Y Parchedig Fred Jones (1877-1948) fu un o’r chwech a sefydlodd Blaid Cymru mewn cyfarfod ym Mhwllheli yn y flwyddyn 1925 ac un o’r Cilie, teulu enwog o feirdd Ceredigion. Bu’n weinidog yn Rhymni, Treorci ac yn Nhal-y-bont Ceredigion, ac yn genedlaetholwr pybyr.
Bydd Dafydd Iwan yn siarad am hanes ei dad-cu mewn cyfarfod arbennig o Gymdeithas Hanes Plaid Cymru yn y Gynhadledd Flynyddol yn Abertawe am 4.40pm yn y Grand Circle Bar ar Ddydd Gwener 4 Hydref 2019
Bydd yn siarad yn y Gymraeg gyda cyfieithu i’r Saesneg ar y pryd.