Sgwrs gyda Michael Williams, Dinbych-y-pysgod
Mae’r Cynghorydd Michael Williams, Dinbych-y-pysgod, yn cynrychioli Ward y Gogledd ac yn arwain grŵp penderfynol o aelodau Plaid Cymru ar Gyngor Sir Penfro. Yn y sgwrs hon gyda Chadeirydd Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams mae’n disgrifio’r newid a ddaeth i’w fywyd ar ôl iddo gytuno â’r diweddar Wynne Samuel i sefyll fel ymgeisydd y Blaid.