Saunders Lewis, y Blaid ac Ewrop

Mae’n bryd sylweddoli gwir arwyddocâd un o brif arweinwyr Plaid Cymru, Saunders Lewis, medd un arall o gyn-lywyddion y Blaid, Dafydd Wigley.

Dafydd Wigley

Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n falch i gyhoeddi yn ei chyfanrwydd ddarlith sylweddol gan Dafydd Wigley ar ‘Saunders Lewis, y Blaid ac Ewrop’.  Traddodwyd y ddarlith ym Mhenarth yn dilyn dadorchuddio plac glas i gofio bywyd Saunders Lewis ar y tŷ yn Westbourne Road ble treuliodd traean o’i fywyd.

Mae Dafydd Wigley yn trafod gweledigaeth Saunders Lewis o briod le Cymru yn Ewrop; ac yn bwrw goleuni ar ei athroniaeth gymdeithasol – yn arbennig ei alwad i ddosrannu meddiant adnoddau naturiol yn nwylo’r bobl ‘fel na all na’r wladwriaeth nac unigolyn neu gasgliad o unigolion, ormesu’n economaidd ar deuluoedd gwerin’.  Sut aflwydd felly, mae’n gofyn, all neb honni bod Saunders Lewis yn perthyn i’r adain dde eithafol?

Seilir y cynnwys ar ddarlith gynharach a draddodwyd i Ganolfan Hanes Uwch Gwyrfai, ac rydyn ni’n ddiolchgar i aelodau’r Ganolfan am eu parodrwydd i ni gyhoeddi’r fersiwn estynedig hwn.  Bwriedir cyhoeddi fersiwn Saesneg nes ymlaen.

 

 

Saunders Lewis, y Blaid ac Ewrop

 

Cadeirydd a Chyfeillion –

Dwi’n falch iawn, o gael dilyn y seremoni pnawn’ma  o osod plac ar gartref Saunders Lewis  yn Stryd Westbourne, Penarth, drwy gael  traddodi’r ddarlith hon heno. Beth bynnag ein gwleidyddiaeth, tybiaf y gallwn gytuno fod Saunders Lewis  yn un o gewri cenedlaethol Cymru yn yr ugeinfed ganrif; ac mae’n dda o beth ein bod yn cydnabod a chofio ein harweinyddion ym mhob oes.

Saunders Lewis, Plaid Cymru ac Ewrop – testun amserol, wrth i ni symud tuag at refferendwm arall ar ein haelodaeth o Undeb Ewrop

Mae’r testun yn amserol, wrth i ni symud tuag at refferendwm arall ar ein haelodaeth o Undeb Ewrop: sef  Saunders Lewis, y Blaid ac Ewrop. Rwyf yn falch o’r cyfle – a’r anrhydedd – oherwydd mae pob un o’r elfennau hyn yn gwbl greiddiol i’m gwleidyddiaeth; ac yn arbennig dylanwad Saunders Lewis.

Saunders Lewis 1WW

Ysywaeth, dros y degawdau diweddar, bu tuedd i fychanu a difrïo ei weledigaeth wleidyddol, a’i ddaliadau; yn rhannol gan elynion gwleidyddol Plaid Cymru;  yn rhannol gan rai sy’n beirniadu Saunders o sicrwydd parlwr cefn yr oes hon, ar sail ei safbwynt a’i werthoedd oedd yn berthnasol i amgylchiadau’r oes o’r blaen – oes oedd â gwerthoedd tra gwahanol i’r oes hon.  Os ca’i addasu geiriau bardd Seisnig:

Mae’r drwg a wneir gan ddyn yn ei oroesi   

           A’r da yn cael ei gladdu gyda’r corff.       

Ond mae ‘na rhai eraill sydd wedi camu i’r bwlch i geisio a chael dealltwriaeth  fwy gwastad, er enghraifft y cyhoeddiadau gan  yr Athro Richard Wyn Jones a’r Dr Emyr Williams; a heno fe  ychwanegaf rhai o’m sylwadau fy hun i geisio chwalu peth o’r cam-farnu a fu ar Saunders Lewis a’i ddaliadau.

******

Dim ond yn raddol y  deuthum i wybod am Saunders Lewis – gan fy mod o genhedlaeth oedd yn rhy ifanc i’w gofio fel arweinydd plaid. Erbyn i mi  ymhél a gwleidyddiaeth, roedd Saunders wedi  hir encilio o’r llwyfan i’w gornel ym Mhenarth, gan godi ambell sgwarnog o bryd i’w gilydd gyda’i ddramâu , a fyddai’n ypsetio gwleidyddion Cymru. Ac fe gododd glamp o ddraig pedigri gorau erioed  gyda’i ddarlith radio – a’ r ddarlith honno  ddaeth â mi i glywed ei lais am y tro cyntaf.

Enw yn unig oedd Saunders Lewis i mi, cyn Chwefror 1962, pan ddigwydd i mi droi mlaen y radio yn fy stafell ym Mhrifysgol Manceinion –  i wrando ar bytiau Cymraeg ar y Welsh Home Service. Roedd y rhaglen eisoes wedi dechrau, a minnau felly dim callach pwy oedd yn siarad. Cefais fy swyno gan y llais tenau,  anghyfarwydd,  oedd yn deud pethau mawr; pethau mawr iawn! Pwy oedd o? Beth oedd y cyd-destun?  Ie, darlith “Tynged yr Iaith” –  minnau’n gwbl ddamweiniol wedi troi i mewn i wrando.

Cefais gyfarfod Saunders Lewis dair gwaith yn unig; ac yna cefais y fraint annisgwyl o gludo’i arch  yn ei angladd, gorchwyl ar y cyd efo  Meredydd Evans, Geraint Gruffydd a Dafydd Iwan.  Golygai hynny lawer iawn i mi – ond ni allwn ddirnad  paham y cefais y fath fraint.  Hoffwn feddwl fod hyn oherwydd bod yr agenda Ewropeaidd – fy nhestun heno – yr un mor hanfodol iddo ef ac ydyw i minnau.

Hanner y gwir yw awgrymu nad oeddwn yn gyfarwydd â Saunders Lewis. Roedd y llais a glywais dros y radio yn ddieithr oherwydd dewis Saunders, dros ail hanner ei fywyd, i fyw bron fel meudwy; a hynny’n rhannol oherwydd – yn sgil llosgi’r Ysgol Fomio gwrthodiad Prifysgol Cymru i’w ail benodi i’w swydd yn Abertawe, er yn ddiweddarach cafodd le yng Nghaerdydd. “Hoff wlad, os gelli hepgor dysg…”.  Pwy allai ei feio pebae wedi chwerwi?  ‘Roeddwn felly, o reidrwydd, yn gweld SL drwy lygaid eraill; a’r hyn oedd wedi fy nghyffwrdd fwyaf oedd gwaith Williams Parry,  a’i thema fawr am yr Haf a ddaeth yn Aeaf.  Er iddo encilio, ni allwn ddianc rhagddo. Roedd  cysgod SL yn rhedeg ymlaen i’n cyfnod ni.

‘Roeddwn wrth gwrs yn ymwybodol o ran  ganolog Saunders Lewis  yn hanes sefydlu’r Blaid Genedlaethol; ac wrth i  mi ddarllen polisïau’r Blaid, cefais fy  swyno gan ei weledigaeth o briod le Cymru – a’r dreftadaeth Gymreig – o fewn prif lif diwylliant Ewrop.  Mae’r Ewrop Unedig  bellach yn fwy na breuddwyd ac mae’n rhan o’n bywyd beunyddiol.

Y sawl a ddaeth a dylanwad Saunders Lewis yn fwyaf uniongyrchol  i mi oedd fy nhad-yng-nghyfraith, y diweddar Emrys Bennett Owen. Ymunodd Emrys â’r Blaid Genedlaethol yn y tridegau – yn Sir Drefaldwyn. Dylanwad mawr Saunders Lewis a berodd hynny; ac un o’i hoff atgofion oedd iddo fod yn y Pafiliwn yng Nghaernarfon, ymhlith y deng mil a groesawodd y tri o’r carchar. Byddai Emrys byth yn adrodd yr hanes heb fynnu y gallai Saunders, y funud honno, fod wedi troi’r dorf yn wenfflam pe ddymunai: ond nid dyna oedd dewis y cawr bach gyda gweledigaeth unigryw. Nid demagog mohono, beth bynnag honiadau ei elynion.

Gellid honni ei fod uwchlaw gwleidyddiaeth, gan nad oedd yn chwennych grym, ond yn hytrach yn ceisio deffro cenedl.

Y tro cyntaf i mi gyfarfod â Saunders Lewis oedd yn gynnar ym 1975, pan gynhaliwyd refferendwm i gadarnhau aelodaeth Prydain o’r Farchnad Gyffredin.  Roeddwn mewn lle cyfyng o fewn y Blaid, ar y pryd,  fel un a gefnogai uno Ewrop. Roedd y Blaid wedi colli’r weledigaeth oedd gan Saunders adeg sefydlu’r Blaid –  sef mai o fewn y cyd-destun Ewropeaidd yr oedd cenedlaetholdeb Cymreig yn canfod cartref naturiol, allblyg ac egwyddorol,  yn driw i’w gwreiddiau hanesyddol a’i gwareiddiad Cristnogol. Fel hyn y disgrifiais  yn y gyfrol O Ddifri, fy nghyfarfod â Saunders ym 1975, ar ôl sôn am ddylanwad darlith radio 1962:

Flynyddoedd yn ddiweddarach, cefais y fraint o’i gyfarfod er na allwn – mwy na’r rhan fwyaf o’m cenhedlaeth, ddweud fy mod wedi cael cyfle i’w adnabod.  Dyma sylfaenydd y Blaid, athrylith a bontiai’‘r canrifoedd o’r oesoedd canol i’r ganrif nesaf, arwr a gynigiodd y cyfan  trwy aberth cyfrifol Penyberth.  Gellid honni ei fod uwchlaw gwleidyddiaeth, gan nad oedd yn chwennych grym, ond yn hytrach yn ceisio deffro cenedl.  Efallai ei fod hefyd uwchlaw ei gydwladwyr oherwydd nad oedd unrhyw beth cyffredin ynglŷn ag ef.

