Cyfraniad Elwyn Roberts ( 1904- 1988 )
i Gymru a’r Mudiad cenedlaethol
1pm Dydd Iau 10 Awst 2017
Pabell y Cymdeithasau 1
Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
Cynhelir sesiwn arbennig ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i gofio cyfraniad y diweddar Elwyn Roberts i Gymru a’i mudiad cenedlaethol.
Trefnir y sesiwn am 1pm, Dydd Iau 10 Awst 2017 ym Mhabell y Cymdeithasau 1 gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.
Roedd Elwyn Roberts yn ddylanwad aruthrol ar y Blaid, gan sicrhau ei chadw yn fyw a gweithredu drwy adegau anodd iawn, meddai cadeirydd y Gymdeithas Hanes, Dafydd Williams.
“Fe fu’n gyfarwyddwr cyllid, ysgrifennydd cyffredinol a thrysorydd cenedlaethol, ac fel angor i Blaid Cymru drwy flynyddoedd helbulus ail hanner yr ugeinfed ganrif”, meddai.
“Fe’i cofir hefyd fel trefnydd athrylithgar ymgyrch Senedd i Gymru yn y pum-degau.
“Ac ar ôl ymddeol o’i swydd lawn-amser, fe ddaeth yn gynghorydd sir effeithiol yn Ynys Môn – felly mae’n addas iawn ein bod ni’n talu teyrnged iddo ar faes y Brifwyl eleni.”
Bydd modd clywed am hanes y gŵr rhyfeddol hwn yng nghwmni panel sy’n cynnwys Dafydd Wigley a Gwynn Matthews.
22 Gorffennaf 2017
Cyswllt: Dafydd Williams, Ffôn: 07557 307667 (daitenby@gmail.com)