Glyn Owen 1932 – 2013

Ar 5 Tachwedd 2013 bu farw un o gymeriadau mwyaf hynod Plaid Cymru, y cyn-gynghorydd Glyn Owen, Cwm Cynon.  Yma ceir teyrnged y hanesydd D. Leslie Davies, Aberdâr gyda’n diolch iddo am ei ganiatâd i’w gyhoeddi.

TEYRNGED I’R DIWEDDAR GLYN OWEN (1932-2013), I’W CHYFLWYNO YNG NGWASANAETH EI ANGLADD YN EGLWYS SANT ELFAN, ABERDÂR,

DDYDD GWENER, 15fed TACHWEDD, 2013:

Glyn Owen

Lluniais y sylwadau hyn am y diweddar Glyn Owen ar ei gais – ysgrifenedig a llafar. Fe’u lluniais gyda’i ddymuniadau ef mewn golwg. Diolchaf iddo am ymddiried y dasg imi, i’w chyflawni (gobeithio) gyda phriodoldeb ac urddas.

……………

Lliwgar a phwrpasol. Yn swynol-ddadleuol. Gŵr difyr ond cythryblus. Person hwylus a fedrai fod yn dra ‘styfnig. Dyn hael ond darbodus. Dyn o drugaredd a fedrai fod yn ddidostur pe deimlai angen. Cyfaill ffyddlon oedd weithiau mor anwadal.  Gwleidydd a enynnai teyrngarwch a gelyniaeth yn gymesur fel bron neb arall y gallaf feddwl amdano neu amdani – ac eithrio, efallai, Margaret Thatcher (er na ddiolchai imi am ddweud hynny!).

Bu’r nodweddion hyn (a mwy) i gyd yn rhan o gymeriad y gŵr dawnus a chymhleth hwn, Glyn Owen, a fu farw ddydd Mawrth y 5ed Tachwedd ar ôl wynebu salwch a ddygodd oddi arno, yn raddol, gymaint o’r asbri a’r craffter a’i nodweddai ym mlodau’i oes.

Fy mwriad heddiw yw sôn yn gryno nid yn gymaint am Glyn Owen y gŵr preifat ond, fel y gofynnodd Glyn imi wneud, y gŵr cyhoeddus a fu, ar un adeg, yn gymaint ran o fywyd Cwm Cynon, Morgannwg a Chymru.

Fe’i ganed ym Meisgyn, Aberpennar ym 1932, yr ieuengaf o chwe phlentyn. Ganed ei dad – glöwr – yn Abercwmboi gan symud wedyn i Aberpennar. Dwedodd Glyn wrtho’i taw un o ogledd Cymru fu tad ei dad ac mai un o Flaenau Ffestiniog oedd ei fam. Gadawodd Glyn Ysgol Eilradd Fodern Meisgyn yn 15 oed ym 1947 ac aeth i weithio am gyfnod ar y rheilffyrdd, meddai. Cyflawnodd Wasanaeth Milwrol gyda’r RAF rhwng 1952-54 cyn croesi’r byd gyda’r Llynges Fasnachol ac yna dychwelyd adre’. Soniodd iddo weithio dan-ddaear am ychydig wedi iddo ddychwelyd; ond bu awydd arno, meddai, i weithio i’w hun ar sail ei brofiad a’i allu naturiol.

Cefais yr argraff droeon fod amodau ei blentyndod wedi bod yn reit anodd a herfeiddiol. Pa syndod o gofio iddo gael ei eni yng nghyfnod economaidd caletaf, mwyaf dirwasgedig a chyfyng maes-glo de Cymru gydol yr 20G ? Fel yn achos pob un ohonom, diau y cafodd amodau ei blentyndod ddylanwad ar weddill ei fywyd ac ar ei fyd-olwg oherwydd, fel y dywed Wordsworth, “y plentyn yw tad y dyn”.

