd ac ar led Cymru ac yn ôl pob tebyg yn ennyn cefnogaeth frwd. Hynny cyn i’r gwrthryfel chwythu ei phlwc, a hynny’n rhannol, fel ellir tybio, oherwydd ymdrechion TE Ellis, a oedd erbyn hynny’n chwip Rhyddfrydol.

Go brin y ellir gwadu nad ‘datgysylltiad’ oedd y prif fater penodol-Gymreig ar yr agenda wleidyddol yng Nghymru yng nghanol y 1890au. A ninnau’n byw mewn oes sydd nid yn unig yn gwbl seciwlar ond yn un lle mae ymdrin â Chymru fel endid weinyddol wedi mynd yn fater arferol, mae’n hawdd diystyrru pa mor bell-gyrhaeddol oedd goblygiadau yr alwad hon. Hynny nid yn unig o safbwynt ysbrydol ond hefyd o ran ei harwyddocad cyfansoddiadol: o sicrhau datgysylltu’r eglwys wladol dyma arwyddo fod y Gymru a gymhathwyd mor drylwyr yn uned wahanol i Loegr wedi’r cyfan. Ond mae’n bwysig cofnodi’r ffaith mai nid dyma’r unig ddiwygiad yr oedd y don gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig yn ei deisyf….

Ceir syniad o’r agenda ehangach un o digrif-luniau a gynhwyswyd yn y nofel, Dafydd Dafis – nofel a ysgrifenwyd gan Ysgrifenydd Cyffredinol Cymru Fydd, Beriah Gwynfe Evans, a gyhoeddwyd yn 1898; nofel sydd yn ddadlenol o ran gwleidyddol y cyfnod er ei bod, ysywaeth, bron iawn a bod yn gwbl anarllenadwy. 

Yn ogystal â Datgysylltiad a Dadwaddoliad, mae’n nodi’r canlynol fel dyheuadau:

  • Diwygio deddfau claddu
  • Swyddfa Addysg i Gymru
  • Diwygio deddfau’r tir
  • Dewisiad (sef veto) lleol, ac
  • Ymreolaeth i Gymru

Fe ellid fod wedi ychwanegu ar y rhestr.

Mewn araith enwog yn y Bala yn 1890 roedd Aelod Seneddol Merionnydd, T.E. (Tom) Ellis, wedi dadlau mae’r olaf o rhain, ymreolaeth – sefydlu ‘Cymanfa Ddeddfwriaethol’ i Gymru – oedd (neu ddylai fod) y ddolen gyswllt deallusol yn cysylltu gwahanol elfennau’r rhaglen bolisi genedlaethol Gymreig. Ac yn wir, pan luniwyd y rhestr o amcanion cyntaf ar gyfer Cymru Fydd mewn cyfarfod yn Llundain tair mlynedd ynghynt (DS fel cymaint o fudiadau cenedlaethol eraill yn Ewrop y G19, roedd alltudion yn ganolog i ddatblygiad y don gyntaf o genedlaetholdeb Cymreig), fe nodwyd yn eglur:

Mai prif amcan y gymdeithas fydd sicrhau Deddfwrfa Genedlaethol, i drafod materion Cymreig.

Wrth ddarllen ysgrifau hunangofiannol Thomas Jones yn ei gyfrol, Leeks and Daffodils, fe welwn i pa mor normal oedd trafod a chefnogi hunanlywodraeth i Gymru yn y ddegawd a ddilynodd araith Ellis. Mae’n ddadlennol hefyd sylwi ar pa mor bwysig oedd dylanwad cenedlaetholdeb Gwyddelig ar gylchoedd cenedlaetholgar yng Nghymru’r 1890au. Yn ôl Jones, ‘Home Rule for Ireland was constantly under discussion…I brought and read the essays and poems of Thomas Davis.’ Roedd y sgwrs am hunanlywodraeth – ymreolaeth – Gymreig yn digwydd yn llythrennol yn gyfochrog â’r sgwrs am ymreolaeth i’r Iwerddon.

Mae arwyddocad y sylwadau yma’n cael eu tanlinellu pan gofiwn ran Jones – fel llaw-dde Lloyd George – yn y broses o ymrannu’r Iwerddon trwy Ddeddf Llywodraeth Iwerddon 1920 ac yna Cytundeb Eingl-Wyddelig 1921. Mae’n werth cofio hefyd, ar yr union adeg y cyhoeddwyd Leeks and Daffodils – sef 1942 – roedd Jones yn ganolog i’r ymdrech i geisio pardduo Plaid Cymru fel plaid a oedd yn cydymdeimlo â ffasgaeth.

  1. Yn olaf, gadewch i ni oedi am ychydig gyda Herbert Lewis. Go brin y bu gan y don gyntaf o genedlaetholdeb Cymreig ladmerydd mwy cyson ac effeithiol nag ef. Ef oedd cadeirydd cyntaf Cyngor Sir y Fflint yn 1889 cyn dyfod yn Aelod Seneddol Bwrdeistrefi’r Sir yn 1892, wedyn Sir y Fflint ei hun yn 1906 ac ar ôl hynny’n ddeilydd sedd Prifysgol Cymru yn Nhy’r Cyffredin wedi 1918. Bu’n un o sylfaenwyr yr gyfundrefn ysgolion canolradd yng Nghymru, ac yn rhinwedd ei rôl fel ysgrifennydd seneddol y Bwrdd Addysg fe chwaraeodd rhan ganolog yn llunio Deddf Addysg enwog 1918 – ‘deddf Fischer’. Yn ogystal â’r pwyslais nodweddiadol ar addysg, mae’n werth nodi fod Lewis wedi chwarae rhan ganolog – efallai y rhan ganolog – yn y broses o sicrhau fod y wladwriaeth Brydeinig yn ysgwyddo’r faich ariannol am gynnal y sefydliadau cenedlaethol Cymreig y llwyddwyd i’w creu yn y cyfnod dan sylw, ac yn arbennig y Llyfrgell a’r Amgueddfa Genedlaethol. Fel rhan o hynny, y fo a sicrhaodd y byddai’r llyfrgell yn Aberystwyth yn dyfod yn lyfrgell hawlfraint.

Roedd ei ail wraig, Ruth Herbert Lewis, yn un o brif garedigion y Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ag hefyd yn gasglwr caneuon gwerin – rhaid cyfaddef nad oeddwn i’n ymwybodol mai hi gasglodd Hwp, ha wen! / Cadi ha, Morus stowt / Dros yr uchle’n neidio / Hwp, dyna fo! / A chynffon buwch a chynffon llo / A chynffon Richard Parri go / Hwp, dyna fo!’, sef can hyfryd o wirion y bues i’n canu’n aml hefo fy mhlant i ers talwm, yn ogystal â’r carol plygain ysblennydd ‘O! Deued pob Cristion / i Fethlehem yr awron.’ Bydd rhywun wedi derbyn Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis yr wythnos hon yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.

Roedd gweddw T.E. Ellis, Annie Jane, yn yn arall o garedigion y Gymdeithas Alawon Gwerin. Fel Annie Jane Hughes Griffiths, daeth yn Llywydd Cymdeithas y Cenhedloedd yng Nghymru a hi a arweiniodd y ddirprwyaeth a fyddai’n tywys Apêl Heddwch Menywod Cymru i’r Unol Daleithiau yn 1924. Fel arwydd arall o ymrwymiad y don gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig i uchel-ddiwylliant Cymraeg – yn ogystal â diwylliant mwy gwerinol – mae’n werth atgoffa ein hunain fod T.E. Ellis ei hun wrthi’n golygu gwaith y cyfrinydd Morgan Llwyd ar gyfer ei gyhoeddi adeg ei farwolaeth annhymyg.

