Mallt Williams – Y Fonesig a Achubodd Blaid Cymru
Darlith draddodwyd gan Arwel Vittle yn Eisteddfod y Garreg Las 6 Awst 2026. Cyflwynwyd y digwyddiad gan Ben Lake A.S.

Sain y Ddarlith gan Arwel Vittle –
Cyflwyniad
Pan wnaeth Gwen Angharad Gruffudd a minnau gynllunio ysgrifennu cyfrol ar sefydlu’r Blaid Genedlaethol flwyddyn neu ddwy yn ôl, roedd y ddau ohonom yn ymwybodol bod yno straeon nad oedd wedi cael eu hadrodd o’r blaen am gyfraniadau rhai unigolion allweddol yn hanes y Blaid na chafodd sylw dyledus. Ac – fel sy’n boenus o gyffredin – roedd llawer o’r unigolion hyn yn ferched.
Wrth i ni dyrchu i’r hanes daeth yn glir bod amryw o ferched heb gael sylw dyledus am eu rhan yn sefydlu’r Blaid. Un o’r pwysicaf – os nad y pwysicaf – yn sicr o ran goroesiad y Blaid fel plaid hyfyw oedd Mallt Williams, Bonesig Llandudoch.

Rwy’n gredwr mawr mewn cydnabod ffynonellau ymchwil ac ati felly cyn cychwyn y sgwrs yma heddiw, mae angen i mi gydnabod a diolch i nifer o bobl a’m cynorthwyodd yn anuniongyrchol ac uniongyrchol wrth baratoi’r deunydd.
Yn gyntaf, Marion Löffler a fraenarodd y tir yn ei herthygl ‘Mallt Williams – A Romantic Nationalist’[1] ac mewn astudiaethau wedi hynny. Wedyn rwy’n ddiolchgar hefyd i’r hanesydd lleol y fro hon Hedd Ladd Lewis, am rannu ei wybodaeth a’i ymchwil ar Mallt a hefyd ei gysylltiadau teuluol gyda hi trwy ei fam-gu. Gair hefyd o ddiolch i E. Wyn James, a wnaeth fy ysgogi i feddwl yn ddyfnach am gyfraniadau y merched yn hanes cynnar y Blaid ac am ambell i stori y byddaf yn cyfeirio ati yng nghwrs y sgwrs yma. Yn olaf – diolch i gydawdur ein llyfr Dros Gymru’n Gwlad Gwen Angharad Gruffudd a dreuliodd oriau yn chwilota’r archif ar gyfer y gyfrol ac a ddaeth o hyd i drysorau ymysg gohebiaeth Mallt Williams a’i hysgrifen aruthrol o flêr!
Cefndir Mallt
Cafodd Alice Matilda Langland Williams, i roi iddi ei henw bedydd, ei geni yn 1867, yn ferch i feddyg o Sir Frycheiniog.
Wrth edrych ar yr archif amdani daw’n amlwg ei bod yn arddel sawl enw – a ffugenw – roedd yna Alice Matilda Williams, Alice Langland Williams, a Mallt Williams, a’r Fonesig Williams heb sôn am Mallt Merch Brychan. Ond fel Mallt y cafodd ei hadnabod amlaf, ac fel Mallt y cyfeiriwn ni ati heddiw.
Magwyd Mallt ar aelwyd ddi-Gymraeg yn Nhŷ Aberclydach ger Tal-y-bont ar Wysg. Roedd gan y teulu enw da yn yr ardal ac yn ôl y sôn, roeddent o dras pendefigaidd, a ddylanwadodd yn sicr, yn ôl Marion Löffler, ar ganfyddiad Mallt o’i rôl yng nghymdeithas Cymru. Daeth ei brawd hynaf, Howell Price Williams, i enwogrwydd yn 1910 fel un o’r dynion gwyn cyntaf i deithio ar draws cyfandir Affrica, a bu’r ail frawd, William Retlaw Jefferson, yn olygydd cylchgronau hynafiaethol. Ond gyda’i brawd a’i chwaer iau, Frederick George a Cate ‘Gwenffreda’, y datblygodd Mallt y berthynas agosaf. Yn ferch ifanc, drwy gysylltiadau’r teulu yn lleol, daeth dan ddylanwad cylch Arglwyddes Llanofer, sef Gwenynen Gwent.
Roedd hi’n dipyn o gymeriad, yn cael tynnu ei llun wedi ei gwisgo fel tywysoges Gymreig o’r drydedd ganrif ar ddeg ac yn awdur nofelau hanesyddol wedi’u gosod mewn Cymru Geltaidd ramantus.
Mae’n debyg mai Mallt a’i chwaer Gwenffreda oedd ‘The Dau Wynne’, awduron dwy nofel One of the Royal Celts, a gyhoeddwyd yn 1889, A Maid of Cymru: A Patriotic Romance, a gyhoeddwyd yn 1901.
Awgryma Marion Löffler mai Mallt oedd gwir awdur yr ail o’r rhain, sef A Maid of Cymru. Mae’n werth sylwi ar gynnwys y nofel hon oherwydd mae’n rhoi darlun i ni o syniadaeth a delfrydiaeth y Mallt Williams ifanc.
Mae’r nofel yn sôn am Tangwystl Hywel, arwres A Maid of Cymru, sy’n ddisgynnydd i Brychan Brycheiniog ac yn ferch i’r “hen dŷ uchelwyr” olaf mewn yn ne-ddwyrain Sir Frycheiniog. Mae hi’n adfywio eisteddfod Gymraeg yn yr ardal (dan lywyddiaeth yr archdderwydd Hwfa Môn) ac yn noddi beirdd lleol. Mae hi’n gwrthod priodi’r dyn y mae’n ei garu oherwydd ei fod yn rhan o’r sefydliad diwydiannol Seisnig sy’n dinistrio ei bro. Yn hytrach, mae’n cytuno i briodi Hoel Cadwgan, sy’n dod o hen linach Gymreig, ar yr amod ei fod yn mabwysiadu achos Cymru a’r Gymraeg. O dan ei harweiniad, mae Hoel yn ailddysgu Cymraeg ac yn dod i ddeall ei ran yn y dyffryn fel uchelwr sy’n trin ei dir yn ôl traddodiadau ei wlad…” Anrheg priodas Hoel Cadwgan i Tangwystl yw adeilad a rhodd ariannol ar gyfer ysgol i delynorion, ond mae hi’n marw cyn i gallu gwireddu ei breuddwyd. Ei neges olaf yw i Hoel: “Gwasanaetha Gymru!”