Fel dyn-busnes lleol y daeth Glyn gyntaf i adnabyddiaeth ehangach yng Nghwm Cynon. Ar ddychwelyd yno, gwnaeth ei gartref yng Nghwmbach gan agor siop ddillad a fyddai’n gwerthu nwyddau yn uniongyrchol ac ar gredyd. Dyma ddechrau busnes yr aeth Glyn iddo fwyfwy yn ddiweddarach yn ei yrfa: cyllid masnachol a phersonol.

Ond, nid fel darparwr credyd y gwnaeth Glyn ei farc parhaol dros gyfnod yng Nghwm Cynon a thu hwnt. Ei gyfraniad i wleidyddiaeth Cymru yn ystod y ’60au a’r ’70au fydd yn gofiant iddo. Hwn fydd yn rhoi iddo le yn hanes Cymru yng nghyfnod o newid mawr yn naws wleidyddol y wlad a’i llywodraethu, ac mewn agweddau cyhoeddus tuag at y Gymraeg. Croesawodd Glyn y newidiadau hyn gan ymfalchïo o feddwl ei fod wedi cyfrannu peth atynt – ac yn arbennig at ennill Cynulliad etholedig i Gymru ym 1997.

Bu iddo ran sicr  yn y datblygiadau hyn wrth gyfrannu’n ddirfawr yn ei ddydd tuag at greu’r momentwm gwleidyddol oedd yn hanfodol i’w sicrhau. Mae diolch mawr yn ddyledus iddo am ei gyfraniad amserol a sylweddol .

Nid yw amser yn caniatáu imi fanylu ar yr ymgyrchoedd, etholiadau, cyfarfodydd, areithiau; styntiau cyhoeddus, gwrthdystiadau, ralïau a’r swyddi gwleidyddol y bu Glyn, yn ymwneud â nhw yn ei brifiant. Rhaid i’r manylion ‘danteithiol’ hyn aros nes imi lunio’m memoirs !

Bu egni ac ymroddiad Glyn yn ystod y blynyddoedd hyn yn ffenomen – fel corwynt a swnami yn un. Cymaint felly fel nad oedd ei elynion gwleidyddol yn gwybod yn aml beth oedd wedi eu taro na sut i ymateb. Heb wneud pwynt gwleidyddol ynghylch y peth, tegwch yn unig yw dweud hyn. Cyfran o’i egni – a fu ar adegau mor greadigol, ond weithiau’n wrthgynhyrchiol – fydd ar gael i ymchwilwyr y dyfodol ei chodi yng nghyfryngau’r cyfnod, ond mae peth o’r dystiolaeth yno.

Bu Glyn yn aelod etholedig am ryw bymtheng mlynedd o Gyngor Tref Aberdâr a’i olynydd, Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon. Cafodd ei ethol i Gyngor Sir Morgannwg a’r corff a olynodd hwnnw, Cyngor Sir Morgannwg Ganol. Credaf na fu yn hanes y cyrff hyn gyfnodau mwy bywiog a chythryblus na phan fu e’n aelod diwyd, di-flewyn-ar-dafod ohonynt. Bryd hynny, bu gwleidyddiaeth yn hwyl yn ogystal â phwysig – ac i Glyn yn anad neb y bu’r diolch !

Ei waith gyda Phlaid Cymru a roes i Glyn ei ddylanwad mwyaf ar fywyd cyhoeddus Cymru’r pryd. Wna i ddim eich llethu â’r manylion, ond fe ail-drefnodd ei chyllid i’w gwneud yn fwy uchelgeisiol ac effeithiol na chynt. Sarnodd ar gyrn rhai o wneud – ond pris y dasg fu hynny iddo.

Gweithiodd Glyn yn ddygn ar ymgyrchoedd ei blaid yn isetholiadau dramatig Gorllewin y Rhondda (1967), Caerffili (1968) a Merthyr (1972) ac fel asiant iddi yn Aberdâr yn etholiad cyffredinol 1970 pan fu Dr Gareth Morgan Jones yn ymgeisydd y Blaid. Effaith y gornestau hyn fu bygwth gafael y Blaid Lafur ar ran helaeth o faes glo de Cymru, gan ysgwyd ei hunanhyder am nad oedd hi wedi wynebu her mor ddifrifol ers cenedlaethau. Dyma’r momentwm gwleidyddol a arweiniodd, i raddau helaeth, at refferenda 1979 a 1997. Bu gan Glyn Owen ran fawr yn hyn oll: rhan nad yw wedi derbyn hyd yn hyn y sylw mae’n ei haeddu.

