Mae gwybodaeth werthfawr wedi dod i law am ymgyrch Plaid Cymru i oresgyn tlodi yn y tridegau. Mae papurau a drosglwyddwyd i ofal Cymdeithas Hanes Plaid Cymru gan Siôn ap Glyn yn dangos cymaint o waith ymarferol a wnaed i helpu’r di-waith a’u teuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig yn y De a’r Gogledd.
Sefydlwyd ‘Clybiau Cinio Difiau’ gan y Blaid yn ystod y dirwasgiad a darodd Gymru’n galed bron nawdeg o flynyddoedd yn ôl, a hynny gan fudiad oedd wedi’i sefydlu ond ryw ddegawd ynghynt.
Fel y dywedodd Saunders Lewis, Llywydd y Blaid ar y pryd, pwrpas y clybiau oedd i bobl mewn gwaith helpu’r rhai llai ffodus drwy aberthu un pryd o fwyd yr wythnos a rhoi chwe cheiniog i ddarparu bwyd i’r di-waith. Dydd Iau oedd y diwrnod a ddewiswyd – a hynny yn bennaf oherwydd yn aml iawn na fyddai teuluoedd tlawd yn bwyta ar y diwrnod hwnnw am y rheswm syml nad oedd dim arian ar ôl. Aeth gwaith y Clybiau Difiau ymlaen tan ddechrau’r rhyfel yn 1939. Talwyd cost y bwyd gan aelodau’r Blaid, gyda’r arian yn cael ei weinyddu gan ei swyddfa genedlaethol. Yn ôl yr hanesydd D. Hywel Davies, dyma’r ymgyrch elusennol fwyaf llwyddiannus a wnaed gan aelodau’r Blaid yn ystod y 1930au – “parhaodd llif y chwe-cheiniogau cenedlaetholgar yn ddi-dor.”
Ceir adroddiadau manwl am y flwyddyn 1937 am weithgarwch dau glwb ym maes glo’r De – Dowlais ger Merthyr a Dyfnant yn ymyl Abertawe – ac un yn ardal chwarelyddol y Gogledd-orllewin, sef Rhosgadfan. Dowlais oedd man cychwyn y fenter, mae’n debyg, ac ymweliad gan Saunders Lewis fu’r sbardun i’w lledu i ardaloedd eraill. Nes ymlaen, sefydlwyd clwb arall yn Nhreorci yn y Rhondda.
Mae manylion difyr yn dod i’r amlwg yn yr adroddiadau – yn Nyfnant, er enghraifft, yn ôl un arweinydd lleol Dr Gwent Jones, methiant fu’r cinio cyntaf – doedd pobl leol ddim am dderbyn cardod. Llwyddodd i oresgyn y broblem honno drwy wahodd ‘gwesteion’ o blith di-waith yn y gymuned i gyfarfod gyda’r nos ble bydden nhw’n “annerch, darlithio, canu etc., yn ôl eu talent, ond o hyd i fwyta gyda ni”. Ar ôl hynny, bu’r ciniawa’n llwyddiannus iawn.
Bydd y dogfennau gwreiddiol, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y Gymraeg, yn cael eu danfon i archif Plaid Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mae modd eu darllen ar wefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru yma –
Darlith yr Athro M Wynn Thomas Dydd Iau 4 Awst 2022 12.30pm Pabell y Cymdeithasau 2 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cadeirydd Dafydd Williams
Sain y ddarlith –
Magwyd yn ardal Tregaron, Ceredigion, enillodd James Kitchener Davies glod fel bardd a dramodydd. Bu hefyd yn amlwg o fewn Plaid Cymru ar adeg pan oedd yn fudiad bach yn chwilio am droedle yng nghymoedd y De. Yn y ddarlith hon, mae’r awdur ac academydd Wynn Thomas yn cyflwyno dadansoddiad treiddgar o gymeriad pwysig yn hanes mudiad cenedlaethol Cymru.
‘Kitch’: arwr gwleidyddol ac enaid coll
Wynn Thomas
Y tro nesa byddwch chi’n ymweld â Chaerdydd, mentrwch ychydig filltiroedd i’r gogledd ar hyd yr A470, heibio i Gastell Coch ac ymlaen nes cyrraedd y tro i Bontypridd. Ewch drwy’r dre ac anelwch tua’r Porth. Fan’na, dewiswch yr hewl sy’n mynd i gyfeiriad y Rhondda Fawr. Heb fod yn hir, fe welwch chi fynwent y ar y dde, mynwent Y Llethr Ddu. Ewch i mewn iddi, ac ymhlith y beddau di-ri fe gewch chi hyd i fedd yr enwog Tommy Farr. Mae pawb yn dal wrth gwrs i gofio am ei ornest arwrol e yn Efrog Newydd yn erbyn Joe Louis. Ac o fewn ergyd carreg wedyn fe ddewch chi ar draws bedd James Kitchener Davies, un a oedd yn ei ffordd yn ymladdwr llawn mor ddewr, llawn mor eofn, llawn mor ddygn – ac efallai llawn mor aflwyddiannus yn y diwedd – â Tommy Farr ei hun. Fe roedd Kitch yn real ‘scrapper’ i ddefnyddio iaith y cymoedd. Fel y cyfaddefodd e wrth hel atgofion,
Teulu Siors yw’n teulu ni, pobol go sgaprwth, rai ohonom ni. Roedd yno gweryl gwaed rhyngom a theulu parchus arall unwaith ac un o’r rheini oedd y torrwr beddau ym Mwlchgwynt. Daeth gŵr dieithr heibio iddo un diwrnod a sylwi ar y cerrig beddau. ‘Bachgen,’ meddai’r gŵr dieithr, ‘mae lot o Siorsiaid ‘ma wedi eu claddu yn y fan hyn.’ ‘Oes,’ oedd yr ateb swrth, ‘ond dim hanner digon o’r diawled.’
Pencampwr ym myd geiriau oedd Kitch, y ceiliog Bach dandi a arfere glochdar o un pen i gwm Rhondda i’r llall. Yn yr ysgol lle dysgai, roedd e’n un o’r ‘suicide squad’ -yr athrawon isel iawn eu parch a ddysgai pynciau megis y Gymraeg, Cerddoriaeth a’r Ysgrythur. Mewn ymdrech i berswadio’r plant bod y Gymraeg yn dal yn iaith hyfyw, fe fydde fe’n adrodd enwau prif afonydd Ewrop yn y Gymraeg. ‘Nothing hurts more,’ meddai fe, ‘than to hear such phrases as “Oh isn’t it lovely to hear them talk in Welsh,” when this is said patronizingly of Welsh-speaking children. The Welsh-language, like every other, is because it is.’ Fe ddadleuodd e’n rymus o blaid sefydlu coleg prifysgol trwyadl Gymraeg ei hiaith – ac mae e’n haeddu cael ei gofio, a’i anrhydeddu, fel un o broffwydi’n Coleg Cymraeg Cenedlaethol presennol ni. Yn y staff room fe ddaliai ei dir yn wyneb yr ymosodiadau gwawdlyd a gwenwynig arno fe gan selogion niferus y Blaid Lafur. Pan fynnen nhw’n ddirmygus mai ‘England’s Glory’ oedd y matsys a ddefnyddiwyd gan losgwyr Penyberth, ei ateb parod e oedd na, Pioneer matches oedden nhw. Pioneer oedd Kitch ei hun, un a gyhoeddai ei genadwri genedlaethol herfeiddiol a chwyldroadol ar bob cornel stryd.
Yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, roedd Kitch wedi bod yn un o ddisgyblion T. Gwynn Jones, awdur ‘Ymadawiad Arthur.’ Ond yn y Rhondda fe gafodd e’i hun ymhlith disgyblion Arthur Horner ac Arthur J. Cook. Roedd y cymoedd yng ngafael creulon y Dirwasgiad Mawr, y mudiadau Llafur yn naturiol yn eu hanterth, a’r boblogaeth yn ymwybodol o fod nid yn aelodau o genedl y Cymry ond yn aelodau o’r dosbarth gweithiol. Dosbarth a wydde ei fod e’n hollol ddi-rym yn wyneb prosesau annynol y gyfundrefn gyfalafol. Dosbarth hefyd a oedd yn gydwladol ei olygon – golygai Penyberth ddim yw dim i’r glowyr; ond fe fedren nhw uniaethu â gwerin Sbaen ac arswydo wrth glywed yr hanes am fomio Guérnica. Roedd canran uchel o’r gweithlu’n ddi-waith ac yn ddiobaith. Roedd afiechyd ar gerdded yn rhemp.
Wrth ddwyn hyn oll yn ôl i gof mae’n briodol inni holi a oedd Kitchener yn medru wir adnabod cyflwr enbyd y cymoedd diwydiannol. Ac yna i holi ymhellach a oedd ganddo fe feddyginiaeth wleidyddol a oedd yn wir atebol i’r angen.
Yr ateb i’r cwestiwn cyntaf yn ddi-os yw ydoedd: yn ei ffordd o leiaf, a hyd eithaf ei allu, fe ‘roedd e’n teimlo argyfwng trychinebus y cymoedd i’r byw. ‘A hwn,’ medde fe mewn ysgrif nodweddiadol dreiddgar, ‘yw Cwm Rhondda y dirwasgiad, lle y mae pobl yn byw ar enillion dyddiau gwell, yn bwyta eu tai a difa addysg eu plant; yn bod ar gardod …; yn syrthio i ddyled, yn torri eu calonnau ac yn trengi o nychtod corff ac enaid.’’ Fe sylweddolai’r broblem o lunio darlun realaidd – fel y gwnaeth yn ei ddrama Cwm Glo – o fywyd y cymoedd diwydiannol. ‘O sylwi ar y ddrama realaidd Gymraeg,’ meddai fe, ‘a fu farw cyn ei geni, gwelir mai haen denau rhwng dau drwch o Seisnigrwydd yw’r bywyd Cymraeg – tipyn o gig rhwng tafell Seisnigrwydd caethweision tlodi a thafell Seisnigrwydd caethweision ffug-fonheddig.’
Prif nod Kitch oedd dihuno’i gyd-Gymry o’u trwmgwsg cenedlaethol. Ei nod, fe esbonia’n gryno, oedd ‘to make the sense of nationhood a fact to the thousands who under capitalism have been defrauded of their lawful past. Slumdom is like the dragon of fairy stories far enough away from us at normal times. But canvass a constituency. If we cannot give life more abundantly there, we must not mock suffering with the twaddle of dying things.’ Fe ddaeth e’n ffrindiau â Chomiwnyddion fel yr awdur a’r arweinydd undeb Lewis Jones. Fe gofiai gydag afiaith am yr hwyl a gafwyd yn eu cwmni. ‘Anghofiaf i byth,’ medde fe ar ddiwedd ei ddyddiau, ‘mo’r hwyr haf hwnnw a’r gŵr ar ben y bocs yn llewys ei grys, wedi bod wrthi am awr a chwarter, yn sefyll ar ganol ei frawddeg, a dilyn ei law araf dros y dorf, ymlaen ac yn ôl: “Comrades,” mynte fe, “you do dant me, you look so bloody dull.”’
Ond oedd e’n medru wir amgyffred profiad y gŵr ‘na yn ei ymyl yn llewys ei grys, a’r dosbarth gweithiol diwydiannol y perthynai iddi? Wn i ddim. Yn sicr, fe fethodd e’n lân â pherswadio trwch y boblogaeth y medrai wneud hynny. Iddyn nhw, fe barablai mewn iaith oedd yn estron. Fel athro parchus yr ymddangosai Kitch iddyn nhw, hyd yn oed pan oedd e ar ei focs sebon ar gornel stryd. Un oedd e a fynne ddysgu iddyn nhw syllu arnyn nhw’u hunain mewn ffordd hollol ddiarth.
Falle’i bod hi’n rhy hawdd i ninne heddi, sy’n byw uwchben ein digon, i wneud dim ond canmol Kitch yn anfeirniadol am ei waith diarbed a digymar er lles y genedl. Yn bendifaddau fynne fe ei hun ddim y fath folawd. Un oedd yn anesmwyth ac yn aflonydd yn ei groen ei hun oedd Kitch ar hyd ei fywyd. A doedd dim yn fwy atgas ganddo fe na methiant y Cymry i gwmpo ar eu bai ac i wynebu eu diffygion fel pobl. Ar y diwedd oll, mynnodd droi ei olygon tuag yn ôl i syllu’n oeraidd ar ei ddiffygion ef ei hunan, mewn cerdd arswydus o onest. Gwareder ni, felly, rhag troi ‘Kitch’ yn ‘kitsch’ – yn yr ystyr Saesneg sy’n awgrymu rhywbeth sentimental, ffuantus, sathredig o boblogaidd.
Serch hynny, mae e’n sicr yn llawn haeddu cael ei fawrygu fel arwr cenedlaethol. Ac yn ddiamau Kitch, yn anad neb, a wnaeth baratoi’r ffordd ar gyfer sefydlu ysgolion Cymraeg yn y Rhondda, datblygiad sy erbyn hyn wedi sicrhau bod yr iaith i’w chlywed ar wefusau cynifer o’r trigolion. Ymhellach, fe fedrir dadlau bod Kitch wedi bod yn ddigon hirben i ragweld y dirywiad anorfod a ddaeth i ran cymdeithas y cymoedd diwydiannol yn y cyfnod wedi’r rhyfel a’i fod wedi rhagweld ymhellach y bydde’n rhaid i Gymru o’r herwydd ddioddef y broses boenus o ddad-ddiwydiannu. Does dim dwywaith chwaith ei fod e wedi paratoi’r ffordd ar gyfer y chwyldro gwleidyddol a welwyd yn y cymoedd yn ystod y degawdau diwethaf.
