Cymeriad diddorol, unigryw oedd Dewi Wynne Hughes Thomas – er taw ‘Dewi’ yn unig fyddai’n ddigon i bawb yn Aberdar ar un adeg, ac ar Hirwaun yn benodol, wybod yn syth am bwy y byddech yn sôn.
Fe’i ganed yng Nghwmbach ar 2 Mawrth, 1925 i rieni oedd â’u gwreiddiau (fel cynifer bryd hynny) yng ngorllewin Cymru: gyda theulu ei dad yn hanu o Sir Benfro a theulu ei fam yn tarddu o Bontrhydfendigaid, Ceredigion. A gellid dweud â chryn wirionedd nad oedd Dewi ei hun heb arlliw’r gwladwr ar ei iaith, ei osgo a’i Gymreictod.
Fe’i codwyd o fewn teulu o Fedyddwyr a fynychai capel Bethania, Cwmbach cyn i Dewi ei hun ymaelodi yn Ramoth ar ôl iddo symud i Hirwaun i fyw, a chyn iddo, maes o law, ymuno â’r Eglwys Gatholig. Nid ef oedd yr unig Gymro Cymraeg i gymryd y cam annisgwyl hwn gan fod eraill o’r ardal (Dewi Davies, Heol-y-felin; Ieuan Wyn Jones, Penrhiwceiber; Mair Owen, Cwmaman) wedi gwneud yn debyg o’i flaen. Ond daliai i fod yn gam digon prin yn y ganrif ddiwethaf i’w wneud yn neilltuol.
Aeth Dewi i Ysgol Ramadeg y Bechgyn Aberdâr cyn mynd i’r RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yno, hyfforddodd fel mordwywr (navigator). Wedi’r Rhyfel, ail-hyfforddodd fel syrfëwr gyda’r NCB yn yr Ysgol Fwyngloddio yn Nhrefforest a aeth yn Brifysgol De Cymru wedyn. Ym 1949, priododd â’i wraig Josie, un o deulu Susan a Michael Burke, Hirwaun a ganed iddynt ferch, Madeleine, a godwyd yn Gymraes o’r iawn ryw.
Wedi cyfnod gyda’r NCB, gweithiai Dewi fel syrfëwr i gwmni John Laing ar sawl cywaith mawr a fu ar droed yn Lloegr yn ystod y 1950au, gan gynnwys Atomfa Sizewell, y Bull Ring, Birmingham, a’r M1. Cofiai Madeleine ei thad yn ei gyrru hi a’i mam ar hyd rhan o’r draffordd honno y noson cyn iddi gael ei hagor yn swyddogol gan y Frenhines yn Nhachwedd 1959 !
Symudodd Dewi a’i deulu yn ôl i Gymru ddiwedd 1959 gan ymgartrefu yn Aberhonddu. Yno, a than ei ymddeol, gweithiai fel syrfëwr o fewn llywodraeth leol, gan gynnwys i gynghorau Brycheiniog, Morgannwg, Abertawe ac Aberdâr (neu Gwm Cynon fel y daeth i fod ym 1974). Ond bu ei orwelion yn ehangach na’i waith dyddiol yn unig; a thra’n byw yn Aberhonddu ddechrau’r ’60au, cymerodd gam arall a’i osododd ar wahan i relyw ei gyfoedlion – hyd yn oed ei gyd-Gymry. Ymunodd â Phlaid Cymru. Nid oedd Dewi yn un i gelu barn na chuddio egwyddor pe bai argyhoeddiad yn ei daro.
Ymunodd â’r Blaid cyn i’r fath beth dyfu’n gyffredin fel y mae bellach. Dyma gyfnod cyn is-etholiad Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin (1966), cynnwrf etholiadol y ’60au a’r ’70au ac ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith a arweiniodd, maes o law, at senedd (o fath) i Gymru a chodi statws y Gymraeg. Yn hyn o beth, gellid dweud yn deg y bu Dewi yn un o gnewyllyn o arloeswyr – yn sicr yn yr ardaloedd yma – a heriai’r Blaid Lafur yn ei chaerau pan nad oedd modd disgrifio’r fath weithred ond fel ‘talcen go galed’ !
Ond dyna sut un ydoedd: yn eirias dros y Gymraeg a thros yr hyn a gredai oedd er lles Cymru a’i phobl. Nid llugoer mohono mewn dim a wnai !