Mae na lawer iawn mwy y gellid ei ddweud ynglŷn â’r holl weithgaredd, y personoliaethau, a’r gwahanol syniadau oedd yn gysylltiedig â Chymru Fydd. Ond mae na dri phwynt yn carwn dynnu sylw penodol atynt i berwyl y drafodaeth bresenol.

Yn gyntaf, rhaid pwysleisio drosodd a thro fod yr holl dystiolaeth yn awgrymru fod mwyafrif llethol y Cymru Fyddwyr yn ystyried y wladwriaeth Brydeinig a Phrydeindod nid fel gelynion i Cymru a Chymreictod, ond yn hytrach – o’u diwygio briodol – fel y moddion ar gyfer sicrhau a dyrchafu dyheuadau cenedlaethol Cymru. Noder fod hynny hynny’n wir hyd yn oed cyn i dwymyn ymerodraethol mawr y 1890au adael ei farc yng Nghymru, fel ac y gwnaeth yng ngweddill yr ynysoedd hyn.

Y diwygiadau a ddeisyfwyd ganddynt oedd (i) sefydlu senedd ddeddfwriaethol i Gymru, a hynny (ii) fel rhan o broses ehangach o sicrhau cydnabyddiaeth o le Cymru fel un o genhedloedd cyfansoddol Prydain Fawr. Un agwedd o’r gydnabyddiaeth hon – yr elfen negyddol, ar un ystyr – oedd sicrhau fod y wladwriaeth yn cydnabod realiti bywyd ysbrydol Cymru trwy ddatgysylltu a dadwaddoli eglwys wladol Lloegr yng Nghymru. Y wedd mwy gadarnhaol oedd creu sefydliadau sifig Cymreig ar batrwm y sefydliadau hynny oedd eisoes yn bodoli yn nhair diriogaeth gyfansoddol arall y wladwriaeth a throslwyddo’r gost o’u cynnal i’r Trysorlys Prydeinig.

Yn ail, o ystyried realiti’r gyfundrefn pleidiol Brydeinig, roedd hyn yn ei dro yn rhwym o olygu fod deheuadau cenedlaethol Cymru yn cael eu hieuo at ffawd etholiadol y Blaid Ryddfrydol. Fe fydda’i hynny wedi parhau’n wir pe bai’r Henadur Bird – dan ddylanwad DA Thomas – wedi methu yn ei ymdrechio i rwystro’r uniad o ffederasiynau rhyddfrydol de a gogledd Cymru â Chymru Fydd yn y cyfarfod drwg-enwog yna yng Nghasnewydd. Hyd yn oed petai’r ffurfiant gwleidyddol arfaethedig wedi llwyddo i ddyfod yn fersiwn Cymreig, mwy blaengar o’r Irish Parliamentary Party – sef, does bosib, deisyfiad Lloyd George – roedd y ffaith fod gwleidyddiaeth Lloegr (ar ôl 1886, o leiaf) yn drwyadl unoliaethol a’u cynrychiolwyr etholiadol yn gwrthsefyll pob ymdrech i wireddu dyheuadau cenedlaethol Cymru’n golygu mai dim ond yn y cyfnodau rheini pan yr oedd y Rhyddfrydwyr mewn grym y gellid gobeithio ennill diwygiadau newydd ystyrlon.

Er mai’n anaml iawn y cydnabyddir y ffaith, dyma un o’r prif resymau pam fod y cyfnod rhwng 1895 a 1905 yn gyfnod mor ddifudd i genedlaetholwyr Cymreig. Gyda’r unoliaethwyr – y Torïaid mewn cynghrair hefo adain unoliaethol y Rhyddfrydwyr – mewn grym yn Llundain trwy gydol y ddegawd honno, prin oedd y cyfleuon i’r don gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig allu dylanwadu. Am yr un rheswm, roedd yn gyfnod llwm i genedlaetholwyr Gwyddelig a hynny er gwaethaf eu dominyddiaeth lwyr ar wleidyddiaeth etholiadol yr Iwerddon. Yn wir, roedd pethau’n ddigon anodd hyd yn oed ar ôl buddugoliaeth enfawr y Rhyddfrydwyr yn etholiad 1906. Bryd hynny roedd mwyafrif y Rhyddfrydwyr mor fawr nes fod cenedlaetholwyr y cyrion Celtaidd wedi colli unrhyw rym bargeinio – yn syml, doedd  dim o’u hangen. Llywodraeth gwrth-Geidwadol yn Llundain hefo mwyafrif bychan sy’n berffaith i’r rheini y tu allan i Loegr sydd am ennill consesiynau i genhedloedd y cyrion (gwers i ni gyd yn 2024, efallai?!)

A dyna ddod a mi at fy nhrydedd pwynt, ac efallai fy mhwynt mwyaf dadleuol, sef i nodi pa mor debyg oedd y don gyntaf o genedlaetholdeb Cymreig i brif ffrwd cenedlaetholdeb Gwyddelig yn yr un cyfnod. Roeddynt yn debyg nid yn unig o ran eu dibyniaeth ar lwyddiant (ac yn wir, graddau llwyddiant) y Blaid Ryddfrydol. Erbyn sefydlu Cymru Fydd, roeddynt hefyd lawer iawn yn debycach yn syniadaethol nad yr ydym yn tueddu i’w gydnabod erbyn heddiw. Roedd Cymry’r cyfnod yn deall hynny’n burion – cofiwch atgofion Thomas Jones y cyfeiriais atynt yn gynharach. Ond a ninnau erbyn hyn yn gweld cenedlaetholdeb Gwyddelig trwy brism Gwrthryfel y Pasg 1916 a phopeth a ddaeth yn ei sgîl, rydym wedi tueddu i anghofio neu chamgofio be ddaeth cyn hynny.

Ond cymerwch John Redmond, fel enghraifft. Ef oedd un o brif arweinwyr cenedlaetholdeb Gwyddelig ar ôl marwolaeth Parnell yn 1891 ac, fel arweinydd yr Irish Parliamentary Party unedig, heb os fo oedd y prif arweinydd rhwng 1900 a 1918. Roedd Redmond yn credu yn gellid ac y dylid diwallu dyheuadau cenedlaethol Iwerddon trwy gyfrwng y wladwriaeth Brydeinig; yn wir, roedd yn chwenychu lle cyflawn i’r Iwerddon oddi mewn i’r  Ymerodraeth Brydeinig. Gyda’r Rhyddfrydwyr yn ddibynol ar bleidleisiau ei blaid wedi etholiadau 1910, llwyddodd Redmond i sicrhau pasio’r Government of Ireland Act a dderbyniodd gyd-syniad brenhinol 1914. Fel y gwyddys, profodd yn fuddugoliaeth pyrig gan nas gweithredwyd y Ddeddf yn y diwedd oherwydd – ymysg pethau eraill – y Rhyfel Mawr, teyrn-frawdwriaeth rhannau o’r fyddin Brydeinig a’r Blaid Geidwadol, a Gwrthryfel y Pasg. Yn yr un flwyddyn, 1914, a dan yr union yr un amgylchiadau y derbyniodd y ddeddf a fyddai’n datgysylltu Eglwys Lloegr yng Nghymru hithau gydsyniad brenhinol.

