Dadorchuddir Plac Glas er cof am y cenedlaetholwr amlwg Glyn James am 2:00pm Dydd Sadwrn 19 Hydref y tu faes i 9 Darran Terrace, Glyn Rhedynog / Ferndale, Rhondda CF43 4LG. Fe’i dadorchuddir gan y Cynghorydd Geraint Davies ac fe drefnir y digwyddiad gan Archif y Maerdy. Gweinir lluniaeth yng Nghlwb Dynion Busnes a Phroffesiynol, 65-66 Dyffryn Street, Glyn Rhedynog CF43 4EW, diolch i Archif y Maerdy.