Ar symud i Tudor Tce., Hirwaun, ym 1963, aeth yn gynghorydd yn enw’r Blaid ar Gyngor Gwledig y Rugos (peth tra anghyffredin ar y pryd); ac ym 1964, safodd fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Aberdâr (fel y’i gelwid ar y pryd). Er iddo ennill ond 2,723 pleidlais (7.2%) o gymharu â’r 29,106 (77.4%) a gafodd Arthur Probert i’r Blaid Lafur, gwnaeth ei farc yn anrhydeddus: cadwodd ernes y Blaid (peth digon prin bryd hynny) ac aeth heibio i’r 2,165 a gafodd ei gyfaill a’i gyd-Aberdariad, Trefor Morgan, yn etholaeth anos fyth Brycheiniog a Maesyfed.
Gosododd sylfaen i eraill adeiladu arni o gofio taw ymgyrch 1964 oedd y gyntaf erioed i mi, fel glaslanc 16 oed – ac eraill y gallwn eu henwi – ymuno ynddi ar ran Plaid Cymru. Mwyn yw’m cof o droi i fyny yn ‘swyddfa’ etholiad y Blaid am y tro cyntaf a chael Dewi Thomas a Ted Walters yn cymryd yn garedig ata’i gan ddweud “Dera man’yn, ‘ach’an, i ni ddyngos iti beth i ‘neud” wrth baratoi taflenni i’w dosbarthu !
Daliai Dewi i weithio fel syrfëwr a bu wrthi’n helpu gosod yr A465 newydd (‘Ffordd Blaenau’r Cymoedd’) a agorwyd ym 1964. Gweithiai am flynyddoedd fel syrfëwr ysgolion a meysydd chwarae i awdurdodau addysg y cyffiniau ac ymrodd i’r gymuned y bu’n byw ynddi gan weithredu fel warden Clwb Ieuenctid y Rugos, clerc Cyngor Plwyf Penderyn ac fel aelod ffyddlon Cymrodorion Aberdâr.
Ym 1979, priododd ei ferch Madeleine (cyfreithiwr erbyn hynny) â Neil Bidder a ganwyd iddynt ddau fab, Rhys a Patrick, yn y man. Gyda hyn, daeth Dewi a Josie yn dad-cu a mam-gu balch. Ymhen ychydig, ac yntau yn ei chwedegau, penderfynodd Dewi droi at yr Eglwys Gatholig fel gweddill ei deulu. Er bod hyn yn gam annisgwyl i rai, ymrodd yn ddidwyll i’w eglwys newydd. Diddorol, wrth fynd heibio, yw nodi bod Madeleine – a fagwyd yn Gatholig – yn un o arweinwyr ac ymddiriedolwyr Y Cylch Catholig: mudiad yn yr Eglwys Babyddol sy’n anelu at godi statws a defnydd y Gymraeg oddi mewn i’r cymundeb Catholig.
Wedi iddo ymddeol oddeutu 1990, penderfynodd Dewi a Josie symud i Gaerdydd i fod yn nes at eu merch a’i theulu yno. Cymerai Dewi bob cyfle i chwarae tenis a rygbi gyda’i ŵyrion; ond, o dipyn i beth, aeth Josie dan lach afiechyd yn ystod deng mlynedd olaf ei hoes. Yn dilyn ei marwolaeth, cafodd Dewi rai blynyddoedd o deithio’r byd – i’r Swisdir, Sbaen ac UDA – cyn iddo ddechrau colli ei olwg wrth heneiddio. Bu rhaid iddo hefyd golli rhan o un goes ac aeth i fyw mewn gofal yng nghartref Dyfryn Ffrwd, Nantgarw – lle (fel y dywed ei ŵyr Rhys) y rhoddodd Dewi “wersi dwys yn y Gymraeg i’r staff yn gyfnewid am y gofal a gai” !
Bu farw Dewi yn dawel, yn 90 oed, yng nghartref Dyffryn Ffrwd ar yr 28 Rhagfyr 2015 a chynhaliwyd offeren requiem iddo yn Eglwys Sant Therese de Lisieux, Hirwaun ar ddydd Llun, 11 Ionawr, 2016 gyda chladdedigaeth ym mynwent Aberdâr wedyn.
Yn un o’r gwasanaethau Cymreiciaf a gaed yn yr eglwys honno, mae’n debyg, darllenwyd yn Gymraeg gan ei ŵyr, Patrick, a thraddodwyd teyrnged i’w dad-cu gan Rhys: y naill ŵyr yn athro yn Llundain a’r llall yn economegydd gyda banc canolog UDA, y Federal Reserve, yn San Francisco. Canwyd Calon Lân ar ddechrau’r offeren a Dros Gymru’n Gwlad i’w diweddu: dau emyn a grynhodd cymaint a nodweddai fywyd anrhydeddus a chyfraniad gwerthfawr Dewi Wynne Thomas, Hirwaun, gŵr y bu yn fraint ei ‘nabod.
(Carwn ddiolch i Madeleine am ei chymorth wrth baratoi’r ysgrif hon).
DLD.
Clochdar-276: