Dyma radio Cymruân galw……o Lundain. Radio answyddogol Cangen Llundain o Blaid Cymruân darlledu o Earlâs Court yn 1962. Cymerwyd y darlun unigryw hwn mewn atig rhywle yn Earlâs court ar 11eg o Hydref 1962. does dim angen dweud mai cefnogwyr answyddogol oedd y darlledwyr.
Daeth yr orsaf answyddogol ar yr awyr yn fuan wedi iâr Anthem Genedlaethol doddi iâr cefndir ar deleduâr B.B.C. Newyddion a sylwebaeth barodd 15 munud oedd prif bynciauâr darllediad.
Anelwyd ef ar y cyfan at etholwyr syfrdan Hampstead, etholaeth Mr henry Brooke (Roedd Mr Brooke yng nghynhadledd y Blaid Doriaidd yn Llandudno ar y pryd ac yn gwneud ei orau i ganuâr Anthem Genedlaethol)
Meddai Radio Cymru â Mae ein gwrandawyr yn Hampstead heno yn gwybod gystal ac y gwyddom ni yng Nghymru sut ddyn ansensitif yw Henry Brooke.â
Cynddeiriogwyd pobl Cymru pan foddwyd Tryweryn, aeth ymlaen.
âAnghofiwn ni ddim ohonot ti Brooke a heno erfynwn ar etholwyr Hampstead i ddewis gwr bonheddig o feddylfryd ddemocrataidd, sensitif a thegâ âPryd a ble bydd Radio Cymruân taro nesaf?â
Archif Cangen Llundain