Urdd y Delyn, Urdd y Ddraig Goch a Byddin Cymru
Bu methiant Cymru Fydd, y mudiad o fewn y Blaid Ryddfrydol Brydeinig i ennill hunan lywodraeth i Gymru, yn 1896 yn ergyd drom i garedigion Cymru a’r Gymraeg, a chilio fel pwnc gwleidyddol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif a wnaeth hunan lywodraeth i Gymru.
Os oedd hunaniaeth Gymreig ar drai, gallai rhywun feddwl mai’r gwrthwyneb oedd yn wir o edrych ar y toreth o fudiadau a sefydlwyd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif. Yn y blynyddoedd hynny gwelwyd creu cymdeithasau, urddau a chylchoedd Cymreig a Chymraeg rif y gwlith.
Sefydlwyd Urdd y Delyn gan O.M. Edwards yn 1896. Ymgais gynnar i greu mudiad ieuenctid oedd hon, a gyflawnwyd maes o law gan ei fab, Ifan ab Owen Edwards, pan sefydlodd Urdd Gobaith Cymru yn 1922. Byddai aelodau Urdd y Delyn yn siarad Cymraeg, yn dysgu am hanes Cymru, yn chwarae’r delyn a chanu caneuon gwerin Cymreig ac yn byw yn ôl delfrydau Cristnogol Cymreig.

Ymhlith y mudiadau hyn hefyd yr oedd Urdd y Ddraig Goch (1902), gyda’r nod o ‘Hyrwyddo yr iaith Gymraeg, a cheisio cael gan rieni yn mhlith pob haen o gymdeithas i siarad a meithrin yr hen iaith ar eu haelwydydd’; Cymdeithas y Ddraig Goch (1902), a oedd am ‘gefnogi gwisgo dillad o ddefnydd Cymreig, a phrynu pethau a wneir yn Nghymru’, ac Undeb y Ddraig Goch (1903), a oedd am ‘wneyd Cymru yn fwy Celtig ac o ganlyniad yn fwy prydferth’.
Un enw cyffredin ymysg sylfaenwyr y mudiadau hyn i gyd oedd y Fonesig Mallt Williams. Bu Mallt yn ymwneud â’r rhan fwyaf o’r mudiadau a’r cymdeithasau hyn mewn rhyw fodd neu’i gilydd. Dywedodd O.M. Edwards er enghraifft, mai Mallt oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu Urdd y Delyn.
Prif bryder Mallt oedd goroesiad y Gymraeg, ac roedd am wireddu ei breuddwyd o weld Cymru Gymraeg, a gosododd gyfrifoldeb mawr am hynny ar famau Cymru. Ond hefyd roedd yr uchelwyr wedi troi cefn ar y Gymraeg hefyd ac roedd angen cenhedlaeth newydd o uchelwyr i wneud iawn am y methiant hynny.
Mynegodd hyn mewn erthygl o’r enw ‘Welsh Women’s Mission in the Twentieth Century’. (Rwy’n arall eirio o’r Saesneg yma er mwyn peidio torri’r rheol Gymraeg yr Eisteddfod yn ormodol).
Dylai mamau’r Boneddigion, gyda’u manteision cymdeithasol mawr, arwain y ffordd gyda meithrinfeydd lle byddai’r nyrsys yn siarad Cymraeg, y teganau’n Gymreig, ac arwyddluniau a baneri cenedlaethol yn addurno’r waliau ac ystafelloedd yr ysgol.
Ymhell cyn i Urdd y Delyn ddod i ben, roedd hi a Gwyneth Vaughan, y nofelydd Eingl-Gymreig, wedi sefydlu cymdeithas arall, sef Undeb y Ddraig Goch. Nod y gymdeithas hon oedd helpu yn y gwaith i wneud Cymru “yn fwy Celtaidd”’. Roedd gan yr Undeb hon gyfansoddiad ‘wedi’i gynllunio gyda’r bwriad o alluogi Bonedd a Gwerin fel ei gilydd i ymuno’. Rhwng 1901 a 1914, cynhaliodd Undeb y Ddraig Goch gyfarfodydd cyhoeddus a sefydlu canghennau yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor. Bu Mallt yn ysgrifennydd i’r Undeb yn 1903, ac roedd yn ddiarbed yn ei hymdrechion i ddenu noddwyr a chefnogwyr, yn eu plith y Prifathro John Rhŷs o Goleg yr Iesu, Rhydychen, Owen Rhoscomyl a Howelliaid Nanteos.
Mudiad arall i bobl ifanc a grëwyd gan Mallt oedd Byddin Cymru, ac ar dudalennau Cymru’r Plant o 1911 ymlaen bu’n rhedeg grŵp o’r enw Ysbïwyr y Frenhines ym Myddin Cymru, sef grŵp o ieuenctid oedd yn addo gwasanaethu Cymru gyda’u calonnau, eu meddyliau eu tafodau a’u dwylo. Er gwaethaf yr enw sinistr, ‘Y Frenhines’ dan sylw yn y teitl melodramatig oedd yr iaith Gymraeg. Trefnai ei ‘hysbïwyr’ seremonïau a ralïau rhamantus, lle byddai aelodau newydd yn derbyn baneri gyda’r ddraig goch arnynt, gydag argymhelliad y dylent wisgo crys gwyrdd a sgarff goch yn y digwyddiadau.
Cefnogi Undeb y Cymdeithasau Cymraeg
Yn y pen draw, efallai mai ariannol oedd cyfraniad mwyaf Mallt Williams i genedlaetholdeb diwylliannol a gwleidyddol Cymreig. O droad y ganrif ymlaen, rhoddodd yn hael i gymdeithasau a mudiadau ledled y wlad. Un o’r rhain oedd Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, y pwysicaf o’r mudiadau cenedlaetholdeb diwylliannol. Daeth i fodolaeth yn 1913 pan welwyd bod angen llais unedig ar y myrdd grwpiau diwylliannol.
Roedd teimlad cyffredinol o golli tir ymysg caredigion yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Roedd capeli Cymraeg yn troi at ddefnyddio’r Saesneg, a chlywid cwynion nad oedd plant Cymry Cymraeg bellach yn deall iaith eu rhieni, fod gwerthiant llyfrau a chyfnodolion Cymraeg wedi gostwng yn sydyn ers y 1890au ac nad Cymraeg oedd iaith y bywyd cyhoeddus mwyach. I raddau felly, roedd ffurfio’r gwahanol gymdeithasau yn ymateb i’r twf mewn Seisnigrwydd.
Canlyniad hyn i gyd oedd sefydlu Undeb y Cymdeithasau Cymraeg yn ffurfiol ym mis Tachwedd 1913. Etholwyd Owen M. Edwards yn llywydd ac Arthen Evans yn ysgrifennydd cyffredinol. Yn ddiweddarach olynwyd O.M. fel llywydd gan E.T. John, y gwleidydd a’r diwydiannwr a oedd yn gefnogol iawn i ymdrechion i ledu hunaniaeth Gymreig a Cheltaidd a symudiadau i atgyfodi’r syniad o hunan lywodraeth i Gymru.
