Bydd cyfle i glywed mwy am un o’r digwyddiadau mwyaf eiconig hanes cynnar Plaid Cymru yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Mis Awst.
Cafodd tri o aelodau mwyaf blaenllaw’r Blaid, Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams eu carcharu ar ôl llosgi’r ysgol fomio a oedd yn cael eu codi ym Mhenyberth ger Pwllheli yn 1936.
Bydd y bargyfreithiwr, awdur ac academig, Keith Bush, sy’n Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, yn trafod agweddau cyfreithiol yr achos.
Yn ei ddarlith bydd Mr Bush yn canolbwyntio ar y prosesau a arweiniodd at garcharu’r tri am eu rhan yn y weithred – ac yn arbennig y penderfyniad dadleuol i symud yr achos o Frawdlys Caernarfon i’r Old Bailey yn Llundain.
Trefnir y ddarlith gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru, ac fe’i traddodir am 10.30am, Dydd Iau 10 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar faes y Brifwyl, Boduan.
“Bu llosgi’r ysgol fomio yn drobwynt tyngedfennol yn hanes Cymru, a dyma gyfle i godi’r llen ar sut y ceisiwyd ddylanwadu ar yr achosion llys gan y ddwy ochr”, medd Cadeirydd y Gymdeithas Hanes, Dafydd Williams.
“Gan ddefnyddio tystiolaeth newydd, bydd Keith Bush, sy’n arbenigwr blaenllaw yn y maes, yn gofyn yn arbennig sut y gwnaethpwyd y penderfyniad i amddifadu’r Tri, yn y diwedd, o’u hawl i sefyll eu prawf yn eu gwlad eu hun a phwy, mewn gwirionedd, y dylid cael ei feio amdano.”