JE – Pensaer Plaid Cymru Teyrnged Dafydd Williams

Trefnodd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru gyfarfod arbennig yn ystod y Gynhadledd yn Llandudno ym Mis Medi 2011 i gofio bywyd JE Jones a fu’n Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru rhwng 1930 a 1962.  Dyma deyrnged gan Gadeirydd y Gymdeithas ac un o’i olynwyr, Dafydd Williams.

JE, Pensaer Plaid Cymru1927 J E Jones

Mae llun cynnar yn oriel Plaid Cymru, llun o Ysgol Haf Llangollen a dynnwyd yn 1927.  Ac ar ben y rhes gyntaf fe welwch ddyn ifanc â gwallt cyrliog, ei wyneb yn llawn egni a brwdfrydedd.  Wrth gwrs nabyddes i erioed y JE cryf, cydnerth yna oedd wrth ei fodd yn crwydro mynyddoedd Cymru.  Erbyn i mi ddod i’w adnabod yng nghanol y chwedegau roedd ei iechyd wedi torri – hynny, meddai rhai, oherwydd gorweithio di-baid dros achos Cymru.  Ond roedd ei ymroddiad i Gymru mor amlwg ag erioed.

Fe aned John Edward Jones ym Mis Rhagfyr 1905.  Roedd felly ryw ddeng mlynedd yn iau na Saunders Lewis a Lewis Valentine, ac yn wahanol iddyn nhw’n perthyn i’r genhedlaeth ffodus a ddihangodd erchyllterau’r rhyfel byd cyntaf.  Ei ardal enedigol oedd Melin-y-wig, ardal fryniog ryw saith milltir o Gorwen a deg o Ruthun, ardal Owain Glyndŵr felly.  Ac os chwiliwn am esboniad am ei gariad at dir, iaith ac etifeddiaeth Cymru, gwrandewch ar ei ddisgrifiad o’r olygfa o’r tir uwchben ei gartref, fferm o’r enw Hafoty Fawr:  “O droi’n araf o’r chwith i’r dde, gwneud un tro’n llawn, gwelem oddi yno orwel pell o fynyddoedd godidog Gwynedd a Phowys – mynyddoedd Iâl; holl res hir y Berwyn; y tair Aran; a’r ddwy Arennig, Fawr a Bach; Moel Siabod; yna holl banorama Eryri, yr Wyddfa a’r Grib Goch a’r ddwy Glyder a’r Tryfan a’r ddwy Garnedd, Dafydd a Llywelyn, hyd y Foel Fras; rhyngom a’r rhain yr oedd gwastatir maith lliwgar Mynydd Hiraethog; ag i gwblhau’r cylch cyflawn, Mynyddoedd Clwyd gyda Moel Famau a’i thŵr ar ei phen.”  Bron yn farddoniaeth; a bron y gellwch ddweud fod JE yn genedlaetholwr o’i grud: mae’n falch o ddisgrifio’i hun yn ‘Fab y Mynydd’.