Gwaredigaeth trwy’r wladwriaeth Brydeinig; sicrhau fod yr hunaniaeth genedlaethol gynhenid yn cymryd ei lle’n anrhydeddus fel rhan o gynhysgaeth genedlaethol Brydeinig ehangach: dyma hanfod credo genedlaethol a syniadau cyfansoddiadol John Redmond a TE Ellis fel ei gilydd – a David Lloyd George hefyd, o ran hynny. Beth bynnag eu gwahaniaethau eraill, dyma’r tir cyffredin rhwng prif ffrwd cenedlaetholdeb Gwyddelig ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, a chredoau’r don gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig.

  1. Dehongliad Plaid Cymru o Gymru Fydd

Fel yr awgrymais, nid ydi haneswyr wedi bod yn garedig â Chymru Fydd. Dichon fod na sawl rheswm am hynny.  Yn un peth, bu tueddiad i ymdrin â hanes y mudiad fel rhywfath saig gyntaf i’w flasu’n frysiog cyn symud ymlaen at y brif gwrs. O ran haneswyr y Cymru gyfoes, y brif saig honno – a hynny’n naturiol ddigon – yw twf ac wedyn goruchafiaeth y mudiad a’r blaid Lafur. Yn achos yr haneswyr lu sydd wedi ymddiddori yn hanes David Lloyd George, y brif saig yw rhan ganolog ‘Dewin Dwyfor’ yn nghyflafan y Rhyfel Mawr neu wrth gosod seiliau’r wladwriaeth les ym Mhrydain neu yn hanes rhannu ynys Iwerddon a chreu’r wladwriaeth rydd – y ‘Free State’ neuneu… Rydych yn gweld fy mhwynt!

Os ydych yn troi at y math yma o weithiau gyda golwg ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud yn benodol am hynt Cymru Fydd, mae rhywun yn aml yn gallu synhwyro awydd yr awduron i neidio mlaen at yr y materion eraill hynny y maent yn gwir-ymddiddori ynddynt. Mae’n anffodus hefyd fod yr unig lyfr (?) a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif oedd yn ffocysu’n benodol ar hanes Cymru Fydd – cyfrol William George o’r un teitl a gyhoeddwyd yn 1945 – yn ddryslyd mewn mannau tra’n sawru o ymdrech i achub cam brawd mawr yr awdur, sef wrth gwrs David Lloyd George.

Ond mae hyn yn ei dro’n codi cwestiwn arwyddocaol: sef pam yn y byd y byddai’r brawd bach a fuodd yn gefn i’w frawd hŷn yn teimlo fod angen gwneud ffasiwn beth ag achub ei gam pan fod y bachgen o Lanystumdwy wedi mynd ymlaen i arwain yr ymerodraeth fwyaf a mwyaf pwerus yn hanes y ddynoliaeth? Daw hyn a ni’n dwt at ffactor arall wedi dylanwadu’n drwm iawn ar y cof hanesyddol ynglyn â Chymru Fydd a hynny, yn syml iawn, ydi dirmyg aelodau’r ail don o genedlaetholdeb Cymreig tuag ati – ac yn arbennig felly eu dirmyg llwyr tuag at David Lloyd George.

Yn ei gofiant i Lewis Valentine, mae Arwel Vittle yn darlunio’r hollt rhwng y to hyn o genedlaetholwyr Cymreig a’r to a fyddai’n mynd ati i sefydlu Plaid Cymru, gan gynnwys ei Llywydd cyntaf:  

Seriwyd methiant Cymru Fydd ar feddyliau llawer o wladgarwyr ifanc a’r hyn a welid fel brad arweinwyr y mudiad yn hyrwyddo eu gyrfa eu hunain yn San Steffan ar draul eu cenedlaetholdeb. Crisialwyd hyn ym mherson Lloyd George ei hun, a fu’n gymaint o eilun i genhedlaeth Samuel Valentine, ond a oedd bellach yn cael ei weld fel imperialydd rhonc gan ei fab.

Fe ellir pentyrru enghreifftiau lle bu aelodau’r ail don o genedlaetholdeb Cymreig yn ddeifiol o feirniadol o’r don gyntaf, a hynny – erbyn hyn – am gyfnod o ganrif a mwy. Mae’n amlwg fod agwedd o’r fath hefyd wedi dylanwadu ar y sawl fu’n ysgrifennu am rai o’r prif ffigurau a fu’n gysylltied â Phlaid Cymru. Er enghrafft, mae Arwel Vittle ei hun yn ystyried mae’r hyn a gafwyd gan Cymru Fydd oedd ‘Prydeindod teyrngarol wedi’i lapio yng ngwisg Cymreictod dagreuol.’

Roedd Saunders Lewis yn hallt ei feirniadaeth. Mae’n tadogi methiant y mudiad i’r ffaith honedig mai ‘Cymru oedd ar goll ym mudiad Cymru Fydd.’[2] Ymhellach, ‘A siarad yn fras…nid oedd rhyddfrydwyr Cymru Fydd nac yn gwybod nag yn deall hanes Cymru Fu.’[3] O ystyried rhai o’r enwau oedd yn cysylltiedig â’r mudiad, gan gynnwys J.E. Lloyd, siarad bras iawn oedd hynny! Serch hynny, yn ôl un o gofianwyr Saunders Lewis, D. Tecwyn Lloyd, a gosod ymreolaeth o’r neilltu, nid oedd dim yn benodol-Gymreig am y diwygiadau a gefnogwyd gan y Cymru Fyddwyr. Yn hytrach, nid oeddynt yn ddim amgen na ‘moddion i wella a chynyddu ac effeithioli cyfraniad Cymru i Brydain ac i’w Hymerodraeth fyd-eang’.[4] Ymhellach, erbyn degawd gyntaf yr ugeinfed ganrif, nid oedd ‘y sôn a’r trafod am Gymru a’i harbenigrwydd’ gan wleidyddion megis Lloyd George, ‘yn ddim mwy na esgus chwareus dros hogi am ddyrchafiadau personol’.

Ond efallai mae’r hanesyn bach ganlynol sy’n dadlennu orau agweddau’r ail don o genedlaetholwyr Cymreig tuag at eu rhagflaenwyr. Yn rhifyn Medi 1929 o bapur The Scots Independent ceir ysgrif gan Lewis Spence, Is-Gadeirydd y National Party of Scotland – sef, rhagfleynydd yr SNP – yn cofnodi hanes ei ymweliad â Ysgol Haf Plaid Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd y flwyddyn honno ym Mhwlleli. Edrydd hanes y daith bws a drefnwyd er mwyn i’r mynychwyr gael gweld dipyn ar y cylch gan nodi fod y trafeilwyr wedi bŵïo a hwtian pan yrrodd y siaribang heibio i fan geni Lloyd George! Go brin y byddai un o gyhoeddiadau Plaid Cymru ei hun wedi cynnwys stori mor blentynaidd – os doniol – gan y byddai wedi creu mwy o ffys a helynt na’i werth. Ond mae’n cynnig mewnwelediad diddorol a thra-arwyddocaol i fydolwg aelodau’r Blaid Cymru ifanc.