Yn ôl cyfansoddiad Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, ei amcanion oedd:
- [Bod yn g]yfrwng ymgynghoriad a chydweithrediad rhwng Cymdeithasau Cymraeg.
- Noddi’r Gymraeg a’i llȇn, a sicrhau iddynt eu lle dyladwy ymhob cylch o fywyd Cymru.
- Meithrin yr ysbryd cenedlaethol, a gwrthwynebu pob mudiad a’i rhwystrai.
Cefnogodd Mallt Undeb y Cymdeithasau yn eiriol ac yn ariannol a bu’n is-lywydd yr Undeb. Ond dichon bod Mallt er ei chefnogaeth yn cytuno gydag amryw o genedlaetholwyr eraill fel HR Jones, Valentine a DJ Williams nad oedd yr Undeb yn ddigon gwleidyddol ei natur.
Mynegodd DJ ei rwystredigaeth gyda diffyg menter politicaidd Undeb y Cymdeithasau mewn llythyr at Ambrose Bebb yn 1924 gan gyfeirio ati fel ‘Royal Standbacks Undeb y Cymdeithasau Cymraeg’.
Cysylltiadau Celtaidd
Ond roedd Mallt a’i brawd a’i chwaer hefyd yn ymddiddori’n fawr mewn cysylltiadau a’r gwledydd Celtaidd.
O’r 1890au ymlaen mynychodd Mallt a’i brawd a’i chwaer y Gyngres Ban-Geltaidd cyn y Rhyfel Mawr, ac yna ar ôl y rhyfel pan ailsefydlwyd y Gyngres Geltaidd yn 1917 roedd ymysg y selogion a’r cefnogwyr pennaf. Teithiodd y tri i’r Alban, Llydaw ac Iwerddon gan fynychu’r Mod yn yr Ucheldiroedd ac Oireachtas y Gynghrair Wyddelig.
Daeth i adnabod y gwladgarwr a’r bardd Llydewig Taldir hefyd.
Enw barddol François Jaffrennou, oedd ‘Taldir ab Hernin,’ a dyna sut yr adnabuwyd ef gan ei gyfeillion. Roedd yn olygydd a chenedlaetholwr ac yn weithgar yn y mudiad Pan-Geltaidd. Ef oedd yn un o’r rhai oedd yn gyfrifol am olygu cylchgronau megis Ar Vro ac Ar Bobl. Roedd yn ysgrifennu’n bennaf yn Llydaweg a chyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth. Taldir a sefydlodd Gorsedd Llydaw a chyfieithu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ i’r Lydaweg – ‘Bro Gozh ma Zadoú’, a ddaeth yn anthem genedlaethol Llydaw.

Cysylltir ei henw hi a’i chwaer Gwenffreda gydag enw’r Arglwyddes yn y gerdd ‘An Diou Vag’ a gyfansoddodd Taldir ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1899, a’i chyhoeddi yn Gwerziou gant Abherve ha Taldir yn yr un flwyddyn 1899.
Dros y blynyddoedd nesaf byddai’r Gyngres Geltaidd yn cyfarfod yn flynyddol yng Nghaeredin, Bangor, Ynys Manaw, Llydaw a Dulyn. Unigolyn amlwg yn y Gyngres oedd Agnes O’Farrelly o’r Gynghrair Wyddelig. Hi oedd llywydd cyfarfod cyntaf adran merched yr Irish Volunteers, Cumann na mBan, ac roedd yn ffrind agos i Roger Casement a ddienyddiwyd gan Brydain ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth am ei ran yng Ngwrthryfel y Pasg. At hynny, bu amryw o Wyddelod blaenllaw yn gefnogol i’r Gyngres, gan gynnwys Douglas Hyde, Arlywydd cyntaf Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ac un o arloeswyr y dadeni Gwyddelig ar droad y ganrif. Ac ynghanol hyn i gyd gyda’i chefnogaeth ariannol i’r Gyngres a’i brwdfrydedd carlamus yr oedd Mallt Williams, yn llawn anogaeth i unrhyw fudiad oedd am hyrwyddo achos Cymru a’r Gymraeg.
Felly roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn creu cysylltiadau gyda’r holl wledydd Celtaidd. Ond Iwerddon oedd y dylanwad mwyaf arni.
Arwyddocâd Iwerddon
Yn 1904 ysgrifennodd at Padraig Pearse, y cenedlaetholwr a’r ymgyrchydd dros y Wyddeleg, yn ei longyfarch ar sefydlu Ysgol Wyddeleg Ynys Tawin yn Swydd Galway, gan ychwanegu ei gobaith na fyddai angen i ragor o feibion Iwerddon ymfudo i ennill bywoliaeth: ‘Ireland never needed her Gaelic speaking children more than she does today’ meddai.
Mae hanes Ysgol Tawin yn ddiddorol o ran y cyswllt rhwng mudiad iaith Iwerddon a’r mudiad gwleidyddol ehangach.
Roedd Roger Casement yn ymgyrchydd hawliau dynol a chenedlaetholwr Gwyddelig ac yn gefnogwr mawr i’r Gyngres Geltaidd hefyd. Fel soniais i, cafodd ei grogi gan Lywodraeth Prydain yn 1916 am ei ran yn Gwrthryfel y Pasg. Ymwelodd Casement ag Ynys Tawin yn 1904 i gefnogi rhieni ar yr ynys a oedd wedi tynnu eu plant yn ôl o ysgol genedlaethol yr ynys mewn protest am nad oeddent yn cael eu haddysgu yn y Wyddeleg. Cododd yr ynyswyr ddigon o arian i’w hachos i adeiladu eu hysgol cyfrwng Gwyddeleg eu hunain. Ac roedd Padraig Pearse, un arall o genedlaetholwyr amlycaf Iwerddon yn hynod gefnogol i’w hachos hefyd drwy gyfrwng y Gynghrair Gaeleg. Defnyddiwyd adeilad yr ysgol yn ystod gwyliau’r haf fel coleg Gaeleg hefyd. Nid dyna unig gyswllt ysgol Tawin a’r mudiad cenedlaethol yn Iwerddon chwaith, oherwydd treuliodd Eamon de Valera dri haf ar Ynys Tawin fel Cyfarwyddwr Ysgol Haf y Gynghrair Gaeleg o 1911-13. Yn ddiweddarach bu’n cymerodd ran yng Ngwrthryfel y Pasg, yn ac arweinydd gwleidyddol yn y Rhyfel Annibyniaeth.