Mae JE wedi gadael ei hanes ei hun yn ei gyfrol bwysig Tros Gymru: JE a’r Blaid – hanner hunangofiant, hanner hanes deugain mlynedd gyntaf Plaid Cymru.  Collodd ei dad cyn iddo gyrraedd blwydd oed, ond rywsut fe lwyddodd ei fam i gadw’r fferm deuluol i fynd, gyda chymorth ei thylwyth, dau frawd JE yn enwedig, y ddau wedi gadael ysgol yn 14 oed a’r ddau dipyn yn hŷn nag ef.  Cwrs bywyd gwahanol iawn oedd o flaen JE, er cymaint roedd yntau wrth ei fodd gyda gwaith y fferm a bywyd gwledig Melin-y-Wig, gyda’i holl gyngherddau ac eisteddfodau.  Fe aeth i ysgol ramadeg y bechgyn yn y Bala, Ysgol Tŷ Tomen, gan letya yn y Bala yn ystod yr wythnos.  Ond er bod y Bala yn ardal Gymraeg ei hiaith, roedd bron popeth yn yr ysgol yn Saesneg.  Tybed faint oedd hyn yn creu adwaith a’i droi o blaid y Gymraeg?  Mae ganddo stori o sut y bu iddo ef a bachgen arall gymryd safiad yn achos athro feistr oedd yn gas yn erbyn disgybl a’i Saesneg yn brin – a llwyddo rhoi stop iddo.  Yn ystod y gwyliau ym Mis Awst 1923, ar ôl mynd â llwyth o wyau a menyn o’r fferm i siop y pentref, dyma fe’n darllen ar y ffordd yn ôl am gyfarfod yn y Wyddgrug, cyfarfod o fudiad gyda’r enw od ‘Y Tair G’, sef y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig.  Hon oedd un o’r tair ffrwd a ddelai ynghyd maes o law i ffurfio Plaid Genedlaethol Cymru, a rhyw flwyddyn wedyn daeth JE yn aelod ohoni, wrth iddo fynd i Brifysgol Bangor i astudio Cymraeg, Saesneg a Mathemateg, “cyfuniad braidd yn anghyffredin”.

Rywbryd wedyn, clywodd sôn am enedigaeth Plaid Genedlaethol Cymru draw ym Mhwllheli; ac ym Mis Hydref 1926 aeth i gyfarfod y Blaid yng Nghaernarfon, gan lenwi ffurflen ymaelodi yn y fan a’r lle.  Dyn ifanc tenau, gwelw ei olwg o’r enw HR Jones oedd yn casglu’r ffurflenni: go brin yr oedd JE yn sylweddoli y byddai’n yn ei olynu yn Ysgrifennydd y Blaid ymhen pedair blynedd.  O fewn mis, roedd cangen o’r Blaid wedi’i sefydlu yn y coleg ym Mangor , a JE yn ysgrifennydd iddi; gyda bron 80 o aelodau erbyn tymor yr haf 1928.  Fe oedd ymgeisydd y Blaid mewn ffug etholiad ym Mis Tachwedd 1927 – ac yn ennill!  Tybed ai dyna’r tro cyntaf i Blaid Cymru ennill etholiad?  “Dysgais y pryd hwnnw,” meddai, “y gellid ennill Saeson rhonc deallus yn haws nag ambell Gymro gwasaidd.”[i]

Ond gyda’r blynyddoedd yn y Brifysgol ar ben, roedd rhaid chwilio am waith.  A’r dirwasgiad eisoes yn y gwynt, fe wnaeth gynnig am swydd athro yn nwyrain Llundain – a’i chael, un o bedwar allan o 60 ymgeisydd.  Mae’n debyg y treuliwyd y rhan fwyaf o’r cyfweliad yn trafod hunanlywodraeth i Gymru!  Ymhen dim o amser roedd e’n ysgrifennydd Cangen y Blaid yn Llundain, er ei fod hefyd yn cael amser i chwarae pêl-droed i ail dîm Cymry Llundain, a thenis yn yr haf.

Yna, tro ar fyd.  Bu farw HR Jones, prif symbylydd bodolaeth Plaid Cymru, ar ôl salwch hir.  Er gwaethaf pryderon nad oedd modd fforddio’r swydd, penderfynodd arweinwyr Plaid Cymru fod rhaid wrth olynydd llawn amser.  Ymateb JE, a ffrind iddo yn Llundain, gohebydd y Guardian o’r enw Gwilym Williams, oedd anfon cais i mewn – gan ddefnyddio’n union yr un geiriad, a rhoi enwau ei gilydd ar gyfer geirda!  JE a benodwyd – i swydd roedd yn ei charu: “yn Ysgrifennydd a Threfnydd mudiad rhyddid Cymru y bûm o Ragfyr 1930 hyd Fai 1962, pan ddywedodd yr hen galon na allai ddal mwy.”[ii]

JE Jones – pensaer Plaid Cymru yn ei swyddfa yng Nghaernarfon
JE Jones – pensaer Plaid Cymru yn ei swyddfa yng Nghaernarfon