Wrth reswm, roedd y to hyn yn gwybod yn iawn am agwedd y to iau, a – fel y gallech ddisgwyl – yn gwaredu at ffasiwn ddiffyg parch tuag at eu hynafiaid . Cafwyd sylw dolefus i’r perwyl yma gan Beriah Gwynfe Evans ym mhapur y South Wales Daily News pan gwynodd am y modd y clywyd ‘De Valera compared and contrasted with Lloyd George, to the latter’s disadvantage.’ Rwan, mae’n bwysig nodi fod dewis Evans i bersonoli cenedlaetholdeb Gwyddelig y cyfnod yn ffurf Éamon de Valera yn un bwriadol ddadleuol. Ar y pryd – sef mis Medi 1923 – roedd ‘Dev’ newydd golli rhyfel cartref hyll yn erbyn y garfan fwyafrifol yn Sinn Fein ac ymysg poblogaeth y Dalaith Rhydd oedd o blaid y cytundeb Eingl-Wyddelig. Yn wir, roedd newydd ei garcharu yn Kilmainham – mangre a fydd yn gyfarwydd i lawer ohonoch. Byddai’n ddeuaw mis arall cyn iddo fynd ati i sefydlu plaid Fianna Faíl a throi ei gefn yn derfynol ar yr elfen mwyaf digymrodedd a milwriaethus o blith y rheini yr oedd wedi eu swcro yn ystod y rhyfel cartref.

Ond o ddadbersonoli sylw cyn Ysgrifennydd Cymru Fydd, mae’r pwynt yn un teg. Fe roedd aelodau’r ail don o genedlaetholdeb Cymreig yn cloriannu’r don gyntaf trwy eu cymharu â’r cenedlaetholwyr Gwyddelig rheini a ysgogodd Wrthryfel y Pasg ac a lwyddodd i sicrhau rhyddid i’r rhan fwyaf o Iwerddon. Ac yn bendifaddau, yr oeddynt yn credu fod cymhariaeth o’r fath yn ffafrio’r Gwyddyl ar draul y Cymry. Sy’n dod a ni i drydedd pen fy narlith, sef dylanwad Iwerddon – ac yn benodol, dylanwad Sinn Feín – ar y Blaid Genedlaethol ifanc.

  1. Dylanwad Sinn Féin ar ail don cenedlaetholdeb Cymreig

Nid oes dim yn newydd nag yn wreiddiol am ucheloleuo dylanwad y digwyddiadau yn Iwerddon wedi 1916 ar y Blaid Genedlaethol Cymru ifanc. Ni cheisiaf fynd ar ôl y gwahanol agweddau yma, chwaith. Mae llawer gormod i’w drafod i allu gwneud cyfiawnder â’r holl fater – o safiad dewr Lewis Valentine a’i gyd-fyfyrwyr ym Mangor, i gyfarfyddiadau personol yn Iwerddon rhwng, er enghraifft, D.J. Williams a Arthur Griffith a Michael Collins (yn 1919) ac, yn ddiweddarach, rhwng Saunders Lewis a De Valera (1925). Gyda llaw, roedd Saunders yn gofiadwy o ddilornus o Dev – ‘Y mae ef yn deip o’r meddwl meddw, gwyntog, digyfundrefn…’ – ond ni ddylai hynny ein synnu gan fod arweinydd y Blaid y gefnogwr cryf ochr y Treatyites yn Rhyfel Cartref Iwerddon. Gan hynny, ni fyddai disgwyl iddo gael unrhyw gydymdeimlad hefo Dev yn haf 1925. Erbyn 1938, fodd bynnag, gyda De Valera bellach wedi ymbarchuo a dyfod yn elyn digymrodedd o’r ‘eithafwyr’ gweriniaethol, roedd Lewis wedi newid ei gân ac yn cydnabod Dev fel un o wladweinwyr mwyaf y byd…

Rhag amlhau dyfyniadau ac enghreifftiau, gadewch i mi nodi eiriau J.E. Jones, Ysgrifennydd a Threfnydd Cyffredinol y Blaid rhwng 1930 a 1962(!). ‘Yn ddi-os,’ meddai

Iwerddon fu’r symbyliad a’r ysbrydiaeth gryfaf i genedlaetholdeb yng Nghymru yn ein cyfnod ni… Wedi rhyfel 1914-18,…[B]u amryw o Gymry ym myddin Lloegr yn Iwerddon a gweled a sylweddoli’r gormes yno; tyfodd cydymdeimlad tuag at Iwerddon, er gwaethaf propaganda Lloyd George. Yna ennillodd Iwerddon ei rhyddid yn 1921: y wlad gyntaf yn yr holl ymerodraeth i’w ennill… Trwy lyfrau daeth arwyr Iwerddon yn adnabyddus ac yn ysbrydiaeth i lu ohonom yng Nghymru… Daeth baledi Thomas Davis o ganol y gantrif ddiwethaf yn adnabyddus i lawer ohonom…a’r arwr rhamantus Michael Collins… Yn Iwerddon hefyd y cafodd H.R. Jones [Ysgrifennydd cyntaf y Blaid] hefyd ei bennaf ysbrydiaeth: bu yno droeon…. Parhaodd ysbrydiaeth Iwerddon ar nifer fawr yn y Blaid hyd Ryfel Mawr 1939-45 hyd yn oed. Praw o hynny oedd y galw cyson am lyfrau ar frwydr Iwerddon a’i harwyr trwy’r cyfnod, ac yr oeddwn yn gwerthu’r llyfrau hynny wrth y cannoedd o Swyddfa’r Blaid yng Nghaernarfon.

Rhag fod na unrhyw amwysedd, rhaid pwysleisio mai rhan o bechod mawr Lloyd George yn llygaid yr ail don o genedlaetholwyr oedd y rhan a chwaraeodd yn gyntaf yn gwrthsefyll – ac yna’n glastwreiddio – ‘rhyddid’ Iwerddon.

Y pwynt yr wyf am ychwanegu at y darlun cyfarwydd yma yw mai nid dim ond gweithredoedd ac ‘ysbryd’ y Sinn Feiners oedd yn ysbrydoli yng Nghymru. Yn hytrach, rydym wedi colli golwg ar y ffaith fod prif syniadau’r Blaid Genedlaethol ifanc hefyd yn uniongred o Sinn Fein-aidd. Roedd dylanwad syniadau Sinn Fein i’w weld nid yn unig ar yr aelodau llawr-gwlad, ond hefyd ei arweinydd pwysicaf o ddigon, sef Saunders Lewis.

Mae llawer o inc wedi ei dywallt yn yr ymdrech i brofi dylanwad gwahanol feddylwyr ar syniadau Saunders Lewis. Wele draethawd haeddianol-enwog Dafydd Glyn Jones ar wleidyddiaeth Lewis sy’n trafod dylanwad gwahanol feddylwyr o Ffrainc ar ei syniadau neu ymdrechion D. Tecwyn Lloyd i brofi ddylanwad y meddyliwr Catholig Eingl-Ffrengig Hilaire Belloc. Yn fwy diweddar, mae Robin Chapman wedi heolio sylw at ddylanwad honedig ‘dau feirniad cymdeithasol o Saeson yr aeth eu henwau bellach yn anghof’, sef Arthur Joseph Penty a Montague Edward Fordham.

Ond o ran ei syniadau gwleidyddol o leiaf, rwy’n tybio fod y realiti ychydig yn fwy prosaic. Yn syml, roedd Saunders Lewis yn ddisgybl i Arthur Griffith. Neu a dweud y peth mewn modd ychydig yn llai pryfoclyd – roedd prif syniadau gwleidyddol Arthur Griffith yr oedd wedi eu poblogeiddio trwy fudiad Sinn Fein yn cydgordio’n mor agos â’r syniadau a goleddwyd yn ddiweddarach gan Saunders Lewis fel na ond ellir ystyried fod y cyntaf wedi dylanwadu drwm iawn ar yr ail, boed hynny’n uniongyrchol neu’r anuniongyrchol. Gellir gweld hyn trwy graffu ar y rhaglen wleidyddol Arthur Griffith a Sinn Fein a’i gymharu â’r rhaglen wleidyddol a fabwysiadodd y Blaid Genedlaethol ifanc dan ddylanwad Saunders Lewis.

