Paratowyd Arddangosfa yng Nghynhadledd 2015 gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chymdeithas Hanes Plaid Cymru i nodi 90 mlynedd sefydlu y Blaid.
Yr Archif Wleidyddol Gymreig
Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig yn rhaglen yn y Llyfrgell Genedlaethol i gasglu, cadw, catalogio a hyrwyddo defnydd o archifau sy’n adlewyrchu bywyd gwleidyddol Cymru. Mae llawer o’r archifau gwleidyddol yn gasgliadau personol ffigyrau gwleidyddol adnabyddus gan gynnwys Aelodau Seneddol, Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Senedd Ewrop ac Argwlwyddi ynghyd ag archifau mudiadau megis archifau’r prif bleidiau, grwpiau ymgyrchu, ymgyrchoedd refferenda, grwpiau busnes a mudiadau llafur. Un o’r casgliadau pwysicaf yw’r casgliad deunydd ymgyrchu sy’n cynnwys taflenni a phosteri etholiadol ac ymgyrchoedd refferendwm ers 1837.
Hanes Plaid Cymru
Daw’r deunydd yn yr arddangosfa hon o’r casgliadau canlynol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Archif Plaid Cymru
- Casgliad Effemera Gwleidyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig
- Casgliad ffotograffau Geoff Charles