Allan Pritchard 1943 – 2014

Allan PritchardBu farw Allan Pritchard yn Chwefror 2014, cyn arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a ddisgrifiwyd yn “Gawr y Cymoedd”, wedi ymladd yn erbyn cancr.

Mae Allan, a oedd yn 71 ac yn byw yn Oakdale, yn gadael ei wraig Pauline a’i dwy ferch Kailey a Rhayna yn ogystal â thri o wyrion.

Dywedodd Lindsay Whittle, AC Dwyrain De Cymru, “Gwasanaethodd Allan am ddau dymor yn ddirprwy i fi pan oeddwn i’n arweinydd a bu’n arweinydd cyngor Caerffili wedi i fi gael fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Roedd Allan yn un o gewri’r cymoedd, yn gymeriad oedd yn llawn ei groen ac yn ymroddedig i wneud ei orau dros ei gymuned ac i gymunedau eraill ar draws y fwrdeistref sirol.

“Roedd Allan yn gerddor, yn fardd, yn chwaraewr rygbi o’r radd flaenaf, yn ddyn teuluol ac yn Genedlaetholwr Cymraeg. Roedd yn Gymro ym mhob ffordd. Teimlaf i’r byw golled ar ôl ffrind agos. Torrwyd ei fywyd yn fyr llawer iawn yn rhy gynnar.

Dywedodd Jocelyn Davies, cyd AC dros Ddwyrain De Cymru, a fu’n aelod o hen gyngor Islwyn gydag Allan: “Roedd Allan ar dân dros ei bentref genedigol, Oakdale – y byddai pob amser yn cyfeirio ato fel y ddinas ar y bryn – yn ogystal â dros ei gymuned a’i wlad ac ni phylodd ei frwdfrydedd ar hyd y blynyddoedd.

“Cysegrodd Allan ei fywyd i wasanaeth cyhoeddus gyda chefnogaeth a dealltwriaeth ei deulu rhyfeddol. Roedd yn wleidydd o ymroddiad a wynebai pob her, byth yn osgoi penderfyniadau anodd. Roedd ei ymddeoliad yn haeddiannol ond llawer yn rhy fyr.”

Dywedodd Colin Mann, arweinydd Plaid Cymru ar gyngor Caerffili: “Roedd Allan yn wirioneddol yn gawr, nid yn unig o ran ei faint ond hefyd o ran ei bersonoliaeth a’i gred. Gwasanaethodd ei blaid a’i wlad ag anrhydedd am ddegawdau lawer.

“Brwydrodd Allan yn ddewr yn erbyn cancr ac ar yr adeg anodd hon mae’n meddyliau yn troi at Pauline, ei ferched a’u teuluoedd.”

Dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru: “Roedd Allan yn ddyn rhyfeddol a roddodd cymaint i achos cenedlaetholdeb Gymraeg.

“Roedd ei ymroddiad, ei gred a’i allu i ysbrydoli eraill ac i’w gwneud yn frwdfrydig heb ei ail, tra roedd ei hiwmor a’i gariad o fywyd yn heintus. Roedd pob amser yn gefnogol i fi’n bersonol. Am ei deulu yr ydw i’n meddwl nawr. ”

Ymunodd Allan Pritchard â Phlaid Cymru wedi trychineb Aberfan ac fe’i etholwyd yn gynghorydd i hen Gyngor Bwrdeistref Islwyn yn 1979. Gadawodd yr awdurdod yn 1991 oherwydd galwadau gwaith ond wedi dyfodiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili penderfynodd sefyll drachefn yn 1999 gan ennill ei hen sedd yn ward Penmaen yn ôl.

Pan ddaeth Plaid Cymru i rym yn yr awdurdod yn 1999 fe’i etholwyd yn ddirprwy arweinydd gyda chyfrifoldeb dros Bersonél a Moderneiddio. Yn 2008 pan ddaeth y Blaid yn ôl i rym, daeth eto yn ddirprwy arweinydd ac yn Aelod Cabinet dros Adnoddau Dynol a Materion Cyfansoddiadol.

Dechreuodd weithio yn 1957 yn 15 mlwydd oed gyda’r Bwrdd Glo Cenedlaethol dan hyfforddiant i weithio dan y ddaear a gweithiodd ei ffordd drwy’r rhengoedd i ddod yn rheolwr personél yng ngweithfeydd glo Oakdale ac enillodd ddyfarniad Rheolwr Personél gorau’r Flwyddyn y Bwrdd Glo.