Credai Griffith na cheid achubiaeth i’r Iwerddon trwy bleidiau neu sefydliadau gwleidyddol eraill y wladwriaeth Brydeinig. Yn hytrach roedd angen ymddihatru ohonynt a chanolbwyntio ar weithredu ar ynys Iwerddon yn unig. Golyga hyn na ddylai unrhyw aelod a etholwyd ar ran Sinn Fein i Dŷ’r Cyffredin gymryd eu seddau yno (absentionism). Yn hytrach, dylid defnyddio cyfundrefn llywodraeth leol Iwerddon fel llwyfan ar gyfer adeiladu gwleidyddiaeth ac, yn wir, gwladwriaeth Wyddelig amgen oddi mewn i gragen y wladwriaeth Brydeinig.

Dyma’n union weledigaeth a pholisi’r Blaid Genedlaethol ifanc hefyd. Dim ond yn dilyn methiant ymgyrch Plaid Cymru yn etholaeth Arfon yn etholiad cyffredinol 1929 y newidwyd y polisi o wrth-gilio o San Steffan. (Noder, ar y pryd, ystyrwyd 609 pleidlais fel siom fawr hyd yn oed os yw Dafydd Iwan wedi hudo cenedlaetholwyr cyfoes i feddwl yn wahanol!) A roedd angen holl ymdrechion cyngrheiriad agosaf Saunders Lewis i’w orfodi i dderbyn y newid polisi. Ac yn wir, mae na ddigonedd o dystiolaeth i awgrymu fod ei reddfau wedi parhau’n rai absentionist gydol ei oes.

Roedd dadleuon economaidd yn ganolog i efengyl wleidyddol Arthur Griffith, a hunangynhaliaeth economaidd oedd un o’i syniadau mawr. Noder mai nid dyma gredo economaidd y don gyntaf o genedlaetholwyr Gymreig, ond fe newidiodd hynny erbyn brigo’r ail don. Yn ddiau, roedd mwy nag un dylanwad ar waith yn sicrhau’r newid yma. Ond roedd syniadau cenedlaetholwyr Gwyddelig – yr advanced nationalist a ddylanwadwyd gan Griffith – yn allweddol. Yn wir, gellir darllen ‘10 pwynt polisi’ drwg-enwog Saunders Lewis fel datganiad uniongred o’r syniadau economaidd a chymdeithasol a goleddwyd ar draws hollt y rhyfel cartref yn Iwerddon.

Roedd syniadau cyfansoddiadol Saunders Lewis a’r Blaid Genedlaethol cynnar hefyd yn rhyfeddol o debyg i rai Arthur Griffith – gwr a oedd, wrth gwrs, yn un o gefnogwyr y Cytundeb Eingl-wyddelig. Felly pan gyhoeddoedd Plaid Cymru ei chynllun ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru ar droad yn 1930au, fe wnaed hi’n gwbl eglur mai Gwladwriaeth Rydd Iwerddon oedd y model y dylai Cymru geisio ei hefelychu. Felly ‘statws dominiwn’ yn hytrach nag annibyniaeth lwyr oedd hi i fod. Ac yn wir, wrth ddwyn i gof safbwynt (dadleuol, i rai) Saunders Lewis ynglŷn â’r frenhiniaeth, mae’n werth cofio fod Arthur Griffith yntau’n cefnogi parhad y cysylltiad rhwng yr Iwerddon Rydd a’r frenhiniaeth, a hynny ar ffurf y math o ‘frenhiniaeth ddeuol’ a gaed yn ymerodraeth Awstro-Hwngari.

Ond tra’n deisyf parhad rhai cysylltiadau a’r Goron a’r wladwriaeth Brydeinig, mae bwysig tanlinellu fod Arthur Griffith a Sinn Fein ar y naill law, a Saunders Lewis a Phlaid Genedlaethol Cymru ar y llaw arall, i gyd yn wrth-imperialwyr di-gymrodedd. Dyma’n wir un o’r gwahaniaethau sylfaenol rhwng – yn Iwerddon – prif ffrwd cenedlaetholdeb fel y’i hymgorfforwyd yn yr Irish Parliamentary Party a ‘advanced nationalists’ Sinn Féin. Yng Nghymru hefyd dyma efallai’r gwahaniaeth mwyaf trawiadol rhwng y don gyntaf o genedlaetholwyr Cymreig – a hudwyd i gyd yn pendraw gan imperialaeth Brydeinig – a’r ail don o genedlaetholwyr Cymreig, sydd wastad wedi bod yn hallt iawn eu beirniadaeth o rwysg a rhyfyg imperialaeth Brydenig a phob imperialaeth arall, o ran hynny. Eto, roedd enghraifft Iwerddon, sef fel y soniodd JE Jones, y genedl gyntaf i ryddhau ei hunain o afael yr San Steffan, yn allweddol wrth osod y cywair.

Yn wir, wrth i ni gloi, efallai ei bod yn werth ystyried y canlynol.

Dros amser fe fwriwyd heibio y ran fwyaf o’r dylanwad Sinn Feinaidd a oedd ffurfiodd cymaint o fyd-olwg a rhaglen bolisi’r Blaid Genedlaethol cynnar. Cefnwyd ar absentionism; ar hunangynhaliaeth economaidd; bodlonodd y blaid ar gydweithredu hefo pleidiau Prydeinig – y ‘pleidiau Seisnig’, fel y byddai cenhedlaeth y sylfaenwyr wedi ei ddweud – er mwyn ennill consesiynau i Gymru; ac yn 2003 fe benderfynodd y blaid arddel ‘annibyniaeth’ fel ei nod gyfansoddiadol. Ond un peth sy’n aros ac yn wir sy’n parhau’n gryfach nag erioed (bron iawn) ganrif yn ddiweddarach ydi ei gwrthwynebiad i imperialaeth ac, yn gysylltiedig a hynny, ei hagwedd wahanol iawn tuag at wleidyddiaeth ryngwladol. Yn wir, fe ellid dadlau mai dyma bellach y gwahaniaeth mwyaf – a mwyaf sylfaenol – mewn agweddau rhwng y Blaid Cymru gyfoes ac etifeddion y don gyntaf o genedlaetholdeb yng Nghymru ar adain twym-galon Cymreig y Blaid Lafur. Ond fe fydd yn rhaid i chi ddisgwyl am y llyfr i glywed mwy am hynny…

Diolch yn fawr iawn am eich gwrandawiad.

[1] Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

[2] Saunders Lewis, ‘O.M. Edwards,’ yn Gwynedd Pierce (gol) Triwyr Penllyn (Caerdydd: Plaid Cymru, d.d.), t. 31

[3] Saunders Lewis, ‘O.M. Edwards,’ yn Gwynedd Pierce (gol) Triwyr Penllyn (Caerdydd: Plaid Cymru, d.d.), t. 31

[4] D. Tecwyn Lloyd, John Saunders Lewis: Y Gyfrol Gyntaf (Dinbych: Gwasg Gee, 1988), t. 185

 
 
 
 

Darlith yn Eisteddfod 2024

O Gymru Fydd i Blaid Cymru
 
Siaradwr: Yr Athro Richard Wyn Jones
 
Ym Mhabell y Cymdeithasau 2,
12:30 Dydd Iau 8 Awst
yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, Pontypridd
 
Ar drothwy canfed penblwydd Plaid Cymru, bydd y siaradwr yn ystyried y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng y Blaid a’r mudiad cenedlaethol a’i rhagflaenodd, sef Cymru Fydd
Gobeithiwn y byddwch yn gallu bod yn bresennol.