Roedd Mallt yn ymwelydd cyson ag Iwerddon ac mae llawer o’i llythyrau wedi eu hysgrifennu ar bapur gwestai Dulyn. Teithiodd yno hyd yn oed yn ystod cyfnodau cythryblus fel y misoedd wedi gwrthryfel y Pasg yn 1916. Pan gafwyd trafodaethau ar gytundeb i ddod a rhyfel annibyniaeth Iwerddon i ben yn 1921 mynegodd Mallt ei drwgdybiaeth lwyr o David Lloyd George, arwr mawr Cymru fydd ers talwm, ond a bellach yn brif weinidog Prydain ac yn arwain trafodaethau gyda Sinn Féin ac arweinwyr yr IRA.
Dywedodd ei bod yn adnabod rhai o arweinwyr y mudiad cenedlaethol yn Iwerddon a’u bod hwythau hefyd o’r un farn:
Yr wyf yn gwybod rhai o’r Arweinyddion. Mae yr holl Wladgarwyr (credaf) yn methu ymddiried yn L.G. Nid yw efe erioed yn gyfaill i’r Werddon.
Mae hanes helynt ysgol Tawin yn dangos yn eithaf clir y cyswllt rhwng y mudiad iaith yn Iwerddon a’r mudiad gwleidyddol dros annibyniaeth. Ac roedd honno’n elfen gref a ddatblygodd ym meddylfryd Mallt Williams hefyd. Bellach y ffordd i gadw’r Gymraeg oedd trwy ennill grym gwleidyddol a rhyddid i Gymru. Ac mi fyddai ei barn ai chyfraniadau geiriol ac yn bwysicach – cyfraniadau ariannol yn adleisio hynny dros weddill ei bywyd.

Marw Gwenffreda a symud i Bantsaeson
Yn 1914, bu farw chwaer Mallt, Gwenffreda. Dengys sylwadau g O.M. Edwards yn Cymru’r Plant gymaint o ergyd bersonol oedd colli rhywun oedd ar yr un donfedd a hi mewn sawl ffordd i Mallt.
Rai blynyddoedd cyn hynny roedd Mallt wedi symud o Frycheiniog i ardal Llanarthne yn Sir Gaerfyrddin, ond yna ychydig wedi colli ei chwaer pan brynodd Frederick ei brawd Blas Pantsaeson rhwng Trewyddel a Llandudoch yn Sir Benfro, fe wahoddwyd Mallt i fyw yno gydag ef a’i wraig.

O hynny ymlaen, roedd Mallt ynghyd Frederick a’i wraig a’u plant yn byw eu breuddwyd fel bonedd Cymreig unigryw yn eu plasty yng ngogledd Sir Benfro.
Roedd Mallt yn byw bywyd cynnil iawn ac roedd yn llysieuwraig ddisgybledig dros ben ac arddelai ffydd Seientiaid Cristnogol (y Christian Scientists), sy’n credu bod iachâd yn dod trwy weddi a dealltwriaeth ysbrydol yn hytrach na meddyginiaeth.
Cefnogi’r Blaid Genedlaethol newydd
Yn 1925 gwireddwyd dyheadau cenhedlaeth newydd o genedlaetholwyr dan arweiniad unigolion fel Saunders Lewis, Lewis Valentine a HR Jones ac unwyd egin fudiadau cenedlaethol gogledd a de i greu Plaid Genedlaethol Cymru.
O’r cychwyn cyntaf roedd Mallt yn bendant ei chefnogaeth i’r Blaid newydd.
Un o gamau cyntaf H.R. Jones, trefnydd y Blaid newydd oedd cysylltu gyda Mallt a’i gwahodd i ddod yn un o’r is lywyddion gyda Saunders Lewis a Meuryn, golygydd Yr Herald Gymraeg.
Mae’n ddiddorol gweld ei henw ar restr y swyddogion fel Is-Lywydd y Blaid Genedlaethol. Roedd Mallt wedi bod yn ymwneud â myrdd o gymdeithasau Cymraeg a Chymreig ers dechrau’r ganrif, gan sefydlu Urdd y Delyn a Byddin yr Iaith, ac roedd yn frwd dros unrhyw fudiad a allai sicrhau mesur o ymreolaeth i Gymru. Naturiol felly oedd iddi fod yn hynod gefnogol i unrhyw ymgais i sefydlu plaid genedlaethol annibynnol, ac fel un o’r ychydig bobl oedd â modd ariannol i gefnogi’r ymdrechion hyn, mi fyddai ei nawdd yn allweddol i sicrhau dyfodol unrhyw blaid newydd.
Roedd yn falch o dderbyn gwahoddiad HR gan ei ystyried yn fraint ac anrhydedd. Mae ei hymateb yn datgelu’r pwys a roddai ar droi cefn ar Loegr a throi golygon at y gwelydd Celtaidd eraill, a hefyd ei phwyslais ar roi lle canolog i’r Gymraeg:
Mae’r Cymru yn sefyll wrth yr groes-ffordd yn wir heddyw.
- Rhaid ni troi ein llygaid oddiwrth Llundain.
2) Rhaid ni gwneud yr Gymraeg yn gorfodol yn bob ysgol, o Gaer-gybi i Gaerdydd (fel y mae’r Saesneg rwan)
3) Rhaid ni canlyn yr symudiadau cenedlaethol yn yr wledydd eraill, ac cyfnewidio ‘ideas’ gyda yr Gwyddelwyr ac yr Llydawyr ac yr Albanwyr.
Roedd yn falch o glywed am fwriad y blaid newydd i rannu miloedd o bamffledi ac anfon siaradwyr ar hyd a lled Cymru i ledaenu’r neges. I’r perwyl hwnnw, cynigiodd dalu am argraffu taflenni ar batrwm rhai a gyhoeddwyd gan Albanwyr y Scottish National League, gan annog H.R. i beidio â chyhoeddi taflenni hirfaith a hirwyntog – ‘dylent fod yn fyr ac i’r bwriad’, siarsiodd. (Cyngor cyfathrebu anhepgor i bleidiau gwleidyddol ein cyfnod ni hefyd dybiaf i!).
Mewn llythyr arall at y trefnydd, oedd yn siŵr o apelio at awydd H.R. i weld newid enwau trefi a phentrefi i fersiynau Cymraeg, yn enwedig o gofio rhan HR yn newid enw ei bentref genedigol o Ebeneser i Ddeiniolen. Hyderai Mallt y byddai’r Blaid Genedlaethol yn annog Cyngor Caergybi i ddilyn esiampl Cyngor Kingstown yn Iwerddon a newidiodd enw’r porthladd i Dun Laoghaire.