Ond eto, yn y diwedd, roedd bwlch diadlam rhwng Kitch a’i gynulleidfa yn y Rhondda, bwlch a olygai na fedrai wir ddeall profiadau’r gweithwyr. Fe roedd dau faen tramgwydd yn ei atal e rhag gwneud. Y cyntaf oedd ei addysg, a olygai fod ganddo mewn gwirionedd fydolwg dosbarth canol ei gyfnod – a hwnnw, yn ei achos ef, yn ddosbarth canol diwylliedig Cymraeg. A’r ail faen tramgwydd oedd ei gefndir cynnar. Oherwydd wrth gwrs crwt o’r wlad oedd Kitch yn y bôn, ac yma yn Nhregaron y cafodd ei eni, ei fagu, a’i fowldio. ‘Doedd y profiad diwydiannol ddim ym mêr ei esgyrn ef, er, fel y cewn ni weld, bod hanes ei deulu yn enghreifftio’n fyw y dolennau cymhleth a gysyllte cefn gwlad bryd hynny â’r ardaloedd Seisnig ‘estron’ hynny a oedd wedi ymsefydlu mor ddisymwth yng nghymoedd y De. Y duedd gan gynifer o edmygwyr Kitch yw i wrthgyferbynnu dau begwn eithaf ei brofiad. Ar un adeg fe arferai rhai sôn am ei yrfa fel petai’n ymdrech genhadol i achub y Rhondda i’r genedl drwy ddwyn purdeb dilychwin pura Walia – y Gymru ‘wreiddiol’ bur a diledrith – i ganol cymdeithas sathredig y cymoedd. Ond nid fel’na y gwelai Kitch hi, ac nid dyna wir drywydd ei yrfa. Fe roedd e’n ddigon craff i sylweddoli fod gan y Gymru wledig a’r Gymru ddiwydiannol fel ei gilydd wendidau nid anghyffelyb. Fe welwn ni hynny’n glir, dim ond i ni gyfosod dau o’i gampweithiau, sef Cwm Glo a Meini Gwagedd. Ac wrth inni wneud hynny, fe fydde’n werth inni oedi am ychydig i ystyried rhai agweddau ar ei fywyd cynnar sy’n esbonio tarddiad rhai agweddau ar ei weledigaeth.
Ganed Kitch yn nhyddyn bach tlawd Y Llain, ‘bwthyn unllawr pridd,’ i’r gogledd o dre Tregaron. Dyna chi gychwyn felly yng nghôl y wlad, ond eto yn barod ‘bu cysgod y Pwll Glo tros fy nghof cynnar,’ fel y cyfaddefai ddegawdau ar ôl hynny. Roedd ei dad eisoes yn treulio misoedd lawer oddi cartref yn gweithio fel saer dan ddaear ym mhyllau Blaengwynfi. Roedd ganddo fe fodryb hefyd a oedd wedi gadael cartref yn gynnar i weini yn Nhonypandy. Yno fe aned iddi blentyn siawns – enghraifft gynnar o ffawd gyffredin y ferch ddiamddiffyn yn y gymdeithas ddiwydiannol. Ac o gofio hynny mae’n hawdd inni ddeall shwd y llwyddodd Kitch maes o law i lunio darlun mor ysgytwol o onest o brofiadau gwraig briod a merch ifanc yn ei ddrama gythryblus Cwm Rhondda, ac i ddinoethi ysfaon rhywiol y dosbarth gweithiol.
Fe yrrodd Bodo Mari – sef modryb Kitch – ei phlentyn yn ôl i Dregaron, lle y cafodd ei godi fel plentyn ei chwaer. Dyna ichi felly enghraifft o drugaredd annisgwyl y Gymru wledig gapelog, ie; ond dyna ichi enghraifft o ragrith y Gymru honno hefyd — ei pharodrwydd i fygu’r gwir, i gelu’r annerbyniol, ac i fagu cymdeithas gelwyddog, rwystredig. A dyna’r union ddarlun o’r bywyd gwledig a welir maes o law yn y ddrama fawr a rhyfedd honno, Meini Gwagedd, un arall o gampweithiau chwyldroadol Kitch. Drama yw hi sy’n llawn o ysbrydion aflonydd y meirw, ysbrydion sy’n gaeth i’w hen aelwyd am na fedran nhw ddioddef dod wyneb yn wyneb â’r gwirionedd annerbyniol, rhyddhaol am y bywyd caethiwus, hunllefus a gawson nhw yno pan ar dir y byw. Oherwydd hynny mae eu cydberthynas yn ymylu ar fod yn llosgach ysbrydol afiach. Dim rhyfedd fod Jacob Davies, a chwaraeodd ran un o’r prif gymeriadau, wedi dioddef chwalfa nerfau yn dilyn ei berfformiad. Mae’n dal yn ddrama a all eich ysgwyd chi i’ch perfeddion. Ac mae’n chwalu’r myth am fywyd y werin wledig, yr un modd ag yr oedd Cwm Glo yn chwalu’r myth cyfatebol am ‘werin y graith.’
Drylliwr eiconau oedd Kitch wrth ei reddf. Ac fel y cawn ni weld, ar ei wely angau fe chwalodd e’r eicon mwyaf i gyd – yr eicon y mynnai rhai o’i ffrindiau ei lunio ohono fe ei hunan, delwedd ffals yr oedd Kitch yn rhannol feio ei hun am ei chreu. Mae gonestrwydd Kitch mor eithafol ac mor ddidrugaredd nes hala arswyd ar ddyn. Cerdd gyffesol yw’r gerdd radio fawr ‘Sŵn y Gwynt Sy’n Chwythu,’ cerdd lle mae’n diberfeddu ei hun yn gwbl ddiarbed. Dyma ichi harakiri o gerdd os bu un erioed.