“Pan oeddwn yn teimlo fwyaf unig o fewn  y Blaid, sef yn ystod cyfnod y refferendwm ar ymuno â’r Gymuned Ewropeaidd, euthum i’w weld yn ei gartref ym Mhenarth. Gwyddwn wrth gwrs am bwysigrwydd Ewrop yn ei olwg ac ‘roeddwn innau’n argyhoeddedig mai o fewn cyd-destun Ewropeaidd y gallai Cymru ddarganfod lle addas i gyfrannu’n waraidd a pherthnasol i’r byd.  Cefais groeso tywysogaidd, ac yntau yn fy holi yn craffu ar yr atebion, ac yn diolch yn wresog imi am alw heibio.”

Soniais hefyd yn y gyfrol honno am yr ail dro i mi fynd i weld Saunders, ar ôl i mi gael f’ethol yn Llywydd i’r Blaid ym 1981, cwta dwy flynedd ar ôl refferendwm trychinebus 1979. Y tro hwn, mentrais fod yn hy a mynd ä photel o win yn fy llaw. Daeth Dafydd Williams, Ysgrifennydd y Blaid, gyda mi. Cawsom groeso cynnes, er bod Saunders i’w weld wedi torri erbyn hynny. Teimlwn ei fod fel tai’n gwerthfawrogi ein bod ni, y genhedlaeth newydd yn y Blaid, yn uniaethu ag ef wrth fynd i edrych amdano. Dyn bach o ran corff oedd Saunders, a daeth i mewn gyda llai na ffanffer o bresenoldeb; derbyniodd y botel win, oeddwn mewn ffordd,  yn ei chyflwyno iddo fel ernes o heddwch; roedd ei wyneb yn drist, ond yn ceisio canfod gwen;  cymerodd un golwg ar y label, gan ebychu, yn fwy clywadwy nag a fwriadodd, dwi’n sicr  “HM” enfawr, fel pebae’n camu o glawr llyfrau R S Thomas; a gosod y botel o’r neilltu. Ond wedyn cawsom sgwrs waraidd arall am y weledigaeth Ewropeaidd.

 

*******

Saunders Lewis

Gadewch, felly,  i mi ddisgrifio sut yr oedd Saunders Lewis, o’i ddyddiau cynnar fel arweinydd y Blaid Genedlaethol, yn gosod ei ddaliadau gwleidyddol yn y cyd-destun Ewrop. Gwnaed hyn yn eglur yn ei ddarlith fawr, yn Ysgol Haf cyntaf Plaid Cymru ym Machynlleth ym 1926.

Yn y ddarlith, a gyhoeddwyd gan y Blaid, dan y teitl  “Egwyddorion Cenedlaetholdeb”, dywed SL fel a ganlyn :

Yn yr oesoedd canol yn Ewrop, nid oedd unrhyw wlad yn……. Hawlio mai ei llywodraeth hi, o fewn ei therfynau ei hun, oedd yn ben ac yn unig awdurdod.  Fe gydnabyddai pob cenedl a phob brenin bod awdurdod uwch nag awdurdod gwlad, bod deddf goruwch deddf y brenin, a bod llys y gellid apelio ati oddiwrth pob llys gwladol. Yr Awdurdod hwnnw oedd yr awdurdod moesol,  awdurdod Cristnogaeth. Yr Eglwys Gristnogol oedd pennaeth Ewrop a deddf yr eglwys oedd yr unig ddeddf derfynol. Yr oedd Ewrop, am dro, yn un, pob rhan ohoni’n cydnabod ei dibyniad,  pob gwlad yn cydnabod nad oedd hi’n rhydd na ganddi  hawl o gwbl i’w llywodraethu ei hun fel y mynnai, a heb falio am wledydd eraill.  Ac unoliaeth Ewrop yn y cyfnod hwnnw,  ei hunoliaeth mewn egwyddor foesol a than un ddeddf, oedd diogelwch diwylliant pob gwlad a bro.  Canys un o syniadau dyfnaf yr Oesoedd canol, syniad a etifeddodd Cristnogaeth oddiwrth y Groegiaid, oedd y syniad bod unoliaeth  yn cynnwys lluosogrwydd.  Un ddeddf ac un gwareiddiad  a oedd drwy Ewrop achlân; ond yr oedd i’r ddeddf  honno a’r gwareiddiad hwnnw, wahanol ffurfiau a llawer lliw.

“Oblegid bod un ddeddf ac un awdurdod drwy Ewrop, yr oedd y gwareiddiad Cymreig yn ddiogel, a’r iaith Gymraeg a’r dulliau neilltuol Cymreig  mewn cymdeithas a bywyd.  Nid oedd y syniad am annibyniaeth yn bod yn Ewrop, na’r syniad am genedlaetholdeb.  Ac felly ni feddylid bod gwareiddiad un rhan yn berygl i  wareiddiad rhan arall, nac ieithoedd lawer yn elyn i unoliaeth.

   “Beth gan hynny,  yw ein cenedlaetholdeb ni? Hyn:……gwadu lles unffurfiaeth wleidyddol, a dangos ei heffeithiau drwg; dadlau felly dros egwyddor unoliaeth  ac amrywiaeth.  Nid brwydro dros annibyniaeth Cymru ond dros wareiddiad Cymru.  Hawlio rhyddid i Gymru, nid annibyniaeth iddi.  A hawlio iddi le yn Seiat y Cenhedloedd ac yn seiat Ewrop yn rhinwedd gwerth ei gwareiddiad……. Fe ddaw Ewrop i’w lle eto pan gydnabyddo’r gwledydd eu bod oll yn ddeiliaid ac yn ddibynnol……Mynnwn felly, nid annibyniaeth, eithr rhyddid. Ac ystyr rhyddid yn y mater hwn  yw cyfrifoldeb. Yr ydym ni sy’n Gymru, yn hawlio ein bod yn gyfrifol am wareiddiad a dulliau bywyd cymdeithasol yn ein rhan ni o Ewrop.  Dyna uchelfryd politicaidd y Blaid Genedlaethol.”

Gallwn weld o hyn, mor gwbl ganolog i weledigaeth wleidyddol Saunders Lewis, yw’r cyd-destun Ewropeaidd. A dwi ddim am hollti blew ynglŷn â’r  gair “annibyniaeth”.  Mae’n gallu golygu cymaint o amrywiol bethau i wahanol bobl.  Ystyr annibyniaeth i UKIP ydi gadael Undeb Ewrop; ei ystyr i’r SNP ydi cael ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Bu i Saunders ei hun, ar un achlysur o leiaf,  ddefnyddio’r term, pan ddywedodd yn ei  araith  yn Ysgol Haf Llanwrtyd, 1930:  “Fe awn i’r Senedd …i ddatguddio i Gymru sut y mae’n rhaid gweithredu er mwyn ennill Annibyniaeth.” (DG Medi 1930).

Os ydi’r mwyaf oll yn cymysgu ei ieithwedd, pwy ydym ni i hollti blew!  Y syniadaeth fawr sy’n bwysig; ac yn hynny o beth, ‘doedd dim dyryswch, dim amheuaeth,  ble saif Saunders Lewis.

Hawlio i Gymru “ei lle yn seiat Ewrop yn rhinwedd gwerth ei gwareiddiad.”

 

                                      *****

 

Mae adnoddau naturiol Cymru i’w trin er budd y genedl Gymreig; y dylid gwasgaru meddiant drwy’r boblogaeth fel na all na’r wladwriaeth nac unigolyn neu gasgliad o unigolion, ormesu’n economaidd ar deuluoedd gwerin. 

Mae D Myrddin Lloyd, yn ei draethawd ar syniadau gwleidyddol Saunders Lewis, hefyd yn cyfeirio at y thema Ewropeaidd, wrth ysgrifennu fel a ganlyn:

Sylfaen foesol ac ysbrydol, felly, sydd i genedl; nid yw ei thynged  a’i gwerth yn sefyll ar unrhyw ffurf o annibyniaeth lwyr; ac nid am hynny y mae ei hurddas yn gofyn. Gall ymgyflwyno i lawer math o berthnaseddau. A gall ddygymod yn hawdd â llawer rhwymedigaeth. Rhinwedd ynddi hi ei hun yw ei rhyddid, ac fel y mae personau’n ymglymu’n naturiol i deuluoedd, i gymdogaethau, ac i amrywiol gymdeithasau eraill,  fel y maent yn cael eu hunain mewn cyfathrach â’r cyd-ddynion,  felly y mae cenhedloedd yn rhinwedd y ddeddf  foesol yn arddel aml berthynas â’i gilydd.