Chwyldrôdd dulliau ymgyrchu cyffrous Glyn Owen etholiadau cyffredinol 1970 a 1974 yn etholaeth Aberdâr (fel yr oedd ar y pryd) i’w gwneud y mwyaf cofiadwy ers llwyddiant Keir Hardie a’r Blaid Lafur yma ddechrau’r 20G. Gellir awgrymu hyn o ddifri heb anghofio ymgyrchoedd clodwiw Wynne Samuel a Gwynfor Evans ar ran y Blaid yn yr etholaeth ym 1946 a 1954..

Am ei bod wedi digwydd rhwng isetholiadau Caerffili (1968) a Merthyr Tudful (1972), ac yng nghyd-destun etholiad cyffredinol, tueddir weithiau i golli golwg ar bwysigrwydd ymgyrch 1970 yn Aberdâr – a drefnwyd gan Glyn.  Ei harwyddocâd oedd ei bod yn sefyll yn nilyniant yr is-etholiadau hynny fel rhybudd pellach i’r Blaid Lafur bod ei gafael ar y maes-glo yn llacio. Bu’r 11,431 pleidlais a gafodd Gareth Morgan Jones yn Aberdâr ym 1970 (cant yn fwy nag a gafodd y Blaid yn Arfon yr un flwyddyn) yr un mor arwyddocaol â’r is-etholiadau a enwid. Y deyrnged orau i Glyn oedd bod pob un o’r pleidiau eraill wedi dechrau efelychu ei ddulliau wedi hynny. Ni fu etholiadau’r Cymoedd yr un wedi i Glyn fwrw ati !

Uchafbwynt ei yrfa wleidyddol fu sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn nau etholiad cyffredinol 1974. Siom iddo fu canlyniad yr ail ohonynt; ond noder taw’r 11,973 pleidlais a gafodd Glyn yn etholiad cyntaf 1974 (ond 27 pleidlais yn fyr o 12,000) fu’r bleidlais uchaf i unrhyw ymgeisydd yn erbyn y Blaid Lafur yn yr etholaeth ers 1924 (pan gafodd y Rhyddfrydwr 15,201 yn erbyn George Hall). Nid oes un ymgeisydd gwrthbleidiol wedi trechu’i gamp ers 1974 chwaith. Erbyn 2014, bydd ei gamp wedi sefyll am 90 o flynyddoedd. Yn naturiol, ymfalchïai yn hyn yn ei henaint a gwelai fel gwaddol o fath.

Erbyn 1985, dechreuodd pethau fynd o chwith yn wleidyddol i Glyn. Am wahanol resymau, penderfynodd roi’r ffidil etholiadol yn y to i ganolbwyntio ar ei fusnes. Mae llawer y gellir ei ddweud am y cyfnod – fel y gŵyr amryw sy yma heddiw; ond gwell tynnu gorchudd cymod a brawdoliaeth dros yr hanes.

Roedd Glyn yn gymeriad cymhleth: yn  gystadleuol ond hefyd yn garedig. Bu’n hael yn darparu bws i gludo disgyblion am ddim i’r Ysgol Gymraeg leol pan fygythiai’r cyngor sir godi tâl arnynt ac ar blant Catholig – ond neb arall – am y fath wasanaeth. Gwn mor ffyddlon y gallai fod wrth y sawl a barchwyd ganddo (fy mam yn eu plith), ac mor garedig y bu wrth fudiadau ac unigolion oedd wrth fodd ei galon.

