Cyfarfod : Cynhadledd y Gwanwyn Mawrth 1af 2013
‘Beics, Barbeciws a Leiffbôt Llannerchymedd’ : Hanes y Blaid ym Môn’ 1925 – 1987
Gerwyn James
Dydd Gwener , 1af Mawrth , 4.30pm
Rwyf yn un o frodorion yr ynys. Cefais fy magu yn ardal y Star, plwyf Penmynydd, ond rwyf yn byw yn Llanfair Pwllgwyngyll ers 1977. Bum yn athro hanes am flynyddoedd lawer, ym Mhwllheli, ac yna yn Nhryfan, Bangor.
Erbyn hyn rwyf yn diwtor rhan-amser gyda’r WEA. Yn ddiweddar fe fum wrthi yn sgwennu llyfr ar hanes y Rhyfel Mawr yn y rhan hon o’r ynys -sef ‘Y Rhwyg’, a bydd hwn yn cael ei gyhoeddi yr haf yma gan Wasg Carreg Gwalch.
Y prosiect diweddara yw hanes y Blaid ar yr ynys – a’r gobaith yw y caiff hwn weld olau dydd fel llyfr yn reit fuan.
Rwyf yn aelod o’r Blaid ers 1973, ac wedi bod yn ymgyrchwr, canfasiwr, dosbarthwr taflenni a chnociwr drysau ers etholiad 1974.
Croeso i Bawb