Cynhadledd 1958, gan Philip Lloyd

Cynhaliwyd cynhadledd ac ysgol haf y Blaid ym Merthyr Tudful ym 1958. Y lleoliad oedd yr ysgol ramadeg yng Nghastell Cyfarthfa, hen gartref y Crawshays, lle gallai’r teulu edrych ar draws y cwm ar eu heiddo proffidiol, sef gwaith haearn Cyfarthfa. Mae’r tri ffotograff yn dangos trafodaethau cynhadledd yn neuadd yr ysgol. Yn eistedd wrth y bwrdd ar y llwyfan mae’r Dr R. Tudur Jones (Is-lywydd y Blaid), Gwynfor Evans (Llywydd), J.E. Jones (Ysgrifennydd Cyffredinol) ac Emrys Roberts (Ysgrifennydd Cynorthwyol). Er i’r gynhadledd hon gael ei chynnal yng nghyfnod y gwaharddiad radio a theledu ar Blaid Cymru gan y Blaid Lafur a’r TorÏaid, mae rhaid bod rhyw gymaint o sylw’n cael ei roi iddi gan y cyfryngau: mae meicroffôn y BBC i’w weld ymhob llun. 1960Glynebwy01 Llun 1: siaradwr anhysbys. A oes rhywun yn gwybod pwy ydyw? 1960Glynebwy02 Llun 2: y siaradwr yw Trefor Beasley, rwy’n meddwl. Ydw i’n gywir? Wrth y bwrdd y tu draw i’r llwyfan mae’r cyfieithwyr, Meirion Lloyd Davies a Chris Rees. Dywedodd Meirion wrthyf yn ddiweddarach nad oedd offer cyfieithu-ar-y-pryd i’w cael yr adeg honno: byddai’r cyfieithwyr yn cymryd nodiadau tra oedd y siaradwr wrthi a chodi ar ôl iddo/iddi orffen i gyflwyno crynhoad Saesneg ar lafar er mwyn yr aelodau di-Gymraeg. Bu Meirion yn weinidiog gyda’r Presbyteriaid ar hyd ei oes wedyn. Roedd Chris wedi ymladd Gwyr yn Etholiad Cyffredinol 1955. Symudodd i  Ddwyrain Abertawe ar gyfer 1959, pan oedden ni’n dau yn gyd-athrawon yn Ysgol Glan Clwyd, Y Rhyl. A phan gafodd y Blaid gwta pum munud ar y radio ac ar y teledu ym 1965 fe fu’n gyfrifol am y darllediad radio, gyda Gwynfor ar y teledu. Yn rhinwedd ei swydd fel Maer Merthyr, estynnodd y Cynghorydd (Llafur) Tal Lloyd groeso dinesig i gynadleddwyr 1958. Yna, ym 1970, ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei fabwysiadu’n ymgeisydd Llafur dros etholaeth Merthyr. Roedd S.O. Davies wedi bod yn AS ers 1934, gan gyflwyno mesur senedd i Gymru i Dy’r Cyffredin ym 1955, yn gwbl groes i bolisi ei blaid. Ac ym 1970 fe’i dyfarnwyd ganddyn nhw yn rhy hen i barhau yn ei swydd ac yntau’n 84 oed. Ond safodd fel Llafurwr Annibynnol – ac ennill. Chris Rees oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholiad hwnnw. Pan gyhoeddwyd y canlyniad, cymerodd Chris y cam anarferol, nid yn unig o longyfarch S.O. yn galonnog ond hefyd o ddweud mor falch ydoedd, dan yr amgylchiadau, nad oedd yntau wedi ennill! 1960Glynebwy03 Llun 3: y siaradwr yw Arthur Donaldson, cynrychiolydd yr SNP (daeth yn arweinydd ar y blaid honno ym 1960). Ar y wal y tu ôl i Emrys Roberts mae poster yn cyhoeddi cyfarfod cyhoeddus dan nawdd y Blaid yn erbyn y bom-H, i’w gynnal yn ystod cyfnod y gynhadledd mewn capel yn y dref, gydag anerchiadau gan y Dr Glyn [O.] Phillips, Gwynfor Evans a Michael Scott o’r Direct Action Committee against nuclear war Roedd y Direct Action Committee (1957-1961) yn gorff pasiffistaidd a sefydlwyd mewn ymateb i un o brofion Bom-H Prydain ar Christmas Island yn y Môr Tawel rhwng 1956 a 1967. Y nôd oedd cynorthwyo ‘the conducting of non-violent direct action to obtain the total renunciation of nuclear war and its weapons by Britain and all other countries as a first step in disarmament’.

 

GEMAU’R GYMANWLAD, CAERDYDD 1958, gan Philip Lloyd Roedd prif swyddfa’r Blaid i fyny’r grisiau mewn adeilad yn Stryd y Frenhines, Caerdydd yr adeg honno. Cafwyd cyflenwad o raglenni i’w gwerthu i’r cyhoedd, a’r elw’n mynd i’r Blaid. Yn y llun yma  gwelir Glyn James yn eu gwerthu wrth y fynedfa ar waelod y grisiau. Sylwch ar y fersiwn Saesneg o enw’r Blaid. 1960Glynebwy04