Dafydd Huws 1936 – 2011

DAFYDD HUWS 1936 – 2011

Teyrnged bersonol gan Dafydd Williams Dafydd Huws

Canol y chwedegau y cwrddais gyntaf â Dafydd Huws, a minnau newydd ymuno â chriw hwyliog Côr Aelwyd Caerdydd.  Dafydd oedd seren adran y tenoriaid, gyda’r gallu i ddarllen cerddoriaeth yn rhwydd, boed sol-ffa neu hen nodiant.  I rywun fel minnau oedd heb ei hyfforddi mewn cerddoriaeth roedd hi’n dipyn o wyrth ei weld yn canu emyn dôn ar y piano yn syth o sgôr sol-ffa. Roedd cwrdd â Dafydd wastad yn codi’r ysbryd.  Byddai ganddo bob amser stôr o straeon, ambell un am gymeriad o’r enw Trekarkis oedd yn rhaid eu hadrodd mewn acen bersain Grangetown.  Ef oedd y cyntaf i mi ei glywed yn canu ‘Cardiff born, Cardiff bred’.  Ac os o’wn i o gwmpas byddai perygl iddo sôn am y cyfnod y byddai’r ddau ohonom yn rhannu flat ac yn byw ar tships, gan hidlo’r sosban unwaith y flwyddyn i gael gwared â’r cacwn! Ond yn ogystal â ffraethineb roedd gwytnwch a phenderfyniad. 

Cyfunai dair gyrfa – seiciatrydd, amaethwr a gwleidydd.  Yn fuan ar ôl i mi ddod i’w adnabod, cymerodd y cam mentrus o gyd-brynu fferm Mynydd Gorddu yn ardal Bontgoch ger Aberystwyth, yn agos i’w filltir sgwâr.  Aeth criw ohonon ni yno sawl tro i aros yn y ffermdy.  Ychydig a gyfrannais at amaethyddiaeth Cymru ond dysgais lawer am fywyd cefn gwlad a gwella’r Gymraeg.  A lot fawr o sbort.  Hyfryd meddwl bod un o’i ferched Elen a’i gŵr Steffan bellach wedi ymgartrefu yno. Nid amaethu oedd prif yrfa Dafydd, er cymaint yr ymhyfrydai wrth berswadio rhyw hen beiriant i gael ail wynt.  Roedd yn seiciatrydd uchel ei barch, gan ddod yn Gyfarwyddwr Seiciatryddol De Morgannwg – swydd a olygai bwysau mawr a baich cyson.  Gweithiai o uned Tegfan yn ysbyty’r Eglwys Newydd.  Roedd bob amser yn brofiad mynd yno, fel y byddwn i ar waith y Blaid ryw awr ginio, a’i weld yn trafod ei gleifion a’i gyd-feddygon a’i staff gyda’i hiwmor a hynawsedd nodweddiadol.

Gyda’i ddawn gyfathrebu yn y ddwy iaith, doedd hi’n syndod yn y bydd iddo ymddangos yn rheolaidd ar y cyfryngau i ymateb i bynciau’r dydd yn y maes iechyd.  Roedd ei gariad at y Gymraeg, ei llen a’i thafodieithoedd amrywiol yn amlwg; a nes ymlaen fe ddaeth yn gyfarwydd â’r grefft o gynganeddu, gan ymddangos ar Dalwrn y Beirdd. Wrth reswm byddwn ni’n cofio Dafydd Huws y gwleidydd, neu efallai dylwn ddweud y Cymro a chenedlaetholwr o’i hanfod, gan fod gas ganddo rai agweddau o wleidyddiaeth.  Yng nghanol holl fwrlwm y chwedegau fe lwyddodd ei gymeriad allblyg i ddenu mintai frwd i weithio dros y Blaid; a’r canlyniad oedd ennill sedd gyntaf erioed ar Gyngor Dinas Caerdydd ym mis Mai 1969.  Mae gennyf gof byw o’r posteri melyn llachar oedd yn frith drwy ward Plasmawr, a’r orymdaith ceir gyda’r plant yn rhedeg ar ei hôl – a hefyd o’r cofnodion canfasio trylwyr a gadwyd gan DJ Davies, Tyllgoed a fu’n sail i fuddugoliaeth hanesyddol. Safodd Dafydd deirgwaith yn Ymgeisydd Seneddol Gorllewin Caerdydd – yn 1970 a ddwywaith yn 1974 – ac yna fe’i dewiswyd wedyn i  ymladd Ceredigion, sir ei febyd, yn 1979 (cafodd ei eni yn Kenya, ble gweithiai ei dad fel peiriannydd cyn dychwelyd i Gymru i sicrhau magwraeth Gymraeg i’w deulu.) 