Rwy wedi mentro awgrymu na fedrai Kitch wir uniaethu gyda phrofiad y glowyr. ‘Dyn dŵad ydw i,’ medde fe ei hun am ei fywyd yn y Rhondda. Gan ychwanegu ‘dyn dieithr ydwyf yma, draw mae fy ngenedigol wlad.’ Fe wydde bod hynny’n anfantais amlwg ar un olwg iddo fel llenor ac fel gwleidydd. ‘Iaith seiat Llwynpiod sydd ar Gwm Glo,’ fe gyfaddefodd – Llwynpiod, capel y Methodistiaid Calfinaidd lle’r arferai ef a’i deulu groesi’r gors bod dydd Sul i fynychu’r oedfaon. Ond ar olwg arall roedd ei ddieithrwch e yn fantais hefyd. Oherwydd fe olygai bod ganddo olwg oddi-allan ar y Gymru wledig a’r Gymru ddiwydiannol fel ei gilydd, golwg a’i galluogodd i sylwi ar rhai agweddau na fynne aelodau’r gymdeithas eu cydnabod. Sdim rhyfedd ei fod e’n ymddiddori yng ngwaith Sigmund Freud, a wnaeth cymaint i’n gwneud ni’n ymwybodol o’r cymhellion cudd gwaelodol sy’n ddirgel lywodraethu’n bywydau. Kitch, er enghraifft, wnaeth ddatgelu cyflwr yr iaith yn y cymoedd, gan egluro goblygiadau economaidd, gwleidyddol a diwylliannol y dirywiad syfrdanol hwnnw.
Rhwng 1931 a 1951 syrthiodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Rhondda o bedwar deg pump y cant i naw ar hugain y cant. Ateb Kitch a’i ddilynwyr oedd esgor ar fudiad i sefydlu ysgolion Cymraeg yn y cymoedd – Ynys-Wen yn y Rhondda Fawr i ddechrau, ac yna Pontygwaith yn y Rhondda Fach. Dyna chi’r fantais o fedru syllu oddi allan ar y gymdeithas, gan sylwi o’r herwydd ar ddiffygion a gwendidau a oedd yn ynghudd i’r gymdeithas ei hunan. Ac fe wnaeth Kitch y llenor elwa o’r un nodwedd. Fe roddodd sylw arbennig yn Cwm Glo i gymeriad y glöwr Dai Dafis. Pwdryn yw e sy’n barod iawn i buteinio ei ferch, i fradychu ei gydweithwyr, i gam-drin ei wraig, ac i wastraffu ei gyflog ar yfed a gamblo. Doedd dim prinder ei debyg yng nghymoedd y Rhondda,, ond fe wrthodai’r trigolion a’u cefnogwyr â chydnabod hynny, ac o’r herwydd fe felltithiwyd Kitch am fentro i ddarlunio’r fath gymeriad.
Ymhellach y mae’n werth cofio i Kitch adael ei gynefin gwledig – er yn anfoddog iawn, fel y cawn ni weld, — gan droi’n alltud a meithrin golwg o’r tu allan ac o bell ar ei gymdeithas enedigol. A’r olwg honno a’i galluogodd i lunio drama mor gignoeth a thanseiliol â Meini Gwagedd, gwrth-fugeilgerdd os y bu un erioed. Campwait h gŵr yr ymylon oedd y gwaith hwnnw, yn union run fath â Cwm Glo.
Ar un wedd ystyriai Kitch ardal Tregaron yn baradwys goll ar hyd ei fywyd. Dyma chi flas ar ei atgofion hynod hudolus o’r bywyd yno: ‘Daliodd felyn eiddil y brogaid bach-bach yn tasgu tan eiddilach melyn yr haul, a gwelodd (o gornel pellaf y clos lle y mae, fel cawod o betalau, glwstwr o blu’r iâr felen or-fentrus), lwybr y cadno yn cerdded ar ei union trwy’r gwlith.’ Mae’n ddisgrifiad cyfoethog a chynhyrfus o synhwyrus . Ac mae cyfoeth yr iaith – cyfoeth a gollwyd yn llwyr erbyn hyn – hefyd yn feddwol. ‘Naddu gwernen yn llwyau pren o flaen tân, plethu gwiail yn lipau yn y sgubor, anadlu moethusrwydd tail yr eidonau wrth garthu crit y lloi….Crychydd cam yn codi a chwibanogl yn troi, sgrech cornicyll.’ Mae’n iaith dorcalannus o hiraethlon.
Ond yna yn sydyn fe ddewn ni ar draws sylw arall, wrth i Kitch gyfeirio at ‘sgrech oerach Ann druan wrth iddi’n sydyn fynd yn wallgo yn y gors.’ Mynnai gonestrwydd Kitch dorri ar draws pob darlun sentimental o fywyd, a’i chwalu’n deilchion. ‘Sgrech oeraidd Ann’ a glywir yn atseinio yn y ddrama Meini Gwagedd drwyddi. Ac fe glywir y sgrech yn adleisio ar nodyn personol iawn yn ‘Sŵn y Gwynt’ hefyd.
Bu rhaid i Kitch gefnu ar y baradwys hon yn lled gynnar yn ei hanes, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf fe fu farw ei fam pan oedd e ond yn chwech mlwydd oed. Ac yna, ychydig flynyddoedd ar ôl hynny, fe benderfynodd ei dad yn ddisymwth i werthu bwthyn bach Y Llain a phriodi ‘menyw fach o’r de,’ chwedl Kitch, llysfam farus. O’r herwydd fe fu’n rhaid i Kitch adael ardal Tregaron am byth, a symud i fyw gyda’i fodryb annwyl yn Nhonypandy. Fe ddiwreiddiwyd Kitch yn greulon felly, ac fe’i ddad–etifeddwyd hefyd – profiad chwerw a welai’n cael ei ail-adrodd yn y man ar draws cymoedd y De, lle roedd y boblogaeth gyfan wedi ei dad-etifeddu. Ar ôl priodi ac ymgartrefu yn y Brithweunydd, beth wnaeth Kitch, ond bwrw ati i greu gardd wrth ymyl y tŷ, gardd a oedd yn ddiarhebol o brydferth ac a oedd yn amlwg yn cynrychioli’r hyn a gollwyd ganddo fe pan werthwyd Y Llain.
Ond os y bu colli’r Llain yn golled ffurfiannol yn hanes natblygiad Kitch, fe fu colli ei fam yn brofiad mwy ysgytwol o ddylanwadol fyth. Fe drodd e’n ôl at y golled waelodol honno wrth orwedd yn ei waeledd yn ysbyty Church Village, a hynny a esgorodd ar ei gerdd anhygoel ‘Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu.’ Ynddi fe ddaw sawl llinyn eneiniol pwysig yn ei hanes ynghyd am y tro cyntaf. Mynychu Seiat Profiad yn Llwynpiod pan oedd e’n grwt; sylw Saunders Lewis, yn ei astudiaeth arloesol o fywyd a gwaith Pantycelyn, fod cyfarfodydd y Seiat yn debyg i sesiynau dadansoddol y Seiciatryddion modern; dysgu’n ifanc bod pechod yn rhan annatod o wead pob bod dynol; ymddiddori ym marddoniaeth ac yn nramâu ysbrydol T. S. Eliot; awydd i ddefnyddio cyfryngau newydd megis y radio i hyrwyddo datblygiad yr iaith Gymraeg; y sylweddoliad fod y cyfrwng newydd hwn yn gyfrwng agos-atoch gwefreiddiol o chwyldroadol; ac yn y blaen ac yn y blaen. Ac mae’r gerdd yn blethiad cywrain a chymhleth o nifer o symbolau pwerus. Yn bennaf oll, fe ddefnyddir delwedd perth gysgodol Y Llain, clawdd oedd yn arbed y tyddyn rhag y gwynt. Ac fe wrthgyferbynnir hynny â chymoedd noeth, diamddiffyn y Rhondda, cymoedd sy’n agored led y pen i gorwyntoedd dinistriol economaidd, gwleidyddol a diwylliannol.
