Penyberth – Pam y Symudwyd yr Achos o Gymru?

Mae ymchwil newydd yn dangos bod y penderfyniad dadleuol i symud achos llys llosgi Ysgol Fomio Penyberth o Gymru i Lundain wedi’i ysgogi gan bennaeth lleol yr heddlu yn hytrach na chan lywodraeth San Steffan.

Cafodd tri o aelodau mwyaf blaenllaw’r Blaid, Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams eu carcharu ar ôl llosgi’r ysgol fomio a oedd yn cael eu codi ym Mhenyberth ger Pwllheli ym Mis Medi 1936.

Bu storom yng Nghymru yn dilyn y penderfyniad i symud yr achos i’r Old Bailey, a hynny ar ôl i reithgor yng Nghaernarfon fethu â chael y Tri’n euog o’r difrod.  Bu’r cyn-Brif Weinidog David Lloyd George ymhlith y llu a feiai lywodraeth y dydd, wrth ddweud mai dyma oedd y llywodraeth cyntaf i roi Cymru ar brawf yn yr Old Bailey.

Bellach mae ymchwil newydd gan yr arbenigwr cyfreithiol Keith Bush yn dangos bod y pwysau i symud yr achos wedi’i ysgogi gan Brif Gwnstabl Heddlu Sir Gaernarfon, Edward Williams, yn hytrach na chan weinidogion llywodraeth Llundain.

Mae ymchwil Mr Bush, sy’n Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, wedi darganfod bod llythyr a ysgrifennwyd gan y Prif Gwnstabl ddeuddeng niwrnod ar ôl diwedd yr achos cyntaf yng Nghaernarfon wedi annog y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i ddanfon yr achos y tu allan i Gymru.

I ddangos ei bryder, amgaeodd gopi o’r panel o ddarpar-reithwyr a farciwyd ganddo  i nodi pa reithwyr oedd wedi bod yn barod i gael y Tri yn euog a pha rai oedd ddim – saith dros euog a phump yn erbyn.

Roedd y dystiolaeth hon o’r rhaniad dwfn o fewn y rheithgor, ynghyd â’r awyrgylch tu allan a thu fewn i’r llys yn ystod y treial, yn ei gwneud yn angenrheidiol yn ei farn ef i gynnal yr achos dros y ffin yn yr Old Bailey: ychwanegodd fod canlyniad yr achos yng Nghaernarfon wedi rhoi hwb mawr i’r Blaid, a’u bod yn dweud y bydd canlyniad tebyg eto pe byddai’r difinyddion yn ymddangos gerbron rheithgor Cymreig.

Fodd bynnag, cymaint oedd y gwrthwynebiad a gododd yn erbyn y cais fel bod y Twrnai Cyffredinol wedi chwilio am opsiwn arall, gan gyfaddef nad oedd wedi rhagweld y gallai’r syniad o symud achos o Gymru i Loegr fod mor ddadleuol.

Cynigiodd bargyfreithwyr dros yr erlyniad ddewis amgen i’r Arglwydd Prif Ustus, sef cynnal ail brawf rywle arall yng Nghymru, gan awgrymu Caerdydd; ond erbyn hynny yr oedd yn rhy hwyr – yr unig gais o flaen y Llys oedd i’r achos gael ei symud o Gymru i Lundain.

Datgelwyd yr ymchwil mewn darlith a draddodwyd gan Mr Bush yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ger Pwllheli, a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.  Mae hefyd yn edrych ar agweddau eraill o achos llys Penyberth, gan gynnwys y driniaeth o’r iaith Gymraeg yn ystod  yr achos cyntaf.

Fe’i cyhoeddir yn llawn yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan y Gymdeithas, hanesplaidcymru.org

Tri Penyberth gan yr arlunydd Ifor Davies, arddangoswyd yn Y Lle Celf yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan 2023.