Trwy’r Gyngres Geltaidd, hwylusodd Mallt Williams gysylltiadau gyda’r mudiad cenedlaethol yn Iwerddon. Yn ogystal, fe anogodd H.R., a oedd wedi tynnu ysbrydoliaeth fawr o frwydr y Gwyddelod, i ymweld â’r Ynys Werdd, gan gynnig talu rhan o’i gostau teithio yno. Er hynny, roedd yn ystyried y Cytundeb Eingl-Wyddelig, a olygai rannu’r ynys yn Ogledd a De a chadw llw o deyrngarwch i’r brenin, yn frad i’r achos gweriniaethol:
Dyliech chwi fyned i’r Iwerddon, yn 1926, i astudio yr syniad Gweriniaethol yno. Byddaf yn foddlawn i rhoi anrheg o pum punt, tuag at eich treuliau yno, ac i chwi llythyr o gyflwyniad. Ni gallaf fi ysgrifennu amgylch yr Brâd diweddaf. Mae yn rhy arswyd. Druan Iwerddon!
Nawdd hanfodol Mallt
Mae golwg sydyn ar enwau cyfranwyr ariannol y Blaid yn ei blwyddyn gyntaf yn dangos hynny. Mallt Williams yw’r cyfrannwr mwyaf hael o ddigon, gan roi £50, sydd heddiw’n gyfystyr â £4,000. Mewn cymhariaeth cyfrannodd Lewis Valentine £1 – er bod hynny’n gyfraniad hael i rywun ar gyflog gweinidog yn y 1920au!

Yn ail ar y rhestr o ran haelioni, y mae’r Arglwydd Ashbourne, un o gefnogwyr cymdeithas yr iaith Wyddelig, Conradh na Gailege, a noddwr un o brif dlysau Iwerddon mewn camogie, sef fersiwn o’r gamp Wyddelig hurling ar gyfer merched. Yn rhinwedd y gwahanol gysylltiadau, felly, trefnwyd taith i H.R. Jones a nifer o genedlaetholwyr Cymreig eraill i ymweld â’r wlad ac i gyfarfod ag amryw o ffigurau blaenllaw y mudiad gweriniaethol yno.
Nid oes amheuaeth, serch hynny, na fyddai’r Ddraig Goch wedi gweld golau ddydd, ac na fyddai’r Blaid Genedlaethol wedi goroesi’r blynyddoedd cynnar heb gefnogaeth ariannol. Y noddwr mwyaf allweddol yn hyn eto oedd Mallt Williams, Llandudoch. Cyfrannodd £40 at goffrau cynhyrchu’r papur newydd, swm sylweddol yn y cyfnod sy’n cyfateb i £3,000 heddiw.

Rhoddodd hwb i gyllid y Blaid drwy gyfrannu cannoedd o bunnoedd dros nifer o flynyddoedd, a hyrwyddodd gylchrediad Y Ddraig Goch trwy brynu rhwng 20 a 400 copi y mis i’w dosbarthu ei hun. Nid gormodedd fyddai dweud, oni bai am ei chymorth ariannol hi, na fyddai Plaid Genedlaethol Cymru wedi parhau. Credai Saunders Lewis fod ei rhoddion wedi achub y mudiad.
Cyngor ymgyrchu Mallt
Gwrthododd wahoddiad, serch hynny, i gadeirio sesiwn yn ysgol haf gyntaf y Blaid yn 1926, oherwydd ei bod yn teimlo nad oedd ei Chymraeg chwithig yn ddigon da.

Ac er iddi gael gwahoddiad ar sawl achlysur wedi hynny i siarad mewn Ysgol Haf gwrthod a wnaeth. Er gwaethaf ei chefnogaeth ddi-ffael i’r blaid genedlaethol, roedd byw yn unigedd Pantsaeson yn cyd-fynd ag awydd cynyddol Mallt i gilio o’r llwyfan cyhoeddus. Tystiolaeth o hynny yw iddi gyhoeddi ei herthyglau a’i llythyrau yn Y Ddraig Goch a’r Welsh Nationalist yn aml o dan ffugenwau fel Tangwystl, Merch Brychan neu Gwyliwr.
Ond er ei swildod cynigiai lifeiriant o gyngor i’r mudiad mewn gohebiaeth reolaidd.
Rhaid oedd ennill y dosbarth gweithiol, yn ei barn hi – ‘Dim obaith i’r dyfodol, os ni gallwch chwi (P.G.C.) newid meddyliau y Werin.’ Roedd am i’r Blaid flaenoriaethu ennill tir yn Sir Forgannwg:
Rhaid ni ennill y sir hwn (yr mawraf, ac yr mwy boblog yng Nghymru) … I ymdrechu yno, rhaid yr Plaid arfer yr iaith yr estron (gwae i fi! ac gyda llawer o Gymraeg, hefyd) fel mae’r Cynghrair Gaelig, gwneud yn rhannau Seisnigaidd yn Iwerddon. Ennillwch hwy i’r cenedlaetholdeb cyntaf, ac ynte fydd mwy hawdd i ennill hwynt i’r iaith Cymreig.
Roedd Mallt hefyd yn awyddus i’r Blaid ehangu ei hapêl trwy sefydlu cylchgrawn Saesneg i ‘ddeffro’r Eingl-Gymry’.
Mae ei llythyrau – byr, mewn llawysgrifen ddramatig – yn datgelu cymeriad lliwgar, oedd yn arddel cenedlaetholdeb gwrth-imperialaidd. Cydymdeimlai gyda’r mudiad cenedlaethol oedd yn dechrau magu nerth yn India dan arweiniad Mohandas Gandhi, ac roedd yn ymwelydd cyson ag Iwerddon, ac wedi meithrin cysylltiadau agos yn y mudiad iaith ac ymysg y gweriniaethwyr yno. Yn sgil hynny, pwysai ar arweinyddiaeth Plaid Genedlaethol Cymru i gysylltu gyda mudiadau yno ac yn yr Alban, yn enwedig felly y ‘Scots National League ac An Phoblacht’. Roedd angen eu goleuo, meddai Mallt, am y frwydr yng Nghymru: ‘Nid yw pobol yn y wledydd arall, yn gwybod run peth amgylch yr Plaid.’
Ymboenai yn ogystal am ran merched yn y frwydr genedlaethol. Ysgrifennodd at H.R. ym mis Tachwedd 1925 yn gresynu am natur anwleidyddol merched Cymru:
Gwelais yr oedd Cyfarfod Merched Mudiad Llafur (Caernarfon) dydd o’r blaen. Sut gall PGC ennill merched Cymru i’r iaith? Mae’n nhw rwan ar eu gliniau i’r Saeson, llawer waeth na dynion Cymru. Yn Iwerddon mae’r merched mwy wleidyddol na’r dynion.