Ond y mae yna wedd wrthwyneb ar berth warchodol Y Llain. Ar ddiwedd ei fywyd, sylweddola Kitch ei bod hi’n berth y cysgodai ef ei hun y tu ôl iddi er mwyn osgoi wynebu gwirioneddau deifiol am ei gymeriad ef ei hun. Oherwydd erbyn hyn, yn hwyr iawn yn ei ddydd, fe ystyriai Kitch ei hun nid fel arwr herfeiddiol dewr yn sefyll dros hawliau’r Cymry, ond fel un a fu’n ddim ond yn dwyllwr dirgel ar hyd ei fywyd, llwfrgi a lechai rhag cydnabod nifer o heriau gwaelodol. Un o’r rhain oedd yr her i gydnabod ei natur ef ei hun, i wir adnabod ei hanes ers yn fach. Ond yr her eithaf oll oedd yr her i ymagor yn ufudd ac yn llwyr i alwad yr ysbryd, ac i blygu i’r gofynion hynny a ddeuai yn ei sgil. Cyfaddefai Kitch fod yr her hon yn ei arswydo’n lân.
Yn ‘Sŵn y Gwynt’ mae’n olrhain y gwendidau tybiedig hyn yn ôl i’w tarddle, yn y profiad cynnar hwnnw o golli ei fam pan oedd e ond yn chwech. Y cyhuddiad mwya creulon a’r cyhuddiad mwya deifiol – mae e’n mynnu dwyn yn ei erbyn ef ei hun, yw mai dim ond chwarae rhan y bu e ar hyd ei fywyd ers yn blentyn. Act oedd y cyfan, dyna i gyd. Ac mae’n mynnu ei fod e wedi dechrau acto pan gollodd e ei fam:
Wyt ti’n cofio dod ‘nôl yn nhrap Tre-wern
O angladd mam? Ti’n cael bod ar y sêt flaen gydag Ifan
A phawb yn tosturio wrthyt, yn arwr bach, balch.
Nid pawb sy’n cael cyfle i golli’i fam yn chwech oed,
A chael dysgu actio mor gynnar.
I fi, mae’r llinellau’n dor-calon o drist, yn orlawn o’r chwerwder a’r dicter na fedre’r un bach eu mynegi ar y pryd, ac na fynnai Kitch yr oedolyn chwaith gyfaddef iddyn nhw. Teimladau yw’r rhain sy’n mynnu brigo’n anorfod i’r wyneb ar y diwedd oll, ac sy’n hawlio mynegiant cyhoeddus. Ffrwydriad y teimladau hyn sy’n gwneud y gerdd hon yn gerdd gyffesol mor gofiadwy; cerdd a all eich siglo chi i’ch gwreiddiau. Bron na ddywedwn i ei bod hi’n embaras o gerdd, am ei bod hi mor ddiarbed o gignoeth.
Gan gofio am ddiddordeb Kitch mewn seicoleg a seicdreiddiad, fe ddechreuais i ddyfalu beth yw barn seicolegwyr modern am y profiad o golli rhiant annwyl pan yn fach, ac fe ges fod gwaith ymchwil dadlennol wedi ei wneud. Adeg yr ail ryfel byd, bu seicolegwyr wrthi’n astudio ymateb refugees o Lundain i’r profiad o orfod troi cefn ar eu mamau ac ymgartrefu mewn cartrefi cwbwl ddiarth. Fe gafwyd bod nifer ohonyn nhw wedi amddiffyn eu psyche brau, briwedig, bryd hynny drwy chwarae rhan, a chymryd arnyn nhw bersona nad oedd yn cyfateb i’r hyn oedden nhw yn y bôn. Ac fe sylweddolwyd ymhellach bod chwarae rhan fel hyn yn ifanc yn arwain at barhad yr arfer ar hyd eich bywyd. Ar ôl tyfu’n oedolion ni fedre’r plant hyn fwrw heibio’r arfer o acto, gan y golygai hynny ddod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf â’r loes gyntaf erchyll – y primal loss – o golli eu mam. Fe’u twyllwyd nhw gan fywyd yn ifanc, ac ar ôl hynny rhaid oedd iddynt hwythau dwyllo yn eu tro er mwyn amddiffyn cnewyllyn ei bod rhag byth ddioddef y fath archoll eto.
Hyd y gwela i, dyna’n union a fu profiad Kitch. Ac fe awgrymwn i’n bellach y gellir synied am brofiad fel hyn fel math o ptsd. Rwy’n llwyr dderbyn ein bod ni bellach yn or-barod i arfer y label hwnnw. A fynnwn i ddim honni yn blwmp ac yn blaen bod Kitch yn dioddef o ptsd ar hyd ei fywyd. Ond fe fentren i awgrymu bod yna debygrwydd awgrymog, o leiaf, rhwng y trauma gwaelodol lloriol hwnnw y mae’n cyfaddef iddo yn ‘Sŵn y Gwynt’ a phrofiad y trueiniaid hynny sy’n ysglyfaeth i ptsd go iawn. Ac o syllu ar ei fywyd drwy’r lens yma, fe ddaw sawl gwedd ddiddorol arno i’r amlwg.
Mae’n esbonio pam ei fod e’n medru uniaethu, fel y mae’n gwneud yn Meini Gwagedd, ag ysbrydion y meirw sy’n gaeth i’w hen gartref am na allan nhw wir wynebu goblygiadau’r bywyd arswydus ar yr aelwyd honno. Onid ysbryd aflonydd fel’na oedd ysbryd Kitch ei hun? Mae e hefyd yn bwrw golau newydd ar ei obsesiwn e â’r theatr – y chwarae-dŷ go iawn wrth gwrs – a’i barodrwydd i lunio dramâu heriol. A falle ei fod e ymhellach yn esbonio ei weledigaeth o gyflwr Cymru – y weledigaeth sydd wrth wraidd ei holl wleidydda. Oherwydd fe dybiai Kitch mai gwlad oedd Cymru a oedd wedi dioddef trauma chwyldroad diwydiannol a oedd hefyd yn rhwyg diwylliannol. Gwlad oedd hi a oedd yn gwrthod wynebu’r gwirionedd poenus amdani hi ei hun. Roedd y Cymry’n benderfynol o acto fel Saeson. Twyll oedd y cyfan, yn ei farn ef – a hwyrach bod angen twyllwr, fel y gwelai Kitch ei hun – i adnabod twyllwr. Mae pob twyllwr, yn ei hanfod, yn ystrywgar.
