Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 2016 cyflwynwyd darlith gan Yr Athro Richard Wyn Jones am ŵr a gwraig a helpodd osod sylfeini Plaid Cymru. Bu’r Dr DJ Davies a’i briod Dr Noëlle Davies yn ffigurau amlwg yn ystod degawdau cyntaf y blaid genedlaethol. Yn gyn-löwr a deithiodd America gynt, fe ddatblygodd David James Davies bolisi economaidd y Blaid – gan groesi cleddyfau ambell dro gyda llywydd y mudiad, Saunders Lewis – yn ystod tridegau’r 20fed canrif. Roedd arbenigedd y ddau ar bolisi economaidd Gwyddelig a Sgandinafaidd yn ddylanwadol iawn, a chyhoeddodd DJ Davies ddogfen bwysig Can Wales afford Self-Government?, gyda’i ateb pendant, ‘Ie’!
Darlith Richard Wyn Jones 2 Awst 2016