Lluniau Trefor Owen
Mis: Tachwedd 2014
Is-Etholiad Caerffili 1968
Eisteddfod Bala 1967
Cynhadledd Dolgellau 1967
Lluniau Tudur Owen o’r 1960’au
Etholaeth Meirionydd yn diolch i Gwynfor Evans ar ôl Etholiad 1959
Cyfarfod Mabwysiadu Elystan Morgan 1964
Ffotograffydd yn cyflwyno lluniau o’r 1960’au
Mae’r Ffotograffydd Tudur Owen, o Groesor, wedi cyflwyno cyfres o luniau yn dyddio nôl i 1964 i Gymdeithas Hanes Plaid Cymru. Ymhlith y lluniau mae Cyfarfod Mabwysiadu Elystan Morgan yn Ymgeisydd 1964. Dathliadau yng Nghynhadledd Plaid Cymru 1996 yn dilyn llwyddiant Gwynfor Evans yn yr Is-etholiad, ymgyrch Is-etholiad Caerffili 1968 ac ymgyrch Dafydd Wigley ym Meirionnydd 1970.
Dywedodd Dafydd Williams, Cadeirydd y Gymdeithas, “Mae’r casgliad yma yn ychwanegiad sylweddol i’r archif ac rydym yn falch fod gweithgarwch a bwrlwm cyfnod y 1960au i’w weld yn amlwg yn y lluniau.
“Difyr yw gweld wyneb Winnie Ewing a mintai o’n ffrindiau o’r SNP yn y lluniau, a hynny mewn sawl frwydr gofiadwy – arwydd o’r cyfeillgarwch rhwng ein dwy blaid ar hyd y blynyddoedd.
“Mae’n diolch yn fawr i Tudur Owen am gyflwyno’r casgliad.”