Esboniad secwlar yw esboniad y seicolegwyr. Ond nid dyna a geir yn ‘Sŵn y Gwynt.’ Oherwydd bydolwg crefyddol oedd gan Kitch, y bydolwg Calfinaidd a wreiddiwyd mor ddwfn ynddo fe yng nghapel bach Llwynpiod yma yn ymyl y gors. Golygai hynny ei fod e, ar y diwedd, yn ei ystyried ei hun yn bechadur llwyr, am nad oedd ei fywyd e wedi bod yn ddim ond twyll a rhagrith o’i ddechrau hyd ei ddiwedd. Dyna ddagrau pethau. A dyna fawredd ei gerdd yn ogystal. Mae’n gorffen gyda gweddi pechadur, gweddi ymbilgar, daer am achubiaeth sy’n ddigon i hala cryd ar ddyn.
Ymbil y mae e’n baradocsaidd am gael ei achub drwy beidio cael ei achub. Mae e am osgoi gorfod dioddef i’r eithaf am ei ffydd. Mae e am i’r Goruchaf godi clawdd Y Llain o’r newydd rhyngddo fe ac artaith y groes: ac ar yr un pryd mae e’n gweddïo am gael ei arbed rhag gorfod dioddef artaith y canser sy’n ei araf ladd.
Quo vadis, quo vadis, I ble rwyt ti’n mynd?
Paid â’m herlid i Rufain, i groes, â ‘mhen tua’r llawr.
O Geidwad y colledig,
Achub fi, achub fi, achub fi
Rhag Dy fedydd sy’n golchi mor lân yr Hen Ddyn.
Cadw fi, cadw fi, cadw fi
Rhag merthyrdod anorfod Dy etholedig Di.
Achub fi a chadw fi
Rhag y gwynt sy’n chwythu lle y mynno.
Boed felly. Amen
Ac Amen.
Dyna chi cri de coeur yr ysbryd, cri enaid Calfinaidd clwyfedig de profundis. Ond yn islais ynddi fe glywa i hefyd gri Ann yn gwallgofi yn y gors, a llef bachgen bach a fydd, byth bythoedd, newydd golli ei fam.
Mae’r Athro M.Wynn Thomas yn academydd ac awdur o fri sy’n dal Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Traddodwyd y ddarlith hon yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron Ddydd Iau 4 Awst 2022 dan nawdd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru. Ceir fersiwn Saesneg ar y wefan hon.
Dydd Iau 4 Awst 2022 12.30pm Pabell y Cymdeithasau 2
yn yr Eisteddfod Genedlaethol
“Kitchener Davies – o Dregaron i Drealaw “
Darlithydd Athro M Wynn Thomas
Cadeirydd Dafydd Williams
Y bardd, dramodydd a chenedlaetholwr James Kitchener Davies (1902-1952) fydd testun cyflwyniad arbennig eleni, 120 o flynyddoedd ers ei eni. Bydd yr awdur M. Wynn Thomas yn bwrw goleuni ar hanes ryfeddol y brodor o ardal Tregaron a ysbrydolai’r mudiad cenedlaethol yng nghymoedd y De.
Gobeithiwn y byddwch yn gallu bod yn bresennol. Os na , recordir y ddarlith a bydd ar gael ar wefan y Gymdeithas
Wrth edrych yn ôl dros fy ngyrfa yn Senedd Ewrop, mae’n anodd credu ei fod wedi ymestyn dros ugain mlynedd. Nid yw’n bosibl mewn erthygl ond rhoi blas ar waith Aelod Senedd Ewrop a cheisio dangos pa mor werthfawr oedd yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.
Pan sefais dros y Blaid yn f’etholiad Ewropeaidd gyntaf ym 1989, doedd dim gobaith gennyf o ennill. Erbyn 1999 roedd y sustem bleidleisio wedi newid. Roedd pum aelod i’w hethol i Senedd Ewrop yn cynrychioli Cymru gyfan ar sail canran y bleidlais i bob Plaid yn genedlaethol. Gyda’r bleidlais uchaf gafodd y Blaid erioed a gyda chyffro mawr, cafodd Eurig Wyn a minnau ein hethol fel yr ASEau cyntaf. Roedd yn garreg filltir yn hanes y Blaid.
Roedd yn garreg filltir bersonol i fi hefyd. Roeddwn wedi ymweld â Senedd Ewrop yn yr wythdegau wrth gynrychioli’r Blaid mewn cyfarfod Cynghrair Rydd Ewrop (EFA). Fe es i mewn i siambr y senedd i wrando ar drafodaeth ar bolisi rhanbarthol. Doedd y siambr ddim mor olau a thrawiadol a’r hemicycle heddiw a sylwais mor anodd oedd dyfalu pa aelod oedd yn siarad. Roeddwn yn ffigurau bach bron yn ddinod. Er hynny, roedd pob un yn rhoi eu holl egni i mewn i gyflwyno dadl gref yn ystod eu munud neu ddau o amser siarad.
Ces i’m synnu a’m hysbrydoli. Roeddwn yn gyfarwydd â math o wleidyddiaeth lle’r oedd cymaint yn dibynnu ar bersonoliaeth. Roedd yn bosibl ennill dadl trwy sicrhau bod gwleidydd adnabyddus (dyn, bron yn ddieithriad) yn cefnogi un ochr neu’r llall, ac eraill yn ei ddilyn. Yr unigolion yn hytrach na’r pwnc oedd yn bwysig. Fel arall oedd e yn Senedd Ewrop. Roedd yn ddadl ystyrlon a pharch at bob aelod unigol.
Eironi o’r mwyaf yw’r ffaith bod yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi’i ennill oherwydd penderfyniad Boris Johnson i’w gefnogi. Roedd penderfyniad mor dyngedfennol yn hongian ar ddewis un dyn. Mae’n adlewyrchu anhwylder gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol.
Mae’n ddiddorol hefyd i nodi bod UKIP wedi ceisio efelychu agweddau gwaethaf diwylliant San Steffan yn Senedd Ewrop. Daeth gweiddi, heclo a sarhad yn nodweddiadol o’u hymddygiad yn y siambr. Gwleidyddiaeth wenwynig.
