Charles Cravos (1944-2026)
Mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n ddiolchgar am gael cyhoeddi dwy deyrnged i Charles Cravos, a fu farw ar 1 Hydref 2026. Mae un wedi’i llunio gan ei dair chwaer a’i thraddodi gan ei nith Amanda, a’r llall gan ei fab Steffan.
Fe gwrddais i â Charles am y tro cyntaf yn 1969, a’r ddau ohonon ni’n helpu’r diweddar Dr Dafydd Huws i gipio sedd gyntaf erioed i Blaid Cymru ar Gyngor Dinas Caerdydd yn ardal Plasmawr. Fe daflodd Charles ei hunan i mewn i’r ymgyrch honno gyda’r asbri rhyfeddol fu’n nodweddiadol o’i holl waith dros y Blaid. Daeth â’r un ysbryd i’r dasg o feistroli’r Gymraeg.
Efallai y bu proffil Charles fel aelod Plaid Cymru braidd yn anghyffredin. Roedd e’n ymfalchïo yn ei gefndir anarferol o gyfoethog, a’i dreftadaeth oedd yn cynnwys diaspora Groegaidd dinas Trieste ar y ffin rhwng yr Eidal a Slofenia yn ogystal â thras Wyddelig, fel y cewch ddarllen yn y teyrngedau.
Roedd e’n hen law ar berswadio’i deulu a’i gydnabod i helpu’r achos. Bydd llawer yn cofio modurgad anferth Plaid Cymru yn ystod isetholiad Caerffili ym 1968, ond nid pawb a ŵyr taw brawd-yng-nghyfraith Charles a ddarparodd y car Gilbern a gludai ein hymgeisydd Phil Williams.
Aeth Charles yn ei flaen i sefyll yn ymgeisydd Plaid Cymru yn ward Trelái cyn cymryd swydd lawn-amser ym mhencadlys y Blaid yn Heol y Frenhines, Caerdydd. Yno bu’n gyfrifol am weinyddiaeth y mudiad.
Symudodd ef a Menna i Sir Gaerfyrddin, gan fyw yn Llansadwrn ac yn Nhanerdy, Caerfyrddin gyda’u plant Steffan a Lleucu, a chwarae rhan weithgar yng ngwaith Plaid Cymru mewn etholaeth allweddol.
Nes ymlaen, roedd ef a’i ail wraig Jane yn byw yn Llanfihangel Tal-y-llyn, Brycheiniog. Fe’i claddwyd ym mynwent eglwys Sant Gastyn yn Llangasty ar lannau Llyn Syfaddan, ble yn ôl y chwedl leol byddai’r adar yn canu dim ond ar gyfer tywysog Cymreig. Gorffwysfan teilwng i wladgarwr.
Roedd gan Charles ymroddiad llwyr i Gymru. Ac roedd e’n hwyl. Cwsg mewn hedd, hen ffrind.
Dafydd Williams
Teyrnged gan Steffan Cravos
Heddiw, dwi yma i dalu teyrnged i fy nhad, dyn wnaeth lunio fy mywyd mewn nifer o ffyrdd.
Yn llanc ifanc fe benderfynodd Charles wneud safiad dros Gymru a’r iaith Gymraeg. Ar ôl iddo orffen ei addysg ffurfiol yn Lloegr a dychwelyd adref i Gaerdydd, aeth yn syth ati i ymuno â Phlaid Cymru a dechrau ymgyrchu yn ddiflino dros y mudiad cenedlaetholgar.
Yn ei ugeiniau fe benderfynodd dorri cwys ei hun drwy fynd ati i ddysgu Cymraeg. O fewn amser fe ddaeth yn siaradwr Cymraeg rhugl, gan fy nghodi fi a fy chwaer Lleucu mewn cartref lle oedd y Gymraeg yn ein hiaith gyntaf. Roedd Charles yn falch iawn o fod yn Gymro ac ymgyrchodd yn ddiflino dros ei iaith a’i diwylliant. Dysgodd i mi werth cyfoeth diwylliant ac am y pwysigrwydd i’w cefnogi a’i ddathlu.
Wrth dyfu fyny, dwi’n cofio eistedd o amgylch y bwrdd bwyd teuluol yn gwrando ar Charles yn trin a thrafod materion cyfoes, hanes a gwleidyddiaeth. Roedd Charles yn ddarllenwr brwd ac roedd yn hynod o wybodus. Mi oedd ganddo weledigaeth amgen ac anghydffurfiol o’r byd a’i bethau.
Mi roedd e yn ymfalchïo yn y faith ei fod e’n olynydd i fewnfudwyr Gwyddelig wnaeth ymgartrefi yng Nghaerdydd yn sgil trychineb y newyn tatws yn Iwerddon. Dyma bwnc a oedd yn agos iawn at ei galon ac y byddai yn son amdani yn aml o gwmpas y bwrdd. Roedd ei ymwybyddiaeth o’i dras Wyddelig yn golygu cydymdeimlad mawr tuag at dranc hanesyddol Iwerddon a’i gwrthsafiad arwrol yn erbyn gormes y goron Brydeinig. Wrth ei natur, byddai’n cymryd ochor y gorthrymedig gan ddadlau yn erbyn anghyfiawnder a gorthrwm ac o blaid cyfiawnder a thegwch.
Drwy enghraifft ac argyhoeddiad fe ddysgodd i mi bwysigrwydd gwneud safiad yn erbyn anghyfiawnder ac i sefyll fyny dros fy argyhoeddiadau a fy egwyddorion. Yn ogystal â hyn, fe ddysgodd i mi hefyd nad oedd pethau materol o reidrwydd yn gwneud dyn yn hapus a bod cwmni teulu, ffrindiau yn werthoedd pwysicach.
Serch hynny, roedd Charles hefyd yn hoff o dynnu coes. Pan oedden i yn ddeuddeg mlwydd oed, a fynta yn ei bedwardegau, dywedodd wrtha’i a Lleucu ei fod mewn gwirionedd yn 86 mlwydd oed a bod ganddo goes bren. Tynnu coes… yn llythrennol. Byddai hefyd yn datgan wrth fy ffrindiau ysgol pan fydden nhw yn ymweld â’r tŷ ei fod yn 86, ac yna yn cadarnhau’r ffaith drwy ddangos copi o dystysgrif geni brawd ei Dad, a oedd hefyd o’r un enw a anwyd ym 1901.
Roedd Charles yn gymeriad addfwyn ar roedd e bob amser yn barod ei gymwynas. Roedd e yn gefnogol i fi a fy chwaer ar hyd y blynoeddoedd ac yn dad cariadus. Arhosodd Charles yn weithgar iawn drwy gydol ei fywyd a doedd byth yn llonydd am rhy hir.
Yn ddiweddarach yn ei fywyd ymgartrefodd ym mhlwy Llanfihangel Tal-y-llyn gan barhau i fod yn weithgar ar ôl iddo ymddeol. Roedd ganddo fe bob amser groeso mawr i fi pan fyddai’n ei ymweld yn Nhŷ Canol a byddai yn mynd a fi am dro, yn fy nhywys o gwmpas y fro lle byddai bob amser yn wybodus iawn am hanes pobol a llefydd.
Bydd ei gariad a’i anogaeth yn aros gyda fi am byth. Gwn ei fod bellach mewn heddwch. Rwy’n falch o fod yn dy fab di a byddaf yn cario dy atgofion gyda mi.
Diolch am bopeth, Charles.