Mae’n ddiddorol cymharu’r ddau Jones, HR a JE.  Un manylyn, dibwys efallai ond difyr: llwyddodd y ddau adfer enw traddodiadol eu milltir sgwâr; o Nasareth yn ôl i Ddeiniolen yn achos HR, ac o Gynfal i Melin-y-Wig yn achos JE.  Yn sicr ceir tebygrwydd cymeriad rhwng y ddau mewn un cyfeiriad – cariad diwyro at Gymru a’r Gymraeg, a gweledigaeth o’u cenedl yn un o wledydd cyflawn y byd.  A’r parodrwydd i weithio’n ddi-baid.  Rwy’n ddiolchgar i Dewi Rhys, mab JE, am ei atgofion ohono fe: “Doedd byth yn segur. Byddai ar ei draed tua 5 bob bore – un ai ar y teipiadur bach, neu yn y tŷ gwydr lle’r oedd yn ‘ymlacio’ wrth drawsblannu cannoedd o blanhigion bach, a’r ardd bob haf yn fôr o liw.  Roedd wrth ei fodd yn clywed sgwrs pobl yn pasio oedd yn gwneud sylwadau am yr ardd.  Nid oedd yn segur hyd yn oed ar wyliau. Ysgrifennai ddyddiaduron a’u clymu’n llyfrau wedi dod adref. Dyma oedd sylfaen y llyfr Tro i’r Swistir.”

Ond mae’r gwahaniaeth rhwng y ddau hefyd yn ddadlennol.  Byddai JE, yn ôl ei arfer, yn canmol ei ragflaenydd, ond mae’n derbyn bod canghennau a rhanbarthau wedi llesgáu a marw yn ystod ei gyfnod o afiechyd:  “I bob pwrpas, bu raid i mi ad-adeiladu’r Blaid o’r gwaelod.”[iii] Mae prif hanesydd Plaid Cymru, Hywel Davies, yn mynd ymhellach, gan ddisgrifio HR fel un â gweledigaeth fawr, yn hiraethu am weithredu’n gadarn yn hytrach na gwaith desg.  Mewn gwrthgyferbyniad, roedd  JE “er yn barod i weithredu’n radicalaidd, wedi’i fendithio â natur ddyfal oedd yn fwy addas i’r dasg o gynllunio trefniadau’n ofalus” (cyfieithiad).[iv] Mae Hywel Davies hefyd yn nodi cefndir JE yn un o raddedigion y Brifysgol ac yn athro hyfforddedig, gan farnu bod hyn yn ei wneud yn fwy cyfforddus ymhlith yr aelodau roedd y Blaid yn eu denu.

Dechreuodd JE ar ei swydd ar 1 Rhagfyr 1930, gan weithio o swyddfa fechan yng Nghaernarfon drws nesaf i westy Pendref ble cafodd lety.  Hyn oedd dechrau cyfnod 32 o flynyddoedd pan ddaeth yn ganolbwynt gweithgarwch y Blaid.  Cyn hir roedd JE wedi sefydlu ei hun yn ffocws cyfathrebu a gwybodaeth am y Blaid; ac enillodd Plaid Cymru fri am ansawdd ac ystod ei chyhoeddiadau.  Yn ei phedair blynedd gyntaf o fodolaeth cyn ei benodi, dim ond un pamffledyn sylweddol a gyhoeddwyd gan y Blaid, sef Egwyddorion Cenedlaetholdeb gan Saunders Lewis.  Gyda JE wrth y llyw, dechreuodd gynhyrchu lli cyson o lenyddiaeth.  Mae’n werth nodi i’r cynnyrch hwn gynnwys nifer o weithiau swmpus ar bolisi economaidd – er enghraifft The Economics of Welsh Self-Government gan Dr DJ Davies (Gorffennaf 1931) a dau gan Saunders Lewis ar yr angen am gyngor datblygu yn 1933, a rhan llywodraeth leol wrth ddatblygu diwydiant (1934).  Cyhoeddwyd y rhain ochr yn ochr â’r Ddraig Goch, a ddechreuodd ychydig cyn sefydlu Plaid Cymru, a’i chyd-ymdaith yn yr iaith fain, y Welsh Nationalist, a sefydlwyd yn 1932.