Cyfraniad Merched Plaid Cymru

Cyfraniad Merched Plaid Cymru

Yng Nghynhadledd Plaid Cymru, Hydref 2013, paratowyd arddangosfa o Ferched ym Mhlaid Cymru yn ystod y Blynyddoed Cynnar gan Yvonne Balakrishnan, ar ran Cymdeithas Hanes Plaid Cymru.

Dyma’r wybodaeth am y menywod hynny a rhai ychwanegol.

 

Efelyn Williams

Merch o Gwm Rhondda yn wreiddiol oedd Efelyn Williams ac aeth i Goleg y Barri ble enillodd enw da fel efrydwr trwyadl ac awch am wybodaeth. Roedd yn ffyddlon i amrywiaeth o sefydliadau Cymreig fel yr Ysgol Sul yn y Capel, yr Urdd a Phlaid Cymru ac aeth i’r Ysgol Haf yn gyson. Roedd ei dylanwad distaw yn cyfrif.

 

Jennie Gruffydd (1899 – 1970)

Cafodd y Blaid y mwyafrif mawr o’i phleidleisiau yn etholiad 1929 yn Nhalysarn ac i Miss Jennie Gruffudd oedd y diolch am hynny. Roedd yn enwog yn yr ardal am ei gwaith dros y Blaid ac yn barod i dderbyn unrhyw gyfrifoldeb a roddwyd iddi. Aeth i Goleg y Brifysgol ym Mangor a daeth yn athrawes yn Llŷn ac wedyn yn Nhalysarn.

 


Tegwen Clee (1901 – 1965)

Un o’r merched cyntaf i ymaelodi â’r Blaid, roedd hi’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith ac yn selog iawn ym mhob Ysgol Haf. O Ystalyfera yn wreiddiol fe raddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda anrhydedd mewn Cymraeg. Daeth yn athrawes yn Llanelli a gweithiodd gyda mudiadau lleol yr Urdd a’r Blaid. Ysgrifennodd am Llydaw yn y Ddraig Goch.

 

Nesta Roberts

Yn wreiddiol o Arfon fe ddaeth yn brif athrawes yn Nhalybont, Dyffryn Conwy. Yn chwaer i O.M.Edwards, bu’n ysgrifennydd Pwyllgor Sir y Blaid yng Nghaernarfon.
Cafodd anaf yn ystod etholiad cyntaf y Blaid yn 1929 ond parhaodd i ymgyrchu am bythefnos er gwaethaf ei phoen. Roedd gan Nesta ddawn siarad yn gyhoeddus ac ar un achlysur bu raid iddi gymryd y llwyfan i annerch cyfarfod yn ddi-rybudd ar ôl i’r siaradwr fethu a throi i fyny.

 


Cathrin Huws, Caerdydd

Roedd Cathrin Huws yn ysgrifennydd Gangen Coleg Caerdydd, yn ysgrifennydd Pwyllgor Dwyrain Morgannwg, ac yn aelod o Bwyllgor Golygyddol y Welsh Nationalist. Roedd hi’n ymgeisydd Cangen Glyndwr am sedd ar Gyngor Dinas Caerdydd. Cafodd ei hethol gan y Gynhadledd i sedd ar y pwyllgor Gwaith – a hyn oll cyn iddi gyrraedd tair ar hugain oed.

 

Dr Ceinwen H. Thomas (1911- 2008)

Yn wreiddiol o Nantgarw bu’n adnabyddus am ei gwaith yn trawsysgrifo dawnsfeydd Nantgarw, ac fel cyfarwyddwr Uned Ymchwil Iaith ym Mhrifysgol Caerdydd a arweiniodd at gorff o wybodaeth am dafodiaith y “Wenhwyseg” yn yr ardal.
Ymunodd â Phlaid Cymru pan yn fyfyriwr yn y brifysgol yn y tri degau. Yn y 40au a’r 50au, blynyddoedd anodd yn hanes y Blaid ac hefyd yr iaith, brwydrodd dros egwyddorion Plaid Cymru, yr iaith, hanes Cymru yn y gyfundrefn addysg ac am gydnabyddiaeth bod Sir Fynwy yn rhan annatod o Gymru Gyfan.

 

 

Mai Roberts

Roedd Mai Roberts yn un o sylfaenwyr y Blaid Genedlaethol a weithiodd cyn 1925 i gychwyn y mudiad gwirioneddol Genedlaethol. Mai oedd y cyntaf i dalu cyfraniad pan ffurfiwyd Plaid Cymru ym Mhwllheli ac felly yn aelod cofrestredig cyntaf y Blaid. Daeth yn aelod o’r Pwyllgor gwaith a roddodd gymorth mawr a gwerthfawr gydag etholiadau Seneddol y Blaid yn Sir gaernarfon yn 1929 a 1931. Bu’n gofalu hefyd am fudiadau pwysig eraill, megis y Gyngres Geltaidd. Rhoddodd wasanaeth gwerthfawr iawn i Gymru.

 

 


Kate Roberts – (1891 – 1985)

Brenhines ein Llên – awdur mwyaf nodedig yn y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Ymunodd â’r Blaid yn Ysgol Haf Machynlleth yn 1926.
Sefydlwyd Adran y Merched ac etholwyd Kate yn Lywydd. Gofalodd am dudalen arbennig y merched ym mhapur swyddogol y Blaid – “Y Ddraig Goch”.
Cyfeillion pennaf ei bywyd oedd Saunders Lewis, D J Williams a Lewis Valentine a Cassie Davies.

 

 

Priscie Roberts

Chwaer i Mai Roberts, ymunodd â’r Blaid o dan ddylanwad Lewis Valentine yn Ysgol Haf Llangollen. Cynorthwyodd y Blaid yn Sir gaernarfon mewn llawer ffordd, gan ofalu am llyfrau cyfrifon am dair blynedd yn y cyfnod pan aeth H.R.Jones yn wael hyd nes i J.E.Jones ddod i’r Swyddfa. Fel Ysgrfennydd Merched Sir Gaernarfon, hi oedd yn allweddol bwysig i lwyddiant bob achlysur.

 


Llinos Roberts, Lerpwl

Ysgrifennydd Cangen Lerpwl oedd Llinos Roberts yn ogystal ag ysgrifennydd Pwyllgor Rhanbarth ac yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith. Daeth o bentref Penygroes yn ymyl Talysarn ac fe ddylanwadodd ar “y mudiad newydd” yn Nyffryn Nantlle. Roedd yn dda yn siarad ac yn dadlau a chllunio er mwyn y Blaid.

 

 

 

Nora Celyn Jones

O Sir Gaernarfon yn wreiddiol ond treuliodd ei hoes yng Nghaerffili, Sir Forgannwg. Cafodd ei magu mewn cartref ble roedd diwylliant Cymreig yn holl bwysig. Aeth i Goleg Hyfforddi y Barri ac yno daeth yn Ysgrifennydd y Gymdeithas Gymraeg. Yn ddiweddarach, a hithau yn athrawes mewn ysgol gynradd yn Senghennydd, gweithiodd yn gyson gyda’r mudiadau Cymreig yn yr ardal. Roedd yn ysgrifennydd yr Urdd yng Nghaerffili.