Cefnogaeth i achosion lleol ac Ymweliad Elvet Thomas â Phlas Pantsaeson yn 1940
Er gwaethaf ei rhoddion hael a’i gohebu mynych nid oedd Mallt yn wybyddus i lawer o arweinwyr ac aelodau llawr gwlad y Blaid. Dywed JE Jones
…er imi ohebu a hi gannoedd o weithiau, unwaith y gwelais hi – ar orsaf Caerdydd yn wraig oedrannus ond bywiog mewn dillad hen-hen ffasiwn.
Mwy cofiadwy yw disgrifiad arall ohoni a ymddangosodd yn y Faner, lle dyfynnir WC Elvet Thomas yn mynd gyda criw o fechgyn yr Urdd ar bererindod i Dyddewi ond a benderfynodd alw heibio Pantsaeson o gael cyfarfod â’r Fonesig enwog.
Cyn sôn am yr ymweliad, mae’n werth dweud gair sydyn wrth basio am WC Elvet Thomas hefyd.
Cafodd ei eni yn Abergwaun ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oed dyn blentyn. Yn nes ymlaen bu’n athro Cymraeg ysbrydoledig yn Ysgol Uwchradd Cathays i Fechgyn am ddeugain mlynedd ac fe ysgogodd gariad at y Gymraeg a’i diwylliant ymysg amryw o ddisgyblion Ysgol Cathays, gan gynnwys Bobi Jones, Tedi Millward a Geraint Jarman.[2]
Ceir cyfeiriad at ddigwyddiad creiddiol ym mywyd Elvet Thomas yn un o ganeuon Jarman, sef ‘Strydoedd Cul Pontcanna’, lle mae Jarman yn sôn am:
A’r slap wrth dyfu’n Gymro/sy’n rhwygo’r rhuddin ynddo/cyn troi yn sant,/cyn troi yn sant.
Beth ddigwyddodd oedd bod Elvet Thomas yn fachgen bach wyth oed yn chwarae yn y stryd yn Nhreganna gyda’i frawd. Daeth menyw ddieithr heibio a gofyn iddo: ‘Were you two talking Welsh?’ ‘Yes’, atebodd. ‘Well, take that!’ meddai; a rhoi slap galed iddo ar draws ei foch, a cherdded i ffwrdd. Ond effaith groes i’r bwriad gafodd y slap, oherwydd fel dywed yn ei hunangofiant, “yn wir yr oedd wedi dysgu i mi wers hallt. O’r dydd hwnnw, gwyddwn fod gan y Gymraeg ei gelynion..” Tyfodd Elvet Thomas yn Gymro cadarn a chenhadwr dros y Gymraeg yng Nghaerdydd.
Beth bynnag yn ôl at hanes Mallt Williams, dyma hanes yr ymweliad a Phlas Pantsaeson yng ngeiriau Elvet Thomas ei hun:
Pan oeddwn i a rhai o fechgyn yr Urdd, ar bererindod i Dyddewi yn 1940 arhoswyd noswaith ym mhentref Llandudoch. Trannoeth, ar y ffordd o Landudoch i Abergwaun, penderfynwyd galw ym Mhlas Pant y Saeson i dalu teyrnged i’r Fonesig Mallt.. Wedi cyrraedd y plas a dweud ein neges wrth y forwyn, daeth chwaer-yng-nghyfraith y Fonesig i’r drws a dweud. Wrthym fod posibilrwydd y caem weled y Fonesig.
Gwahoddwyd ni i mewn.
Synnwyd ni’n fawr wrth weled mor rhyfedd ac oer oedd y plas. Ar fwrdd yn agos i ddrws y ffrynt yr oedd hen delyn tebyg i ‘clarsagh’‘ yr Alban, a cherdyn wedi’i glymu wrth y delyn i ddweud mai eiddo rhyw frenin yn Iwerddon oedd y delyn honno. Rhoddwyd ni i eistedd mewn ystafell eang – i aros dyfodiad y Fonesig.
Teimlem ein bod yn disgwyl dyfodiad brenhines.
O’r diwedd dyma hi’n dod gwraig gymharol fechan a thenau, eiddil iawn yr olwg.
Ymddengys i mi ei bod yn ymwybodol iawn o’i hymddangosiad.
Yr oedd yn swil y tu hwnt. Rhuthrodd tuag atom i’n cyfarch a’r geiriau ‘Henffych well, croesaw i’r unig blas Cymraeg yn sir Benfro.’
Yr oedd ei gwisg yn od iawn. Gwisgai ryw ffrog wen hir llaes hyd ei thraed ymylwyd y wisg a gwyrdd a choch (lliwiau Cymru). Am ei phen gwisgai het ffelt goch wedi’i chlymu a rhuban gwyrddo dan ei gen a phluen werdd yn yr het… Un o ‘waed yr uchelwyr’ oedd hi. Cymru a’r gwledydd Celtaidd oedd ei phrif ddiddordeb. Teimlai mai ei braint a’i dyletswydd fel un o uchel dras oedd dyrchafu Cymru.”
Bratiog iawn oedd ei Chymraeg. ond ni fynnai ar un- rhyw gyfrif siarad Saesneg. Anodd weithiau oedd deall ei Chymraeg, ond glynu at y Gymraeg a wnai, a gofalai fod pawb o’i hamgylch yn siarad yr iaith. Carai Gymru a’r Gymraeg yn angerddol. Yr oedd yn hael iawn ei hysbryd, ond disgwyliai’r parch y dylid ei . roddi i arglwyddes. Ei geiriau olaf wrthym pan oeddem yn ymadael oedd ‘Yn iach y boch’.
Y forwyn yn yr hanesyn yma mae’n debyg oedd Louvain Ladd – mam-gu
Hedd Ladd Lewis, hanesydd lleol bro Eisteddfod y Garreg Las. Roedd
Louvain yn cael ei chyflogi gan Mallt yn Pantsaeson ac yn meddwl y byd o’r
fonesig.[3]
Dywedir bod ganddi gynghorion cyson i’w morwyn. Mae un cyngor nodedig i’w gweld mewn nodyn a gafodd Louvain gan Mallt ar achlysur ei phriodas gyda Siarl Ladd, lle dymuna Mallt ‘iechyd a hir oes a daioni’ i’r pâr priod yn eu bywyd newydd, ac iddynt “ofn Duw ac i garu Cymru a’r Gymraeg”. Mae’n gorffen gyda chyngor iechyd a maeth gan ddweud y dylai Siarl gofio nad oes un gwraig ifanc yn Llandudoch a all bobi llysiau gystal â Louvain, “yn eu sudd hunain, gyda’u fitaminau gadwyd ac nid taflwyd ymaith”.
