Y degawdau pan ddaeth Cymru’n genedl wleidyddol: sut trodd 1979 yn 1997
Yma cewch wrando ar recordiad o sgwrs rhwng cadeirydd Hanes Plaid Dafydd Williams â John Osmond am ei nofel ddogfennol newydd Ten Million Stars Are Burning yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn y Pafiliwn, Llangollen ar Ddydd Gwener, 23 Mawrth 2018.
Dyma’r llyfr cyntaf mewn trioleg gan yr ysgrifennwr a sylwebydd adnabyddus John Osmond. Mae’n olrhain y newidiadau mawr a fu yng Nghymru rhwng y ddau refferendwm datganoli yn 1979 a 1997 drwy lygaid dau gymeriad ffuglennol – a llu o bobl go iawn!
Tra bo’r ddau brif gymeriad yn ffuglennol, mae’r nofel yn cyflwyno disgrifiad ffeithiol manwl o’r degawd cyn y refferendwm datganoli cyntaf yn 1979 gan awdur a chwaraeodd ran weithgar a chanolog yn y prif ddigwyddiadau. Mae’n darllen hanfodol i bawb sydd am ddeall cefndir i’r ymgyrch gan Blaid Cymru i ennill hunanlywodraeth i Gymru.