Rhobert ap Steffan 1947 – 2011

Rhobert ap Steffan

Robert ap SteffanYn oriau man dydd Mawrth yr 11eg o Ionawr collodd Cymru un o’i meibion mwyaf gwladgarol sef Rhobert ap Steffan.

Ganwyd Rhob ap Steffan yn Hove Sussex i rieni Cymreig sef y diweddar Barch Stanley a Mrs Muriel Hinton.  Cafodd ei fagu a’i addysgu yn Nhreorci Cwm Rhondda canolfan y pyllau glo a chanolfan ein brwydr oesol dros hunaniaeth gwleidyddol a diwyllianol.

Roedd yn berson afieithus, serchus a hawddgar, un a fwynheai gymdeithasu a thynnu coes ei ffrindiau a’i gydnabod niferus.  Ei bersonoliaeth gynnes a’i denodd yn naturiol at Glyn James aelod glew o Blaid Cymru ers y dyddiau cynnar.  Daeth Rhobert ac yntau yn gyfeillion oes ac ef a groesawodd Rhobert i’r Blaid.

Ymunodd a’r Blaid  yn y 60au cynnar ac oherwydd ei ysbryd gwrthryfelgar a’i ddadleuon diymwad ynglyn a iawnderau cenhedloedd i hunan benderfyniaeth, cafodd yr enw Castro ac felly y cyfeiriwyd ato’n hoffus drwy gydol ei oes.

Sbardunwyd ei agwedd wrthryfelgar tuag at wleidyddiaeth yn 1965 gan ddau ddigwyddiad allweddol – boddi pentref Capel Celyn a symyd ei thrigolion er mwyn cyflenwi diwydiant Lerpwl â dŵr Cwm Tryweryn.  Digwyddodd hyn er bod ffyrdd amgen hollol ymarferol yn bodoli i osgoi hyn ac er yr ymgyrchu brwd yn erbyn y penderfyniad a gwrthwynebiad unfrydol seneddwyr Cymreig.  Y digwyddiad arall oedd tirlithriad tomen lo ar ysgol Pantglas Aberfan yn 1966 gan ladd 116 o blant a 12 oedolyn, digwyddiad gredai Rhobert achoswyd drwy esgeulustod troseddol y Bwrdd Glo Cenedlaethol.

Yn 1966 ymwelodd â Dulyn i goffau 50 mlynedd Gwrthryfel y Pasg.  Yn 1969 cymerodd ran weithredol yn yr Ymgyrch Gwrth-arwisgo gan weld holl rwysg y pasiant yn ddathliad gweniaethol o dra- arglwyddiaeth un genedl ar genedl arall.  Roedd yn ffrind i Julian Cayo Evans ac arweinwyr eraill o Fyddin Rydd Cymru er na fu erioed yn agored gyfranog i’w gweithredoedd cudd.  Gwell oedd ganddo roi o’i sgiliau i drefnu protestiadau a  ralïau.

Blinodd ar hyn oll a’r pwysau a roddwyd arno oherwydd ei ddaliadau radical, a phenderfynodd adael y cyfan a chyflawni’r hyn fu’n uchelgais ganddo gydol ei oes sef dilyn taith y Mimosa  i’r Wladfa.  Wedi blwyddyn llawn anturiaethau ymysg y bobl leol groesawgar (un o’r anturiaethau hyn oedd cael ei gadw gan yr heddlu tra’n ffawd heglu drwy’r wlad ar amheuaeth o fod yn guerilla comiwnyddol!) dychwelodd i Gymru a’i Gymraeg yn llifeirio er iddo adael yn siaradwr uniaith Saesneg!

Ei gam nesaf oedd cymhwyso ei hun i fod yn athro ysgol.  Cafodd waith fel pennaeth Adran Gelf  yn Ysgol Gyfun Llanymddyfri a chael cryn lwyddiant.

Yng nghanol y 70au cyfarfu ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghricieth â’i wraig Marilyn a fu’n gefn iddo gydol ei oes.  Ganwyd iddynt dri o blant, Iestyn, Rhys a Sioned.

Yn ystod ei yrfa, ac wedi hynny gweithiodd yn ddiflino yn cefnogi ymgeiswyr Plaid Cymru yn lleol ac yn genedlaethol.  Safodd ei hun sawl gwaith fel ymgeisydd ar y cyngor.  Ar wahanol gyfnodau o’i fywyd bu’n gefnogol i sawl mudiad teilwng arall, yn eu mysg Y Gweriniaethwyr, Cofiwn, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Rhobert, gyda’r gymuned yn gefn iddo, fu’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r prosiect o gomisiynnu Toby a Gideon Petersen i greu cofeb mewn dur i Lywelyn ap Gruffudd Fychan sydd heddiw i’w weld ger olion Castell Llanymddyfri.  Llywelyn arweiniodd luoedd Harri’r iv ar gyfeiliorn pan oeddent a’u bryd ar ddal Owain Glyndwr.  Ei gosb oedd cael ei ddienyddio ar sgwar y dref ym modd erchyll y cyfnod o grogi, diberfeddu a chwarteru.