“Yn ei ymosodiad ar Ffasgaeth ym 1934 (erthygl bwysig y dewisir ei hanghofio’n aml) dywedodd Saunders Lewis fod Ffasgaeth yn dal mai i’r wladwriaeth y perthyn pob unigolyn, a bod hawliau’r Wladwriaeth yn ddiamod. ‘Deil y Blaid Genedlaethol Gymreig mai cymdeithas o gymdeithasau yw’r genedl, a bod hawliau’r cymdeithasau llai, megis y teulu, y fro, yr undeb llafur, y gwaith, y capel neu’r eglwys, bob un yn deilwng o barch.

“Nid oes” …. A dwi’n dal i ddyfynnu erthygl D Myrddin Lloyd “Nid oes gan y Wladwriaeth hawl foesol o gwbl i dreisio hawliau’r  cymdeithasau hyn ac y mae hawliau hefyd y tu allan i ffiniau’r genedl y dylai pob dyn a phob gwlad eu parchu.’

“Hawdd tarddu aml ddatganiadau Saunders Lewis  o blaid hawliau awdurdod lleol, a thros egwyddor cydweithrediad, a gwasgaru eiddo a rheolaeth, o’r ddysgeidiaeth hon.  Hefyd mae’r ddysg organaidd hon yn peri iddo weld y genedl fel rhan o rywbeth ehangach, sef bywyd Ewrop, a  Chred;  a’r byd cyfan. Yn ymgyfoethogi mewn iawn-berthynas â hwy, a’i deiliaid yn rhydd ac yn byw eu bywyd llawn yn unig os coleddir yr iawn berthynas hon.”

Wrth gyfeirio at ei gyfres “Cwrs y Byd” yn y Faner, dywed ei olygydd ar y pryd, Gwilym R Jones am SL “Bu’n ddolen gydiol rhwng y Cymry a’u traddodiad – a rhyngom a’n traddodiad Ewropeaidd hefyd.”  Yn sicr ddigon, roedd gweledigaeth Saunders Lewis yn rhannol seiliedig ar etifeddiaeth Cymru a darddai o’i gwreiddiau Ewropeaidd.

Peidier felly a meddwl mai rhinweddau masnachol undod Ewrop oedd wrth fôn y weledigaeth hon; i’r gwrthwyneb. Ystyriaeth eilradd oedd unrhyw fanteision materol; oblegid nid ar sail faterol, ond ysbrydol, y gosododd  Saunders ei weledigaeth; a tharddiad Ewropeaidd y dimensiwn ysbrydol oedd yn bwysig iddo. Gwelir hyn yn un erthygl yn Ysgrifau Dydd Mercher, sef detholiad o erthyglau Cwrs y Byd a ymddangosodd yn y Faner rhwng 1930 a 1945. Dywed fel a ganlyn:

Hanes gwareiddiad Ewrop – hanes delfryd ysbrydol ydyw… Olrhain y delfryd hwnnw a rydd ystyr i astudio hanes Ewrop; hynny a rydd undod i Ewrop.  Gall fod cant a mil o ddylanwadau ar fywyd gwlad ac ar ei fordd o fyw.  Ond yr hyn a ddaw i mewn i’w bywyd hi fel tynged, a benderfyna ei rhan hi  yn etifeddiaeth Ewrop, yw’r delfryd moesol arbennig hwn, sef y delfryd a luniwyd gyntaf erioed gan Roeg.  Groeg yw cychwyn ein gwareiddiad ni a llun Groeg sydd arno hyd heddiw.”

Yn  sicr byddai Saunders Lewis a rhywbeth i’w ddweud am y sefyllfa sydd ohoni parthed perthynas Groeg â’r Undeb Ewropeaidd fel y mae’n datblygu’r dyddiau hyn. A thybiaf y byddai’n gweld gwerth gwareiddiad Groeg fel eu cyfraniad mawr i Ewrop a hynny can-driliwn bwysicach na’r straffig sydd ynglŷn â’r Ewro heddiw.

Difyr hefyd yw nodi geiriau Patricia Elton Mayo, yn ei llyfr “Roots of Identity: Adnabod y gwreiddiau”, ble mae’n ysgrifennu “As an author and playwright well known on the continent, but unknown in England (Saunders Lewis) has stressed the European context of Welsh culture, which was certainly true before the English occupation isolated Wales from the mainstream of European cultural development.”; ac mae persbectif o’r math – sy’n tarddu oddi allan i Gymru, ond yn gweld datblygiadau cenedlaethol yng Nghymru fel rhan o symudiad Ewropeaidd, yn cadarnhau’n dehongliad o berthnasedd safbwynt Saunders Lewis.

 

***

 

Bu Saunders, wrth gwrs, yn olygydd y Ddraig Goch am flynyddoedd yng nghyfnod cynnar y Blaid. Byddai’n manteisio ar bob cyfle i ddod â dimensiwn Ewrop i’w ddadansoddiad.  Er enghraifft, mewn erthygl olygyddol a sgrifennodd ar gyfer rhifyn Awst 1929, dan y pennawd “Yma a thraw yn Ewrop: y lleiafrifoedd yn deffro”.  Wedi iddo nodi deffroad cenedlaethol yn Fflandrys, Catalunya, Malta, Llydaw ac Alsace, mae’n gofyn:

“Beth a brawf hyn oll? Prawf fod lleiafrifoedd Ewrop, y gwledydd bychain a lyncwyd gan rai mwy yng nghyfnodau gormes a chanoli llywodraeth, bellach yn deffro ym mhob rhan o’n cyfandir ni ac yn dwyn ysbryd a delfryd newydd i wleidyddiaeth Ewrop. (Nodwch yr ymadrodd “ein cyfandir ni”! – yn tydio’n adrodd cyfrolau?)

 Â ymlaen:

“Arbenigrwydd a nerth Ewrop, o’i chymharu hi ag America, yw amrywiaeth gyfoethog ei gwareiddiad hi.  Oblegid hynny, er mynd arweiniad economaidd y byd, am dro beth bynnag, i America, fe erys arweiniad meddyliol ac ysbrydol y byd yn Ewrop……Os yw hyn yn gywir, cywir hefyd yw ein dadl ni mai mudiad er bendith i Ewrop a’r byd yw’r  mudiad ymreolaeth yng Nghymru ac yn y gwledydd eraill oll; mudiad ydyw sy’n ychwanegu at gyfoeth Ewrop, yn sicrhau iddi adnoddau newyddion  a’i galluoga hi i gadw arweiniad ysbrydol y byd, er gwaetha ei hen ddallineb, ac i ychwanegu at ddedwyddwch  a thrysorau meddyliol a chynhaliol gwareiddiad.

Mae’n parhau….

“ Dyma’r efengyl a bregethwyd ers y cychwyn yn y Ddraig Goch . Yr athrawiaeth Ewropeaidd hon hefyd sy’n cymell arweinwyr ar y cyfandir, megis M. Maurice Duhamel (arweinydd y mudiad Llydewig). Na chreded neb mai ryw fudiad bychan disylw, unig, yw’r mudiad ymreolaeth Cymreig.  Na; rhan ydyw o’r mudiad mwy sydd yn ceisio arwain Ewrop yn ôl o fateroliaeth ymerodrol,  o gystadleuaeth gibddall y galluoedd canolog mawrion, i wleidyddiaeth newydd, gwleidyddiaeth sydd wedi ei sylfaenu ar ddyfnach deall o wir  natur a gwerth gwareiddiad y gorllewin.  Dyma’r wers i ni; gwasanaethu Cymru a gwaredu Cymru, yw gwasanaethu Ewrop a’r ddynoliaeth.”

Mae hynna’n ei deud hi, o’r galon ac mewn geiriau digamsyniol.

Mae SL hefyd yn gweld ymreolaeth Cymru fel rhan o sefydlu gwell drefn ryngwladol; trefn a fyddai’n ceisio a datrys anghydfod drwy ddulliau heddychlon, nid trwy ymladd rhyfel waedlyd o’r math y cafodd yntau’r profiad ysgytwol o ymladd ynddi. Mae ei bwyslais ar ddatblygu cyfundrefnau rhyngwladol – a’i rybuddion cyson o’r perygl na fynnai Lloegr fod yn rhan o drefn o’r math, yn gefndir i wleidyddiaeth Gwynfor, a’r ddolen euraidd a redodd hyd yn oed hyd heddiw, drwy safiad Adam Price yn erbyn rhyfel anghyfreithlon Tony Blair yn Irac.

Mae’n werth rhoddi sylw manwl i hyn.  Yn ei erthygl “Lloegr ac Ewrop a Chymru” a gyhoeddwyd yn Nhachwedd  1927 ac a gynhwyswyd yn y gyfrol Canlyn Arthur, a gyhoeddwyd ym 1938, dywed SL:

Beth yw polisi tramor Lloegr?  Datganwyd ei egwyddor yn derfynol ac yn bendant gan Syr Austen Chamberlain yng nghyfarfod Seiat y Cenhedloedd (sef yr hen League of Nations) fis Medi.  Ebr ef (ac mae SL yma yn dyfynu  Austen Chamberlain – a chraffwch ar y geiriau): ‘Y mae Lloegr yn perthyn i undeb gwledydd sy’n hŷn na Seiat y Cenhedloedd, sef Ymerodraeth Prydain ac os y daw gwrthdrawiad  rhwng y Seiat a’r Ymerodraeth, rhaid yw i ni  bledio’r Ymerodraeth yn erbyn y Seiat.’