Dywedir hefyd adeg yr Ail Ryfel Byd nad oedd gan Mallt, gan ei bod yn lysieuwraig, ddefnydd i’r cwpons cig a dderbyniai wedi mynd ati i ddosbarthu ei chwpons hi ymysg rhai o deuluoedd mwyaf anghenus yr ardal, yn enwedig rhoi oedd a pherthnasau yn ymladd yn y rhyfel.
Hael ei chefnogaeth i ddigwyddiadau lleol noddwr i eisteddfodau lleol ac yn gyflogwr hael ac ystyriol.
Ymestynnai ei chymorth i’r Blaid a’i haelodau i’r personol hefyd. Rhoddodd gyngor iechyd i HR Jones, yn wyneb ei wendid corfforol, gan argymell y dylai HR yfed sudd lemwn mewn dŵr poeth neu oer bob nos. Roedd yna rym rhyfeddol mewn lemwn oed yn gwneud corff gwan yn iach, haerodd. Ond pan nad oedd hyn yn tycio dim i wella iechyd HR, talodd am fordaith iddo i ardal Môr y Canoldir yn 1927 mewn cam hael arall i geisio gwella ei iechyd.
Tŵr yr Eryr, yr Ysgol Fomio ac Amddiffyn y Preselau
Ar hyd y blynyddoedd, hyd at ei marwolaeth yn 1950, parhaodd Mallt i gefnogi’r Blaid yn ariannol ac mewn gohebiaeth breifat a chyhoeddus.
Cyfraniad mwy anarferol i’r blaid oedd ei rhodd yng ngwanwyn 1932.
Achos y rhodd oedd gweithred anghyfansoddiadol gyntaf y Blaid Genedlaethol. Y cefndir yw bod y Ministry of Works y Llywodraeth Brydeinig wedi gwrthod caniatâd i hedfan baner y Ddraig Goch yn gyfochrog â Jac yr Undeb ar Ddydd Gŵyl Dewi. Penderfynwyd trefnu gweithred brotest symbolaidd gan aelodau’r Blaid i dynnu sylw at yr anghyfiawnder. Trefnwyd bod pedwar o aelodau’r Blaid – JE Jones, WRP George, EV Stanley Jones a Wil Roberts – yn dringo grisiau Tŵr yr Eryr yng Nghastell Caernarfon a thynnu baner Jac yr Undeb i lawr a chodi’r Ddraig Goch yn ei lle, gan stafflu’r rhaffau wrth y polyn.
Rhodd gan Mallt Williams mae’n debyg oedd Y Ddraig Goch anferth a ddisodlodd yr Union Jack yng Nghastell Caernarfon.
Yn wir, hi oedd yn gyfrifol am fathu’r term ‘Ysgol Fomio’ i ddisgrifio gwersyll arfaethedig yr Awyrlu ym Mhenyberth – achos ymgyrch fwyaf nodedig y Blaid Genedlaethol yn 1936, pryd llosgwyd y cytiau ar y safle a charcharu Lewis Valentine, Saunders Lewis a DJ Williams am naw mis.
Yn ôl JE Jones, Ysgrifennydd y Blaid yn y cyfnod:
un diwrnod derbyniais gerdyn post oddi wrth y Fonesig Mallt Williams yn mynegi ei chefnogaeth ‘i’ch ymgyrch yn erbyn sefydlu Ysgol Bombio yn Llŷn’.
A dyna, medd JE oedd sut y mabwysiadwyd y term i ddisgrifio cynllun y Swyddfa Rhyfel ym Mhenyberth.
Nid dyna unig gyfraniad Mallt i wrthwynebu sefydlu gwersylloedd rhyfel ar dir Cymru ac mewn cymunedau Cymraeg.
Mi fydd llawer ohonoch yn gyfarwydd a hanes Brwydr y Preselau ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Bryd hynny yn 1947, 200 roedd teuluoedd yng nghymunedau Cymraeg gogledd Sir Benfro mewn perygl o gael eu troi allan o’u cartrefi ym mynyddoedd y Preseli i wneud lle ar gyfer maes hyfforddi milwrol ar ôl yr Ail Ryfel Byd o dan lywodraeth Lafur Atlee. Llwyddodd ymgyrchwyr gogledd Penfro i ennill y frwydr a gwarchod ac y gymuned Gymraeg yno dan arweiniad gweinidogion radical ac unplyg fel Joseph James a Parri Roberts.
Ond ffaith nad yw mor wybyddus efallai yw bod y Swyddfa Rhyfel wedi bod yn llygadu’r Preselau fel maes ymarfer tanciau ers degawd. Oherwydd cyhoeddodd Mallt Williams apêl agored yn Y Ddraig Goch yn 1938 yn gofyn am gefnogaeth i atal y bwriad i droi’r mynyddoedd yn storfa danciau. Mae ei hapêl yn werth ei dyfynnu yn llawn:
Enbydrwydd Preseleu
Saif Preseleu i ddychymyg dyn dros bopeth a fo fwyaf dymunol yng Ngorllewin Cymru – bro unig, sanctaidd i grefyddwyr o ddyddiau Oes y Cerrig i Oes Crist. O greigiau Preseleu y naddwyd meini gleision cylch mewnol Côr y Cewri.
Brithir gweundir Preseleu gan adfeilion gwareiddiadau a fu. Yma yr ymddyrchaif Carn Ingli, lle cafodd Sant Brynach gell, ac yma y mae mynwent Nanhwyfar, lle cafodd Fedd. Wrth farchogaeth dros y mynyddoedd hyn y cyfansoddodd Pantycelyn yr emyn enwog,“ Dros y bryniau tywyll niwlog.”
Ond i ni heddiw, pennaf werth y fro hon yw mai hi yw ffynnon y Gymraeg ym Mhenfro.
Y mae Arglwydd Merthyr a Chyngor Sir Benfro yn amddiffyn De Penfro yn erbyn bwriad y Swyddfa Ryfel i feddiannu 6,000 o erwau i sefydlu Depot Tanciau a difetha holl greiriau’r gorffennol yno.
OND PWY A AMDDIFFYN BRESELEU, FFYNNON Y GYMRAEG, A CHARTREF POB CEINDER GWYLLT?

Marwolaeth yn Hydref 1950
Bu farw Fredrick ei brawd annwyl yn 1945, a chwta 5 mlynedd wedi hynny bu farw Mallt ei hun yn Hydref 1950, yn 83 oed. Amlosgwyd ei chorff ym Mhontypridd, a gwasgarwyd ei llwch ym mynwent Llansanffraid, sir Frycheiniog.