Nans Jones

Cafodd Nans Jones (Annie Mary Jones) ei geni yn Nhafarn Newydd, Penrhosgarnedd, yn ymyl Bangor, a symudodd y teulu i Treborth. Ymunodd â Phlaid Cymru yn 15 mlwydd oed yn 1930, bum mlynedd ar ôl ei ffurfio. Daeth yn gyfrifydd i’r Blaid yn 1942 yn y brif swyddfa yng Nghaernarfon. Gadawodd Nans y Gogledd pan symudodd y pencadlys i Gaerdydd yn 1947 ac am ddegawdau wedyn bu ei gwaith yn hanfodol i weinyddiaeth y mudiad.

 

 

Cassie Davies (1898 – 1988)

Merch o Sir Aberteifi oedd Cassie Davies MA, a ddaeth yn athrawes yng Ngholeg y Barri wedi iddi raddio gydag anrhydedd mewn Cymraeg a Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Ymunodd â’r Blaid yn gynnar a daeth yn areithydd cyhoeddus dros y Blaid a ysgrifennai’n gyson i’r Ddraig Goch. Roedd yn ffrind mawr i ddwy arall o ferched cynnar y Blaid, Dr Kate Roberts a Mai Roberts.

 


Eileen Beasley (1921 – 2012)

Un o Sir Gaerfyrddin oedd Eileen (James) Beasley yn wreiddiol ond symudodd i Langennech ar ôl iddi gyfarfod a’i gŵr, Trefor yng nghyfarfodydd Plaid Cymru, a phriodi. Cafodd Eileen a Trefor eu hethol mewn etholiad cyngor yn Llanelli. Ond mae hi’n enwog fel ymgyrchydd hawliau iaith am iddi, gyda Trefor, fynnu gael papur treth Cymraeg. Fel ‘mam gweithredu uniongyrchol’ yng Nghymru mae pawb yn ei chofio am frwydr ddewr y teulu dros wyth mlynedd a lwyddodd yn y diwedd.

 

 

 

Elizabeth Williams (1891 – 1979)

Ganed Elizabeth Williams (nee Roberts) ym Mlaenau Ffestiniog ym 1891 yn ferch i chwarelwr. Astudiodd y Gymraeg yn Aberystwyth lle cyfarfu â Griffith John Williams a’i briodi ychydig flynyddoedd wedyn. Yn eu tŷ nhw ym Mhenarth y cyfarfu Saunders Lewis ac Ambrose Bebb yn Ionawr 1924 i ffurfio Mudiad Cymraeg newydd gyda Bebb yn Llywydd, GJ Williams yn Drysorydd a Saunders yn Ysgrifennydd. Elizabeth ysgrifennodd gofnodion y Cyfarfod a chadw cofnod o dŵf y mudiad nes iddynt ymuno â grŵp o’r gogledd i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru ym Mhwllheli yn 1925.
Pan fu farw gadawodd ei thŷ yng Ngwaelod y Garth i’r Blaid.

 

 

Hefyd mae traethawd diddorol yma – ‘The height of its womanhood’: Women and gender in Welsh nationalism, 1847-1945 gan  Jodie Alysa Kreider, Prifysgol Arizona.

https://repository.arizona.edu/handle/10150/280621

 

Yr arddangosfa o Ferched ym Mhlaid Cymru yn ystod y Blynyddoed Cynnar yng Nghynhadledd Plaid Cymru, Hydref 2013 

 

T. Gwynn Jones – Cenedlaetholwr Cyn Geni’r Blaid

Stori Bardd Mawr y Gynghanedd, T.Gwynn Jones (1871-1949)

Adolygiad Llyfr – ‘Byd Gwynn’ gan Alan Llwyd

Mae gan lawer ohonon ni reswm i ddiolch i’r prifardd ac awdur Alan Llwyd, brodor o Benrhyn Llŷn sy’n byw yn Nhreforys.  Drwy gynnig awdl fuddugoliaethus ar y testun Llif, fe sicrhaodd deilyngdod yng nghystadleuaeth y gadair yn y Brifwyl eleni – a rhoi’r diweddglo gorau posibl i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Mae Alan Llwyd wedi hen ennill ei blwyf fel bardd a llenor.  Mae ei gyfraniad yn anhygoel – yn cynnwys cyfres o gofiannau swmpus iawn am feirdd Cymru, yn eu plith T. Gwynn Jones.

Heddiw cofiwn i T. Gwynn Jones fod yn un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif ond roedd hefyd yn llawer mwy – yn newyddiadurwr prysur dros ben, yn nofelydd, yn feirniad, cyfieithydd ac yn ieithydd.  Ac yn heddychwr ac yn genedlaetholwr tanbaid yn ogystal.

Mae Alan Llwyd yn olrhain ei fywyd yn drylwyr  o’i fagwraeth yn Sir Ddinbych yn fab i denant amaethwr digon llwm ei fyd.  Er na chafodd fynd i’r coleg oherwydd diffyg arian, bu dawn gynhenid Gwynn yn ddigon i sicrhau gyrfa iddo’n newyddiadurwr yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda phapurau megis y Faner, y Cymro a’r North Wales Times.  Bu hefyd yn cyfrannu’n helaeth i fywyd diwylliannol Cymru.  Yn 17 oed cyhoeddodd gerdd yn y Faner yn cefnogi’r frwydr yn erbyn talu’r degwm, ac o hynny ymlaen byddai’n amlwg ym mywyd diwylliannol ei wlad.

Yn 1902 cipiodd Gadair yr Eisteddfod gyda’i gerdd Ymadawiad Arthur, gan ddefnyddio’r gynghanedd i bwrpas ac i greu effaith arbennig yn ôl Alan Llwyd, “nid taflu cytseiniaid at ei gilydd blith draphlith heb hidio fawr ddim am ystyr y geiriau”.   Yn hynny o beth yr oedd yn wahanol iawn i lawer o feirdd eraill, megis Hwfa Môn a Dyfed; a chyn hir byddai Gwynn yng nghanol dadl ffyrnig am safonau cerdd dafod.  Byddai beirniaid yn ei gyhuddo o atgyfodi hen eiriau nad oedd pobl yn eu deall, ond byddai Gwynn yn fwy na pharod i sefyll ei gornel a defnyddio’i sgiliau newyddiadurol i ymladd dros godi safonau’r iaith ac arloesi gyda mesurau newydd.

Cynghanedd, meddai Gwynn, yw’r term dysgedig am y peth a alwai pobl gyffredin yn ‘gwlwm’, ac yn fachgen ysgol fe ddaeth i adnabod y ‘clymau’ hyn wrth y glust, cyn dysgu’r rheolau a dod i ddotio arnyn nhw.

Llwyddodd yn erbyn pob anhawster i symud o newyddiaduraeth  a dod yn gatalogydd a chofiannydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.  Erbyn 1919, bu’n ddarlithydd ac yna’n Athro Llenyddiaeth Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth.  Mae Alan Llwyd hefyd yn croniclo priodas Gwynn a’i fywyd teuluol hapus.