“Pan ddywedodd Chamberlain hynny, llefarodd dros Loegr, nid dros blaid.  Yr un fu egwyddor Ramsey MacDonald pan oedd yn Weinidog Tramor; a’r un fu egwyddor y Rhyddfrydwyr.  Yn awr, yn rhinwedd yr egwyddor hon, y mae Lloegr – ysywaeth,  rhaid i ni ddweud y mae Prydain Fawr – er ei bod yn naturiol ac yn  ddaearyddol ac o ran yn hanesyddol, yn perthyn i Ewrop ac yn angenrheidiol i Ewrop – eto yn gwadu  ei pherthynas  a’i chyfrifoldeb ac yn gadael Ewrop heddiw , megis ym 1914 a chynt, yn ansicr am ei pholisi.”

Gallem, yn un mor gywir, ddeud hyn heddiw.  Aiff Saunders ymlaen gyda’r datganiad allweddol-bwysig ganlynol, a wnaeth lawer i liwio fy naliadau gwleidyddol innau:-

Dwyn Undeb politicaidd ac economaidd i Ewrop yw un o anghenion cyntaf ein canrif ni.  Gwelir hynny yn glir gan wledydd bychain Ewrop, ac er mwyn sicrhau hynny y lluniwyd ganddynt y Protocol sy’n rhwymo gwledydd i setlo dadleuon drwy gyf-lafaredd,  a deddf, ac yn galw ar yr holl wledydd eraill i ymuno i gosbi unrhyw wlad a dorro eu hymrwymiad.

“Er mwyn hynny hefyd, y myn y cenhedloedd bychain  rwymo pob gwlad i ardystio i adran Ddewisol ……. Ystatud Llys Sefydlog Barn Gydwladol.  Amcan yr Adran ddewisol  yw cael gan y gwledydd dderbyn barn y llys yn derfynol ar ddadleuon rhyngddynt a thrwy hynny arbed rhyfel.

“Fe wrthoda Lloegr.  Gwrthoda hefyd  adran Ddewisol y Protocol. Gwrthoda’r Protocol oherwydd, a hithau’n rhan o Ymerodraeth sydd  bron yn gwbl tu allan i Ewrop, ni fyn hi rhwymo ei hun i Ewrop. Gwrthoda’r Adran Ddewisol yn gyntaf…    “am na all y Llywodraeth sicrhau, pe byddai barn y llys yn anffafriol i Brydain, y gellid ei ddwyn i ddeddf drwy Senedd Prydain” ac yn ail  oblegid bod yr Ymerodraeth yn ddigon eang a chryf i fedru amddiffyn ei hawliau heb bwyso ar lys barn……….

Deëller effeithiau politicaidd hyn.  Pe derbynai holl wledydd Ewrop y Protocol a’r Adran Ddewisol, yna – a bwrw i un o’r gwledydd dorri ei llw a mynd i ryfel – byddai holl wledydd y Protocol yn rhwym o ymosod arni, a gwybod hynny a fyddai’r ataliaeth sicraf a ellid ar hyn o bryd ar ryfyg un wlad unig.

 

“Ond , heb Brydain yn y Protocol, a Phrydain hefyd yn rhydd oddiwrth y Llys Barn Gydwladol, ni ellid gwybod  beth a wnelai hi;  a’r ansicrwydd hwnnw – y posibilrwydd bargeinio am help Prydain a wnâi ryfyg a rhyfel unwaith eto, megis ym 1914, yn bosibl.  Hynny yw, fe geidw Prydain  o hyd at ei pholisi traddodiadol o goleddu ansicrwydd  yn Ewrop a hithau’n rhydd i ymledu ac ymgyfoethogi yn ei hymerodraeth fawr a’i threfedigaethau.

“Gwelir hefyd fod tueddiadau economaidd Lloegr yn llawn cymaint â’i thueddiadau gwleidyddol, yn arwain  i ryfel.  Gobaith heddwch gwleidyddol Ewrop yw cael Prydain yn rhan hanfodol o  undeb cenhedloedd Ewrop…..

Ond  ym Mhrydain  a  oes traddodiad Ewropeaidd?  A oes yma genedl a fu’n rhan wreiddiol o wareiddiad y Gorllewin, yn meddwl yn null y  gorllewin  ac yn gallu deall Ewrop; ac yn gallu cydymdeimlo â hi?  Yr ateb yw: Cymru.

“Y Cymry yw’r unig genedl ym Mhrydain a fu’n rhan o Ymerodraeth  Rufain, a sugnodd laeth y Gorllewin yn faban, a chanddi waed y gorllewin yn ei gwythiennau. Fe all Gymru ddeall Ewrop canys y mae hi’n un o’r teulu. Os oes rhaid dewis, fel y myn Chamberlain, rhwng yr ymerodraeth a Seiat y Cenhedloedd, nid oes amau beth yw tuedd Cymru.  Iddi hi erioed, ac i’w goreugwyr mewn meddwl a dysg, bu’r gyfathrach ag Ewrop yn ddadeni ac yn ysbrydoliaeth.  Ni bu’r Ymerodraeth ond enw iddi a sŵn diystyr.

“Fe dyfodd Cymru i fyny  gydag Ewrop, gyda gwledydd cred,  dan yr un ddisgyblaeth a chan adnabod yr unryw ffodion. Ond wedi dinistrio datblygiad Cymru, ac yng nghanrifoedd gwendid a nychtod Cymru, y tyfodd Ymerodraeth Lloegr – ac yn ddieithr i Gymru. Gan hynny, y mae traddodiad Cymru yn gwbl groes i athrawiaeth Chamberlain, a rhaid i’w pholisi tramor hi fod yn wahanol.  A dyna’r rheswm y rhaid iddi fynnu sedd yn Seiat y Cenhedloedd, fel y gallo hi fod yn lladmerydd Ewrop ym Mhrydain ac yn gadwyn i glymu Lloegr a’r Ymerodraeth wrth genhedloedd cred a  Seiat y Cenhedloedd.”

Dyna i chi neges o 88 mlynedd yn ôl – neges y gallech ei hail-dehongli efo hanes Irac.  Mae’n neges sydd, i mi, heb unryw os nac onibai, yn gyfangwbl berthnasol i’r byd sydd ohoni heddiw. O’r gwreiddiau hyn y mae mudiad cenedlaethol Cymru wedi tyfu; a gwae ni os anghofiwn hynny.

Mewn erthyglau eraill yn y Ddraig Goch, yn y tridegau, mae’n honni ei fod   “yn eglur bod cyfathrach agos ag Ewrop yn ffynhonnell pob Dadeni i ddiwylliant Cymraeg

 

Ar adeg arall,  dywed SL “Bu Lloegr unwaith yn rhan o Ewrop”, gan wedyn ddadlau mai “Drwy ennill Ymerodraeth y mae’r Saeson wedi colli Lloegr” (DG Hydref 1930).  Mae’r gosodiad hwn yn haeddu darlith iddo’i hun!

 

********

 

Yr hyn sydd raid i ni gofio, yn yr  oes hynod faterol sydd ohoni, ydi fod  gwareiddiad cenedlaethol Cymru yn cynnwys ein hetifeddiaeth ddiwylliannol – ein hiaith, ein llenyddiaeth, ein barddoniaeth, ein cerddoriaeth, ein celfyddydau cain – a  llawer mwy. Ond mae hefyd yn cynnwys ein gwerthoedd, megis y pwyslais a roddir o fewn ein hetifeddiaeth gymdeithasol, ar gydraddoldeb; ar werth cymdeithas fel y cyfryw,  ac nid gwerth yr unigolyn a’r teulu yn unig; ar yr elfen o gydweithio a chyd-ymdrechu i warchod ein buddiannau.

Dyma hanfod y gwahaniaeth sylfaenol sydd rhwng gwleidyddiaeth Cymru a gwleidyddiaeth Lloegr; ac oherwydd fod y Blaid Lafur Gymreig yn  mynnu clymu ei hun i’r Blaid Lafur Seisnig, mae’n methu a datblygu athroniaeth a rhaglen wleidyddol ar sail ein gwerthoedd cenedlaethol ni,  fel sylfaen i’w pholisïau o fewn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae hyn yn f’arwain yn ddigon twt at y “Deg pwynt polisi” a luniwyd gan SL.  Cyhoeddwyd rhai o’r erthyglau a gyfrannodd SL  i’r Ddraig Goch, yn y gyfrol Canlyn Arthur  ym 1937. Yn eu plith, mae erthygl a luniwyd ym 1933 dan y teitl “Deg Pwynt Polisi”.  Yr hyn sy’n ddifyr, o gofio fod rhai haneswyr yn gosod gwleidyddiaeth SL ym mhrif ffrwd Democrat Cristnogol Ewropeaidd, mai trywydd adain chwith sy’n ymddangos yn y Deg Pwynt.

Er enghraifft mae’n sôn am ddosrannu perchenogaeth tir – ar gyfnod pan oedd rhai ystadau mawrion yn dal i fodoli; roedd yn sôn am rôl undebau llafur yn y broses o gynllunio’r economi ac o safbwynt trefniant diwydiant;  hawliai fod adnoddau naturiol Cymru i’w trin “er budd y genedl Gymreig”; y dylid gwasgaru meddiant drwy’r boblogaeth – a dyfynnaf –  “fel na all  na’r wladwriaeth nac unigolyn neu gasgliad o unigolion, ormesu’n economaidd ar deuluoedd gwerin”.  Yng ngwyneb hyn oll, sut aflwydd – SUT AFLWYDD – allai unryw un hanner call awgrymu mai gwleidydd adain dde eithafol  oedd Saunders Lewis?