Pan gaeodd y lofa, symudodd i Ymddiriedolaeth Busnes Ieuenctid y Tywysog yn 1993 fel rheolwr rhanbarthol dros Dde Cymru gan roi cymorth i dros 300 o bobol ifanc ddifreintiedig i sefydlu busnesau eu hunain.

Yn 1996, daeth Allan Pritchard yn Gyfarwyddwr Datblygiadau dros Ymddiriedolaeth Datblygu Tredegar, i helpu adfywio’r hen dref. Daeth ei ffocws â chysyniadau newydd i’r ardal megis seibergaffis a chyfleoedd hyfforddiant ar gyfer pobol ag anawsterau dysgu.

Roedd yn ddyn rygbi brwdfrydig ac yn gyn gapten ar Dredegar, y Coed Duon, Oakdale a Sir Fynwy (Gwent)

Yn adfyfyrio ar ei yrfa wleidyddol wedi iddo golli ei sedd yn 2012, rhestrodd Allan Pritchard yr hyn a gyflawnodd fel hyn:

· Arwain ymgyrch lwyddiannus yn erbyn y bwriad o gau Ysgol Gyfun Oakdale

· Tystio i ddatblygiad Parc Busnes Oakdale ar safle hen waith glo Oakdale, lle cyflogir mwy o bobol nag a oedd yn gweithio yn y lofa cyn iddo gau yn 1989.

· Arwain Caerffili i i gyflawni’r nod o fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i negydu Cytundeb Un Statws a chyflwyno Cyflog Cyfartal i fenywod ar gyflog isel.

· Cyflwyno cynlluniau llwyddiannus iawn ar gyfer hyfforddiant a phrentisiaethau o fewn y cyngor

· Rhewi treth y cyngor am ddwy flynedd yn olynol, yr unig gyngor yng Nghymru i gyflawni hyn.

· Adfywio canol trefi gydag Adfywiad Glowyr y Coed Duon, agor llyfrgelloedd newydd neu rhai wedi’u hadnewyddu ynghyd â gwasanaethau cwsmeriaid yn gyntaf ym Margoed, Rhisga, y Coed Duon, Abercarn a Chaerffili

 

Teyrnged i Eirian Llwyd 1951 – 2014

Eirian LlwydYn dawel yn Ysbyty Gwynedd yn Ionawr 2014 ac wedi salwch byr bu farw’r genedlaetholwraig a’r arlunydd Eirian Llwyd yn 63 oed.  Roedd Eirian yn wraig i gyn-arweinydd Plaid Cymru a’r cyn aelod Cynulliad a Seneddol dros Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones.  Roedd hefyd yn fam arbennig i dri o blant, Gerallt, Gwenllian ac Owain, ac yn nain i chwech o wyrion ac wyresau.

Datganiad gan y teulu.

Mae cyfraniad Eirian wedi bod yn amhrisiadwy – mi roddodd oes o gariad i’w ffrindiau a’i theulu, oes o wasanaeth i’w chenedl a’i chyd-ddyn, ac yn fwy diweddar mae hi wedi gweithio gydag angerdd ym maes y celfyddydau.

Cymhwysodd fel nyrs yn Lerpwl 1969-73 ac yna gweithredu fel bydwraig yn Ysbyty Llanelwy.

Hanai o Brion ger Dinbych, ac yr oedd yn caru ei hardal a’r fro ei magwyd hi ynddo yn angerddol. Lle bynnag y treuliai ei hamser, dychwelai i Danywaen, fferm y teulu, yn gyson i dderbyn maeth ac ysbrydoliaeth. Roedd John ei brawd a Bethan ei chwaer yn golygu cymaint iddi.

Priododd gyda Ieuan yn 1974 – deugain mlynedd a mwy o gariad a chyfeillgarwch cadarn.

Mi roddodd Eirian pob cefnogaeth posibl iddo yn ystod ei yrfa wleidyddol fel Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad, Arweinydd Plaid Cymru ac fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru’n Un. Heb ei chefnogaeth gyson a pharhaol hi ni allai fod wedi cyflawni cymaint.

Bu’n gweithio i hybu lle merched mewn gwleidyddiaeth, gan fod yn gyfrifol am welliannau i gyfansoddiad y Blaid yn y 1980au a sicrhau lle amlycach i ferched ym mhrif bwyllgorau’r Blaid. Brwydrodd yn erbyn rhagfarnau oddi mewn i’w phlaid ei hun a thu hwnt, a gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau tegwch a chyfartaledd i ferched yn rhengoedd y pleidiau gwleidyddol.

