Stephen Griffith 1908 – 2010

Teyrnged i Stephen Griffith

Ganwyd Stephen Griffith yn 1908 ym Mlaenau Ffestiniog,  ardal y chwareli llechi yng Ngogledd Cymru.  Bu farw yn ei gartref yn Neyland ar y 12 Rhagfyr yn 102 oed yng ngofal ei deulu.

Stephen GriffithAeth i brifysgol Bangor i astudio Ffiseg a dyfarnwyd MSc iddo yn 1958 am ei waith ystadegol a dadansoddiad o’r rhesymau dros fethiant mewn ysgolion Gramadeg.  Treuliodd ei yrfa fel athro Ffiseg yn Henffordd, Swydd Buckingham ac o 1949 yn Sir Benfro. Yn 1942 priododd a Clemency  a ganwyd tair merch iddynt, Dilys ,Margaret ac Enid.  Fel gwrthwynebydd cydwybodol a heddychwr brwdfrydig, bu’n yrrwr ambiwlans yn ystod yr ail ryfel byd ac ar ôl y rhyfel ymunodd ef a Clemency â’r Crynwyr.  Yna daeth yn aelod o Blaid Cymru ac yn gyfaill i’w gyd Grynwr Waldo Williams.  Bu’n gefnogol i Waldo yn ei ymgyrch dros fod yn ymgeisydd Plaid Cymru yn Sir Benfro’r 50au.

Yn ystod ei ddyddiau yn Ysgol Ramadeg Penfro bu ef a’i gyfaill mawr a’i gydweithiwr Islwyn Griffiths, gyda chymorth pobl eraill yn rhedeg Gwersyll Rhyngwladol am bythefnos bob Haf am bymtheg mlynedd yn olynol.  Roedd hon  ar gyfer myfyrwyr tramor ac eraill oedd yn astudio ym Mhrydain.  Roeddynt yn awyddus i feithrin dealltwriaeth a pherthynas dda rhwng y gwledydd a gynrychiolid.  Ar ôl ei ddyddiau ysgol ym Mhenfro gwirfoddolodd i addysgu Ffiseg mewn ysgol yn Ghana fel cyfraniad i’r trydydd byd.  Wedi hynny bu’n dysgu Gwyddoniaeth, Mathemateg a Chymraeg yn lleol.

Y degawd dilynol oedd ei fwyaf ffrwythlon cyn belled ag yr oedd ei gyfraniad llenyddol yn y cwestiwn.  Roedd yn awdur 7 cyfrol a 5 o’r rheiny yn y Gymraeg.  Roedd yn Eisteddfodwr brwd ac fel teyrnged i’w waith llenyddol yng Nghymru derbyniodd y wisg wen  Yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1985.

Roedd ganddo amryw o ddiddordebau, yn cynnwys cadw gwenyn,  rhwyfo yn ei gwch bach ar ddyfrffyrdd y Cleddau, gwylio rhaglenni teithio ar y teledu a darllen llyfrau Cymraeg.  Ymhyfrydai yn y pwll bach yn ei ardd gyda’i brogaod, lili’r dŵr, a’i ffynnon solar.  Brwydrai yn erbyn y cythreuliaid bach ar ei gyfrifiadur!  Roedd yn frwd dros yr amgylchedd ac roedd wedi gosod paneli solar ar ei fyngalo yn Neyland.

Yn ei flynyddoedd olaf gwelid ef ar ei sgwter ar gyfer yr anabl.  Cyn belled ag y gallai cymerai ddiddordeb mawr mewn bywyd a materion y dydd.

Cynhaliwyd ei angladd ym Mharc Gwyn ar y 17 Rhagfyr 2010 ac mewn Cyfarfod Coffa iddo yn Nhŷ  Cwrdd y Crynwyr yn Priory Rd Aberdaugleddau Sadwrn y 29 Ionawr 2011 diolchwyd am ras Duw ym Mywyd Stephen Griffith.