Mae cyfalafiaeth ddiwydiannol a chystadleuaeth economaidd ….  yn ddrwg dirfawr ac yn gwbl groes i athrawiaeth cenedlaetholdeb cydweithredol.

Fe welir hyn fwyaf ym Mhwynt 3 o’r Deg Pwynt Polisi:

“3) Mae cyfalafiaeth ddiwydiannol a chystadleuaeth economaidd –  rydd oddiwrth reolaeth llywodraeth gwlad (h.y. masnach rydd) –  yn ddrwg dirfawr ac yn gwbl groes i athrawiaeth cenedlaetholdeb cydweithredol.”

Mae’n werth oedi am eiliad ar y geiriau hyn, gan eu bod yn allweddol bwysig i’r ffordd y mae Undeb Ewrop wedi tyfu. Diben Cymuned Ewrop, o’r dyddiau cynnar, oedd, i hyrwyddo masnach rydd ond i ganiatáu hynny DIM OND o fewn fframwaith cymdeithasol.  Doedd llawer ym Mhrydain heb ddechrau dirnad hyn ym 1975, adeg y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r “Farchnad Gyffredin”.  Felly roedd yr adain dde fasnachol Seisnig yn ysu am aelodaeth o’r gyfundrefn newydd ble gallasant, yn eu tyb hwy, greu fwy fyth o elw preifat.  Mewn gwrthgyferbyniad, fe ymatebodd y chwith drwy wrthwynebu aelodaeth o’r Farchnad Gyffredin, er mwyn rhwystro ‘r corfforaethau mawr.

Ond roeddent wedi camddeall y weledigaeth Ewropeaidd: sef yr uchelgais o greu Ewrop gymdeithasol llawn cymaint â’r Ewrop economaidd: y “Social Europe” a ddaeth yn rhan hanfodol o’r frwydr dros y bennod gymdeithasol o fewn cyfansoddiad yr Undeb Ewropeaidd; a phan ganfu Maggie Thatcher a’i chriw  fod oblygiadau gwaraidd o’r math yn rhan o’r weledigaeth, bu iddynt yn fuan iawn gamu nôl. Dyna pam y gwelwch lawer ar adain dde Lloegr bellach yn ffyrnig yn erbyn  Undeb Ewrop; ac elfennau blaengar y chwith, ac eithrio efallai Mr Corbyn, o’i phlaid; a dyna ble tybiaf, y byddai SL heddiw.

Er nad oes unryw un o’r deg pwynt polisi yn cyfeirio yn benodol at y cyd-destun Ewropeaidd, mae Pwynt 3 yn seiliedig ar y rheidrwydd o ganfod dulliau o reoli  gweithredu cyfalafol benrydd, ac yn dangos y ffordd tuag at undod cyfandirol  fel y fframwaith anhepgor i’r cyfryw bwrpas.

Byddai’n wirion i mi honni mod i’n cytuno â phob gair a ddeilliodd o enau Saunders Lewis; nac, yn wir, y cyfan o’r Deg Pwynt Polisi.  Yn amlwg, roedd rhai pethau a oedd, efallai, yn gredadwy yn eu cyfnod – ond sy’n edrych yn hurt, braidd, heddiw. Cymerwch, er enghraifft, pwynt 8 yn y deg pwynt polisi – sef y nod o ddad-ddiwydiannu cymoedd y De. Mae’n ddigon posib cydymdeimlo â’r amcan o safbwynt polisi gwyrdd yr oes hon; mae’n bosib hefyd rannu’r amheuaeth a oedd dulliau cynhyrchu diwydiant trwm pryd hynny, yn dderbyniol yn nhermau iechyd, corfforol a meddyliol, y gweithwyr.

Ond breuddwyd gwrach oedd meddwl y gallai pawb fynd yn ôl i gefn gwlad a byw fel tyddynwyr. Wedi deud hynny, roedd Saunders ddim ar ben ei hun yn awgrymu hynny.  Roedd dyhead SL i  weld Cymru’n edrych tuag at ei hardaloedd gwledig am ysbrydoliaeth, yn rhan o symudiad drwy Ewrop, yn y 20au’r 30au i fynd yn ôl i’r tir; ac arweiniodd hyn at nifer o fudiadau gwledig blaengar yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Erthygl hynod ddifyr yn  Canlyn Arthur, yw’r un ar Tomáš Masaryk ac adfywiad cenedlaethol Bohemia.  Masaryk lwyddodd i osod sylfaen i ‘r weriniaeth Tsiec sydd ohoni heddiw.  Roedd  Masaryk, fel Saunders Lewis, yn  pwysleisio rôl diwylliant fel un o hanfodion y gymuned genedlaethol; ac fel SL, roedd yn gweld ei wlad o fewn fframwaith Ewropeaidd ac o fewn delfrydau Ewrop. Edmygai Saunders ef oherwydd iddo “ddeffro enaid y genedl” a chyflawni hyn ddim trwy ddulliau rhyfel, ond trwy weithredu’n ddi-drais. Mae Saunders yn uniaethu a gweledigaeth Masaryk, gan ddeud:

Iddo ef, yr oedd bod yn Fohemiad da yn golygu bod yn Ewropead da hefyd”

gan ychwanegu

“…yr oedd gan Fasaryk pob amser dau gartref, Bohemia ac Ewrop. Dyna’r unig genedlaetholdeb y gallaf i ei edmygu…”

A minnau, hefyd!

Roedd yr agwedd allblyg –  y syniad y gallai SL fod yn gartrefol bron unrywle yn Ewrop –  yn naturiol yn lliwio ei agwedd yntau tuag at bobl sy’n symud i Gymru: ‘doedd ei genedlaetholdeb ddim yn seiliedig ar godi muriau o gwmpas Cymru; yn hytrach dywedodd “Rhaid troi’r estroniaid yn Gymry a rhoddi iddynt y meddwl Cymreig, y diwylliant Cymreig, a’r Iaith Gymraeg.”   Er fel y gwyddom, weithiau haws deud na gwneud! Ac roedd yn poeni y gallai Cymru, ar ôl ennill ymreolaeth,  ddilyn patrwm yr Iwerddon gan droi’n ddiwylliannol fewnplyg.

*****

Yn ei gyfraniad pwysig i’r gyfrol “Presenting Saunders Lewis” mae Dafydd Glyn Jones, wrth ysgrifennu am “Aspects of his work: his politics”, yn nodi  – ac mae’n od braidd i mi ddyfynnu Dafydd Glyn yn y Saesneg, wrth iddo gyfeirio at y gyfrol Canlyn Arthur – ond, dyna ni, dyma ddywed Dafydd Glyn:

 

Canlyn Arthur assumes throughout that the nation is the normal  form of society in Europe and the basis of Western civilization……To be, to exist and to be recognized  by other  communities as existing, this, Saunders Lewis maintained, is the only way to extraversion and normality, the only way Wales can fully and creatively participate in a wider community.

“That participation,moreover, is indispensible if self-government  is to have any meaning. A Welsh parliament is  necessary not in order that  Wales may retire  into self-sufficiency, but also that she may recover  her contact with Europe. Possibly the most radical feature  of “Y Ddraig Goch”’s  policy in the twenties and thirties, was its  advocacy of a European Union of independent states……  and a basic condition for the success of that Union was that the countries of Britain  be part of it.”

Yn ôl Dafydd Glyn Jones, un o’r dylanwadau mwyaf ar Saunders Lewis oedd yr ysgolar Pabyddol Ffrengig, Jacques Maritain.  Tydwi ddim yn ddigon o foi i ddechrau pwyso a mesur cyfraniad Maritain; ond fel y deallaf y peth, ef oedd un o’r arweinwyr yn Ffrainc a fynnodd fod amgenach lwybr i feddylfryd pabyddol Ffrainc na chael ei ysgubo i’r mudiad lled-ffasgaidd Action Francaise, yr oedd ar un adeg yn aelod ohoni –  mudiad  a arweiniodd at gyfundrefn Vichy.

Yn hytrach, roedd delfrydiaeth Maritain yn cynnwys rhyddid yr unigolyn, yr angen am drefn o fewn cymdeithas  a phlwraliaeth newydd sy’n osgoi unbeniaeth a cheidwadaeth laissez-faire. Ac mae’n tynnu n sylweddol ar y syniad o gyfraith naturiol sy’n cyfateb i gyfraith foesol.

Yn ôl Dafydd Glyn, “Mae hyd’noed y darllen mwyaf arwynebol o Ganlyn Arthur yn dangos beth yw maint dyled Saunders Lewis i ffilosoffi cymdeithasol Maritain.”

Bu fyw Jacques Maritain, rhwng 1882 a 1973,  ac mae o’n greadur difyr dros ben. Bu’n ddylanwadol yn y gwaith o ddrafftio’r Datganiad Hawliau Dynol (Universal Declaration of Human Rights); roedd yn un o sefydlwyr y Brifysgol Alltud yn America ar gyfer Ffrancwyr oedd yn ymladd efo de Gaulle yn erbyn Hitler.  Fe ymgyrchodd i ddwyn sylw at erchyllterau’r Holocaust.  Cyhoeddodd gyfrol ym 1936, “Integral Humanism” ac edrychir arno fel un a ysbrydolodd y mudiad Democrat Cristnogol yn Ewrop.