Eirian oedd yn gyfrifol am sefydlu Cangen y Rhyl o Gymorth i Fenywod yn y 1970au a 1980au. Perswadiodd Cyngor Sir Clwyd a’r Cyngor Bwrdeistref i ariannu hafan neu noddfa i ferched yn y dref, a helpodd i sicrhau cartref dros dro i ferched a phlant oedd yn dioddef trais yn y cartref. Brwydrodd yn galed i newid agweddau oddi mewn i’r asiantaethau lleol, megis adrannau gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth iechyd a’r heddlu. Roedd hyn mewn cyfnod pan nad oedd llawer o’r asiantaethau yn cydnabod bod angen ymyrraeth mewn achosion o drais yn y cartref.

Cymhwysodd fel ymwelydd iechyd ar ôl symud i Ynys Môn a bu’n gweithio yn y maes hwnnw tan ddiwedd y 1990au. Roedd yn uchel ei pharch a’i chonsyrn am blant a theuluoedd mewn angen yn amlwg iawn. Brwydrodd i sicrhau chwarae teg iddynt. Ysgrifennodd thesis ar ddamweiniau i blant yn y cartref ac fe drefnodd seminar ar y pwnc gan ddod a’r holl asiantaethau dan yr un to. Gweithredwyd nifer o’r argymhellion, gan gynnwys gwneud llefydd chwarae i blant yn fwy diogel.

Yn 2001, newidiodd gyfeiriad a graddiodd ym maes arlunio yn Athrofa Caerdydd. Arbenigodd ym maes print a dangoswyd ei gwaith yn gyson yng Nghymru a thu hwnt. Creodd waith mewn sawl cyfrwng print a’i gwaith yn aml yn seiliedig ar fyd natur, henebion ag eglwysi Ynys Môn, gan ddefnyddio cyfryngau megis torluniau, ysgythriadau a lithograff.

Gyda dwy ffrind, sefydlodd gwmni Y Lle Print Gwreiddiol, i ddod a phrintiadau gwreiddiol nifer o artistiaid blaenllaw Cymru i sylw cynulleidfa ehangach. Teimlai Eirian yn angerddol fod angen gwerthfawrogi a deall printiadau gwreiddiol yn well, a’i gweld fel ffordd eitha fforddiadwy o brynu gwaith gwreiddiol gan rai o artistiaid gorau’r genedl. Dechreuodd y fenter drwy gynnal stondin yn Neuadd Arddangos yr Eisteddfod Genedlaethol, ac erbyn hyn, aethpwyd a’r gwaith i sawl oriel yng Nghymru, gan gynnwys Ucheldre yng Nghaergybi, Plas Glyn y Weddw Llanbedrog, Wrecsam a Chaerdydd. Yn ddiweddar aethpwyd a gwaith gwneuthurwyr print o Gymru i Frwsel ac Amsterdam.

Roedd Eirian wedi cynnull cyfarfodydd o wneuthurwyr print ledled Cymru a cheisio dwyn perswâd arnynt i sefydlu Cyngor Print yng Nghymru. Gwelai hyn fel ffordd i roi llwyfan hyd yn oed yn well i artistiad.

Mewn sawl ffordd yr oedd Eirian yn arloeswraig, yn ymgyrchydd o argyhoeddiad a chanddi weledigaeth glir o’r hyn yr oedd angen ei wneud ym mha bynnag faes y gweithiai ynddo. I lawer o’i chyfoedion a chydweithwyr yr oedd yn ysbrydoliaeth.

Yn fam arbennig i dri o blant, Gerallt, Gwenllian ac Owain, mae hi wedi ymfalchïo yn eu llwyddiant ac mae’n nain i chwech o wyrion ac wyresau, Elin a Tomos, Annest a Rhodri, Morgan a Megan. Mae Eirian wedi gofalu amdanynt yn gyson ac wedi trosglwyddo iddynt ei chariad at gelf ac at fyd natur.

Roedd Eirian yn genedlaetholwraig frwd, a bu’n ymgyrchu dros y Gymraeg gyda Chymdeithas yr Iaith gan gymryd rhan mewn llu o brotestiadau yn y 1960s a 1970s. Yn y Blaid gweithiodd yn agos gyda Ieuan, ac yntau yn dibynnu llawer arni am gefnogaeth, am gyngor a gwaith ymgyrchu.

Roedd gan Eirian ffydd gref, ac yn ystod ei salwch, fe ddangosodd gadernid anghyffredin, ac wynebu’r cyfan gyda gras ac urddas. Daethom i’w hadnabod yn well a bu’n fraint i’w theulu a chyfeillion agos fod yn ei chwmni. Rydym yn well pobl o’r herwydd.

Hanes Plaid Cymru