Mae’r ffordd y cafodd ei berswadio i sefyll yng Ngheredigion yn dweud cyfrolau: roedd yn bell o fod yn awyddus, a’r hyn drodd y fantol oedd llythyr gan Gwynfor gyda’r diweddglo, ‘Derbyniwch hyn fel eich tynged’. Fel tynged hefyd y derbyniodd Dafydd barchus ac arswydus swydd Cadeirydd Plaid Cymru.  Rwy’n siŵr nad oedd yn awyddus i lywio’r pwyllgorau di-rif a’r cyfarfodydd anodd; ond dyna a wnaeth am bedair blynedd yn ystod cyfnod hesb yr wythdegau, a hynny gyda graen a gras, a phwyslais ar wneud yr hyn oedd yn ymarferol. Uwchlaw hyn oll roedd Dafydd y dyn teulu.  Cefais y fraint o fod ei was priodas, ac agorodd Rhian orwelion newydd iddo.  Bendithiwyd eu priodas â thair merch a dau fab, a byddai’n bleser ymweld â’u cartref cariadus yn Ffwrnes Blwm ar lethrau Mynydd Caerffili – man cynnal sawl barbeciw haf i’r Blaid ac ystordy i blacardiau etholaeth Caerffili.  Roedd Dafydd yn falch dros ben o’i blant a’i wyrion, a Rhian a hwythau yn gefn iddo yntau.

Roedd yn arloeswr wrth reddf, â diddordeb byw mewn gwyddoniaeth.  Iddo ef roedd amaethu’n gyfrwng i ddatblygu’r gymuned, ac fe welodd yn glir sut y gallai’r  rheidrwydd am ynni adnewyddadwy gyfrannu at sylfaen economaidd ein bröydd Cymraeg.  Fe frwydrodd yn galed yn erbyn sustem ganolig ei naws i alluogi cymunedau lleol yn hytrach na’r cwmnïau mawrion i elwa o ddatblygu melinau gwynt.  Mae’n chwith dweud nad oedd polisi Tan Wyth fawr o gymorth yn hyn.  Stori anhygoel oedd iddo deithio’r holl ffordd i gynhadledd ynni yn Aberdeen i gael gair wyneb yn wyneb ag un o brif swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn oedd yn digwydd bod yn gyn-fyfyriwr yn Aberystwyth; a chael cadarnhad ganddo fod y gweision sifll wedi camddehongli agwedd y Weinyddiaeth Amddiffyn at wahardd melinau gwynt mewn ardaloedd hedfan isel. Ar yr un diwrnod â’r daith i Aberdeen saith mlynedd yn ôl fe sylwodd am y tro cyntaf yr arwyddion cyntaf o’r afiechyd angheuol y brwydrodd mor ddewr yn ei erbyn. 

Bydd llawer yn cofio’r rhaglen hynod Beti a’i Phobl pan drafododd y frwydr honno yn gwbl agored, gan osod gweledigaeth a chredo unigryw.  Rwy’n dal i deimlo fod oes Dafydd wedi dod i ben yn llawer rhy gynnar.  Roedd ganddo gymaint i’w gyfrannu o hyd.  Ond mae Cymru’n wlad well oherwydd ei fywyd.