Ym 1946, ar ôl ail-sefydlu llywodraeth ddemocrataidd yn Ffrainc, penodwyd Maritain yn llysgennad Ffrainc i’r Vatican; daeth yn gyfaill mawr i Bab Pawl y 6ed; ac roedd yn ffrind mynwesol i Robert Schuman, Gweinidog Tramor Ffrainc – y sawl a all hawlio, fwy na neb,ei fod yn sylfaenydd  Undeb Ewrop!  Dyna i chi ddipyn o CV.

Ond pam ddylem weld hyn yn bwysig wrth asesu cyfraniad Saunders Lewis i Gymru yng nghyd-destun Ewrop?  Dwi’n tynnu sylw penodol at hyn oherwydd bod ‘na lu o elynion Saunders Lewis a’r Mudiad Cenedlaethol Cymreig, sydd – hyd yn oed heddiw – yn bachu  ar hanner cyfle i bardduo Saunders Lewis fel gwleidydd a thueddiadau at y dde ffasgaidd: tybient fod cenedlaetholdeb Cymreig yn perthyn, rywsut, i fudiadau adain dde cyfandir Ewrop, a ddaeth â Hitler i rym yn yr Almaen, Mussolini yn yr Eidal, Franco yn Sbaen a Salazar ym Mhortiwgal – fel unbenaethau  ar eu gwledydd.

Bu beirniadaeth lem o safbwynt Saunders Lewis, yn arbennig adeg yr ail ryfel byd – a hyn yn bennaf oherwydd bod cyfres erthyglau Cwrs y Byd  wedi cymryd agwedd gwrthryfel cyson. Tra roedd agwedd o’r math  yn sylfaenol o safbwynt heddychol, agwedd Gwynfor Evans a llu o bleidwyr eraill –  nid o safbwynt heddychol yr oedd Saunders Lewis yn edrych ar y mater.  Yn hytrach, roedd  ei wrthwynebiad yn fwy seiliedig ar  ei atgasedd o imperialaeth – a oedd hynny’n deillio o’r Almaen, o Brydain, o Rwsia neu o America.

I raddau roedd agwedd Saunders Lewis tuag at yr ail ryfel byd yn tarddu o’r dadansoddiad mai imperialaeth ronc oedd achos y rhyfel byd cyntaf. I’r graddau hynny, roedd yn gaeth i’w genhedlaeth – un a ddioddefodd mewn modd mor erchyll yn y Rhyfel Mawr.  Imperialaeth arweiniodd at y rhyfel byd cyntaf;  a’r rhyfel cyntaf arweiniodd at Ffasgiaeth Hitler a’r ail ryfel byd.

Ond doedd beirniadaeth Cwrs y Byd o rhai o agweddau a dulliau rhyfel Prydain ddim – o bell, bell ffordd  –  yn golygu fod SL rywsut yn edmygu Hitler a Musolini.  Yn bendifaddau, doedd o ddim. Cofiwch  pwy ddywedodd, am Mussolini “ The Roman genius …the greatest law-giver amongst men”?  Nid Saunders Lewis, ond, gredech chi – Ia, Winston Churchill.

A phwy ddywedodd “I have  never doubted the fundamental greatness of Hitler…I have never withdrawn one particle of the admiration  which I personally felt for him”?  Nid Saunders Lewis, ond David Lloyd George (1937).

Efallai fod gelynion gwleidyddol y Blaid yn ceisio esgusodi eu hagweddau eu hunain yn y tridegau, drwy bardduo Saunders Lewis gyda’r awgrym fod ei gwrthwynebiad i ryfel fel arf o bolisi, rywsut yn deillio o gydymdeimlad â ffasgaeth.  Ysgrifennodd dyn o’r enw Gwilym Davies erthygl yn y Traethodydd ym 1942 yn honni y byddai’r Gymru yr anelai Saunders Lewis amdani, yn wlad unbenaethol, Ffasgaidd a Phabyddol.

Rwtsh pur ydi hyn yn fy marn i; ond mae’n dda fod ymchwilwyr eraill bellach yn canfod mai amgenach ddylanwadau sydd yn ganolog i ni ddeall meddylfryd Saunders Lewis.  Ac mae’n dda gennyf gyfeirio at gyfrol yr Athro Richard Wyn Jones, Prifysgol Caerdydd, ar “Blaid Cymru  a’r cyhuddiad o Ffasgiaeth” a  ddaeth i’r casgliad “Nid oedd dim a oedd yn Ffasgaidd ynglŷn â syniadau a safbwyntiau ‘r Blaid fel corff  na’i harweinwyr.”

Wrth drafod lleoliad Saunders Lewis ym mywyd diwylliannol Cymru, dywed:  “Pechod mawr Lewis, ei bechod gwreiddiol, fel petai, oedd iddo herio’r unffurfiaeth barn a geid yng Nghymru’r cyfnod ynglŷn â natur gwir Gymreictod”.

Oherwydd nad oedd yn llyncu’r consensws ynglŷn â natur gwerin Cymru;  oherwydd ei fod yn arddel parch tuag at werthoedd hanesyddol y genedl a oedd yn wrthun i rai chwyldroadwyr; oherwydd ei fod yn  gwrthod gweld ymrwymiad Cristnogol Cymru yn nhermau ymneilltuaeth yn unig; ac oherwydd ei fod yn mynnu lle canolog i’r iaith Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru – oherwydd hyn oll,  roedd yn fygythiad i’r sefydliad gwleidyddol Cymreig a bu raid cysylltu ei syniadau â ffasgiaeth er mwyn eu pardduo’n drwy’r cysylltiad.

Casgliad yr Athro Richard Wyn Jones oedd bod y math gyhuddiad “nid yn unig yn arddangos anwybodaeth lwyr o syniadau Lewis ei hun,  ond anwybodaeth yr un mor llethol o gyd-destun syniadaethol mwy cyffredinol y cyfnod rhwng y rhyfeloedd byd.”

*****

Saunders Lewis

Ac fel cyfraniad pwysig i’r  drafodaeth hon, mae’n dda gennyf dynnu sylw at waith y Dr Emyr Williams, prif ymchwilydd y Blaid yn San Steffan,  a enillodd ddoethuriaeth yng Nghaerdydd gyda’i thesis ar “The Social and Political thought of Saunders Lewis” – gwaith sydd wedi cael llawer rhy ychydig o sylw ac sy’n ganolog i’n testun heno.

Mae Emyr Williams hefyd yn olrhain dylanwad Maritain ar Saunders; ac mae’n  datgan yn ei draethawd – trosaf ei eiriau i’r Gymraeg:

Casgliad Maritain ydi fod y cysyniad o “sofraniaeth” yn anghywir o’i hanfod, gan fod awdurdod gwleidyddol yn tarddu o’r bobl, o’r corff gwleidyddol (y body politic); ac  nad ydyw’n disgyn o’r oruchel.  Mae hyn yn sylfaenol i ddeall meddylfryd Saunders Lewis ynglŷn â’r cysyniad o sofraniaeth…”

Dwi’n ddyledus i Emyr Williams am ei help ac am gael astudio ei waith ymchwil.  Ymhlith ei gasgliadau oedd:

 Fod y syniad o archwladwriaeth ganoledig Ewropeaidd yn wrthun i SL;

 Fod ei weledigaeth yn seiliedig ar yr egwyddorion o ffederaliaeth a sybsidiaredd;

 Fod ei fodel ar gyfer Ewrop yn un o – a dyfynnaf – “multilevel, plural governance”;

 Fod yr elfen o barhad diwylliannol cenedlaethol yn rhan annatod o’r cysyniad Ewropeaidd, ac yn rhan ganolog o hunaniaeth Ewrop.

Yn ôl Emyr Williams, “Pabyddiaeth a Ffrancoffilia Saunders Lewis oedd yr elfennau a’i gyrrodd i weld y diwylliant Cymreig fel rhan o dreftadaeth Gristnogol Ewropeaidd ehangach; a’i gymell i geisio â symud Cymru i ffwrdd o’i pherthynas blwyfol â Lloegr a Phrydain, a cheisio ei chael i gysylltu, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol, gyda’r byd ehangach.

Mae Saunders Lewis yn cydnabod iddo gael ei ddylanwadu gan waith Emrys ap Iwan – yn benodol felly gan lyfr T Gwynn  Jones ar Emrys ap Iwan, a ddisgrifiwyd gan SL fel “Un o’r llyfrau hynny sy’n newid hanes ac yn dylanwadu ar genhedlaeth gyfan, gan ei hysbrydoli a rhoddi cyfeiriad i’w meddyliau.”.

Roedd Emrys ap Iwan, fel Saunders Lewis yn cael llawer o’i ysbrydoliaeth o Ffrainc; a hefyd o’r Almaen ble bu’n athro.  Mae’n werth tynnu sylw at gyngor Emrys ap Iwan i bobl Cymru:

Darllenwch lyfrau Almeinig i ledu’ch gwybodaeth; rhai Ffrengig i ddysgu gosod y wybodaeth mewn trefn; rhai Saesneg i werthfawrogi sut i ddefnyddio’r wybodaeth; a’r hen lyfrau Cymraeg i’ch galluogi i rannu’r wybodaeth i’ch cyd-Gymry mewn dull Cymreig!”

Emrys ap Iwan fathodd y term “ymreolaeth”; gan ei ddiffinio mewn termau ffederal a defnyddio’r Swisdir fel sail.

