TERRY O’NEILL
Bu farw Terry O’Neill, un o golofnau achos y Blaid am dros ddeugain mlynedd, ar Fai y 14eg , 2010.
Teyrnged Owen John Thomas
Roedd Terry yn un o arwyr y Blaid – yn aelod gweithgar ers 1969, pan ymunodd ef a’i frawd Dennis yn ddiarwybod i’w gilydd yn ystod yr un wythnos. Yn llythyrwr penigamp, byddai’n cyfrannu sylwadau craff ar faterion cyfoes drwy golofnau’r Echo a’r Western Mail.
Un o’i hoff ddiddordebau oedd cerddoriaeth, yn arbennig rhythm a blues,rhywbeth a rannodd gyda merch ifanc o’r enw Patricia James, ac arweiniodd eu partneriaeth yn roc a rôl at briodas a barodd bron 50 mlynedd.
Byddai’n astudio canlyniadau etholiadol yn astud, ac yn aml bydden ni’n dau yn chwilio am ryw lygedyn o obaith er gwaethaf popeth. Bu’n aelod gweithgar o’m staff yn y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd rhai yn ei gofio fel yr unig un yn y Cynulliad a thei cortyn am ei wddf! Trysorwn ein cof amdano – un o hoelion wyth achos Cymru.