Daeth Gwynn yn ieithydd a chyfieithydd penigamp mewn nifer o ieithoedd, yn enwedig yr ieithoedd Celtaidd eraill.  Erbyn ymweliad y Gyngres Geltaidd â Chaernarfon yn 1904, yr oedd eisoes yn medru Llydaweg a bu’n aelod gweithgar o’r pwyllgor trefnu lleol.  Nes ymlaen aeth ati i feistroli’r Wyddeleg, ac ystyried o ddifrif ymgeisio am swyddi academaidd yn Iwerddon.

Drwy gydol ei fywyd bu T.Gwynn Jones yn genedlaetholwr brwd, ond mae’n ddiddorol beth yn gymwys oedd hynny’n ei olygu wrth ddilyn cwrs ei fywyd.  Rhyddfrydwr oedd tad Gwynn: bu rhaid iddo adael y fferm ble roedd yn denant am wrthwynebu’r Torïaid yn ystod Rhyfel y Degwm.  Bu Gwynn hefyd yn cefnogi’r Rhyddfryfwyr, yn frwd yn ystod y 1890au pan fu’r mudiad Cymru Fydd yn ymgyrchu am hunanlywodraeth.  Yn 1903, lluniodd gerdd o fawl i David Lloyd George, ‘ein Dafydd dafod arian, galon tân’

Dadrithiodd gyda’r Blaid Ryddfrydol oherwydd methiant Cymru Fydd a chefnogaeth llawer o’i harweinwyr i’r Rhyfel Byd Cyntaf.  Drwy’i fywyd bu Gwynn yn heddychwr cryf, a siomodd yn aruthrol at y ‘rhyfelgwn’, gwleidyddion a gweinidogion capeli ac eglwysi a bwysai ar bobl ifainc Cymru i fynd i’r lladdfa.  Yn sosialydd yn ogystal â chenedlaetholwr, erbyn 1918, roedd ef wedi closio at y Blaid Lafur, gan ddweud wrth gyfaill agos ei fod (fel DJ Williams) wedi ymuno â’r ILP.

Un pennill o’r awdl ‘Ymadawiad Arthur’ yn ysgrifen T.Gwynn Jones

Fodd bynnag, doedd dim amheuaeth ar ba ochr yr oedd ef pan ddchreuodd Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon yn 1916: os oes hawl gan Loegr ymladd, felly hefyd Iwerddon, meddai.

Yn 1923, Gwynn a gadeiriodd gyfarfod y ‘Tair G’, un o’r cyfarfodydd a fyddai yn y pendraw’n esgor ar lansio Plaid Genedlaethol Cymru.  Ni wyddys beth oedd ei ymateb i awgrym Saunders Lewis i ffurfio ‘byddin’ o wirfoddolwyr a fyddai’n ymarfer fel milwyr – go brin y buasai’n gefnogol, a chafodd y syniad fawr o groeso ar y pryd.   Tybed ai dyma un rheswm nad oes unrhyw dystiolaeth bod y cenedlaetholwr tanbaid hwn wedi ymuno â’r blaid genedlaethol a lansiwyd yn 1925, peth rhyfedd braidd.  Yn wir, rai blynyddoedd wedyn, cyfaddefodd fod ei gyfeillgarwch gydag un bardd wedi oeri oherwydd ei gefnogaeth i Blaid Cymru.

Eto’i gyda erbyn 1943, Gwynn oedd yn amlwg yn enwebu Saunders Lewis fel ymgeisydd Plaid Cymru yn isetholiad Prifysgol Cymru, a hynny yn erbyn W.J. Gruffydd dros y Rhyddfrydwyr, er bod W.J. yn ffrind bore oes iddo.

Yn fardd mawr ac yn ŵr cymhleth a theimladwy, bu T.Gwynn Jones yn gymeriad mawr yn hanes Cymru, a’i stori yn un werth ei chofio.

 Dafydd Williams

O Gylchlythyr Cymdeithas Hanes Plaid Cymru Hydref 2023

 

Dathlu 100 Mlynedd ym Mhenarth

Nos Wener 12 Ionawr 2024 dathlwyd 100 mlynedd ers y cyfarfod cyntaf i sefydlu Plaid Cymru.

Leanne Wood, Rosanne Reeves, Richard Wyn Jones, Gareth Clubb

Dyma sylwadau Leanne Wood a Richard Wyn Jones ar ddechrau’r cyfarfod

 

Hwb Bywiog i Ddathliadau’r Blaid

Cafwyd dechreuad bywiog i gyfres o ddigwyddiadau fydd yn dathlu sefydlu Plaid Cymru bron canrif yn ôl Nos Wener 12 Ionawr 2024 yng Nghanolfan Cymunedol Belle Vue, Albert Crescent, Penarth.

Daeth aelodau o’r Blaid a’u gwesteion at ei gilydd i nodi ffurfio grŵp cyfrinachol, y Mudiad Cymreig, un o’r grwpiau a ymunodd wedyn i ffurfio’r Blaid Genedlaethol.

Cyfarfu pedwar o bobl ar 7 Ionawr 1924 yn rhif 9 Bedwas Place, Penarth, gan gofnodi eu penderfyniad i greu “Plaid Genedlaethol Cymru” – Ambrose Bebb, Griffith John Williams, Elisabeth Williams a Saunders Lewis, y bardd a’r dramodydd mawr, a darpar arweinydd y blaid, a fu’n byw wedyn ym Mhenarth o 1952 hyd ei farwolaeth yn 1985.

Bu trafodaeth am ganrif o ymgyrchu gan Blaid Cymru a’i gobeithion ar gyfer y dyfodol dan arweiniad cyn-Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood a Chyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, yr Athro Richard Wyn Jones.

Fe roddodd Leanne Wood deyrnged i’r holl aelodau a weithiai’n ddygn dros Gymru ar hyd y blynyddoedd, er nad oedden nhw’n amlwg eu hun, yn arbennig felly’r miloedd o fenywod a chwaraeodd ran allweddol wrth adeiladu’r genedl.  Cafwyd hyn ei ategu gan Richard Wyn Jones, a aeth ymlaen i ddadansoddi’r amgylchiadau a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru a bwrw golwg ar yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’i blaen.

Ar ôl eu cyfraniadau yn y pafliwn Belle Vue pavilion yr oedd sesiwn drafod fywiog dros ben am y dyfodol i Blaid Cymru yn ogystal â’i pherfformiad dros y can mlynedd diwethaf. 

Bu hefyd dadl frwd am ddyddiad a lleoliad sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru.  Caernarfon ym Mis Rhagfyr 2024 meddai Richard Wyn Jones, ond o’r gynulleidfa rhoddwyd achos cryf dros Benarth gan Gwenno Dafydd – un o dri o ddisgynyddion Ambrose Bebb oedd yn bresennol.  Yn swyddogol, fodd bynnag, bydd y canmlwyddiant yn cael ei dathlu ym Mis Awst y flwyddyn nesaf, canfed pen-blwydd cyfarfod ym Mhwllheli yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1925.

Trefnwyd y noson gan Gangen Penarth a Dinas Powys o’r Blaid gyda chefnogaeth Cymdeithas Hanes Plaid Cymru.  Cadeiriwyd gan Gaeth Clubb.

“Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth gref i gyfarfod llwyddiannus dros ben, y cyntaf mewn cyfres sydd i olrhain cwrs ffurfio mudiad cenedlaethol Cymru ganrif yn ôl” meddai Cadeirydd y Gymdeithas Hanes Dafydd Williams.

 

Llyfrynnau

Archif Llyfrynnau..

 

Hanes Plaid Cymru