Pwysleisiwyd tanysgrifio ac ymgyrchoedd gwerthu yn hytrach na rhoi’n rhad ac am ddim, er i JE ddatblygu’r arfer o ‘feithrin tawel’, gan ddanfon y cyhoeddiad diweddaraf ynghyd â llythyr cyfeillgar i nifer dethol o bobl enwog – yr artist Augustus John oedd un a ymunodd â’r Blaid fel canlyniad. Cofiaf (er cywilydd) i Gwynfor Evans sôn yn aml am  brinder cyhoeddiadau gan y Blaid yn ystod y 1970au a’r 1980au o’i gymharu â chyfnod JE wrth y llyw.

Wedyn bu cysylltiadau cyhoeddus.  Wrth iddo berswadio eraill i gynhyrchu’r cyhoeddiadau manwl, JE ei hun oedd y meistr ar gasglu’r dyfyniad trawiadol a’r ffeithiau allweddol, yr hyn a alwodd yn ‘fwledi’.  Arweiniodd hyn yn naturiol at gyfathrebu drwy’r wasg, maes y daeth yn grefftwr arno – yn llunio datganiadau i’r wasg a meithrin newyddiadurwyr fel ei gilydd.  Rwy’n dwli ar ei sylwadau cynnil ar rai o’i gyd-genedlaetholwyr yn y maes hwn: “Fe’i cefais yn un o’r pethau anosaf, yn y blynyddoedd cynnar, i ddysgu ein swyddogion lleol – ysgrifenyddion neu ohebyddion – i ysgrifennu ‘darnau effeithiol i’r Wasg ac i feithrin cyfathrach gyfeillgar â gŵyr y Wasg.  Gydag amser, fodd bynnag, fe ddaeth hynny.”  Gallasai JE ddysgu tric neu ddau i sbin-ddoctoriaid yr 21ain ganrif: mae’i gyngor ar ddefnyddio’r wasg yn dal yr un mor wir heddiw ag erioed, er gwaethaf holl newidiadau oes y rhyngrwyd, Facebook a Twitter.

Un flaenoriaeth gynnar oedd adeiladu’r Blaid o’r dyrnaid bach o bobl  a etifeddodd yn 1930.  Proses poenus o araf oedd hyn, er i JE fynd ati â’i ddull nodweddiadol o drylwyr, gan symud o sir i sir, wrth brocio aelodau i sefydlu pwyllgorau sirol ac, o dipyn i beth, canghennau.  Bu Saunders Lewis yn llym ei feirniadaeth am arafwch y cynnydd: ar ddiwedd 1935, ar ôl canmol gwaith JE fe ofynnodd: “Ond pa le y mae ei ddisgyblion?  Byddai trefnydd o’r un rhyw ymhob Pwyllgor Rhanbarth yn gweddnewid hanes y Blaid.”

Ond yma mae’n werth dwyn i gof rhai ffeithiau amlwg.  Roedd Plaid Cymru yn dal yn fach.  Roedd hefyd (yn nhermau oedran ei haelodau) yn ifanc.  Oherwydd ei bod yn fach ac yn ifanc yr oedd hefyd yn dlawd, yn dlawd iawn.  Hyn sy’n esbonio i raddau paham taw ychydig o etholiadau a ymladdodd – un sedd Seneddol yn 1929, dwy yn 1931 (Sir Gaernarfon a’r Brifysgol), lawr i un yn 1935.  Gyda llaw, etholiad 1935 oedd y cyntaf i’r Blaid ddefnyddio’r dull o ganfasio – techneg a addaswyd gan JE o’i gysylltiadau â phleidiau yn Nenmarc, Iwerddon a Lloegr.  Ychydig iawn hefyd oedd yr etholiadau lleol a ymladdwyd.  Efallai nad  tlodi sydd i’w feio am bopeth – cwynodd DJ Williams yn chwyrn am y diffyg ysbryd i ymladd, gan ddisgrifio pwyllgor sirol Caerfyrddin yn “gorff marw”.[v] Cofiwch taw 1935 oedd hyn!