Ces i fy meirniadu yn y wasg sawl gwaith am beidio cwrdd â gofynion ffug gwleidydd llwyddiannus yn ôl mesur Prydain. Doeddwn i ddim am gael fy nhynnu oddi wrth fy mhrif amcan. Roedd Cymru yn Ewrop yn llawer mwy na slogan. Fe wnaeth e grynhoi delwedd o Gymru annibynnol yn cydweithio mewn heddwch gyda chenhedloedd eraill yr Undeb Ewropeaidd er mwyn adeiladu Ewrop mwy democrataidd a chyfartal: Ewrop y Bobloedd.
Ces i brofiad anhygoel ac unigryw fel ASE Plaid Cymru. Ces i’r anrhydedd o arwain grŵp EFA yn y Senedd am bum mlynedd fel Llywydd EFA ac fel Is-lywydd Grŵp Gwyrddiaid/EFA. Eleni, derbyniais Wobr EFA Coppieters am fy ngwaith mewn hyrwyddo gwerthoedd EFA yn y senedd.
Bues i’n ymgyrchu ar newid hinsawdd, polisïau masnach deg, yn erbyn GMOs, dros amaeth a chefn gwlad Cymru, dros heddwch a chyfiawnder a dros hawliau ieithoedd lleiafrifol. Yn 2008 enillon ni statws cyd-swyddogol i’r iaith Gymraeg yn Ewrop: nid oedd yn statws swyddogol llawn ond o leiaf roedd ein hiaith yn cael cydnabyddiaeth. Yn 2019 derbyniais wobr Ewropeaidd METANET am fy ngwaith ar gyfartaledd digidol i bob iaith. Ystyrir fy adroddiad yn safon aur ar gyfer ieithoedd lleiafrifol.
Fe ges i gyfleoedd unigryw i fynd i Fforwm Cymdeithasol y Byd yn Porto Allegre ym Mrasil, i Uwchgynadleddau’r Cenhedloedd Unedig yn Johannesburg, Copenhagen a Pharis, ac i gyfarfod y WTO yn Hong Kong. Fe es i hefyd i Irac cyn y rhyfel ac i Gatalonia sawl gwaith ar gais ei llywodraeth i fod yn sylwedydd swyddogol ar gyfer y refferenda ar annibyniaeth. Fe ddes i yn gyfarwydd iawn hefyd a Phalesteina ac Israel trwy ymweld â’r wlad sawl gwaith gyda dirprwyaeth y senedd.
Mae teithio yn rhan o fywyd wythnosol ASE. Byddwn yn gadael fy nghartref yn Llwynypia bob bore dydd Llun i ddal y trên i Frwsel. Nos Iau, byddwn yn cychwyn am adre. Unwaith ym mhob mis byddai’r senedd yn cwrdd yn Strasbourg a oedd yn golygu symud popeth i’r ddinas am wythnos. Y penwythnosau oedd fy amser teithio o gwmpas Cymru.
Cyfrifoldeb o’r mwyaf oedd bod yn llais i Gymru. Anrhydedd o’r mwyaf ar yr un pryd. Roedd yn cymryd llawer o waith cynllunio a pharatoi strategaeth er mwyn codi proffil ac agor pob drws i Gymru. Roedd yn cynnwys son am Gymru ymhob araith yn y senedd, trefnu digwyddiadau cymdeithasol, arddangosfeydd a chynadleddau, cyhoeddi adroddiadau a gwahodd siaradwyr a grwpiau o Gymru er bob cyfle posibl.
Ces i gefnogaeth anhygoel gan gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, corau, prifysgolion, mudiadau gwirfoddol a chymunedol a llawer, llawer mwy yn y gwaith yma. Mae lobïwyr o Gymru heb eu hail!
Roedd yn bleser arbennig hefyd i gynnig profiad gwaith i gymaint o bobl ifanc o Gymru yn y swyddfa ym Mrwsel. Braint oedd rhoi cyfle iddynt a hefyd i ddangos y dalent a’r potensial anferth sydd yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol ein cenedl.
Mae Cymru yn genedl Ewropeaidd. Roeddwn i’n ymgyrchu tan y funud olaf i gadw Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd ac rwyf yn dorcalonnus ein bod ni wedi gadael. Pan adewais i Frwsel, gadewais faner draig goch gyda’n grŵp yn y senedd. Maent yn gofalu amdani nes bod Cymru yn ôl i gymryd ei lle priodol gyda chenhedloedd eraill Ewrop a chaiff ein baner ei chodi eto.
2009
2009
2010 Fferm Gwern
2010 Gaza
2010
2010 Yr Urdd
2012
2014
2015
2019 Plaid Cymru EU election candidates Patrick McGuinness, Jill Evans MEP, Carmen Smith, and Ioan Bellin
Nodwyd canmlwyddiant geni’r bardd gwladgarol nodedig Harri Webb gyda seremoni pan roddwyd blodau ar ei fedd yn Eglwys y Santes Fair, Penard, Gŵyr (12 dydd Dydd Llun 7 Medi 2020).
Ganwyd Harri Webb yn 45 Tycoch Road, Abertawe a’i fagu yn Catherine Street ger canol y ddinas. Roedd gydag ef gysylltiadau teuluol cryf â Phenrhyn Gwyr.
Daeth yn ffigur amlwg ym Mhlaid Cymru, gan olygu papur Saesneg y mudiad Welsh Nation a sefyll yn ymgeisydd drosti yn etholaeth Pontypwl yn etholiad cyffredinol 1970.
Enillodd Harri Webb fri yn fardd yn ystod y 1960au, pan ddechreuodd y mudiad cenedlaethol gynyddu yng nghymoedd diwydiannol y De, a bu’n gyfrannwr rheolaidd i’r cylchgrawn Poetry Wales.
Dywedodd yr Athro Emeritws Prys Morgan fod Harri Webb wedi llwyddo ennill poblogrwydd mawr fel bardd.
“Er bod ei waith yn bennaf yn Saesneg, doedd neb yn fwy o Gymro twymgalon na Harri “.
Rhoddwyd blodau ar y bedd gan Guto Ap Gwent, Kittle.
Guto Ap Gwent a’r Athro Prys Morgan wrth fedd Harri Webb
ar ôl y sermoni yn Egwlys y Santes Fair,
Noddwyd y seremoni gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a’r Blaid yn Abertawe a Gŵyr gyda chydweithrediad caredig Ficer Plwyf y Tri Chlogwyn, y Parchedig Peter Brooks a’i chynnal yn ôl y rheolau ymbellhau cymdeithasol.
Roedd Gwilym Hughes yn athro yn Ysgol Glan Clwyd (yn Y Rhyl yr adeg honno) ac yn dysgu celf. Roedd yn gartwnydd arbennig, yn wleidyddol a deifiol. Dyma dau gartŵn ymddangosodd yn y Welsh Nation yn darlunio Alec Douglas-Home a Harold Wilson yn berffaith. Mae’n rhaid bod ‘Ban Plaid’ wedi’i gyhoeddi yn 1964 fan bellaf, gan nad oedd ‘ban’ erbyn etholiad 1964.
Roedd y gwaharddiad radio ar Blaid Cymru yn dal mewn grym yn ystod etholiad 1964, a nifer ein hymgeiswyr wedi codi i 23 (allan o’r cyfanswm o 36 drwy’r wlad i gyd). Daeth i ben ym mis Medi 1964, pan gawsom dwy sgwrs bum-munud (ar y teledu, erbyn hynny): yn Gymraeg gan Chris Rees, ein Dirprwy Lywydd ar y BBC, ac yn Saesneg gan Gwynfor Evans ar TWW – dros ddeng mlynedd ar ôl i’r Arglwydd Lord Macdonald a’i Gyngor Darlledu geisio dadlau bod distinctive culture, interest and tastes yn cynnwys gwleidyddiaeth, ar adeg pan oedd tua 80% o’r bobl yn pleidleisio mewn etholiadau cyfffredinol.’
Enillodd Gwilym Hughes etholiad am sedd ar Gyngor Dinesig Y Rhyl.
Roedd Berian Williams, Hirwaun, yn Eisteddfodwr brwd ac yn ogystal â beirniadau cystadlaethau bu’n ffilmio pobl yn mynd a dod ar y maes.
Dangosodd Amgen yr Eisteddfod Genedlaethol y ffilmiau a dyma gyswllt i Eisteddfod Caerfyrddin 1974 :- Linc
Mae’n amlwg o weld y ffilm fod nifer fawr yn ei adnabod ac yn barod i wenu i’r camera. Tybed faint o’r enwogion ydych chi’n gallu enwi?
Bu Berian yn athro Botaneg a Gwyddoniaeth yn Lerpwl, Caer ac Arberth. Bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac roedd yn Is-warden Neuadd Pantycelyn pan oedd yr Hanesydd John Davies yn warden. Cyfieithodd llawer o lyfrau Saesneg i’r Gymraeg gan gynnwys Llyfr y Anifeiliaiad a Llyfr y Coed. Bu farw yn 2015.
Bu S.O. Davies yn AS Llafur dros Ferthyr Tudful o 1934 hyd 1970. Cafodd ei ethol am y tro cyntaf mewn is-etholiad yn dilyn marwolaeth yr AS ILP lleol gyda 51% o’r bleidlais (yn erbyn rhyddfrydwr, ymgeisydd ILP a chomiwnydd) a 68% yn etholiad cyffredinol 1935 yn erbyn yr ILP yn unig. Ond am weddill ei yrfa, cafodd gefnogaeth gan ganrannau a amrywiai rhwng 74% ac 81%. Y Pleidwyr a safodd yn ei erbyn yn y 50au a’r 60au oedd Trevor Morgan (fel cenedlaetholwr annibynnol), Ioan Bowen Rees a Meic Stephens.
Ond cyn etholiad 1970 cafodd gohebydd gyda’r Merthyr Express gip ar restr o ddarpar-ymgeiswyr y Blaid Lafur drwy Gymru, Lloegr a’r Alban. Roedd enw S.O. Davies yno, gyda’r symbol * yn ei ymyl. Gofynnodd y gohebydd i’r argraffwyr beth oedd ei arwyddocâd a chael yr ateb ei fod yn golygu ‘not re-adopted’ gan fod y blaid leol wrthi yn y broses o ddewis olynydd i S.O., er na fu trafodaeth rhyngddyn nhw ac yntau am y penderfyniad. Cyhoeddodd y Merthyr Express y newydd syfrdanol hwn am ollwng un a oedd wedi gwasanaethu ei bobl fel cynghorydd lleol, maer ac aelod seneddol am ddegau o flynyddoedd.
Mae’r gweddill yn chwedl. Safodd S.O. fel ymgeisydd ‘Llafur Annibynnol’ (na fyddai’n gyfreithiol-bosib heddiw), gan ennill 51% o’r bleidlais yn erbyn y Llafurwr swyddogol Tal Lloyd (cyn-faer arall). Drwy gyd-ddigwyddiad rhyfedd, dyna’r union ganrannau (o’u talgrynnu) a gafodd yr S.O. buddugol a’i wrthwynebydd rhyddfrydol yn is-etholiad 1934. Yn 1958 cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yng Nghastell Cyfarthfa, a Tal Lloyd oedd y maer a groesawodd yr aelodau yn swyddogol i’r fwrdeistref yn rhinwedd ei swydd.
Chris Rees oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn 1970. Dywedodd wrthyf un tro nad llongyfarch S.O. a wnaeth yn unig yn y cyfrif ond ychwanegu mai dyna’r tro cyntaf iddo fedru dweud mor falch ydoedd nad oedd wedi ennill ei hun! A gwn am o leiaf un aelod o’r Blaid a fu’n helpu S.O. yn ei ymgyrch.
Roedd S.O. Davies yn wladgarwr. Yn y cofnod Wikipedia amdano dywedir: Largely indifferent to party discipline, he defied official Labour policy by championing such causes as disarmament and Welsh nationalism. Cefnogodd fudiad deiseb Senedd i Gymru yn y 1950au, gan ymuno â’r siaradwyr ar y llwyfan mewn rali a drefnwyd gan Blaid Cymru yng Nghaerdydd ym Medi 1953 (gw. y llun ar dudalen 297 o Tros Gymru, J.E. a’r Blaid gan J.E. Jones, 1970). Ac yn 1955 cyflwynodd ei fesur ‘Government of Wales’ yn Nhŷ’r Cyffredin, a baratowyd gyda chymorth gan arbeniwyr o blith aelodau’r Blaid. Ond yn ôl y disgwyl, ni fu ei ymgais yn llwyddiannus.
Dyma un rhan ddifyr o’r drafodaeth ar lawr y Tŷ. Dywedodd S.O. bod cefnogaeth i’r mesur yn dod o ‘Monmouthshire, Cardiff, West —’. Torrodd George Thomas (AS Gorllewin Caerdydd) ar ei draws gan honni: ‘The hon. Gentleman will not get much support there’. Gorffennodd S.O. ei frawddeg yn feistrolgar: ‘— Rhondda, and other places’.
Bu farw S.O. Davies yn 1972, ac yn yr is-etholiad a enillwyd i Lafur gan Ted Rowlands gyda 48.5% o’r bleidlais, cafodd Emrys Roberts, ymgeisydd Plaid Cymru 37.