Yn dilyn yr un trywydd bu Rhobert yn aelod o Gymdeithas Owain Lawgoch.  Nôd y Gymdeithas oedd codi cofeb barhaol i Owain oedd yn or nai i Lywelyn ein Llyw Olaf ac a gai ei gydnabod gan Frenin Ffrainc fel Tywysog Cymru.  Wedi oes o ymladd i Frenin Ffrainc bradlofruddiwyd Owain gan Jon Lamb ar orchymyn  Rhaglyw Lloegr yn Montagne sur Gironde yn 1378.  Ceisiodd Owain hwylio i Gymru deirgawaith ond rhwystrwyd ei ymdrechion gan stormydd.  Bu’r ymgyrch i godi cofeb yn llwyddiant ac fe’i dadorchuddiwyd ger eglwys Saint-Leger ym Mortagne gan Rosemary Butler A.C.  Cadeirydd Cyngor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol yn 2003.

Heb os bu cyfraniad Rhobert i achos Cymreigtod o fewn Plaid Cymru a thu allan yn amrywiol, a bron yn amhosibl eu rhestru.  Bu’n ganfaswr gwerthfawr i Adam Price A.S. ac i Rhodri Glyn A.C. a chyfranodd lawer i wleidyddiaeth ward Llangadog ,ble safodd ddwywaith fel ymgeisydd.  Rhobert oedd un o brif drefnwyr yr ymgyrch i annog pobl i anwybyddu ffurflenni censws 2001 gan nad oeddent yn cynnwys unrhyw flwch ar gyfer cenedlaetholdeb Gymreig.  Teithiodd Rhobert a’i wladgarwyr pybyr hyd a lled Cymru yn annog pobl i roi eu ffurflenni mewn arch i’w claddu “unrhywle” ar ôl eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol.  Cafodd nifer o ffurflenni eu gwthio i’r arch ond ni erlidiwyd neb, ac yn censws 2011 ymddangosodd y blwch “Cenedlaetholdeb Cymreig” canlyniad yr ymgyrchu-efallai.

Wedi ymddeol cymerodd Rhobert ran bwysig yn sefydlu y cylchgrawn Cambria ac fe’i apwyntiwyd yn olygydd rhydd a chyda Henry Jones Davies, oedd ar y pryd yn olygydd a sylfaenydd y cylchgrawn y daeth y syniad o sefydlu gorymdaith Gwyl Ddewi yng Nghaerdydd.  Mae’r orymdaith erbyn hyn wedi tyfu gyda chynrychiolwyr o wledydd Celtaidd eraill yn cymeryd rhan.  Mae’n cystadlu’n ffafriol a Gorymdaith Padrig Sant yn Nulyn.

Gydol ei fywyd gwleidyddol bu gan Rhobert ddiddordeb mawr ym materion y gwledydd Celtaidd.   Ymwelodd yn aml â Llydaw, Cernyw ac Ynysoedd yr Alban, ble siaredid y Gaeleg, a chadwodd gysylltiadau diwylliannol a hwy.  Roedd a’i fryd ar ddychwelyd i’r Wladfa, ac yn 2008 gwireddwyd ei freuddwyd.  Trefnodd Mencap Cymru daith gerdded noddedig drwy Dde’r Andes i godi arian i’r elusen.  Roedd rhaid i bawb a gymerai ran godi fan leiaf £3,500 ond cododd Rhobert bron i £10,000.  Wedi’r daith arhosodd Rhobert yno a chyflwynodd Wyddioniadur Cymru oedd newydd ei gyhoeddi i lyfrgelloedd ac ysgolion fel rhodd i ddangos ei  ddiolchgarwch i bobl y Wladfa am ddysgu Cymraeg iddo.  Fel hyn y’i dyfynwyd ym mhapur lleol Caerfyrddin.

“Byddaf yno fel llys gennad answyddogol a byddaf yn ymdrechu i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y Wladfa a’r Hen Wlad.  Treuliais flwyddyn yn Y Wladfa.  Gweithiais  ar Estancia fawr (ranch) ger Trefelin wrth droed yr Andes yng Nghwm Hyfryd ac o fewn ychydig fisoedd  r’on i’n siarad Cymraeg  – doedd dim dewis gen i, doedd neb yn siarad Saesneg!”

Hyd 2010, ni chollodd Rhobert unwaith, mewn 40 mlynedd y cofio blynyddol ar Ragfyr 11ed yng Nghilmeri am farwolaeth ein tywysog olaf  Llewelyn ap Gruffudd laddwyd gan luoedd Saesnig.

Roedd yn amlwg bod rhywbeth mawr o’i le pan  na throdd i fyny yn 2010. Fe, o bawb  oedd wedi gwneud cymaint i drefnu’r rali dros y blynyddoedd. Yr hyn na wyddai’r rhai  oedd wedi ymgynull ar y diwrnod arbennig hwn oedd bod Rhob wedi cael gwybod ei fod yn dioddef o fath ffyrnig o ganser ac mai mis yn unig oedd ganddo i fyw.

Cadw le i ni wrth y bar yn Nhir na Nôg Castro…. Mae colled fawr ar dy  ôl.

John Page a Gareth ap Siôn

Cofeb Rhobert ap Steffan
“Rhobert, gyda’r gymuned yn gefn iddo, fu’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r prosiect o gomisiynnu Toby a Gideon Petersen i greu cofeb mewn dur i Llywelyn ap Gruffudd Fychan sydd heddiw i’w weld ger olion Castell Llanymddyfri.  “

John Page a Robert ap Steffan

gareth ap Sion a Robert ap Steffan