Dadorchuddiwyd cofeb i Gwynfor Evans ar y Garn Goch ar ddydd Sadwrn 15 Gorffenaf 2006 fel rhan o Rali Cofio ’66 i ddathlu deugain mlynedd union ers iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru mewn is-etholiad hanesyddol ar Gorffennaf 14eg 1966. Mae pawb oedd ar sgwar Caerfyrddin y noson honno yn cofio’r gorfoledd bendigedig a’r gobaith afresymol a daniwyd yno.
Cloddiwyd y garreg enfawr, sy’n pwyso 7.5 tunnell, mewn chwarel ger Llandybie. Cerfiwyd enw Gwynfor arni gan yr artist enwog Ieuan Rees a fu’n gyfrifol am nifer o gerfiadau ar gofebion i enwogion yn hanes Cymru. Caiff ei ystyried yn un o artistiaid/crefftwyr mwyaf amryddawn Prydain ym maes llythrennu, cerfio llythrennau, caligraffeg, herodraeth a chyfathrebu graffeg.
Gwynfor.net  >>  Gwynfor
Newyddion BBC > BBC