Ar ymddeoliad Gwenno Huws, dirprwy brifathrawes Ysgol Gymraeg Sant Baruc, yn nhre’r Barri penderfynodd hi ei fod yn hen bryd cydnabod cysylltiad Gwynfor Evans, Cyn Lywydd Plaid Cymru, â’r dre gan iddo gael ei eni a’i fagu yn y Barri gan fynychu Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Uwchradd y Bechgyn yna. Buodd farw yn 92 oed yn 2005 ac felly dan arweiniad Gwenno Huws aethpwyd ati i godi cronfa i dalu am benddelw o’r gŵr hynod hwn a chomisiynwyd y cerflunydd John Meirion Morris, Llanuwchllyn ger y Bala i gyflawni’r gwaith.
Daeth llawer ynghyd i Lyfrgell y Barri ar yr 28 Chwefror 2010 i weld yr Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas yn dadorchuddio’r penddelw efydd o’r gwron hwn a gwireddwyd breuddwyd Gwenno Huws i weld cofeb deilwng iddo yn ei dref enedigol. Llywyddwyd y cyfarfod gan Dulyn Griffiths, prifathro Ysgol Sant Baruc a chafwyd cyfraniad swynol dros ben gan Gôr yr ysgol dan arweiniad Gwenno Huws a’r siaradwr gwadd oedd yr Athro Gareth Williams o Brifysgol Morgannwg.