Yn ei deyrnged ar ôl ei marwolaeth roedd llywydd Plaid Cymru ar y pryd, Gwynfor Evans, yn werthfawrogol dros ben o’i chyfraniad:
Ni ellir meddwl amdani heb gofio, a chofio gyda diolchgarwch dwfn, am ei chefnogaeth hael a chyson i’r mudiad trwy’r blynyddoedd.
Credai Saunders Lewis hefyd na fyddai’r mudiad wedi goroesi’r blynyddoedd cynnar heb ei rhoddion. Nid gormodedd fyddai dweud, i ategu barn Saunders, ei bod hi wedi achub y Blaid.
Yn ôl yn 1936, ysgrifennodd J.E. Jones ati i fynegi diolch am haelioni ei chyfraniad i Gronfa Gŵyl Dewi’r Blaid, ac mae ei eiriau’n crynhoi maint dyled Plaid Cymru i Fonesig Llandudoch:
Rydym fel Plaid yn ddyledus i chi yn fwy nag y gall geiriau ei fynegi; a Chymru yr un modd. Ni allaf ond gobeithio bod ein llafur yma yn y Blaid yn deilwng o gefnogaeth mor hael â’ch un chi, ac y bydd Cymru yn fuan yn genedl rydd, cenedl gyda hunan-barch, cenedl hapus a llwyddiannus. Pan ddaw’r dydd hwnnw, bydd eich cymorth yn nyddiau cynnar y Blaid Genedlaethol wedi gwneud hynny’n bosibl.
Oedd mi oedd Mallt, yng ngeiriau Marion Löffler yn genedlaetholwr rhamantaidd, ond roedd hefyd trwy ei chynghorion gwleidyddol a’i rhoddion ariannol hanfodol yn genedlaetholwr ymarferol a drodd ei daliadau yn weithredoedd. Ac wrth i Blaid Cymru gymryd awenau grym am y tro cyntaf yng Nghymru mae’n briodol iawn i ni gofio, yn eisteddfod ei bro mabwysiedig, am gyfraniad anhepgor Mallt Williams, Bonesig Llandudoch i achos Cymru a’r Gymraeg.
[1] Gweler erthygl anhepgor Marion Löffler, ‘A Romantic Nationalist: The Life of Mallt Williams’, Planet, 121
(Chwefror/Mawrth 1997), 58–66
[2] W. C. Elvet Thomas, Tyfu’n Gymro (Gwasg Gomer, 1972). Mae hanes ‘Canlyniad y Slap’ ynghyd â chyfraniad WC Elvet Thomas hefyd i’w gweld yn erthygl ragorol E Wyn James yn Y Dinesydd, Mehefin 2020, sydd ar gael yn https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/132371/1/%27Canlyniad%20y%20Slap%27%2C%20Colofn%20%27Llys%20a%20Llan%27%2C%20Y%20Dinesydd%2C%20Mehefin%202020.pdf
[3] Rwy’n ddyledus iawn i Hedd Ladd Lewis am rannu manylion ei gysylltiadau teuluol â Phlas Pantsaeson, ynghyd a’i wybodaeth eang am fywyd a syniadau Mallt yn lleol a thu hwnt, a’r llun o Blas Bantsaeson sy’n rhan o’r cyflwyniad hwn.

Ben Lake A.S. Yn diolch i Arwel Vittle am ei ddarlith hanesyddol bwysig.



Brawd i Wyn, cyn ŵr i Maureen, tad i mi (Dewi), Gareth, Rhian a Rhodri, a thadcu i saith o wyrion, ac yn bartner i’w annwyl Pam, a gollodd i salwch mor erchyll.
Ond wrth gwrs, y pethau bach sy’n aros… Creu cymeriad ffug o’r enw “Colin” y pumed plentyn oedd yn gyfrifol am bob drwg pan nad oedd neb arall yn cyfaddef ! Straeon Byni Wyni a Reji (a Professor Screwtop), byd bach llawn dychymyg. A phwy all anghofio’r fideo baw ci Tara oherwydd bod maggots ynddo… neu’r kennel perffaith na ddefnyddiodd y ci erioed. Yn Rhyd y Nant, Pontyclun, roedd hyd yn oed y plant lleol yn dod draw i wrando arno’n rhegi wrth wneud DIY perfformiad ynddo’i hun “Shit house poets will never die”.
Roedd yn wleidydd naturiol ac yn gwbl ymroddedig. Ef oedd yr aelod cyntaf o Blaid Cymru i fod yn Arglwydd Faer Caerdydd, ac fe wasanaethodd am flynyddoedd lawer fel cynghorydd cymunedol a sirol, gan ymladd yn ddi-flino dros achosion Cymreig a chymunedol. Roedd yr un mor gartrefol yn canfasio fflatiau cyngor ym Meddau, gan alw ei hun yn Del mab y glowr, ag yr oedd yn curo drysau tai mwy moethus Groesfaen fel Professor Bowen. Nid digwyddiad cyn etholiad yn unig oedd ymgyrchu iddo, ond rhan barhaol o’i fywyd. Byddai cylchlythyrau lleol iawn fel Clunsheets, Creigiau Chronicle a’r Ferry’nough yn cael eu cynhyrchu yn rheolaidd gan ddefnyddio hen beiriant Gestetner yn y garej, gan roi gwybod am bob agwedd ar fywyd lleol o safbwynt cenedlaetholgar Cymreig.
Mae rhan Mai Roberts yn hanes sefydlu’r Blaid yn un o’r hanesion mwyaf diddorol ac allweddol. Ac mae ei stori yn un na chafodd sylw haeddiannol. Oherwydd Mai Roberts oedd y cyswllt hanfodol a arweiniodd at uno mudiadau y de a’r gogledd i ffurfio Plaid Cymru fel rydyn ni’n ni ei hadnabod heddiw. Ond roedd llawer mwy iddi na hynny hefyd fel y cawn weld.




Mae hon yn dasg nad ydw i – nac eraill yn y gwasanaeth hwn heddiw – yn ei dymuno na’i mwynhau. Cafodd ei gwthio arnom gan ddigwyddiadau diweddar. Gellir dweud am bawb sy’n bresennol y prynhawn yma y byddai yn well gennym beidio â bod yn angladd ein ffrind, Philip Richards; ac mai gwell gennym fyddai petai Phil yn wych, yn ddisglair ac yn hwyliog yn ein plith o hyd. Ond yr ydym lle’r ydym – wedi ymgynnull i’w gofio; i rannu ein gwybodaeth amdano – ac, yn anad dim, i ddathlu ei fywyd yn ein mysg.