Teyrnged i Huw John 1939 – 2025

DAFYDD HUW JOHN

Yn ei gartref Maesglas, Peniel Caerfyrddin ar 13eg o Awst 2025 yn 86 oed bu farw Huw John, ac fe gofir amdano fel ‘Cymro i’r Carn’ a ffrind i bawb, ac un a fu yn trefnu ac yn galw Twmpathau Dawns ar hyd a lled Cymru am flynyddoedd lawer. Nodwedd arall oedd yn perthyn i Huw oedd ei hoffter i drefnu ac i gymryd rhan mewn Plygeiniau traddodiadol ar draws Cymru, heb sôn am ei weithgarwch cyson dros Blaid Cymru.

Fe ddaeth Plygain Capel Penygraig, lle bu Huw yn ddiacon ac Arweinydd y Gan am dros 30 mlynedd yn Blygain draddodiadol bwysig iawn ers 2012.

Brodor y Grymych yng ngogledd Sir Benfro oedd Huw ac yn frawd i Glanville a’r diweddar Peter John.  Bu ef a’i ddiweddar wraig Elonwy yn byw yn ardal Castell Nedd cyn symud i Barc-y-drysi, Cwmffrwd ger Caerfyrddin gyda’i ferched Eurgain a’r diweddar Siwan.

Darlithydd mewn Colegau Technegol oedd Huw tan iddo ymddeol yn gynnar a mynd ati wedyn i adeiladu a thrwsio telynau.

Gweithiodd yn ddiflino dros Blaid Cymru ar hyd ei oes. Bu’n gynghorydd dros y Blaid yn ardal Castell  Nedd, ac yna yn  Gynghorydd Sir y Blaid dros Ward Llandyfaelog/Sant Ishmael ar Gyngor Sir Caerfyrddin o 1995 tan 2004.  Bu’n aelod o’r cabinet, gyda gofal am Adnoddau a Chyllid yn y cyfnod pan oedd y Blaid yn cynorthwyo’r Annibynwyr i redeg y cyngor.

Ond, fe’i cofir yn arbennig amdano yn Etholaeth Caerfyrddin fel trefnydd hynod effeithiol placardiau Plaid Cymru yn ystod cymaint o etholiadau i Senedd Westminster a Senedd Cymru. Bu ei gyfraniad ymarferol di-flino bob amser mor allweddol.

Cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa i Huw John ar ddydd Iau 4ydd Tachweddd 2025 yng Nghapel Penygraig, Croesyceiliog, Caerfyrddin.

O dan newyddion Peniel a’r Cylch yn rhifyn Medi 2025 o’r papur bro Cwlwm adroddwyd hyn “Cydymdeimlo.                                                                                                                                                            Daeth cwmwl o dristwch dros y fro fore Mercher y 13eg o Awst o glywed am farwolaeth Huw John, Maesglas, Peniel. Gŵr diwylliedig ac uchel ei barch, ‘Plygeiniwr’ heb ei ail, cenedlaetholwr, cyn-gynghorydd Sir, diacon yng Nghapel Penygraig a phriod annwyl i Lon a thad Eurgain a’r diweddar Siwan. Mi fydd y fro a’n cenedl yn dlotach o golli Huw, gan ei fod wedi bod mor ddiwyd ei gyfraniad i’r amrywiol agweddau ar fywyd cymunedau lawer gydol ei oes.  Cydymdeimlwn yn ddwys iawn a’r teulu cyfan yn eu hiraeth a’u galar.”

Yna yn rhifyn Hydref 2025 o’r papur bro Cwlwm ymddangosodd y cywydd coffa hwn o waith Geraint Roberts, Cwmffrwd.

Arweinydd y gan yng Nghapel Penygraig

Huw fu’r wen, fe’r arweinydd,
cyn dadmer dewrder y dydd,
a’i sêl dros gapel a’r gan
a’i afael ar y cyfan.
Oni ddaeth a’r gwerthoedd hyn
o’i Grymych gwar a’r emyn;
yr hogyn a’i Foel Drigarn,
bob tro y Cymro i’r carn.            

Drwy ras tra’n Parc-y-drysi
roedd yn driw i’r ddau neu dri,
wastad mor ddibynadwy
mewn oedfa, cymanfa a mwy;
Yn brawf o ddyfalbarhau –
amynedd ac emynau.
Am un a wnaeth gymwynas
a sigl ei law a’i Faes-glas.

Graen ei oes pob geiryn oedd,
a phob un nodyn ydoedd;
a’r wes wes ym mhob un sain,
yn agos clywn y Plygain.
Ym Mhen-y-graig mae ‘na griw
a’r weddi’n un cor heddiw…
o’i hen sedd ni fydd nesáu
ar y Sul i’w Breselau.

                   Casglwyd y wybodaeth gan Peter Hughes Griffiths