Un dechneg a gyflwynwyd gan JE i fynd i’r afael â phroblemau ariannol y Blaid oedd Cronfa Gŵyl Ddewi, a seiliwyd ar brofiad Fianna Fáil.  Cododd yr apêl gyntaf, yn 1934, y cyfanswm tywysogaidd o £250!  Ochr yn ochr â chodi’r aelodaeth a chyllid ymladdwyd ymgyrchoedd – hynny ar ystod eang o bynciau.  Un enghraifft yn unig – yn fuan ar ôl dechrau ar ei swydd lansiodd ymgyrch i boblogeiddio’r defnydd o faner Cymru yn lle Jac yr Undeb oedd yn bla ymhobman.  Y targed cyntaf oedd Castell Caernarfon – a neb llai na David Lloyd George oedd ei Gwnstabl.  Cais cymedrol dros ben, un anodd ei wrthod, oedd ei gam cyntaf – statws cyfartal i’r ddwy faner ar Ddydd Gŵyl Dewi.  Cafodd y llythyr a ddanfonwyd ymlaen gan Lloyd George i’r Gweinidog yn Llundain ymateb negyddol llawn dirmyg – yn union beth oedd JE ei eisiau.  Fe’i cyhoeddodd ar unwaith!

Ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1932, wedi’i wisgo o’r corun i’r sawdl mewn lifrai beic modur fe dalodd JE ei chwe cheiniog a dringo’r grisiau i ben Tŵr yr Eryr, ble cyfarfu â thri arall yn y cynllwyn, gan gynnwys nai Lloyd George, WRP George.  Yna fe dynnwyd Jac yr Undeb i lawr a chodi’r Ddraig Goch yn ei le, gan staplo’r rhaffau’n sownd wrth y polyn – roedd cynllunio JE wrth gwrs wedi cynnwys morthwyl a staplau yn ei sach.  Wrth weld baner fawr y Ddraig Goch ar y tŵr fe gafwyd bonllefau o gymeradwyaeth a pherfformiad sydyn o Hen Wlad Fy Nhadau wrth dorf ar y Maes islaw; er y daeth yr heddlu lleol mewn fawr o dro, a chyn hir aeth Jac yr Undeb yn ôl i’w safle arferol.  Nes ymlaen yn y dydd, fodd bynnag, a hynny’n gwbl annibynnol, cyrhaeddodd grŵp o fyfyrwyr Plaid Cymru o Fangor ar ben lori.  Llwyddon hwythau esgyn Tŵr yr Eryr a mynd â Jac yr Undeb, a gafodd dynged anffodus ar y Maes.

Erbyn Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn wedyn fe welwyd tro bedol ar ran y llywodraeth.  Cafodd Draig Goch fawr ei chodi cyfuwch â Jac yr Undeb mewn seremoni yng Nghastell Caernarfon gyda David Lloyd-George ei hun yn llywyddu!  Cyn hir byddai baner Cymru’n cwhwfan o bob adeilad llywodraeth ar 1 Mawrth: maes o law trefnai JE i ganghennau’r Blaid bwyso ar yr awdurdodau lleol i ddilyn.  Yna fe ofalodd gynhyrchu rhagor o faneri, a’u gwerthu am elw defnyddiol.

Ymhlith ymgyrchoedd eraill cafwyd statws yr iaith Gymraeg – er enghraifft, rhoi cywilydd ar Swyddfa’r Post i dderbyn amlenni taledig gydag enwau lleoedd Cymraeg – i’w dilyn gan ymgyrch lwyddiannus i sicrhau rhaglenni radio Cymraeg ar y BBC.  Un thema amlwg yn yr holl ymdrechion hyn – ac mewn llawer mwy – oedd eu cynllunio manwl a’u natur holistaidd – byth yn colli cyfle am gyhoeddusrwydd da.  Amlygwyd y gofal hwn ar adeg llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth ym Mis Medi 1936, cyrch a fu’n nodedig am ei gyfrinachedd a’i sylw trwyadl i fanylion.  Roedd hyn yn cynnwys spïwraig – merch ifanc o’r enw Alaw Non Rees, a gadwai olwg ar faint o bren oedd yn cyrraedd y safle.

JE oedd un o saith a chwaraeodd ran uniongyrchol yn y weithred – cerddodd ran o’r ffordd yn ôl i Gaernarfon ar hyd y rheilffordd i osgoi cael ei ddal.  Y bore trannoeth yn ei lety derbyniodd lythyr oddi wrth Saunders Lewis – a ymddiheurodd am beidio â rhoi gwybod iddo am y llosgi!  Alibi oedd hwn wrth gwrs – doedd dim modd y gallai arweinwyr y Blaid fforddio gweld ei swyddfa ar gau a’u trefnydd mewn carchar ar adeg mor dyngedfennol.  Arhosodd JE yn rhydd ei draed i drefnu protestiadau ar hyd a lled y wlad.  Mae Dewi Rhys yn cofio gweld bwndeli o frysnegeseuon a anfonwyd i’r Tri a gyhuddwyd – Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams – brysnegeseuon yr oedd JE wedi’u trefnu: yn ôl y gyfraith rhaid oedd eu trosglwyddo ar unwaith, hyd yn oed yn ystod prawf Uchel Lys, gan helpu cynyddu’r argraff o gefnogaeth ymhlith y cyhoedd.  Ef hefyd a drefnodd y rali fwyaf erioed i’w galw gan y Blaid – bu tyrfa o 12,000 yn croesawu’r Tri yn ôl i Gaernarfon o Wormwood Scrubs.

Bu Penyberth a’r ddau achos Uchel Lys a’i dilynodd yn benllanw i Blaid Cymru cyn y rhyfel. Mae JE yn dadlau fod llawer o’r gefnogaeth newydd a enillwyd i’r Blaid wedi’i cholli ar ôl gwrthwynebu coroni Siôr VI, penderfyniad a wnaed yn ystod cyfnod pan oedd Saunders Lewis yn y carchar a JE yn dost.  Defnyddiodd gwrthwynebwyr y ffaith fod Lewis wedi troi at y ffydd Gatholig i gyhuddo Plaid Cymru o fod â chysylltiad â ffasgaeth.  Bu dechrau’r rhyfel yn her anferth – hyd yn oed yn fygythiad i fodolaeth y Blaid, fel y cyfaddefodd Saunders Lewis yn agored ar y pryd.  Ond rywsut fe barhaodd Plaid Cymru, hyd yn oed yn tyfu mewn dylanwad fel yr aeth y rhyfel yn ei blaen.  Tarodd yn ôl at eu gelynion yn hyderus ac egnïol.  Gwrthwynebai wasanaeth milwrol gorfodol, gyda JE yn wynebu chwe llys a thribiwnlys dros gyfnod o dair blynedd, ac yn gwneud hynny mewn steil.  Ymladdodd bob modfedd o’r ffordd i geisio achub dros 40,000 erw o dir ym Mynydd Epynt rhag eu rheibio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i’w defnyddio’n faes tanio.  Felly ym mis Ebrill 1940, cerddai JE y mynyddoedd unwaith yn rhagor, gan ymweld â phob fferm a wynebai berygl; ond cafodd Llundain ei ffordd.

