Menyw Wirioneddol Ysbrydoledig
Dai Lloyd AC yn rhoi teyrnged i Janice Dudley
Collodd y Blaid aelod unigryw yn gynharach eleni yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd ysbrydoledig a gweithgar o Gastell-nedd Port Talbot, Janice Dudley. Wnaeth Janice weithio’n ddiflino dros y Blaid dros nifer o flynyddoedd.
Yn 2004, ymunodd â rhengoedd cynrychiolwyr etholedig y Blaid yn dilyn ei hetholiad i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, gan gynrychioli ward De Bryncoch. Cynrychiolodd ei hardal gydag egni ac ymroddiad, a chafodd hyn ei gydnabod gan drigolion lleol wrth iddynt ei hail-hethol dro ar ôl tro.
Roedd y gefnogaeth leol yma yn weladwy ym mis Mai eleni eto, gyda thrigolion Bryncoch yn sicrhau bod Janice yn ennill mwyafrif swmpus dros y Blaid Lafur. Ond nid oedd y lefel yma o gefnogaeth yn syndod – roedd Janice yn fenyw wirioneddol ysbrydoledig, bob amser mor bositif ac egnïol. Roedd y bersonoliaeth gynnes yma yn denu pobl o bob cefndir, yn ifanc ac yn hen, o bob plaid wleidyddol.
Eleni gwelwyd Janice yn cael ei anrhydeddu am flynyddoedd o weithredu lleol wrth ddod yn Faer Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot. Fel y disgwyl, rhoddodd Janice bopeth i’r rôl, a’i wneud yn ei ffordd angerddol ac urddasol ei hun.
Ers ei marwolaeth, bu teyrngedau’n llifo o ystod eang o bobl, ac mi ddaeth i’r amlwg y lefel o barch oedd gan bobl tuag ati.
Yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid yng Nghaernarfon, derbyniodd Amanda, sef merch Janice, wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ ar ran ei mam, am y blynyddoedd o waith caled a wnaeth Janice ar ran y blaid. Roedd yn anrhydedd gen i i allu cyflwyno’r wobr honno i gydnabod gwaith unigryw aelod blaenllaw yn yr ardal, ond rhywun oedd hefyd yn ffrind personol.
Bu colli Janice yn ergyd enfawr yn lleol, ond fel cydweithwyr a ffrindiau, rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth y gallwn i sicrhau bod ei hetifeddiaeth yn parhau yn Ne Bryncoch a thu hwnt.