Yn ôl Saunders Lewis, bu’r athronydd a hanesydd Ffrengig, Etienne Gilson, yn un o’r prif ddylanwadau arno; ac roedd Gilson ei hun yn awdurdod ar waith Descartes,  a – nodwch hyn –  yn cydweithio’n glos â Jacques Maritain!

****

Dywed rhai mai ei ddeffroad personol i bwysigrwydd canolog y dimensiwn Ewropeaidd a ddaeth â SL i ddatblygu ei ymwybyddiaeth wleidyddol a chenedlaethol. Ond nid o safbwynt economaidd a milwrol y gwelodd SL bwysigrwydd canolog Ewrop i hunaniaeth a gwleidyddiaeth  Cymru.  Disgrifir ei weledigaeth Ewropeaidd yn y gyfrol “Saunders Lewis, ei feddwl a’i waith”, yn y bennod gan Catherine Daniel dan y  teitl “Saunders Lewis: Ewropead”, fel a ganlyn:

Pan ddarganfu Mr Saunders Lewis fod Llenyddiaeth Cymru yn tarddu oddi wrth ffynonellau ysbrydol dyfnaf Ewrop, nid gormod yw dweud iddo gychwyn chwyldro ysbrydol yn ein hanes cenedlaethol.  Dywedodd yn ddiweddar am y llenyddiaeth hon: ‘Os saif barddoniaeth glasurol y beirdd Cymreig  ar ei phen ei hun, yr esboniad yw mai ei deunydd yw’r syniad athronyddol bod gan gyfanwaith y Gristnogaeth ei le yn nheyrnas fawr y drefn ddwyfol, a lluniwyd cywydd ac awdl gan grefftwyr eofn yn ddrych llachar o’r drefn honno.

Gwelodd  ef fel y gwarchedwir yn y llenyddiaeth hon y gwerthoedd ysbrydol hynny  sydd hyd yn oed heddiw yn gynhysgaeth fyw i wareiddiad Ewrop; ac aeth ati i’w holrhain at eu tarddiadau, a’u diffinio…….. Gan sylweddoli  pwysigrwydd  cyfanrwydd y mynegiant Cymreig aeth Mr Lewis  ati i egluro fel y mae llenyddiaeth Cymru  yn rhan o fawredd ysbrydol Ewrop.  Yn nwyster ei weledigaeth, daeth hanes y genedl yn llyfr agored iddo; deallodd ei chyfrinach; efe yw athro mawr  llenyddiaeth Gymraeg.

Oddi yma, gan gymaint y gwirionedd a ddarganfu, y cam nesaf anorfod iddo ef oedd ceisio amddiffyn y gwerthoedd ysbrydol hyn ym mywyd y genedl. ….Gwelodd yn eglur fod difa’r pethau hyn yn fygythiad i einioes y genedl a throdd y llenor yn wleidydd.  Gwelodd wleidyddiaeth fel cadarnhad allanol o awydd mwyaf mewnol y genedl am gyfiawnder.  Gwelodd fod gan ddeddfwriaeth Gristnogol natur sacramentaidd. Yr oedd troi i wleidydda yn gam anorfod… yn ddyletswydd gwbl ddiriaethol….. Rhoddodd i Gymru fynegiant gwleidyddol am y tro cyntaf ers pum canrif….. Ymrôdd i’r gwaith fel at alwedigaeth. “

****

Dwi wedi son am SL a’r meddylfryd Ewropeaidd; a hefyd yr arweiniad a roddodd SL i’r Blaid ar fater Ewrop.  Ga’i felly gyfannu’r cylch drwy sôn am y Blaid ac Ewrop .  Cyfeiriais yn gynharach at sut y bu i mi gyfarfod SL adeg Refferendwm Ewrop, 1975.  Yr eironi mawr, felly, oedd i’r Blaid a fu yn ei dyddiau cynnar iawn, yn hyrwyddo gweledigaeth o Ewrop unedig, a Chymru yn rhan ohoni, erbyn y chwedegau, a’r Undeb Ewropeaidd bellach mewn bodolaeth , wedi cefnu ar y weledigaeth.  Neu o leiaf wedi ei gosod o’r neilltu, yn rhannol o dan ddylanwad y chwith Seisnig.

Roedd agwedd negyddol y Blaid tuag at y Farchnad Gyffredin – a thrwy hynny, tuag at Ewrop fel cysyniad gwleidyddol – wedi tyfu yn y chwedegau, ar sail cyfuniad o ffactorau, oedd fel petaent yn dod at ei gilydd i greu gwrthwynebiad oedd yn ymddangos yn rhesymegol – ond oedd i mi yn gwbl adweithiol.

Roedd Gwynfor yn gwrthwynebu’r Farchnad Gyffredin oherwydd ei ofn, fel heddychwr, y byddai’n tyfu’n rym milwrol niwclear. Ceisiais innau ei berswadio mai NATO, nid y Gymuned Ewropeaidd, oedd y ffrynt filwrol niwclear; ond yn ofer. Roedd hefyd yn ofni y byddai Ewrop yn tyfu’n un wladwriaeth ganoledig – y Deyrnas Gyfunol ar raddfa gyfandirol.

Roedd fy nghyfaill annwyl, Phil Williams, yn gwrthwynebu Cymuned Ewrop oherwydd iddo ei gweld fel “Clwb Cyfalafol”. Dyma oedd trywydd y chwith Seisnig pryd hynny – Michael Foot a Tony Benn yn eu plith; sef fod y Farchnad Gyffredin yn gynllwyn yn erbyn y gweithwyr.  Allwn i ddim derbyn hynny. Hanfod yr Undeb Ewropeaidd oedd creu telerau cyfartal ar gyfer gweithwyr y gwahanol wledydd, yn hytrach na’u gadael i’w llarpio gan angenfilod cyfalafol.

Bellach, rydym yn gweld hynny: rheolau Ewrop sy’n mynnu cyfiawnder rhwng gwlad a gwlad, rhwng gweithlu a gweithlu; sy’n rhoddi tryloywder i’r cwsmer.  Gwleidyddion yr adain dde – UKIP a’u cyfeillion – sy’n dadlau yn erbyn rheolau – megis diogelwch y gweithiwr,  tryloywder prisiau, a hawl i symud i chwilio am waith.

Roedd eraill o fewn y Blaid yn feirniadol oherwydd y tybient na fyddai lle i ieithoedd bychain, fel y Gymraeg o fewn Ewrop unedig. Byddai dan bwysau, meddent, nid yn unig gan y Saesneg, ond gan y Ffrangeg – gan edliw sut yr oedd Llywodraeth Ffrainc yn trin ein cefndryd yn Llydaw.

Roedd eraill, dilynwyr Leopold Kohr a Schumacher, yn reddfol gredu fod popeth oedd o’i hanfod yn fawr, felly hefyd, o’i hanfod yn ddrwg: “Bach sy’n brydferth” oedd thema’r oes.

Roedd rhai yn ofni y byddai creu Ewrop unol yn troi’r cyfandir yn fewnplyg, fel y byddai’n cefnu ar y trydydd byd; a pholisïau masnach Ewrop o’u hanfod yn ddrwg i fasnach y trydydd byd.

Ac roedd rhai aelodau’r Blaid nad oeddynt yn llyncu’r un o’r dadleuon hyn – eto’n  barod  i dderbyn y ddadl na ddylai Cymru ddod yn rhan o egin wladwriaeth Ewrop onid oedd gennym ein llais ein hunain o fewn unrhyw gyfundrefn newydd a ddatblygai.

Cyhoeddwyd pamffledyn gan y Blaid ym 1971 a olygwyd gan Gwynn Mathews.  Eglurodd mai crynhoi agwedd Plaid Cymru tuag at y drafodaeth oedd yn mynd rhagddi rhwng Llywodraeth Prydain a’r Gymuned Economaidd Ewrop, oedd pwrpas y pamffledyn. Roedd yn fwriadol yn osgoi’r  cwestiwn damcaniaethol, o beth fyddai agwedd Cymru annibynnol tuag at ddod yn aelod o’r Farchnad Gyffredin! Pwysleisiodd fod y polisi yn un dros dro, ar gyfer “y presennol”;  ac na ellid disgwyl i’r polisi aros yr un peth dros amser.  Llawn cystal hynny!

Ond roedd safbwynt y Blaid wedi ei chrisialu’n ddigamsyniol, gan gynigion a basiwyd gan ei Chynhadledd ym 1967, 1968  a 1970;  yn anterth dylanwad Gwynfor Evans fel Llywydd a’i unig Aelod Seneddol. Dywedodd Gwynfor yn Nhŷ’r Cyffredin, ar 9fed Mai, 1967:

“What is certain is that, whatever price England will have to pay for entry into the Common Market, Wales will have to pay a higher one.  Indeed, if the situation is as bad as I  have described it, to put Wales into the Common Market without a Government of her own, will be an act of criminal folly and..is… to write off Wales as a nation.”