Cynllunio strategaeth dwy blaid genedlaethol – Aelod Seneddol cyntaf yr SNP Dr Robert McIntyre yn ymuno ag arweinwyr Plaid Cymru, 1945
Cynllunio strategaeth dwy blaid genedlaethol – Aelod Seneddol cyntaf yr SNP Dr Robert McIntyre yn ymuno ag arweinwyr Plaid Cymru, 1945

O 1942 ymlaen roedd hi’n amlwg bod tro ar fyd.  Enillodd Saunders Lewis 23 y cant o’r bleidlais mewn isetholiad ar gyfer Prifysgol Cymru: noda JE (gyda chryn foddhad) ddisgrifiad ohono fel trefnydd ‘cyfrwys’ – “assiduous, astute and untiring agent”.[vi] Ac roedd ganddo achos arall i fod yn llawen.  Yn 1940 priododd ag Olwen Roberts, ysgrifennydd rhanbarth Caernarfon, mewn seremoni a lywyddwyd gan Lewis Valentine.  Byddai dau o blant, Angharad a Dewi Rhys, yn dilyn.

Erbyn 1945, daeth Plaid Cymru mâs o heldrin y rhyfel yn gryfach nag erioed.  Am y tro cyntaf gallai hawlio ei bod yn blaid Cymru gyfan, gan ymladd saith o seddi yn yr etholiad cyffredinol.  Yn ystod yr haf dewisodd arweinydd newydd, Gwynfor Evans, 33 oed: byddai ef a JE yn cydweithredu’n glos am y degawd a hanner oedd i ddod.  Mewn gwirionedd, medd Hywel Davies, o 1945 ymlaen yn hytrach nag o 1925 mae modd ystyried Plaid Cymru’n blaid wleidyddol, er ei bod yn dal yn blaid mewn cyflwr embryonig.[vii]

Unwaith yn rhagor bu rhaid ymladd ymgais gan y Weinyddiaeth Ryfel i gipio tir Cymru, y tro yma yn Nhrawsfynydd, Meirionnydd, ac yn llwyddiannus.  Unwaith eto JE a gyfrannodd ei ddawn greadigol: trefnwyd cyrch ffug tra aeth y prif fintai ar hyd heolydd cefn gwlad i ddechrau blocâd a barodd ddau ddiwrnod.  Erbyn 1950 roedd Plaid Cymru’n gweithio’n egnïol o fewn ymgyrch Senedd i Gymru.  Trefnodd JE gyfres o ralïau dros chwarter canrif.  Bu rali 1953 ymhlith y fwyaf a welwyd yng Nghaerdydd.  Yn groes i’w arfer cymerodd y gadair – ond ei fewnbwn gwirioneddol oedd cynllunio a gweithredu.  Roedd y paratoadau’n cynnwys relái o redwyr yn dwyn ffaglau o Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth i Erddi Soffia yng Nghaerdydd: fe sicrhaodd JE fod yr areithiau a negeseuon yn parhau’n ddigon hir i’r dorf rygbi oedd yn ymadael â Pharc yr Arfau weld yr orymdaith a ddilynai’r rali.  Roedd hefyd yn ymwneud ag amddiffyn Cwm Tryweryn rhag ei foddi gan ddinas Lerpwl, erbyn hyn gyda mwy o gymorth.

JE yn cadeirio Rali Senedd i Gymru yng Ngerddi Soffia, Caerdydd, 1953
JE yn cadeirio Rali Senedd i Gymru yng Ngerddi Soffia, Caerdydd, 1953

Wrth gwrs roedd gan JE Jones ei feirniaid.  Teimlai rhai na allai rhywun o’i gefndir gwledig Cymraeg uniaethu â’r cymunedau diwydiannol, di-Gymraeg yn y deheubarth a’r gogledd-ddwyrain.  Credaf fod ei hanes gwaith yn dangos fel arall.  Mae Tros Gymru yn llawn cyfeiriadau at yr angen i apelio i’r rhai di-Gymraeg.  Cefnogodd JE symud swyddfa’r Blaid o Gaernarfon i Gaerdydd yn 1946 – yn wir fe’n bersonol a gafodd hyd i ystafelloedd yn 8 Queen Street.  Mae Dewi Rhys yn cofio bod yr agoriad swyddogol wedi digwydd ar 1 Mawrth, diwrnod ei eni, gyda “Dad yn trio bod mewn dau le’r un pryd, fel arfer”!  Diolch i’w waith fe lwyddodd Plaid Cymru i ledaenu ei gorwelion yn y De ar ôl y rhyfel.