 

Bu ganddo – mae ganddo o hyd – ei feirniaid. Efallai bydd gan rai rywbeth i’w ddweud amdano o hyd. Efallai bu ganddynt bwynt rywbryd, wn i ddim. Ond nid dyna’r Glyn Owen y dewisaf i ei gofio.

Nid oes un ohonom yn ddigon gwyn ein gwedd i farnu arall yn ddidostur fel y gwnaeth rhai am ben Glyn. Cymeradwyaf iddynt bennod 8 (adn. 2-11) Efengyl Ioan.  Yno, mae torf o bobl weddus yn dod at Iesu Grist i’w brofi, gan ddwyn ato fenyw a oedd wedi ymddwyn mewn ffordd a ofynnai ei llabyddio dan Gyfraith Moses. Gwahoddodd Iesu’r sawl oedd yn ddi-fai i daflu’r garreg gyntaf. Thaflodd neb ddim. Sleifiodd pawb ymaith mewn embaras.

Yn hytrach na barnu, beth am geisio, os yw’n bosib, cymod gyda’r byd a phawb ynddo oherwydd, yn ôl y bardd Henry Vaughan o Sir Frycheiniog, mae peth o’r dwyfol ym mhob un:

Cerdda gyda’th gymheiriaid…. Nid oes na ffynnon

na deilen fach heb ei hemyn boreol. Mae pob llwyn

a phob derwen yn gwybod YR WYF I; oni fedri ganu… ?”

 

                                                                                     David Leslie Davies.

                                                                                     15 Tachwedd, 2013.

§§§

Glyn Owen16 Glyn Owen17b Glyn Owen21 Glyn Owen 04

 

Y Ddraig Goch  Gwanwyn Spring 2015   Diolch i Math Williams

Glyn Owen

David Leslie Davies

Lliwgar a phwrpasol. Yn swynol ddadleuol. Gŵr difyr ond cythryblus. Person hwylus a fedrai fod yn dra ‘styfnig. Dyn hael ond darbodus. Dyn trugarog fedrai fod yn ddidostur pe deimlai angen. Cyfaill ffyddlon oedd weithiau mor anwadal. Gwleidydd a enynnai teyrngarwch a gelyniaeth yn gymesur fel bron neb arall y gallaf feddwl amdano neu amdani – ac eithrio, efallai, Margaret Thatcher (er na ddiolchai imi am ddweud hynny!).

Ei gyfraniad i wleidyddiaeth Cymru yn ystod y ’60au a’r ’70au fydd cofiant Glyn Owen. Bu’n aelod etholedig o Gyngor Tref Aberdâr a’i olynydd, Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon am bymtheg mlynedd. Fe’i etholwyd i Gyngor Sir Morgannwg ac yna Cyngor Sir Morgannwg Ganol. Ni fu cyfnodau mwy bywiog a chythryblus yn eu hanes na phan fu’n aelod diwyd, di-flewyn-ar-dafod ohonynt!

Chwyldrôdd ei ddulliau ymgyrchu cyffrous etholiadau cyffredinol 1970 a 1974 yn etholaeth Aberdâr, cymaint nes bod pob un o’r pleidiau wedi efelychu ei ddulliau wedi hynny. Uchafbwynt ei yrfa wleidyddol fu sefyll fel ymgeisydd yn nau etholiad cyffredinol 1974. Bu canlyniad yr ail etholiad yn siom; ond noder taw’r 11,973 pleidlais a gafodd Glyn yn etholiad cyntaf 1974 fu’r bleidlais uchaf i unrhyw ymgeisydd yn yr etholaeth yn erbyn y Blaid Lafur ers 1924.

Gwn mor ffyddlon y gallai fod wrth y sawl a barchwyd ganddo (fy mam yn eu plith), ac mor garedig y bu wrth fudiadau ac unigolion oedd wrth fodd ei galon. Bu ganddo ei feirniaid. Ond yn hytrach na barnu, beth am geisio, os yw’n bosib, cymod gyda’r byd a phawb ynddo. Fel dywed y bardd Henry Vaughan o Sir Frycheiniog, mae peth o’r dwyfol ym mhob un.