Wrth gwrs y byddai’n llawer gwell pebae gan Gymru ei llywodraeth ei hun, yn trafod telerau aelodaeth ac yn sicrhau iddi, lais o fewn y gyfundrefn Ewropeaidd.  Ond nid oherwydd  Ewrop yr oeddem yn y sefyllfa ddiymadferth oedd ohoni. Teimlwn yn bersonol nad oedd Gwynfor wedi deall yr awydd ymhlith cymaint o genhedloedd bychain a rhanbarthau hanesyddol cyfandir Ewrop, oedd yn rhannu’n breuddwydion, yn gwrthwynebu gor-ganoli, ac yn gweld yr elfen ffederal – oedd mor bwysig ym meddylfryd Saunders Lewis – fel ffordd o sicrhau eu dyfodol hwy hefyd, ac nid fel bygythiad i’w bodolaeth.  Ac roedd sosialwyr ar gyfandir Ewrop, yn arbennig yn yr Eidal, yn gweld mor hanfodol oedd adeiladu yr Ewrop Gymdeithasol fel modd o wrthsefyll grym corfforaethau cyfalafol.

Pan rydych yn meddwl am y 28 gwladwriaeth sydd heddiw yn aelodau llawn o Undeb Ewrop, a bod 8 ohonynt â phoblogaeth llai na Chymru, sut aflwydd allwn honni nad oes lle i genhedloedd bychain o fewn unoliaeth ein cyfandir?

A chyda’r Iwerddon, a ymunodd yr un pryd â Phrydain, yn dangos sut y gellid gweithio gyda graen Ewrop i sicrhau cryfach economi,  a chyfiawnder na chafwyd erioed dan lywodraeth Llundain, roedd digon o sail i gredu y gallai gwledydd bychain gael lle derbyniol o fewn yr Undeb newydd.  “Amrywiaeth mewn unoliaeth” oedd delfrydiaeth Saunders Lewis; gweledigaeth oedd yn gyson â’r “Ewrop aux cent drapeaux” – “Ewrop y can faner”.  Ond rywle ar hyd y daith, cefnodd y Blaid ar hyn – dros dro.

Ym 1975 roeddwn i’n teimlo’n bur unig. Roedd gennym dri AS – a dau ohonynt, Dafydd El a Gwynfor – yn gwrthwynebu’r Farchnad Gyffredin. Roedd y Blaid am ymgyrchu dan y slogan  “Ia i Ewrop, Na i’r Farchnad Gyffredin” – safbwynt y credais oedd yn gwbl orffwyll.

Cymerodd ddegawd arall cyn i’r Blaid ddod at ei choed – ac yn ôl i gyfeiriad gweledigaeth Saunders. Ond roedd yntau wedi marw yn hir cyn etholiad Senedd Ewrop 1999, pan gafodd y Blaid  ei chanran uchaf erioed o’r  bleidlais, mewn unrhyw etholiad drwy Gymru benbaladr,  gan ennill dwy o bum sedd Cymru.  Cymerodd Jill Evans ac Eurig Wyn eu seddi o fewn Grŵp oedd yn rhannu’r un weledigaeth –  Grŵp Cynghrair Rydd Ewrop oedd yn cynnwys Aelodau o’r Alban, Andalwsia, Galisia, Gwlad y Basg a Fflandrys. Ac rydym wedi cydweithio’n hapus, o fewn y Grŵp, gyda’n chwaer pleidiau ar draws  cyfandir Ewrop.

Y llynedd, ceisiodd unoliaethwyr Prydeinig yn y tair plaid yn San Steffan wneud eu gorau glas i gael arweinyddion Ewrop i ddatgan na fyddai lle i Alban annibynnol o fewn Undeb Ewrop.  Ond methiant fu eu  hymdrech, er i wleidyddion Llundain lwyddo i gael ambell wleidydd o Sbaen i ategu hyn oherwydd eu hofn am ddyfodol Catalunya. Ni lwyddodd hyn i  newid meddwl lawer o Sgotiaid;  a doedd hynny, chwaith, ddim yn ddigon i ddychryn pleidleiswyr Catalunya yn eu refferendwm-drwy-etholiad eleni  rhag cefnogi annibyniaeth. Yn sgil yr etholiad cyffredinol ym Mhrydain fis Mai diwethaf, does fawr neb yn San Steffan bellach yn credu na ddaw’r Alban yn wlad annibynnol – yn ôl pob tebyg o fewn degawd – gwlad fach arall fydd yn aelod llawn o Undeb Ewrop, ochr-yn-ochr â Chatalunya; ac yn llawnder amser, Cymru hefyd.

Rydym yn awr  yn wynebu refferendwm arall ar ein perthynas ag Ewrop. ‘Dwi’n derbyn fod rhai agweddau o’r Undeb Ewrop yn achosi rhwystredigaeth – rhai elfennau cymharol ddibwys, megis  Brwsel yn mynnu diffinio siocled yn wahanol i ni, neu eisiau sythu bananas!  Glo man ydi hyn yn y darlun mawr. Mae ‘na le mwy difrifol i feirniadu’r Undeb am fethu â chanfod dull mwy adeiladol o helpu Groeg; ac am fethu â chael gweledigaeth ar sut i helpu ffoaduriaid, er go brin all Brydain glochdar.  Teg hefyd yw condemnio’r methiant, dros ddegawd a mwy, i archwilio cyfrifon yr Undeb yn brydlon.  Yn sicr, mae lle i gael gwell trefn yn y materion hyn.

O safbwynt heno, yr hyn sy’n bwysig i ni ei gofio ydi, yn gyntaf,  pam yr oedd SL yn edrych i’n gwreiddiau Ewropeaidd am ysbrydoliaeth?  ‘Roedd hynny  am resymau diwylliannol a chrefyddol, gan mai ein gwreiddiau Ewropeaidd sydd wedi creu ein hunaniaeth a’n diwylliant. O’r gwreiddiau hyn y mae ein gwerthoedd wedi datblygu; ac mae’r agwedd hon, i mi yn gwbl  sylfaenol.

Ond mae ‘na reswm arall eithriadol bwysig, paham na ddylem daflu ymaith y gwaith a wnaed i uno’n cyfandir.  Rydym yn cael ein hatgoffa beunydd am hanes gwaedlyd y rhyfel byd cyntaf; ac mae rhai ohonom yma heno, yn ddigon sicr o fod â pherthnasau a ddioddefodd – o bosib  a gollodd eu bywydau – yn y ddau ryfel arswydus a ymladdwyd rhwng cenhedloedd Ewrop yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.  Gadewch i ni byth anghofio mai er mwyn osgoi gweld y math gyflafan yn ein cyfandir ni, y daeth pobl at ei gilydd yn sgil yr ail ryfel, i geisio â chreu undod newydd, heddychlon, yn ein cyfandir.

Wrth geisio crynhoi,  gai ddod yn ôl at Dr Emyr Williams – sydd, yn ei thesis, yn tanlinellu’r  ffaith nad yw SL yn gosod sofraniaeth genedlaethol mewn gwladwriaeth annibynnol,  fel conglfaen ei genedlaetholdeb Cymreig.  Ac mae hyn yn ei wneud, yn ôl rhai gwyddonwyr gwleidyddol, yn unigryw o fewn ei gyfnod – ac o bosib, ymhell o flaen ei amser.  Yn sicr ddigon, nid yw wedi ei ynysu yn y gorffennol canoloesol, fel y byddai ei elynion gwleidyddol yn hoffi i chi gredu.

Gweithiodd  Emyr Williams ar ei thesis yn rhannol oherwydd  na fu ymdrech  ers y 70au i  adolygu syniadau gwleidyddol SL yng ngoleuni’r newidiadau anferthol y deugain mlynedd diwethaf – newidiadau megis :

 mynediad Prydain i’r Gymuned Ewropeaidd;

 datblygiad pennod gymdeithasol Ewrop; cwymp comiwnyddiaeth ac ail-uno Ewrop;

 dyfodiad gwledydd bychain yn aelodau llawn o Undeb Ewrop;

 sefydlu senedd ddeddfwriaethol i Gymru;

 pasio deddfau sy’n rhoddi statws swyddogol i’r iaith Gymraeg; ac nid lleiaf,

 y chwyldro yn yr Alban dros y 12 mis  diwethaf.

 

Mae’r rhain oll yn ategu’r alwad dros ail-asesu gwerthoedd a neges wleidyddol SL.

Dywed Emyr Williams am SL:

“…yn hytrach na gweld lle ar gyfer y genedl Gymreig o fewn hierarchaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, mae’n gweld Undeb gwleidyddol ac economaidd Ewrop  fel yr elfen hanfodol ar gyfer bywiogrwydd “cenhedloedd bach Ewrop” o fewn cyfundrefn egalitaraidd. Mae’r cysyniad o Undeb Ewrop felly yn ganolog i’w feddylfryd gwleidyddol”.

Mae’r genadwri’n dod mewn brawddeg – a dyfynnaf yn y  Saesneg gwreiddiol:

The development of the European Union, as well as its inherent principle of subsidiarity and multilevel governance, therefore requires that Saunders Lewis’ thoughts be re-examined.”

Felly heno, yn briodol iawn yma ym Mhenarth, ei gartref am dros ddeng    mlynedd ar hugain,  a gaf i alw ar bobl llawer mwy cymwys na mi, i ail-yfed o ffynnon syniadaeth Saunders Lewis, gan dderbyn ei berthnasedd canolog i ddarlun mawr ein siwrne genedlaethol. Gallwn, yng Nghymru’r  unfed ganrif ar hugain, yng ngeiriau Williams Parry, “Llawenhau fod lle yn hon” ac atseinio’r alwad  “Rhowch iddo sedd, rhowch iddo swydd”  oblegid na allwn mwyach adael yn segur yn ei gell, “y dysgedicaf yn ein mysg.”

***********

/diwedd