Byddai JE ei hun yn amharod iawn i feirniadu ei gyd-genedlaetholwyr.  Dyma un enghraifft brin: ar ôl canmol arweinyddiaeth Saunders Lewis, aeth mor bell â rhoi’r sylw hwn: “Ond tyfodd ynddo duedd i fod â rhagfarn anghywir weithiau, o blaid neu yn erbyn rhai mathau o bobl; er enghraifft, gallodd awgrymu, am un a oedd lawn cyn ddewred ag ef ei hun, mai llwfrdra oedd ei basiffistiaeth.”  Y ‘rhywun’ dan sylw wrth gwrs oedd Gwynfor Evans.

Arwain gorymdaith Senedd i Gymru
Arwain gorymdaith Senedd i Gymru

Teimlai eraill ei fod yn rhy agos at elite y Blaid; yn arbennig pan fo straen o fewn y rhengoedd, er enghraifft yn ystod ymgyrch Tryweryn.  Yn 1950, roedd cyn-arweinydd y Blaid, Saunders Lewis, yn breifat yn beirniadu ‘parchusrwydd’ JE, parchusrwydd roedd yn ei gymharu’n anffafriol â thactegau’r Gweriniaethwyr Cymreig.  Ond gŵr teyrngar wrth reddf oedd JE, ymroddedig i gefnogi Plaid Cymru a’i arweinyddiaeth etholedig, doed a ddelo.  Yr oedd wedi profi ei barodrwydd i weithredu’n gadarn: dangoswyd hynny gan ei barodrwydd yn ystod blynyddoedd y rhyfel i wrthwynebu gorfodaeth filwrol fel cenedlaetholwr ac wynebu carchar os bu rhaid.  ‘Parchusrwydd’ Plaid Cymru’n hytrach nag eiddo JE oedd testun cwyn Saunders Lewis; ac roedd ei weithrediadau’n ddrych o benderfyniad Gwynfor Evans ar ôl y rhyfel i roi Plaid Cymru ar gwrs i fod yn blaid i Gymru gyfan yn hytrach na grŵp pwyso cenedlaetholgar.

Wrth edrych yn ôl, yr hyn sy’n drawiadol yw parodrwydd a gallu JE i aros yn ei swydd, er gwaethaf yr holl broblemau a’r pwysau a wynebai’r Blaid.  A fyddai Plaid Cymru wedi goroesi’r 1930au, y 40au a’r 50au heb JE wrth y llyw?  Efallai, ond mae’n anodd gen i weld sut.  Mae ei garreg fedd ym Melin-y-Wig yn dwyn yr ymgysegriad ‘JE Jones, Pensaer Plaid Cymru’ – teyrnged addas i’r un a luniodd fudiad cenedlaethol Cymru.

Claddwyd JE Jones (1905-1970) mewn mynwent gyferbyn â’r capel ym Melin-y-Wig.  Mae plac ar fur yr ysgoldy a fynychai hefyd yn coffáu ei fywyd.  Mae’r englyn yma ar ei fedd.

Pryderu dros Gymru gaeth – ac er hon

Gwario’i holl gynhysgaeth.

Byw’n gyfan i’w gwasanaeth,

Marw’n wir dros Gymru wnaeth.

 


[i] Ibid,t.40

[ii] Ibid, t.70

[iii] JE Jones, Tros Gymru: JE a’r Blaid, t.97.

[iv] D Hywel Davies, The Welsh Nationalist Party 1925-1945:  A Call to Nationhood (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1983), t.187.

[v] D Hywel Davies, The Welsh Nationalist Party, t.204.

[vi] JE Jones, Tros Gymru: JE a’r Blaid, t.271.

[vii] D Hywel Davies, The Welsh Nationalist Party, t.268.